Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Cofnod:

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25.

Cofnod:

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Elin Hywel, Richard Glyn Roberts, Gwilym Jones (Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog) a Nia Wyn Jeffreys (Aelod Cabinet Economi a Chymuned).

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 78 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05 Mawrth 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 05 Mawrth, 2024 fel rhai cywir. 

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 215 KB

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Reolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli a thynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Cydymdeimlwyd â theulu a ffrindiau Ruth James, aelod blaengar o’r Gymdeithas Angorfeydd (PMBHA) yn dilyn ei marwolaeth annisgwyl yn gynharach eleni. Nodwyd bod yr heddlu yn dal i ymchwilio i’r digwyddiad angheuol ac y disgwylir adroddiad terfynol gan y Crwner yn fuan.

 

Atgoffwyd bod swyddogion yn derbyn barn Aelodau’r Pwyllgor Harbwr ar addasrwydd y Cod Diogelwch Morwrol Porthladdoedd. Cadarnhawyd bod y Cod yn cael ei adolygu’n rheolaidd ac yn cael ei ddiweddaru gan yr Uwch Swyddog Harbwr a’r Rheolwr Gwasanaethau Morwrol ar hyn o bryd. Eglurwyd bod Tŷ’r Drindod wedi ymweld â’r harbwr yn ddiweddar a byddent yn cyflwyno adroddiad ar y mater hwn maes o law.

 

Strategaeth Hir Dymor Harbwr Pwllheli

Tynnwyd sylw at Strategaeth Hir Dymor Harbwr Pwllheli. Nodwyd bod y Strategaeth yn adnabod gweledigaeth ar gyfer ardal harbwr Pwllheli ac yn cynnig fframwaith ddatblygu ar gyfer buddsoddiadau i’r dyfodol. Diolchwyd i’r Aelodau a phob unigolyn sydd wedi rhoi mewnbwn i’r strategaeth hyd yma. Ymhelaethwyd bod y Strategaeth yn nodi prif agweddau ar gyfer llwyddiant i’r dyfodol set:

 

·       Rhaglen hir dymor cynaliadwy i’r prif heriau carthu

·       Adnewyddu strwythurau angenrheidiol y pontŵns a stanciau.

·       Cyflawni buddsoddiad hir dymor drwy glustnodi cyllidebau mewnol i gydnabod rhai elfennau o welliannau, wrth baratoi achosion busnes a thargedu ffynonellau ariannol er mwyn ddenu buddsoddiad.

·       Gweithredu penderfyniadau canlynol ar y cyd gyda chynlluniau ehangach tref Pwllheli.

 

Cadarnhawyd bod gwaith eisoes yn mynd rhagddo er mwyn datblygu’r agweddau hyn drwy ffrydiau gwaith a rhaglen fuddsoddi ar gyfer Hafan a harbwr Pwllheli. Cydnabuwyd bod y sefyllfa ariannol bresennol yn heriol ond nodwyd bod  sawl datblygiad cadarnhaol hyd yma, megis:

 

·       Penderfyniad Cabinet Cyngor Gwynedd i glustnodi hyd at £5.4m i gyfrannu tuag at gostau carthu ac adnewyddu isadeiledd o fewn yr harbwr (pontŵns a stanciau), fel rhan o Gynllun Rheoli Asedau Cyngor Gwynedd 2024-2034. Sicrhawyd bod yr arian hwn yn ychwanegol i gronfeydd presennol yr harbwr. Cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned bod yr arian hwn wedi cael ei ymrwymo i’r harbwr yn dilyn adolygiad o’r asedau sydd angen blaenoriaeth i’w buddsoddi ynddynt dros y 10 mlynedd nesaf. Rhagwelwyd yr angen i ddatblygu achosion busnes a cheisiadau ariannol am arian ychwanegol.

·       Sicrwydd bod arian wedi ei glustnodi ar gyfer cwblhau gwelliannau i ardal Cei’r Gogledd.

·       Amlygwyd cyfle i gryfhau cysylltiadau rhwng canol tref Pwllheli a’r harbwr drwy Gynllun Creu Lle'r dref.

·       Cydweithio’n agos gydag Adran Amgylchedd Cyngor Gwynedd a’r Cynllun Rheoli a Datblygu'r Hen Ynys i greu ardal natur, hamdden a llesiant.

 

Pwysleisiwyd bod partneriaeth gyda chyrff cyhoeddus, busnesau a chymunedau yn allweddol  sicrhau bod yr ardal yn cyrraedd ei llawn botensial.

 

Derbyniwyd ymholiad ar y cynnig o fewn yr adroddiad i ddatblygu ardal berfformio agored wedi’i thirweddu ar ardal yr Hen Ynys a’r Harbwr Mewnol, gan ystyried sut bydd yr harbwr yn cydweithio gyda’r Cyngor Tref ar y datblygiad hwn. Ymhellach, ystyriwyd yr angen am ddatblygiad Tacsi Dŵr i gynorthwyo’r cysylltiad gyda  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 11 Mawrth 2024.

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 11 Mawrth, 2025.