Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Penderfyniad:

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn gadeirydd ar gyfer 2025/26.

 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Penderfyniad:

Cofnod:

Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gwilym Jones (Sylwedydd Pwyllgor Harbwr Porthmadog) a’r Cynghorydd Elin Hywel.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw fater brys yn ôl barn y Cadeirydd i’w ystyried.

Cofnod:

Eglurwyd bod swyddogion yn ymwybodol o gwynion am y sbwriel sydd i’w weld o gwmpas ardal yr harbwr. Nodwyd bod sicrhau bod sbwriel yn cael ei gasglu yn rhan o gyfrifoldebau Rheolwr yr Hafan a’r Harbwr ond cydnabuwyd ei fod yn heriol i sicrhau bod popeth wedi cael ei gasglu ar bob achlysur. Sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud i godi sbwriel yn wythnosol, gan nodi bod hyn yn digwydd yn fwy rheolaidd os oes materion yn codi. Manylwyd ar enghraifft benodol ble mae beic wedi ei ganfod yng nghornel yr harbwr, gan gadarnhau bod swyddogion wedi ymdrechu i’w gasglu ond nid oes posib ei gyrraedd  yn ddiogel ar hyn o bryd. Yn yr un modd, tynnwyd sylw at haenen o ddeunydd metel sydd wedi cyrraedd yr harbwr o gyfeiriad Abererch ac wedi rhwymo mewn mwd. Cadarnhawyd bydd y materion hyn yn cael ei ddatrys cyn gynted a bod modd a bod swyddogion yn monitro’r sefyllfaoedd yn barhaus. Gofynnwyd am gymorth defnyddwyr a’r cyhoedd i amlygu unrhyw fater sydd angen ymateb i sylw’r swyddogion mor fuan â phosib.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 76 KB

Y Cadeirydd i gynnig bod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11/03/25 yn cael eu llofnodi fel cofnod cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2025 fel rhai cywir. 

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 238 KB

Cyflwyno adroddiad yr Rheolwr Hafan a Harbwr Pwllheli.

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a godwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Derbyn cyflwyniad llawn ar gynlluniau ac effeithiau carthu fel rhan o’r cyfarfod nesaf a gynhelir ar 10 Mawrth 2026.
  3. Cynnal noson agored yn Hafan ym mis Mawrth ar gyfer trafod materion carthu a lleddfu gofidion defnyddwyr gwasanaeth a’r cyhoedd ar y materion hynny.
  4. Ethol y Cynghorydd John Brynmor Hughes yn sylwedydd y Pwyllgor ar gyfer Pwyllgorau Harbwr Aberdyfi, Porthmadog ac Abermaw.

 

Cofnod:

Derbyniwyd diweddariad ar faterion rheolaethol yr harbwr gan Reolwr Hafan a Harbwr Pwllheli.

 

Tywyswyd yr aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar faterion data perfformiad a boddhad cwsmer.  Manylwyd bod holiadur boddhad cwsmer yn cael eu rhannu gyda deiliaid angorfeydd yn fuan iawn, gan gadarnhau bydd canlyniadau’r holiadur yn cael ei rannu gyda’r Aelodau yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

Yn ystod y drafodaeth, derbyniwyd nifer o sylwadau am faterion carthu yn yr Harbwr. Mewn ymateb, cadarnhaodd y Rheolwr bod swyddogion yn y broses o baratoi dau gais trwydded forol i ddelio â materion craffu, mewn cydweithrediad ag Ymgynghoriaeth Gwynedd. Ymhelaethwyd byddai’r trwyddedau hyn yn galluogi swyddogion i bwmpio deunydd sydd wedi ei garthu allan i’r môr yn ogystal ag adennill tir. Esboniwyd bod gwahanol ardaloedd wedi cael eu hadnabod ar gyfer y gwaith hwn a bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn casglu tystiolaeth ar gyfer y cais am drwydded. Nodwyd nad oes sicrwydd bydd yr holl ardaloedd yn derbyn sylw nes bydd y cais adborth yn cael ei dderbyn am y ceisiadau trwydded. Cydnabuwyd nad oes datrysiad cyflym i faterion carthu ar hyn o bryd oherwydd bod y gwaith o baratoi i ymgeisio am y trwyddedau hyn yn mynd rhagddo hyd at Ebrill 2026. Manylwyd bod y broses o ymgeisio am drwyddedau morol yn un sydd yn cymryd oddeutu 12 mis, oherwydd yr angen i gynnal amrywiol archwiliadau, gan bwysleisio bod swyddogion yr harbwr yn cynnal cyfarfodydd cyson gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd er mwyn sicrhau nad oes llithriad i’r amserlen hon. Diweddarwyd y disgwylir derbyn adborth yn dilyn cyflwyno ceisiadau trwydded forol gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn eithaf cyflym gan bod swyddogion yn cydweithio’n agos â nhw drwy gydol y broses o ddatblygu’r ceisiadau, er mwyn sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol yn cael ei gynnwys a symleiddio’r broses. Mewn ymateb i ymholiad, sicrhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Economi a Chymuned  nad oedd y broses hon o ymgeisio am drwyddedau morol er mwyn canfod datrysiad hirdymor yn mynd i gael effaith niweidiol ar y gwaith carthu rheolaidd sydd eisoes ar waith.

 

Ymhelaethwyd bod mynedfa’r harbwr wedi cael ei garthu yn gynharach eleni a bod trefniadau yn eu lle er mwyn ei garthu eto yn y cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth 2026. Eglurwyd bod swyddogion yn chwilio am ardaloedd ble mae llaid yn casglu yn rheolaidd, ac yn ymwybodol bod hyn i’w weld yn digwydd ger pontŵn 11 ar hyn o bryd. Diolchwyd i ddefnyddwyr yr harbwr am hysbysu swyddogion o unrhyw ardal ble mae llaid yn ymgasglu. Nodwyd hefyd bod arolwg manwl wedi cael ei gyflawni ym mis Mai er mwyn derbyn data manwl ar gyflwr y sianel, gan gadarnhau nad oedd unrhyw broblemau i’w weld yn deillio o ganlyniadau’r arolwg hwnnw.

 

Mewn ymateb i ymholiad a oedd yn ystyried a oedd cyfran o elw’r Harbwr yn cael ei gadw ar ôl er mwyn sicrhau bod cyllideb ddigonol ar gyfer carthu’n effeithiol, cadarnhaodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Economi a Chymuned bod Cynllun Rheoli Asedau Cyngor Gwynedd wedi sicrhau bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 10/03/26.

Cofnod:

Nodwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar 10 Mawrth 2026.