Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Elin Hywel,
Michael Sol Owen (Plas Heli), Alwyn Roberts
(Sefydliad y Bad Achub, Pwllheli) a’r Cynghorydd Richard Medwyn Hughes (Aelod
Cabinet Economi a Chymuned). Croesawyd y Cynghorydd John Brynmor Hughes a Sarah Hattle
(Is-reolwr ac Harbwrfeistr Pwllheli) i’w cyfarfod
cyntaf. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derby unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
AELODAETH I gadarnhau
Aelodaeth Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli. Cofnod: Atgoffwyd bod aelodaeth y Pwyllgor hwn yn cynnwys cymysgedd
o gynrychiolaeth megis Aelodau Cyngor Gwynedd, Aelodau Cyfetholedig a
Sylwedyddion o Bwyllgorau Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Phorthmadog. Manylwyd bod y Pwyllgor hwn yn cydymffurfio â chyfansoddiad
y Pwyllgorau Harbwr eraill yng Ngwynedd, sydd yn gosod cyfyngiadau ar
aelodaeth. Cadarnhawyd y caniateir hyd at 4 Aelod Etholedig Cyngor Gwynedd a
hyd at 7 Aelodau Cyfetholedig i fod yn Aelodau o’r Pwyllgor hwn. Eglurwyd bod swyddogion wedi derbyn ceisiadau gan unigolion
o asiantaethau lleol sydd yn dymuno bod yn aelodau o’r Pwyllgor hwn, gan egluro
nad oes modd derbyn unrhyw aelod arall gan fod aelodaeth yn llawn ar hyn o
bryd. Fodd bynnag, amlygwyd nad yw termau aelodaeth rhai o’r Aelodau presennol
yn cyrraedd gofynion y Pwyllgor hwn. Manylwyd nad oes cofnod o enwebiad
swyddogol wedi dod i law gan ‘Siambr Fasnach Pwllheli’ nac ‘Cymdeithas
Perchnogion Cychod Pwllheli a’r Cylch’. Cadarnhawyd bod swyddogion wedi holi’r Adran Gyfreithiol am
arweiniad ar sut i gryfhau aelodaeth y Pwyllgor hwn. Caniatawyd i’r swyddogion wneud ymholiadau pellach i
gadernid aelodaeth y Pwyllgor, er mwyn sicrhau aelodaeth gywir i’r dyfodol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 08
Hydref 2024 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 08 Hydref, 2024 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR I gyflwyno
adroddiad Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr
Pwllheli. Penderfyniad: Cofnod: Derbyniwyd Adroddiad a oedd yn cynnwys diweddariadau Cod
Diogelwch Morol Porthladd, y Strategaeth Hirdymor, Carthu, Materion Ariannol,
Materion Gweithredol ac ystadegau niferoedd angorfeydd a chanrannau boddhad
cwsmer. Diolchwyd i’r cyn-harbwrfeistr,
Wil Williams, am 34 mlynedd o wasanaeth yn Hafan Pwllheli, wedi iddo ymddeol yn
ddiweddar. Tynnwyd sylw ei fod yn arwain ar y gwaith o adeiladu’r marina,
goruchwylio estyniad a pob amser yn cynnal y lefel uchaf o wasanaeth i’r
cwsmeriaid. Ychwanegwyd ei fod yn angerddol iawn dros faterion yr harbwr a pob
amser yn barod i rannu arweiniad a chefnogaeth. Rhannwyd dymuniadau gorau iddo
yn ei ymddeoliad. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Carthu Cadarnhaodd Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod
trafodaethau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer derbyn trwydded carthu yn
pwysleisio’r angen i adennill tir yn ogystal â chyflwyno tirwedd addas ar gyfer
rhywogaethau natur a welir ar yr arfordir. Holiwyd am drefniadau gwaredu ym Mae Ceredigion, gan
gadarnhau byddai angen trwydded forol i waredu unrhyw laid i’r Bae.
Ymhelaethwyd bod cais yn cael ei wneud i broffilio ble bydd y llaid sydd yn
gadael yr harbwr yn setlo, mewn cydweithrediad ag Ymgynghoriaeth Gwynedd. Mewn ymateb i ymholiad am ddefnyddio cwch i gludo llaid i
Fae Ceredigion er mwyn ei waredu yno, cadarnhaodd Rheolwr Masnachol Hafan a
Harbwr Pwllheli byddai hyn yn costio llawer i’r gwasanaeth, gan fyddai cost o
£1miliwn er mwyn cludo’r cwch i Bwllheli cyn cychwyn ar y broses. Cadarnhawyd
nad oes ystyriaeth yn cael ei roi i gynllun o’r fath oherwydd nad yw’n
ymarferol o fewn cyllidebau’r Harbwr. Fodd bynnag, cadarnhawyd mai’r bwriad yw
sicrhau bod y llaid yn cael ei bwmpio i’r Bae. Pryderwyd am gostau blynyddol y broses carthu a chynigwyd syniad amgen er mwyn mynd i’r afael a’r her.
Manylwyd ar y syniad o adeiladu grwyn ger Carreg yr Imbyll er mwyn atal tywod rhag cyrraedd yr harbwr o
gyfeiriad Abererch, gan achosi i lai o laid setlo o fewn yr harbwr. Mewn
ymateb, cadarnhaodd Rheolwr Masnachol Hafan a Harbwr Pwllheli bod y costau o
faethu’r tywod o’r Harbwr i draeth Carreg y Defaid wedi cael ei gyfarch gan y
llywodraeth. Ymhelaethwyd bod yr Harbwr yn rhydd i werthu gweddill y tywod am
elw, gan gadarnhau bod yr holl elw a wnaed yn cael ei ychwanegu i Gronfa
Carthu'r Harbwr. Nodwyd hefyd bod Cynllun Rheoli Llifogydd yn weithredol ar y
cyd gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, gydag amryw o
opsiynau megis adeiladu grwyn wedi cael ei gynnwys
ynddo. Fodd bynnag, eglurwyd bod oediad gyda’r Cynllun hwn gan nad ydi o wedi
cael ei drafod fel rhan o gynllun busnes ardal Pwllheli gan fwrdd Cyfoeth
Naturiol Cymru, sydd yn arwain ar y prosiect. Pwysleisiwyd bod swyddogion yn
ymdrechu yn gyson er mwyn cael diweddariad ar y mater hwn mor fuan â phosib. Datganodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned bod yr her o ddelio gyda’r llaid yn argyfyngus. Derbyniwyd bod gan asiantaethau allanol bryderon amgylcheddol ynglŷn â chais yr Harbwr am drwydded ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
PLAS HELI I dderbyn
diweddariad llafar gan y cynrychiolydd perthnasol ar faterion sy’n ymwneud â Phlas
Heli. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad llafar gan gynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli. Diweddarwyd bod
gwaith adnewyddu sylweddol ar waith, gan gynnwys dymchwel grisiau, parapet ac
adnewyddu gwaith coed a oedd wedi pydru. Ychwanegwyd bod gwaith tarmac wedi
cael ei wneud er mwyn gwella sefyllfa parcio ac edrychiad cyffredinol yr ardal.
Nodwyd hefyd bod drysau mynediad newydd hefyd wedi cael eu gosod. Edrychwyd ymlaen at
dymor prysur iawn dros gyfnod yr Haf, gan egluro mai’r digwyddiad cyntaf i gael
ei gynnal ym Mhlas Heli bydd cynhadledd yr RYA (Royal Yatching
Association), cyn y Pasg. Ymfalchïwyd bod nifer o
asiantaethau wedi bod mewn cyswllt gyda Phlas heli ar gyfer cynnal
digwyddiadau, a bod y calendr yn llawn hyd nes 2027. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 07
Hydref 2025 (yn ddarostyngedig
i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn). Cofnod: Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 07
Hydref, 2025. |