Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2016/17. Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Michael Sol
Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor am 2016/17. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2016/17. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Hefin Underwood yn Is-gadeirydd y Pwyllgor am 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Peter Read (Cyngor Gwynedd), W. A.
Partington (Cymdeithas Masnachwyr |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall
sydd yn teilyngu
sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol a
gynhaliwyd ar 22 Mawrth, 2016 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 183 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywysodd y
Swyddog ·
Bod 58 cwch wedi angori yn yr Harbwr allanol, gyda
18 cwch wedi manteisio ar y cyfle i angori ar bontŵn Plas Heli. Cyflwynwyd
y cynnig yma dros dro oherwydd
ansicrwydd o ran cyflwr angorfeydd yn Ardal 5 a 6. Ar y cyfan golygai
hyn bod cyfanswm o 83 cwch wedi angori yn 2016 o gymharu â 87 cwch yn 2015. ·
Cadarnhawyd bod 287 cwch ar angorfa pontŵn
blynyddol yn yr Hafan, sef 68% o’r cyfanswm nifer angorfeydd pontŵn sydd
ar gael. Roedd hyn yn cymharu gyda 292 cwch a fu ar angorfa pontŵn yn 2015. ·
Gofynnir i aelodau dynnu
sylw’r Gwasanaeth i faterion yng nghyswllt y Côd Diogelwch Morwrol. ·
Bod yr Uwch Swyddog
Harbyrau yn adolygu’r côd diogelwch ac y bydd Uwch Arolygydd Gwylwyr y Glannau
yn ymweld â’r Cyngor yn mis Chwefror 2017 i’w archwilio ac i gyflwyno adborth
ar y côd. ·
Bod y Gwasanaeth yn
parhau i ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr
harbyrau. Cylchredir y mesuryddion i sylw’r aelodau ac y gobeithir y gallai’r
aelodau gyfrannu at y mesuryddion yn ystod 2017-18. ·
Cynhaliwyd archwiliad
gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 26 Gorffennaf 2016. Roedd adroddiad
2016 yn cadarnhau gwelliant yng nghyflwr a lleoliadau cymhorthion mordwyo
harbyrau yng Ngwynedd. ·
Bod cymhorthydd mordwyo
‘Hafan y Môr’ yn parhau i fod oddi ar ei safle. Nodwyd er nad oedd y Cyngor yn
gyfrifol am y cymhorthydd bod y Cyngor efo cyfrifoldeb i sicrhau bod perchennog
y cymhorthydd yn cydymffurfio efo gofynion Tŷ’r Drindod. Roedd y
Gwasanaeth wedi gohebu efo rheolwyr Hafan y Môr yn nodi’r gofyn i ail leoli’r
cymhorthydd ar ei safle fel mater brys. ·
Yn dilyn ymgynghori gyda’r Pwyllgor Ymgynghorol,
gweithredwyd ar fân welliannau i osodiad bwiau parth cyflymder uchaf ardal
Glandon ac yn ystod tymor yr haf gosodwyd bwiau ychwanegol gan fod cychod
pŵer yn tramwyo yn agos at y lan ar gyflymder uchel ar adegau. Nodwyd er
cwblhau man welliannau y derbyniwyd sawl cwyn gan y cyhoedd o ran cychod
pŵer yn mordwyo ar gyflymder uchel yn yr ardal. Roedd y Gwasanaeth wedi
adnabod y cwch ac fe anfonwyd llythyr o rybudd i’r perchennog. ·
Manylwyd ar sefyllfa
gyllidebol yr Harbwr a’r Hafan hyd at ddiwedd Medi 2016. Cyfeiriwyd at Ardal 5 a 6 gan nodi'r angen i
gynllunio gwaith sylweddol ar yr angorfeydd oherwydd bod llaid wedi cronni yn
yr ardal gyda banciau yn cynyddu. Nodwyd bod nifer o gwsmeriaid a angorwyd yn
Ardal 5 a 6 yn 2015 wedi manteisio ar y cyfle i angori ar angorfeydd
pontŵn Plas Heli yn ystod 2016 a diolchwyd i Blas Heli am eu
cydweithrediad. Adroddwyd y derbyniwyd dyfynbris o oddeutu £8,000 (ar yr offer yn unig) yng nghyswllt tynnu’r holl angorfeydd presennol allan o Ardal 5 a 6 gan ail osod un rhes ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli ar 21 Mawrth 2017. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 21 Mawrth, 2017. |