Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Mynegodd y Pennaeth Cyllid ei fod wedi derbyn neges ymddiswyddiad o’r Bwrdd gan y Cyng. Beca Roberts oedd yn cyfleu ei diolch am y cyfle i wasanaethu ar y Bwrdd Pensiwn ac am gefnogaeth yr aelodau a’r swyddogion dros ei chyfnod fel Aelod o’r Bwrdd. Ategodd bod camau wedi eu cymryd i ganfod Aelod Newydd - yn unol â’r cylch gorchwyl bydd y penodiad (fel cynrychiolydd cyflogwr) wedi ei gyfyngu i Aelodau a staff Cyngor Gwynedd yn unig.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 122 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 8fed o Orffennaf 2024 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 136 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 16 Medi 2024

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 16 Medi 2024. Roedd Ned Michael wedi mynychu’r cyfarfod ar ran y Bwrdd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag eitem Rheolaeth Trysorlys a pharhad y Cyngor i fuddsoddi gydag Awdurdodau Lleol eraill ac os oedd unrhyw risg yn berthnasol i hyn o ystyried bod rhai Awdurdodau yn cyhoeddi na allent fantoli eu cyllideb heb gymorth, nodwyd bod Arlingclose yn cael eu cyflogi gan y Cyngor i fonitro’r gwaith buddsoddi ac yn awgrymu’r  Awdurdodau Lleol hynny na ddylid buddsoddi a hwy. Ategwyd bod y rhestr yma yn cael ei ddiweddaru yn gyson.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phrosesau tendr apwyntio ymgynghorydd buddsoddi ac Actiwari newydd ar gyfer y Gronfa, ar nifer a ymgeisiwyd, cadarnhawyd bod pedwar cwmni allan o’r saith sydd ar fframwaith cenedlaethol yr LGPS wedi ymgeisio ar gyfer y tendr ymgynghorydd buddsoddi a dau gwmni allan o bedwar ar y fframwaith wedi ymgeisio ar gyfer gwasanaethau actiwaraidd.

 

 

6.

ARCHWILIAD PERTHNASOL CROFNA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 96 KB

I nodi’r adroddiad ‘ISA 260’ gan Archwilio Cymru a Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer 2023/24.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad blynyddol (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y datganiadau ariannol a archwiliwyd gan Archwilio Cymru ac a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Pensiynau yn eu cyfarfod ar y 16eg o Fedi 2024.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y cyfrifon drafft wedi eu cyflwyno iddynt ym mis Gorffennaf 2024 ac er nad oedd newidiadau i’r prif ddatganiad, tynnwyd sylw at ambell i ddatganiad yn y nodiadau oedd yn cyfateb i’r cyfrifon craidd. Ategwyd bod yr Adroddiad Blynyddol, yn unol â chanllawiau CIPFA yn cynnwys manylder am aelodaeth, gweinyddiaeth, buddsoddiadau, perfformiad ariannol, adroddiad yr actiwari, cyfrifon, a chyfeiriad at y pump datganiad safonol.

 

Cyflwynwyd hefyd adroddiad ISA 260, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru oedd yn manylu ar ganfyddiadau’r archwiliad.

 

Nodwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei gyflwyno yn derfynol i Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gronfa 25ain Tachwedd 2024 ac anogwyd yr Aelodau i fynychu’r cyfarfod hwnnw.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r staff oedd yn gysylltiedig â pharatoi’r gwaithyn ddatganiad glan ac amserol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad ISA260 gan Archwilio Cymru ac Adroddiad Blynyddol Cronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer 2023/24

 

7.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 119 KB

I nodi’r wybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Nodwyd bod yr adroddiad bellach yn un sy’n cael ei gyflwyno yn rheolaidd i’r Bwrdd ac yn elfen bwysig iawn o Gronfa Bensiwn Gwynedd sydd bellach gyda 85% o’r gronfa wedi’i bwlio.

 

Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi yn cynrychioli’r Gronfa yn holl gyfarfodydd y pwl, a bod y cydweithio yn parhau i fynd yn dda ar faterion megis ymateb ceisiadau rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer da ar draws y cronfeydd.

 

Tynnwyd sylw at y cronfeydd gan amlygu bod perfformiad y cronfeydd ar y cyfan wedi bod tu ôl i’r meincnod ers y dechrau a hyn yn benodol gan fod y meincnod a osodwyd yn heriol e.e. ar gyfer y Gronfa sustainable equity y meincnod yw MSCI All Country World Index, sydd yn cynnwys yr holl gwmnïau, ond bod cwmnïau y mae’r Gronfa yn gallu buddsoddi ynddi wedi eu cyfyngu. Eglurwyd bod Cronfa Global Growth wedi bod mewn bodolaeth ers dros 5 mlynedd ac wedi tan berfformio'r meincnod. O ganlyniad, adroddwyd mai amserol fyddai adolygu’r gronfa yma. Nodwyd bod Russell Investments yn edrych ar strwythur y gronfa yma ac yn newid y rheolwyr o fewn y portffolio - bydd swyddogion Gwynedd, ymgynghorwyr y Gronfa, Hymans Robertson a swyddogion PPC yn monitro’r cronfeydd yn fanwl yn y dyfodol. 

 

Yng nghyd-destun datblygiadau yn y maes eiddo, nodwyd bod proses caffael apwyntio rheolwyr buddsoddi eiddo wedi ei gwblhau. Tynnwyd sylw at ofynion sefydlu portffolio buddsoddi eiddo oedd yn cynnwys gofyn am ddatblygu rhaglen fuddsoddi sy'n defnyddio buddsoddiadau cronfeydd a buddsoddiadau uniongyrchol mewn strategaethau sydd yn gwneud gwahaniaeth yn y Deyrnas Unedig, gydag o leiaf 50% o asedau wedi'u lleoli yng Nghymru. Ategwyd y byddai Cronfa Bensiwn Gwynedd maes o law yn ystyried eu portffolio eiddo gan fanteisio yn llawn ar yr opsiynau yma.

 

Cyfeiriwyd at ddatblygiad diweddar iawn o adolygiad pensiynau ‘Galw am Dystiolaeth’ gyda’r Canghellor yn lansio adolygiad pensiynau nodedig i hybu buddsoddiad, cynyddu enillion cynilo a mynd i’r afael a gwastraff yn y system bensiynau. Bydd camau cychwynnol yr adolygiad yn gofyn i gronfeydd ystyried a ddylid lleihau'r nifer pwls sydd yn weithredol gydag ymateb Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi ei gynnwys fel atodiad i’r adroddiad, oedd yn mynegi bod Gwynedd a Phartneriaeth Pensiwn Cymru yn bartneriaeth sydd yn gweithio yn dda, gyda manteision o gyd weithio o fewn Cymru e.e. yr iaith Gymraeg, Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, ynghyd a’r ffaith bod y bartneriaeth wedi sefydlu nifer o is gronfeydd sy’n diwallu anghenion y cronfeydd, a’u bod yn awyddus i wneud buddsoddiadau lleol  -  byddai ymyrryd â hyn yn arall gyfeirio’r arian yma i Brydain yn lle Cymru.

 

Derbyniwyd adborth gan Sioned Parry ac Osian Richards oedd wedi mynychu cyfarfod ymgysylltu yn ddiweddar gyda byrddau pensiwn eraill Cymru, oedd wedi ei drefnu gan Awdurdod Cynnal PPC (Cyngor Sir Caerfyrddin). Nododd Osian Richards ei fod wedi awgrymu y dylid penodi swyddog polisi i ddatblygu polisïau a chydweithio gyda swyddog y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

FFORWM BUDDSODDI STRATEGOL LAPF A CYNHADLEDD BUDDSODDI A PHENSIYNAU LGC pdf eicon PDF 13 KB

I dderbyn y wybodaeth

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod Fforwm Buddsoddi Strategol LAPF a Chynhadledd Buddsoddi a Phensiynau LGC wedi cael eu cynnal dros y misoedd diwethaf a bod Anthony Deakin wedi mynychu ar ran y Bwrdd. Gwahoddwyd Tony i roi adborth i’r Aelodau o’r ddwy gynhadledd ac o’r sesiynau gwybodaeth oedd wedi bod o ddiddordeb iddo megis;

·        Yr effaith bosib mae ffactorau geowleidyddol yn cael ar y byd e.e., gwleidyddiaeth UDA, a thaflwybr economaidd Tsieina

·        Trosolwg o amodau'r farchnad fuddsoddi yn awgrymu bod gwell cyfleoedd i fusnesau llai a chanolog eu maint

·        Buddsoddi ar gyfer canlyniadau cymdeithasol cadarnhaol yn y DU - pa fath o gymhelliant gall y Llywodraeth eu cynnig i ysgogi marchnadoedd

·        Buddsoddi a dadfuddsoddi cyfrifol – trafodaeth am danwydd ffosil

·        Tueddiadau buddsoddi newydd sy'n dod i'r amlwg - cyfeiriwyd at ‘Bondiau Glas’ sydd yn cynnig amcanion a buddion cynaliadwyedd hirdymor mewn  materion bioamrywiaeth

 

9.

ASESIAD GWYBODAETH CENEDLAETHOL HYMANS ROBERTSON pdf eicon PDF 117 KB

I nodi cynnwys yr adroddiad a cymryd rhan yn yr asesiad

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn darparu gwybodaeth am yr Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol sydd yn adnodd gwerthfawr wedi ei ddatblygu gan Hymans Robertson i randdeiliaid i wella eu dealltwriaeth a meddu gwybodaeth angenrheidiol i lywio cymhlethdodau cynlluniau pensiwn. Amlygwyd y byddai’r asesiad yn rhoi cipolwg i’r gronfa ar lefelau cyd-wybodaeth y Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiynau yn ogystal â meincnodi sgoriau yn erbyn Cronfeydd eraill fydd wedi cymryd rhan. Nodwyd bod yr asesiad yn cynnwys wyth maes allweddol ar gyfer cyrraedd safon llywodraethu da a bod yr asesiad mewn ffurf holiadur ar-lein.

 

Ategwyd y bydd y canlyniadau’n ddefnyddiol ar gyfer creu cynlluniau hyfforddi wedi eu targedu ar gyfer yr Aelodau i’r dyfodol ac anogwyd pawb i gymryd rhan.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad

 

10.

CYNADLEDDAU PENSIWN 2025 pdf eicon PDF 92 KB

I nodi’r rhestr o gynadleddau ar gyfer 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn rhestru dyddiadau cynadleddau pensiynau ar gyfer 2025. Nodwyd bod y dyddiadau eisoes wedi eu rhannu gydag Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau a bod y cynadleddau yn rhoi cyfle i Aelodau’r Pwyllgor a’r Bwrdd i ehangu eu gwybodaeth a thrafod materion cyfoes. Gofynnwyd I’r Aelodau ystyried y dyddiadau a datgan diddordeb i’r Rheolwr Buddsoddi yn y digwyddiadau hynny oedd yn gyfleus iddynt. Ategwyd bod bwriad ffurfioli'r rhestr mynychu gan osod trefn i geisio tegwch a chynrychiolaeth deg.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD nodi rhestr o gynadleddau ar gyfer 2025