Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd, LL53 5AA. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2017/18. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Hefin Underwood yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol
Is-Gadeirydd am 2017/18. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peter Read yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: David Dewsbury (Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli), W. A. Partington (Cymdeithas
Masnachwyr |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Cyfeiriodd aelod
at yr angen i gynnal cyfarfod i drafod cyflwr safle’r hen Glwb Hwylio. Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod angen edrych ar Benrhyn
Glandon yn ei gyfanrwydd ond roedd angen rhoi ystyriaeth os oedd Penrhyn
Glandon o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor hwn. Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned y byddai’r
gwasanaeth yn hapus i gynnal cyfarfod i drafod y mater. Nododd Cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a Phlas Heli nad oedd cwynion wedi eu cyfeirio at Plas Heli o ran cyflwr safle’r hen Glwb Hwylio. Nododd pryder am gyflwr maes parcio traeth Glandon a bod Plas Heli yn barod i fod yn rhan o drafodaethau o ran gwella’r safle. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion
cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 21 Mawrth, 2017, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 239 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyfeiriodd yr
Uwch Reolwr Economi a Chymuned at y Strategaeth Garthu gan nodi y comisiynwyd
Alan Williams (Coastal Engineering UK Ltd) ar y cyd efo Ymgynghoriaeth Gwynedd
i edrych ar yr opsiynau o ran cryfhau’r Crib Groyne a lleihau’r gwaddod yno. Derbyniwyd
cyflwyniad gan Alan Williams yn manylu ar ei waith yn asesu ac adolygu’r Crib
Groyne. Tynnodd sylw at 4 opsiwn posibl ac amcangyfrif
o’r gost ynghlwm sef: 1. Y lefel isaf o gynnal a chadw'r strwythur presennol (£10-15,000); 2. Cynnal a chadw lefel uwch ac adfer y strwythur presennol (£35-40,000); 3. Estyniad fertigol / amgylchynu’r strwythur presennol gan ddefnyddio
cyfuniad o (a) gwaith dur crib neu (b) stanciau dalennau ac arfwisg carreg
(£125-135,000 (a) neu £225-240,000 (b)); neu 4. Amgylchynu'r strwythur presennol mewn arfwisg carreg (£140-150,000). Amlygodd yr
ystyriaethau canlynol o ran yr opsiynau: ·
Nid oes angen llawer o
ymyrraeth i wireddu opsiynau 1 a 2 ond byddent ond yn cynnig ychydig o welliant
mewn perfformiad o gymharu ag amodau presennol; ·
Bydd opsiynau 3 a 4,
oherwydd codiad yn y lefel a gwell chadarnder ac uniondeb, yn lleihau
trosglwyddo a symud dros y strwythur; fodd bynnag ·
Dros gyfnod o ddeng
mlynedd, byddai’n debygol y byddai gwerth presennol costau'r opsiynau hyn yn
uwch na'r drefn barhaus o garthu a chael gwared arno; ac ·
Opsiynau 1, 2 a 4 oedd y
mwyaf hyblyg o ran y gallu i addasu i drefniadau'r dyfodol. Rhoddwyd cyfle
i’r aelodau roi sylwadau a gofyn cwestiynau i’r ymgynghorydd, ymatebodd iddynt
fel a ganlyn: ·
O ran cynyddu hyd y Crib
Groyne, nad oedd cynyddu hyd y Crib Groyne yn rhan o’i ffriff a byddai’n rhaid
gwneud gwaith manylach o ran modelu, asesu’r effaith ac ystyriaethau
amgylcheddol. Nododd bod angen gwneud gwaith yn y tymor byr; ·
Yn bosib rhoi ystyriaeth
i symud y ‘trailing arm’ mwy i’r chwith pan asesir opsiynau tymor hir; ·
Bod defnyddio arfwisg
carreg trwm neu strwythurau concrid pre-fab
i atgyfnerthu yn hytrach na strwythur dur ynghyd a symud y ‘trailing arm’ fel
ei fod yn mynd i mewn i ddŵr dyfn, yn rhywbeth oedd i’w ystyried wrth
edrych ar opsiynau tymor hir; ·
Cytuno mai dim ond atal
y sefyllfa rhag dirywio am gyfnod byddai opsiwn 3 ond yn ei gyflwyno gan nid
oedd eisiau ei ddiystyru fel opsiwn posib; ·
Bod byrdwn ariannol
cynnal a chadw blynyddol felly bod angen astudiaeth o’r opsiynau tymor hir o
ran y Crib Groyne gan ystyried efallai symud cyfeiriad y fraich arall. Nododd yr Uwch
Reolwr Economi a Chymuned bod y gwasanaeth yn awyddus i weithredu ar ddatrysiad
tymor byr yn y misoedd nesaf. Ychwanegodd y byddai datrysiad tymor hir yn
broses 2-3 blynedd felly roedd yn rhaid gweithredu ar ddatrysiad tymor byr na fyddai’n cyfyngu ar yr opsiynau posib ar gyfer y tymor
hir. Nododd
Cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Harbwr Pwllheli y dylid ystyried efallai
cynyddu hyd y Crib Groyne yn raddol er mwyn gweld faint o hyd y gellir ei
ennill heb gymhlethu’r broses gan asesu os oedd yn effeithiol. Nododd y Cadeirydd bod angen gwneud ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ETHOL SYLWEDYDDION I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol – a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog Cofnod: Adroddwyd bod angen
ethol sylwedydd/ion i wasanaethu ar
Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog. PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Peter Read i wasanaethu fel sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Porthmadog. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Pwllheli ar 20 Mawrth 2018. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 20 Mawrth, 2018. |