Lleoliad: Ystafell Gyfarfod, Frondeg, Pwllheli, LL53 5RE.. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Estynnwyd croeso i’r Cynghorydd
Hefin Underwood a oedd yn mynychu
ei gyfarfod cyntaf. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall
sydd yn teilyngu
sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol a gynhaliwyd ar 20 Hydref, 2015 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 158 KB Cyflwyno adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywysodd y Swyddog ·
Ymgynghoriad Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig Arfaethedig ar gyfer Llamhidyddion
yr Harbwr ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig Arfaethedig newydd ac estynedig ar gyfer adar
y môr, nodwyd y dylai’r mudiadau, pe dymunent, gyflwyno
ymateb i’r ymgynghoriad yn uniongyrchol. Cadarnhawyd mai 19 Ebrill 2016 oedd dyddiad cau’r
ymgynghoriad. ·
Gofynnir i aelodau dynnu sylw’r Gwasanaeth
i faterion yng nghyswllt y Cod Diogelwch ·
Bod oediad
o ran llunio Mesuryddion Perfformiad drafft mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau
a thraethau. Nododd yr Uwch
Reolwr Economi a Chymuned yr ymchwilir i fesuryddion a ddefnyddir gan eraill er
llunio rhai oedd yn mesur
effaith, ansawdd a diogelwch. Cylchredir y mesuryddion drafft i sylw’r aelodau. ·
Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar 24 Chwefror 2016. Roedd yr adroddiad
yn tynnu sylw at ddiffyg y gwasanaeth i gydymffurfio
â gofynion ‘Panar’ ac yn tynnu sylw
fod angen caniatâd Tŷ’r Drindod cyn newid
lleoliad cymhorthyddion mordwyo. Nodwyd nad oedd
yn ymarferol bosib bob tro i
dderbyn caniatâd ymlaen llaw. ·
Yn dilyn ymgynghori gyda’r Pwyllgor Ymgynghorol yn y cyfarfod blaenorol,
cytunwyd ar leoliadau'r bwiau parth cyflymder uchaf a chadarnhawyd bod angen parhau i
gynnal bwiau ar draeth Marian y De yn 2016. Cytunwyd bod angen addasu bwiau
parth cyflymder uchaf ardal Glandon
er adlewyrchu’r gweithgareddau sydd yn cael eu
cynnal yn yr ardal hon o harbwr Pwllheli. Nodwyd y byddai’r cynllun newydd yn weithredol o fis Mai ymlaen. ·
Y gwnaed
gwaith i garthu ceg yr
harbwr a lefelu gwely’r sianel a gwneir gwaith pellach
yn ystod yr Haf i
gadw’r lefelau. Fe wneir arolwg hydrograffeg
dros yr wythnosau
nesaf i gadarnhau’r
lefelau. ·
Bod 67K tunnell o ddefnydd a garthwyd wedi ei
symud i Garreg
y Defaid. ·
Manylwyd ar sefyllfa gyllidebol yr Harbwr
a’r Hafan hyd at ddiwedd Chwefror 2016. ·
Manylwyd ar y ffioedd gan
nodi bod modd i unigolion dalu
mewn 10 rhan daliad am angorfa flynyddol yn Hafan
Pwllheli gyda’r gost bellach ond
yn 5% yn uwch na thalu
mewn un taliad o gymharu â 8% yn uwch yn flaenorol.
Gobeithir y byddai’r opsiwn o dalu yn
y modd hwn yn annog deiliad
i aros a denu eraill i
gymryd angorfa flynyddol. ·
Amlygwyd buddsoddiadau yn y cyfnod gan nodi
yn 2016/17 y gwneir gwaith ar gysgodfan
a phont droed Cei Gogledd yn
dilyn ymgynghori efo’r Cyngor Tref. ·
Y gobeithir y bydd gwellhad o ran y sefyllfa o gychod pŵer a badau dŵr personol yn cael eu
lansio drwy drefniant cwmnïau masnachol yn ardal
Penrhyn Glandon heb eu cofrestru
gyda chyfarwyddyd wedi ei roi
i’r cwmnïau bod rhaid cofrestru cyn ceir mynd
ar y dŵr. Nodwyd y penderfynwyd yn y cyfarfod blaenorol y byddai’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 18 Hydref 2016. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 18 Hydref, 2016. |