Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o
Chwefror 2026 fel rhai cywir. |
|
|
COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgorau Pensiynau a
gynhaliwyd ar y 26ain o Chwefror 2026 a’r 16eg o Fawrth 2026 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar y 26ain o Chwefror 2026 a’r 16eg o Fawrth 2026 |
|
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried yr adroddiad
a nodi'r wybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi mai adroddiad ydoedd er
gwybodaeth yn nodi’r datblygiadau o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Er
bod adborth o gyfarfodydd Ymgysylltu Cadeiryddion Bwrdd Pensiwn, sy’n cael eu
cynnal bob 6 mis, yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd, ystyriwyd gyda’r nifer
datblygiadau diweddar mai addas a phwysig fyddai i’r Aelodau dderbyn
diweddariad rheolaidd. Atgoffwyd yr Aelodau, o ganlyniad i Ddeddfwriaeth San
Steffan ‘Addas i’r Dyfodol’, bod PPC wedi gorfod mynd ati i ffurfio cwmni
buddsoddi newydd sydd bellach yn cael ei adnabod fel ‘WPP Investment Management
Company’ (WPP IMCo). Adroddwyd bod oediad
mewn cymeradwyo’r Ddeddfwriaeth ac o ganlyniad nid oedd y cwmni wedi ei
lansio - ymddengys mai ar ôl yr etholiad bydd y lansiad bellach. Cyfeiriwyd at drefniadau newydd y cwmni buddsoddi gan
fynegi yn gryno y bydd yn gyfrifol am weithredu pob agwedd a chynghori ar
Strategaeth Fuddsoddi’r wyth Awdurdod Cyfansoddol. Yng nghyd-destun Llywodraethiant y Bartneriaeth,
tynnwyd sylw at strwythur lywodraethu’r Bartneriaeth unwaith bydd y cwmni
buddsoddi yn weithredol ynghyd a sut bydd y Pwyllgor Pensiynau, yr Awdurdodau
Cyfansoddol unigol, a’r Bwrdd Pensiwn yn cyfrannu i’r strwythur. Cyfeiriwyd at
a) strwythur y cyfranddalwyr (sef y swyddogion, a’r Aelodau Etholedig) gyda’r
Bwrdd Cyfranddalwyr yn cael ei greu i warchod hawliau’r Awdurdodau Cyfansoddol
- bydd y Bwrdd ynteu yn cynnwys Swyddog Adran 151 neu Uwch Swyddog CPLlL o bob
un o’r Awdurdodau Cyfansoddol; a b) strwythur y cwmni newydd gyda Bwrdd WPP
IMCo yn atebol i Bwrdd y Cyfranddalwyr. Cyflwynwyd Cynllun Busnes Cychwynnol WPP IMCo oedd
eisoes wedi ei gymeradwyo gan y
Cyd-Bwyllgor Llywodraethu, a Phwyllgor Pensiynau Cronfa Bensiwn Gwynedd. Nodwyd
bod y Cynllun yn manylu ar sut mae’r cwmni yn mynd i gyflawni wyth amcan
strategol ac yn gosod cynllun i gyflawni nodau penodol megis llywodraethu a goruchwylio, crynodeb ariannol, dull rheoli
buddsoddiadau, gweithrediadau a staffio, rheoli risg a chydymffurfiaeth a
buddsoddi cyfrifol. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol: ·
Bod costau staffio yn ymddangos yn aruthrol o
uchel ·
Croesawu bod
Bwrdd y Cyfranddalwyr gyda grym i herio perfformiad WPP IMCo ·
Bod angen
sicrhau bod y Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiwn yn craffu yn effeithiol ac
yn adnabod problemau yn gynamserol - angen cryfhau rôl o fewn y strwythur i fod
yn actif a gweithredol. Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y swyddogaethau
allweddol wedi ei llenwi, nodwyd bod nifer bellach wedi eu penodi a’r Uwch
Swyddog Buddsoddi wedi dechrau yn ei rôl newydd ac eisoes yn adeiladu
cysylltiadau wythnosol gyda swyddogion yr Awdurdodau Cyfansoddiadol. Mewn
ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn ag a fyddai costau’r strwythur yn cynnig
gwerth am arian nodwyd bod y sefyllfa yn un unigryw - bod cwmni yn cael ei greu
o’r newydd ac felly amser a ddengys beth fydd canlyniadau’r sefyllfa. Ategwyd
nad oedd swyddogion y Gronfa Bensiwn wedi cael mewnbwn i’r strwythur newydd. Mewn ymateb i gwestiwn, o ystyried bod oediad mewn sefydlu’r cwmni, a phwy felly fydd yn talu cyflogau’r staff, nodwyd mewn amgylchiadau o’r fath bod trefniant mewn lle i’r Cyngor Lletyol dalu dros y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
ADRODDIAD RHAGAMCANION MODELU LLIF ARIAN I nodi’r cynnwys a derbyn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Rheolwr Buddsoddi mewn ymateb i’r angen i ragamcanu llif arian disgwyliedig y
Gronfa dros gyfnod hirdymor, fel bod modd deall sensitifrwydd sefyllfa llif
arian net y Gronfa mewn nifer o senarios chwyddiant. Adroddwyd, er bod y prisiad
teirblynyddol wedi dangos bod y Gronfa mewn sefyllfa iach o ran asedau, rhaid
cadw golwg ar lif arian y Gronfa gan ystyried trosi rhai asedau i arian neu i
asedau fyddai’n talu incwm rheolaidd (er mwyn talu’r pensiynwyr), ac a fyddai
digon o arian yn dod i mewn i’r Gronfa o ddydd i ddydd i wneud hynny. Tynnwyd sylw at y mathau o
incwm a’r gwariant rheolaidd sydd yn digwydd o fewn y Gronfa, ynghyd a sefyllfa
llif arian y blynyddoedd diweddar oedd yn amlygu bod y sefyllfa wedi bod yn
bositif dros y tair mlynedd ddiwethaf. Eglurwyd ei bod yn arferol i Gronfa
Bensiwn fynd i sefyllfa llif arian negyddol pan fydd taliadau buddion yn mynd
yn uwch na’r incwm sydd yn dod i mewn, ac felly amlinellwyd pwysigrwydd yr
angen i fonitro’r sefyllfa a defnyddio’r Strategaeth Fuddsoddi er mwyn gwerthu
neu newid y math o asedau sydd fwyaf priodol yn hytrach na gwerthu asedau ar
frys. Cyfeiriwyd at adroddiad a
ddarparwyd gan Hymans Robertson oedd yn asesu’r sefyllfa gan amlygu eu bod
hefyd wedi cynnal scenario analysis ar y Gronfa i ganfod beth fydd effaith
chwyddiant gwahanol lefelau. Ymddengys petai senario waelodlin, yna bydd potensial
i’r Gronfa wynebu sefyllfa llif arian negyddol yn 2027 ac yn gynharach na hynny
os bydd chwyddiant uchel. Ategwyd, yn y tymor byr, bod gan y Gronfa gronfeydd
hylifol y gellid galw arnynt ar fyr rybudd; bydd monitro a gweithredu’r llif
arian hefyd yn ystyriaeth i Cwmni Rheoli Buddsoddi WPP IM Co a bydd angen
cydweithio gyda’r cwmni dros y cyfnod nesaf i sicrhau bod digon o hylifedd ar
gael. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â gwerthu asedau ac a’i mater o ddileu'r asedau sydd ddim yn
perfformio fydd yn arwain at y penderfyniad, nodwyd na fydd asedau yn cael eu
gwerthu ar frys, ond yn ystyried yr asedau hylifol sy’n adnodd ddefnyddiol ac
ar gael o fewn dyddiau heb golled sylweddol mewn gwerth. Nodwyd bod asedau
hylifol yn werthfawr ar gyfer argyfyngau e.e., petai’r llif arian yn amrywio o
gymharu â’r rhagamcanion. Mewn ymateb i gwestiwn am
chwyddiant cyflogau nodwyd bod 2.8% wedi cael ei bennu fel cyfradd gyson ar
gyfer cyfrifiadau pensiwn, i gydbwyso senarios chwyddiant uchel (sy'n cynyddu
rhwymedigaethau) â senarios twf is. Derbyniwyd yr adroddiad a
nodwyd y wybodaeth |
|
|
PERFFORMIAD BUDDSODDI CRONFA BENSIWN GWYNEDD HYD AT 31 RHAGFYR 2025 I ystyried yr adroddiad a derbyn
y wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar berfformiad y Gronfa dros y
chwarter dan sylw. Nodwyd bod y Gronfa wedi dychwelyd 2.5% dros y chwarter, gan
berfformio yn hafal i’r meincnod gyda chyfanswm yr asedau wedi cynyddu o
£120miliwn i ddod a gwerth y gronfa i dros £3.56 biliwn am y tro cyntaf; bu i’r
asedau ecwiti berfformio yn dda, yn enwedig yn Ewrop ac Asia. Ategwyd, bod y Gronfa, dros y flwyddyn wedi dychwelyd 10.4%, a hynny ychydig tu ôl i’r
meincnod, ond nad oedd amheuaeth bod y meincnod a osodwyd yn un heriol, ond bod perfformiad Cronfa
Bensiwn Gwynedd wedi bod yn uwch na chyfartaledd cronfeydd Prydain yn hanesyddol. Tynnwyd sylw at berfformiad y rheolwyr
buddsoddi ecwiti gan egluro, bod tanberfformiad Cronfa Ecwiti Gweithredol
Cynaliadwy (Sustainable Active
Equity), yn amlwg a hynny oherwydd bod stociau o fewn
y marchnadoedd ecwiti wedi gallu manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial sef y Magnificent 7 e.e. Apple, Microsoft a Tesla,
sydd wedi perfformio yn dda. Effaith hyn yw tan berfformiad o fewn stociau
eraill e.e. stociau hirdymor o fewn y portffolio sy’n edrych ar y trawsnewid ynni (energy transition). Ategwyd bod bwriad
gan Russell Investments i edrych ar raniad y Gronfa a
chyflwyno rheolwr buddsoddi newydd i’r portffolio er mwyn ceisio adfer y
perfformiad. Eglurwyd,
er bod rheolwyr incwm sefydlog wedi bod drwy gyfnod anodd gydag effaith
ymosodiad Rwsia ar Wcrain, ac effaith chwyddiant a chyfraddau llog bod yr
amodau wedi sefydlogi, a'r perfformiad bellach yn agosach at y meincnod. Yn yr
un modd, adroddwyd bod rheolwyr eiddo wedi gweld effaith covid
ar ddefnydd swyddfeydd ac unedau’r stryd fawr, ond y farchnad eiddo hefyd wedi
sefydlogi. Yng nghyd-destun
marchnadoedd preifat PPC a chronfeydd Partners,
nodwyd mai anodd yw asesu eu perfformiad oherwydd bod y buddsoddiad yn un mwy
hir dymor ac nid oedd pryderon wedi eu hamlygu
gan Hymans Robertson. Adroddwyd bod y Pwyllgor
Pensiynau wedi cymeradwyo dyraniad asedau strategol newydd mewn ymgynghoriad
gyda Hymans Robertson ym mis Tachwedd, a bod gwaith
ym mynd yn ei flaen i symud tuag at y dyraniad newydd ac i gydweithio gyda WPP
IM Co i weithredu’r newidiadau. Diolchwyd am yr adroddiad Derbyniwyd yr adroddiad
a nodwyd y wybodaeth |
|
|
DIWEDDARIAD HYFFORDDIANT 2025/26 A CHYNLLUN HYFFORDDI 2026/27 Gofynnir i'r Bwrdd:
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Pensiynau yn diweddaru’r
Aelodau ar gynllun hyfforddiant 2025/26 a gofyn iddynt gymeradwyo cynllun hyfforddiant arfaethedig 2026/27. Ystyriwyd
bod cynllun 2025/26 wedi
bod yn llwyddiannus a diolchwyd i’r Aelodau am fynychu amryw o sesiynau hyfforddiant oedd yn cynnig
ystod eang o bynciau, yn ogystal
â seminarau, cynadleddau a gweminarau allanol perthnasol oedd yn cael eu
canmol fel rhai defnyddiol ac amserol. Amlygwyd nad oedd Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol, sydd fel arfer
yn cael ei
gydlynu gan Hymans
Robertson i feincnodi lefelau gwybodaeth yr Aelodau, wedi ei gynnal
yn ystod 2025 oherwydd yr angen i adolygu’r fframwaith
yn sgil diwygiadau
llywodraethu Addas ar Gyfer y Dyfodol, cryfhau disgwyliadau o dan y Côd Cyffredinol a datblygiadau mewn pwlio buddsoddiadau, buddsoddi cyfrifol a safonau llywodraethu. Unwaith y bydd yr Asesiad diwygiedig wedi ei gyhoeddi
bydd hyn yn galluogi’r Gronfa
i feincnodi lefelau gwybodaeth yn genedlaethol, nodi anghenion hyfforddi sy'n dod i'r
amlwg a llywio iteriadau y Cynllun Hyfforddi a'r Strategaeth
Llywodraethu a Hyfforddiant
i’r dyfodol. Wrth gyflwyno
Cynllun Hyfforddiant 2026/27, ac yng
nghyd-destun hyfforddiant craidd, nodwyd bod y Cynllun yn adlewyrchu'r
bwriad i Bartneriaeth Pensiwn Cymru barhau fel prif
ddarparwr hyfforddiant i aelodau'r Pwyllgor
a'r Bwrdd Pensiwn. Fodd bynnag,
oherwydd y newidiadau parhaus o fewn y trefniadau pwlio, nid oedd unrhyw
sesiynau hyfforddi wedi'u trefnu. Ategwyd, unwaith bydd y strwythur a'r trefniadau llywodraethu diwygiedig wedi'u cwblhau, rhagwelir bydd rhaglen o sesiynau yn cael eu
trefnu. Y disgwyliad yw y bydd y sesiynau
hyn yn cwmpasu'r
meysydd allweddol. Cyfeiriwyd at gynadleddau sydd
wedi eu nodi ar gyfer 2026/27 gan ategu disgwyliad
i’r Aelodau sydd yn mynychu, gwblhau
ffurflen adborth strwythuredig i’w chynnwys ar raglen
cyfarfod y Pwyllgor Pensiynau dilynol. Anogwyd Aelodau’r Bwrdd i fanteisio
ar gyfleoedd dysgu ychwanegol megis modiwlau dysgu ar lein
a dysgu hunangyfeiriedig. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Yn canmol
sesiynau hyfforddi’r PPC ac
mai da fyddai eu hadfer mor fuan
â phosib. Cais i’r Rheolwr Buddsoddi
wneud ymholiadau gan anfon neges
i’r Cyngor Lletyol (Cyngor Sir Gâr) i atgyfnerthu’r angen i’r sesiynau
barhau. ·
Bod y Cynadleddau
wedi bod yn fuddiol ac yn llawn
gwybodaeth ·
Cais i
rannu’r templed adborth Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sefyllfaoedd o anufudd-dod y dylid bod yn ymwybodol
ohonynt, nododd y Rheolwr Pensiynau nad oedd unrhyw
sefyllfa ar hyn o bryd yr oedd
yn ymwybodol ohono. Derbyniwyd y wybodaeth
gan ·
Nodi’r hyfforddiant a gynhaliwyd yn ystod 2025/26 ·
Nodi absenoldeb yr Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol
2025 a'r adolygiad arfaethedig o'r fframwaith ·
Cymeradwyo Cynllun Hyfforddi 2026/27 |
|
|
ADRODDIAD PRISIAD Y GRONFA BENSIWN I ystyried
yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth,
adroddiad prisiad gan y Rheolwr Pensiynau. Adroddwyd bod y swyddogion wedi bod
yn cydweithio gyda’r actiwari Hymans Robertson dros y
flwyddyn ddiwethaf ar brisiad tair blynedd Cronfa Bensiwn Gwynedd. Eglurwyd mai
pwrpas y prisiad yw sicrhau bod gan y Gronfa strategaeth ariannu gadarn i
fodloni rhwymedigaethau buddion hirdymor wrth osod cyfraddau cyfraniadau
cyflogwyr ar y cyfnod rhwng 1af o Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2029. Cyfeiriwyd at sefyllfa ariannol iach y Gronfa ac at
gyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr fydd yn gostwng i 16.2% o’r cyflog (o gymharu
â 21.8% yn 2022). Tynnwyd sylw hefyd at ofyniad newydd ar gyfer Prisiad 2025
sef adrodd ar y Bwlch Pensiwn rhwng y Rhywiau. Nodwyd y bydd adolygiad i
newidiadau yn y rheoliadau i geisio lleihau’r bwlch sydd ar hyn o bryd yn cael
ei ddylanwadu fawr gan y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sydd yn adlewyrchu
gwahanol batrymau gwaith fel gwaith rhan-amser. Y gobaith yw bod canlyniadau’r adolygiad
yn cael eu rhyddhau yn fuan. Adolygwyd y rhagdybiaethau a
ddefnyddiwyd yn y prisiad hwn ym mis Ionawr 2025 ac fe’i cymeradwywyd yn
ffurfiol gan y Pwyllgor Pensiynau ym mis Mawrth 2025. Ategwyd, yn dilyn cyfnod
o ymgynghori â chyflogwyr, bod y Datganiad Strategaeth Ariannu derfynol wedi ei
gymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau ar y 16eg o Fawrth 2026, a bod y prisiad
ffurfiol nesaf wedi ei drefnu ar gyfer 31 Mawrth 2028. Diolchwyd am yr adroddiad Nododd Osian Richards, bod Deddf
Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 wedi cyflwyno fframwaith ar gyfer
cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd, gan ei newid yn bennaf o Gyflog
Terfynol i drefn Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi'u Hailbrisio (CARE) o fis
Ebrill 2014. Fel rhan o’r newidiadau, cyflwynodd y Ddeddf Fesur Rheoli Costau i
gynnal cydbwysedd teg o risg rhwng aelodau a threthdalwyr i sicrhau
cynaliadwyedd hirdymor y cynlluniau. Mae'r mesur yn fecanwaith statudol (Adran
12, Deddf Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013) sy'n dod yn weithredol os yw
cost darparu buddion yn cynyddu neu'n gostwng yn fwy na’r cyfartaledd penodedig
o 3%, o'i gymharu â chost darged. Nodwyd hefyd bod gan y CPLlL
broses rheoli costau penodol ar gyfer y cynllun sydd yng Nghymru yn defnyddio
cap costau cyflogwr o 14.6% a tharged o 19.5% ar gyfer gwasanaeth yn y dyfodol. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r mesur ac os oedd bwriad adolygu’r ganran, nodwyd mai mater
cenedlaethol ydoedd ac nid oedd newid wedi bod ers yr adolygiad diwethaf.
Ategwyd, o fewn y cyfnod bod newid hefyd wedi bod mewn llywodraeth ac felly
rheswm arall pam nad oedd arolwg cenedlaethol wedi ei weithredu. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r gyfradd cyfraniad uwchradd a pham bod amrediad eang yn y
canrannau (o -3% i -31.6%), nodwyd bod yr amrediad yn amrywio fesul cyflogwr a
hynny oherwydd amrywiaeth swyddogaethau ac oedrannau eu staff. Ategwyd bod y ganran
yn deillio o fformiwla gan yr actiwari. Derbyniwyd yr adroddiad
a nodwyd y wybodaeth |
|
|
RHAGLEN WAITH DDIWYGIEDIG I ystyried y rhaglen waith ac awgrymu eitemau ychwanegol neu
newidiadau. Cofnod: Cyflwynwyd rhaglen waith diwygiedig ar gyfer
2026/27. Amlygwyd bod y rhaglen
yn cynnwys materion a gynigwyd gan yr Aelodau ynghyd ag eitemau sefydlog i’w gosod ar
raglen pob cyfarfod o hyn ymlaen. Ategwyd y gellid ychwanegu materion sy’n codi
yn ystod y flwyddyn i’r rhaglen
yn unol ar
angen ynghyd ag unrhyw faterion / syniadau fydd yn
codi gan aelodau wedi sesiynau
hyfforddi a / neu ddigwyddiadau
perthnasol. Nodwyd bod blwyddyn heriol yn wynebu’r Gronfa
Bensiwn yn sgil dyfodiad WPP IMCo, ond y gobaith
yw y bydd y rhaglen waith yn
ymateb i’r heriau hynny. Diolchwyd am yr adroddiad a cydnabuwyd
y gwaith da sydd yn cael ei
wneud. Derbyniwyd y rhaglen waith |