Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2025/26 Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol
Sioned Parry yn Gadeirydd y
Bwrdd ar gyfer 2025/26 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2025/26 Cofnod: PENDERFYNWYD ail ethol
Osian Richards yn Is-gadeirydd
y Bwrdd ar gyfer 2025/26 |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
Sioned Parry a’r Cyng. Elin Hywel (Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau). Oherwydd problemau technegol,
nid oedd modd i Ned Michael ymuno. Croesawyd Roland Thomas i’w gyfarfod
cyntaf o’r Bwrdd fel Cynrychiolydd
Cyflogwr Yn dilyn marwolaeth sydyn ac annisgwyl Mrs Sharon
Warnes, cymerodd yr Is-gadeirydd
y cyfle i gydymdeimlo a’i theulu. Nodwyd bod Sharon yn gyn Aelod a Chadeirydd y Bwrdd Pensiwn a diolchwyd am ei chyfraniad, ei gwasanaeth a’i chefnogaeth i’r Bwrdd; Roedd yn
berson parchus a chydwybodol ac y bydd colled ar ei
hol. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7fed Ebrill 2025 fel rhai cywir. |
|
COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR PENSIYNAU Cyflwyno,
er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau Mehefin 12fed 2025 Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth
gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 12 Mehefin 2025. |
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 I dderbyn a nodi ·
Datganiad
Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2024/25. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth,
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion
gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn
a ddaeth i ben Mawrth 31ain
2025. Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol
CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth
sydd i’w gyflwyno yn y cyfrifon.
Ategwyd bod y cyfrifon yn cael eu
harchwilio gan Archwilio Cymru ym mis Medi ac eisoes wedi eu
cyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau ar y 7fed o Orffennaf 2025. Nodwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur i’r Gronfa
wrth barhau I fuddsoddi yn ehangach
gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi bod ychydig o amrywiadau wrth i’r cyfraniadau
a’r buddion gynyddu wedi i
weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn
gynyddu gyda CPI. Ategwyd bod cynnydd yn y costau rheoli
wrth i werth
yr asedau gynyddu a chyflwyniad mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio e.e. credyd preifat.
Ategwyd bod cynnydd o oddeutu £160 miliwn yng ngwerth farchnad
y gronfa sydd un unol a’r cynnydd
graddol sydd i’w weld yn flynyddol. Amlygwyd bod incwm buddsoddi'r
gronfa wedi codi yn sylweddol
a’r buddsoddiadau ecwiti wedi perfformio
yn gryf ac felly wedi cynhyrchu incwm sylweddol. Nodwyd, fel rhan
o’r dyraniad asedau strategol newydd, bod mwy o effaith buddsoddi i’w weld yn y cronfeydd
incwm sefydlog ac isadeiledd. Cyfeiriwyd hefyd at y nodiadau
statudol oedd yn yr adroddiad oedd yn rhoi
manylion tu ôl i’r ffigyrau
ynghyd a manylion pellach am weithgareddau’r Gronfa a PPC. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Cyfeiriad at ‘ardal
Cyngor Sir Gwynedd’ - angen cynnwys
Conwy a Sir Fôn? ·
Bod y gwaith
wedi ei gwblhau
yn amserol ac yn broffesiynol gyda chymhlethdodau buddsoddiadau newydd i’w hystyried a’u
cynnwys ·
Bod
cynnydd sylweddol mewn ffioedd isadeiledd
(o 2,875 I 4,851) – angen cadw
llygad ar hyn Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chynnydd sylweddol yng nghostau Gwasanaeth Monitro Perfformiad, nodwyd mai’r rheswm
dros hyn oedd bod anfonebau hanesyddol yn ddyledus
a cronfeydd mae’r Gronfa yn buddsoddi
ynddynt yn fwy cymhleth. Nodwyd
hefyd mewn ymateb i sylw
ynglŷn â chynnydd mewn ffioedd rheolwyr
Partneriaeth Pensiwn Cymru
(PPC) (o 3,193 I 5,624), bod hyn o ganlyniad i symud
o batrwm buddsoddi hanesyddol i waith
buddsoddi mewn buddsoddiadau newydd a chronfeydd gwahanol, a’r ffioedd felly yn amrywio. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd mewn buddion
heb eu hawlio
(o 4,006 yn 2024 I 4,683 yn
2025), nodwyd bod hyn yn ymwneud ag ymadawyr
sydd wedi gadael cyflogaeth ond heb benderfynu
pa gamau y maent am eu cymryd o ran eu buddion, ond
bod y buddion angen eu prosesu. Nodwyd
bod ymdrech wedi ei wneud i
leihau'r nifer wrth baratoi gwaith
ar gyfer y dashfwrdd. PENDERFYNWYD derbyn a nodi datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol
ar archwiliad) ar gyfer 2024/25. |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU: ADDAS I'R DYFODOL I nodi'r
diweddariad. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi diweddariad i’r Bwrdd o waith PPC.
Fel sydd yn wybyddus i bawb, mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cydweithio gyda chronfeydd pensiwn eraill yng
Nghymru ers 2017 a bellach gydag oddeutu
£25 biliwn o asedau o dan reolaeth y pŵl sydd wedi arwain at arbedion cost, gwella cyfleoedd buddsoddi, gwella perfformiad a chynyddu cyd-weithio a llywodraethu ar draws Cymru, bod y cydweithio wedi bod yn fanteisiol
i Wynedd sydd gyda dros
85% o gronfa Bensiwn Gwynedd wedi ei bwlio erbyn
hyn. Atgoffwyd yr
Aelodau, ers Hydref 2023, bod Llywodraeth y DU wedi bod yn adolygu trefniadau
buddsoddi Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL)
yng Nghymru a Lloegr, gydag ymgynghoriad cychwynnol wedi ei gynnal yn Hydref
2024, a’r Bil Pensiynau wedi ei gyhoeddi yn Mehefin 2025 Tynnwyd sylw at y tri maes sydd wedi derbyn sylw: ·
Diwygio model
gweithredu’r pŵl – sydd yn elfen sydd wedi creu llawer o waith yn y tymor
byr mewn ymateb i’r gofynion sef parhau i fod yn gyfrifol am osod strategaeth
buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd, ond bydd angen dirprwyo gweithrediad
y strategaeth i’r pwl. Ategwyd y bydd rhaid i’r awdurdodau gweinyddol dderbyn
eu prif gyngor buddsoddi gan y pwl ac nid gan Hymans
Robertson fel sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd, ac y angen trosglwyddo holl
asedau gweddilliol y Gronfa i’r pwl (sydd ddim yn newid mawr gan fod canran
uchel gan Wynedd eisoes yn y pwl). Bydd rhaid i'r pwl hefyd ddatblygu ffyrdd
mewnol o gwblhau diwydrwydd dyladwy ar
fuddsoddiadau lleol a rheoli’r buddsoddiadau hyn. Yn ychwanegol, bydd angen creu
cwmni buddsoddiadau sydd wedi ei
rheoleiddio gan yr FCA
(Financial Conduct Authority). Bydd hyn yn cynnig
cyfle unigryw i sefydlu canolfan
o arbenigedd mewn buddsoddiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Nodwyd bod y cais wedi ei gymeradwyo
gan Cyngor Llawn Cyngor Gwynedd ar
y 3ydd o Orffennaf, ac y bydd
angen iddo dderbyn cymeradwyaeth gan yr wyth Cyngor yng Nghymru sydd
yn rhan o’r
pwl, cyn parhau gyda’r cam i greu’r cwmni
newydd. ·
Hybu buddsoddiad CPLlL yn eu hardaloedd a'u rhanbarthau yn y DU ·
Cryfhau llywodraethu (y ddwy elfen yma yn derbyn sylw o fewn y misoedd nesaf – angen ystyried
sut y gellid eu gweithredu ar gyfer y pwl a Cronfa Bensiwn Gwynedd) Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith
manwl a gwblhawyd o fewn amserlen dynn iawn gan Llywodraeth y DU. Ystyriwyd bod
y sefyllfa yn un nad oedd dewis ond cydymffurfio â hi. Mewn ymateb i sylw bod Cronfa Gwynedd wedi arbed ffioedd drwy bwlio gyda PPC, ond bellach PPC yn cael eu gorfodi, yn unol â rheolau Llywodraeth y DU, i wario oddeutu £5m i sefydlu cwmni newydd (IMCo), ac a fydd cyfleodd i arbed arian yn deillio o’r newid, nododd y Pennaeth Cyllid mai IMCo fydd yn gyfrifol am y strwythur llywodraethiant a’r cyfrifoldeb o gynghori a sicrhau gwerth am arian. Ategodd er bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
SYMPOSIWM PWLIO CPLlL I nodi a derbyn y wybodaeth. Cofnod: An oral update was provided by Mr Anthony Deakin who
attended the LGPS Pooling Symposium in May on behalf of the Board. The
conference focused on how the pooling work within the LGPS continues to evolve,
and what the future will look like. It was noted that the conference was very technical
providing an update on the pooling work by highlighting the success of the
Wales Pension Partnership pool, especially given that the business plan of two
larger partnerships had failed. WPP was considered a unique partnership, a
national, strong, and separate fund. Other
issues discussed were: ·
Equity (impact of President
Trump's tariffs), ·
Property (global shift in movement from investment
in shops and offices to housing), ·
Renewable energy schemes and rewilding. ·
Net Zero and the impact of Trump's stance on
corporate matters. Although it was a conference with a good mix of issues
to discuss, it was interesting to see how political some of the issues were
discussed. Gratitude was expressed for
the information. |
|
CYNHADLEDD BUDDSODDI YNG NGHYMRU I dderbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Pennaeth Cyllid oedd wedi
mynychu’r gynhadledd ym mis Ebrill 2025 gyda dau o Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau, y Cynghorydd Elin Hywel a’r Cynghorydd Goronwy Edwards. Pwrpas y gynhadledd oedd canolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd
buddsoddi yng Nghymru gan ystyried
y pwysau cymdeithasol, a gwleidyddol sydd yn unigryw i’r
wlad. Er bod consensws nad oedd cyfleoedd
mawr, cafwyd yr ymdeimlad bod angen adnabod busnesau bach / canolig ac annog cefnogaeth i’r busnesau hynny
i ddatblygu. Nodwyd, er bod llawer o siarad
am fuddsoddi yn lleol yng Nghymru,
ymddengys mai effaith gymdeithasol (social
impact) oedd yn cael ei hyrwyddo
yn hytrach na derbyn gwybodaeth
lawn am gyfleoedd buddsoddi
ariannol yng Nghymru. Er derbyn bod cyfleoedd adfywio canol trefi ac adeiladu a buddsoddi mewn tai a seilwaith cymdeithasol yn fodd o wella
bywoliaeth a chymunedau ledled Cymru, rhaid sicrhau dychweliadau ariannol - yn amlwg
bod dyhead o gefnogi cymunedau, ond rhaid sicrhau balans
a chadw llygad a’r ddyletswydd y Gronfa Bensiwn i’w haelodau. Diolchwyd am yr adborth Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffiniad o’r gair ‘lleol’, nodwyd bod gan yr wyth Cyngor sydd yn rhan
o PPC, ddiffiniad gwahanol i ystyr y gair. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar Bartneriaeth yn wynebu risg
o gael ei gorfodi i fuddsoddi
canran o arian mewn mentrau lleol,
nodwyd nad oedd hyn wedi
ei benderfynu, ond bod trafodaeth ar y gorwel - cyfeiriwyd
at wledydd Canada ac Awstralia
fel enghreifftiau lle mae’r wlad
wedi cyfrannu at fuddsoddiadau yn lleol. Awgrymwyd bod angen adolygu’r
proffil risg PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r
wybodaeth |
|
ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA I
ystyried cynnwys yr adroddiad drafft er mwyn trafod ei gynnwys a chynnig
gwelliannau yn y cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi
yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn
a ddaeth i ben 31 Mawrth
2025. Amlygwyd bod yr adroddiad
wedi ei ysgrifennu
yn unol â gosodiad adroddiad 2024 gan gymryd i
ystyriaeth y pynciau a drafodwyd yn ystod
y flwyddyn. Y bwriad yw
cyflwyno’r adroddiad terfynol i’r Rheolwr
Buddsoddi erbyn 31/07/2025 i’w gynnwys fel
rhan o adroddiad blynyddol y Gronfa ac fel rhan o gyfarfod
blynyddol y Gronfa Tachwedd 2025. Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r
staff oedd yn gysylltiedig â pharatoi’r gwaith. PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad drafft |
|
DATGANIAD POLISI LLYWODRAETHU WEDI'I DDIWEDDARU Argymhellir
bod y Bwrdd Pensiwn: 1.
Adolygu
ac yn nodi cynnwys y Datganiad Polisi Llywodraethu wedi'i ddiweddaru. 2.
Yn
cefnogi cyhoeddi a pharhau i ddefnyddio'r ddogfen ddiwygiedig fel rhan o
Fframwaith cydymffurfio'r Gronfa. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu’r
gofyn i’r Gronfa gyhoeddi Datganiad Llywodraethu a Chydymffurfio o dan Reoliad 55 Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013 (fel y’i diwygiwyd)
gan adolygu’r datganiad hwnnw yn barhaus. Bwriad
y datganiad yw nodi Strwythur Llywodraethu'r Gronfa, y cynllun dirprwyo, a'r cylch
gorchwyl ar gyfer ei Chyrff
Llywodraethol, y Pwyllgor Pensiynau a'r Bwrdd
Pensiynau Lleol. Yn dilyn ymddeoliad
Mr Dafydd Edwards fel Cyfarwyddwr
y Gronfa, amlygwyd yr angen i ddiweddaru’r
Datganiad I sicrhau bod y wybodaeth yn cyfateb
i bolisi â strwythur llywodraethu presennol y Gronfa ac yn adlewyrchu'r gywir gyfrifoldebau sydd bellach yn
cael eu dal gan y Prif Swyddog
Cyllid a'i dimau cefnogi. Argymhellwyd bod y Bwrdd
yn adolygu ac yn nodi cynnwys y Datganiad Polisi Llywodraethu wedi'i ddiweddaru ac yn cefnogi cyhoeddi
a pharhau i ddefnyddio'r ddogfen ddiwygiedig fel rhan o Fframwaith cydymffurfio'r Gronfa. Diolchwyd am yr adroddiad
a chytunwyd bod angen cydymffurfio gyda’r Rheoliadau ac adrodd ar y sefyllfa bresennol. PENDERFYNWYD: 1. Adolygu ac yn nodi cynnwys
y Datganiad Polisi Llywodraethu
wedi'i ddiweddaru. 2. Cefnogi cyhoeddi a pharhau i ddefnyddio'r ddogfen ddiwygiedig fel rhan o Fframwaith
cydymffurfio'r Gronfa. |
|
I graffu’r gofrestr risg a dod ac
unrhyw sylwadau neu gynigion i’r cyfarfod. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd cofrestr risg gyfredol oedd yn
amlygu risgiau perthnasol i’r Gronfa Bensiwn. Amlygwyd bod y gofrestr yn ddogfen weithredol,
yn cael ei
hadolygu’n rheolaidd a’i diweddaru mewn
ymateb i unrhyw risgiau sylweddol sydd yn debygol o ddatblygu. Cyfeiriwyd at ddiweddariadau ar
gyfer 2025 oedd yn cynnwys; ·
Gofynion Cod Cyffredinol newydd yr Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR) ·
Cyflwyniad y Dashfwrdd Pensiynau a goblygiadau’r newid hwnnw ·
Prosiect yr Wyddfa - Y newidiadau
sy'n deillio o'r ymgynghoriad Addas i’r Dyfodol Ategwyd y bydd angen diweddariad pellach yn dilyn y prisiad
diweddaraf ac wrth weithredu newidiadau deddfwriaethol a ddaw yn sgil y Rheoliadau
Addas I’r Dyfodol. Diolchwyd am y wybodaeth Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Awgrym i
uchafu risg diogelwch seibir o ystyried ymosodiadau seibir diweddar ar
siopau M&S a Co-op ·
Bod angen
ychwanegu system Gyflogau Newydd i’r
gofrestr o ystyried bod
13,500 yn cael eu talu drwy’r
system ·
Awgrym i
ystyried cynnwys elfen ‘cyflymder’ (velocity) i’r gofrestr - a fyddai yn ychwanegu
gwerth? ·
Croesawu risg
Rheoliadau Addas I’r Dyfodol - risg o gostau yn fwy
na’r disgwyl. Bydd angen sicrhau
bod strwythur y cwmni yn gweithio PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth |
|
POLISÏAU GWEINYDDOL Y GRONFA BENSIWN I ystyried yr adroddiad a chynnig adborth am gynnwys y polisïau gweinyddol newydd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau
adroddiad oedd yn cyflwyno tri pholisi gweinyddol allweddol i’r Bwrdd
eu harchwilio. Nodwyd bod y polisïau yn hanfodol ar
gyfer rheoli a gweinyddu’r gronfa bensiwn yn effeithiol
ac yn gam sylweddol tuag at lywodraethu da. Ategwyd, yn dilyn
adolygiad y Bwrdd, bydd y polisïau yn cael eu
cymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau yn Medi 2025. Trafodwyd y Polisïau
yn unigol gan roi cefndir
a chyd-destun bob un i’r
Aelodau ·
Taliadau ymlaen llaw o'r Gyflogres
Pensiynwyr ·
Dosbarthiad Taliadau Grant Marwolaeth ·
Egwyl mewn Addysg ar gyfer
Pensiwn Plentyn Dibynnol CPLlL Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith o ffurfioli’r polisïau. Nodwyd bod rhai o’r diweddariadau
wedi bod yn rhai doeth. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Taliadau ymlaen llaw o'r
Gyflogres Pensiynwyr Dosbarthiad Taliadau Grant Marwolaeth - ystyried ychwanegu crynodeb byr ar ddechrau’r
polisi yn amlygu, er bod enwebiad i dderbyn grant marwolaeth, ni fydd hyn yn
gyfreithiol rwymedig. Os na fydd
enwebiad, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud
ar ddisgresiwn y Rheolwr Pensiynau PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth |