Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd
Gareth Williams, Andy Godber
(Ymddiriedolaeth Genedlaethol), Rhydian Owen (Undeb yr Amaethwyr) a Sian Parri (Cyngor Cymuned Tudweiliog). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Penderfyniad:
Cofnod: Adroddwyd fod John Gosling,
Partneriaeth Twristiaeth Abersoch a Llŷn bellach wedi sefyll lawr a
diolchwyd iddo am ei wasanaeth ar y Cydbwyllgor hwn. Nodwyd pwysigrwydd i’r Cydbwyllgor gyflwyno
sylwadau yn yr ymgynghoriad ar ddatblygiad Clwyd Alun ym Mhenrhos.
Roedd rhai aelodau yn boenus ynghylch graddfa’r datblygiad a’r holl dai fydd yn
gynwysedig o hynny. Gobeithir y bydd darpariaeth ddigonol i gwrdd â’r anghenion
nyrsio a’r prinder cartrefi henoed yn y Sir. Bydd y Swyddog Gwasanaeth AHNE yn rhannu linc i’r
ymgynghoriad efo’r Cydbwyllgor fel bod modd i aelodau gyflwyno sylwadau. Penderfynwyd yn ogystal i’r
Swyddog AHNE Llŷn grynhoi sylwadau’r Cydbwyllgor a’u cyflwyno yn yr
ymgynghoriad. Trafodwyd y bwriad i osod Paneli Solar ar
dir Coed y Wern. Nodwyd nad oes llawer o fanylion pellach ar hyn o bryd; nid
oes cais cynllunio wedi ei ddarparu eto ond yn hytrach cais cyn-gynllunio. Mae’n debyg y bydd cais cynllunio yn cael ei
gyflwyno maes o law. Ychwanegwyd fod y safle hwn ddim yn yr AHNE ond yn
hytrach yn weladwy o’r AHNE. Adroddwyd fod y Cydbwyllgor wedi gofyn i gael rhoi
mewnbwn ar faterion o’r fath. Penderfynwyd cynnal Cyfarfod
Arbennig i drafod datblygiad posib Paneli Solar ar dir Coed y Wern pan yn berthnasol (cynamserol ar hyn o
bryd). Nodwyd y bydd Cynhadledd Twristiaeth yn cael
ei gynnal ar 30 Tachwedd, 2021 o’r enw ‘Cynhadledd Twristiaeth, Digwyddiad Economi Ymweld Cynaliadwy
Gwynedd ac Eryri 2035’. Gofynnwyd i’r Swyddog Gwasanaeth AHNE ddarparu manylion
i aelodau’r Cydbwyllgor sy’n dymuno cymryd rhan. Penderfynwyd fod gwahoddiad yn cael ei anfon i aelodau’r Cydbwyllgor i fynychu’r Gynhadledd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi’r cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mai 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
diwethaf o’r Cydbwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mai 2021, fel rhai cywir. Cymerwyd y cyfle i adrodd nôl ar sefyllfa’r
Fryngaer yn Ninas Dinlle, ble roedd pryder ynghylch cyflwr y Fryngaer a’r
dirywiad oherwydd erydiad. Cynhaliwyd cyfarfod nôl ym mis Gorffennaf rhwng y
Swyddog AHNE, Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd a chynrychiolydd yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Phennaeth YGC ble trafodwyd yr erydiad o’r môr
a’r tir. Penderfynwyd gadael i natur gymryd ei gwrs; adroddwyd nad oes polisi
gwarchod na chyllid yn bodoli. Darllenodd y Swyddog Gwasanaeth AHNE y llythyr
yr oedd wedi ei dderbyn gan CADW fel ymateb.
|
|
BWS ARFORDIR LLŶN Cyflwyniad
llafar gan Cynan Jones, Ymgynghorydd. Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn y wybodaeth a dderbyniwyd yn yr adroddiad Gwerthusiad
Bws Fflecsi Llŷn a’r cyflwyniad llafar gan Cynan Jones, Ymgynghorydd a Wil
Parry, O Ddrws i Ddrws. Cofnod: Croesawyd yr Ymgynghorydd Cynan Jones a Wil
Parry, O Ddrws i Ddrws i’r cyfarfod. Cyflwynwyd yr adroddiad gan y swyddog O
Ddrws i Ddrws ble nododd mai amcan y prosiect Bws Fflecsi
Llŷn oedd cynnig gwasanaeth oedd yn fwy hyblyg i deithwyr oedd eisiau
defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn Llŷn. Ymhelaethodd fod y prosiect Bws Fflecsi Llŷn wedi dod i fodolaeth yn Haf 2021 yn dilyn
cynnig gan Drafnidiaeth i Gymru yn Ebrill 2021 i redeg Peilot Fflecsi yn Llŷn. Gwasanaeth bws ar alw, cornel i
gornel oedd hwn; fe yrrwyd ymlaen efo’r Peilot gan fod cynlluniau eisoes yn
bodoli i wneud bws arfordir Llŷn yn wasanaeth ar alw. Byddai’r cynllun hwn
yn gwasanaethu ardaloedd ychwanegol i’r rhai oedd ar lwybr bws arfordir
Llŷn. Y bwriad oedd creu gwasanaeth atodol i’r gwasanaethau cyhoeddus ac
annog trigolion lleol ac ymwelwyr i ddefnyddio llai ar eu ceri. Gellir
archebu’r bws dros y ffôn neu drwy’r Ap. Adroddwyd fod y sefyllfa Cofid19 wedi creu
ansicrwydd yn enwedig yng ngwanwyn 2021 pan roedd hi’n anodd cynllunio ymlaen
llaw. Cydnabyddwyd fod pethau wedi mynd o’i le; roedd
oedi ynghylch yr Ap a materion hawlfraint ynglŷn â diweddaru taflen gan y
dylunydd. Ymddiheurwyd na chafodd yr AHNE na Chyfoeth Naturiol Cymru'r sylw a’r
cyhoeddusrwydd haeddiannol. Bydd
y gwasanaeth yn parhau yn 2022, gobeithiwyd y bydd yr amgylchiadau yn fwy
sefydlog bryd hynny. Tywysodd yr Ymgynghorydd y Cydbwyllgor drwy
ei werthusiad o’r gwasanaeth gan nodi fod yr Ap wedi gweithio yn eithriadol o
dda, e.e. gwybodaeth gyfredol am leoliad y bws yn cael ei ddarparu’n amserol.
Roedd y bws hefyd yn cyrraedd pen ei daith yn amserol os nad cynnar. Nodwyd fod
y gwasanaeth bws Fflecsi Llyn wedi sgorio 4.9 allan o
5 ar yr Ap gan ddefnyddwyr y gwasanaeth oedd yn galonogol iawn. Ychwanegodd yr
Ymgynghorydd ei fod wedi derbyn rhagor o ystadegau heddiw, bydd yn ychwanegu’r
rhain i’w adroddiad. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:- -
Gofynnwyd o fewn
pa gyfnod gafodd y ffigwr o 1590 o geisiadau eu derbyn. -
Mynegwyd
diddordeb i gymharu nifer teithwyr o wasanaeth bws 2019 i’r niferoedd yma ac os
oedd modd gwneud hyn. -
Gofynnwyd faint o rybudd oedd ei angen i archebu’r bws.
Pryderwyd ein bod yn ymadael â gwasanaeth sefydlog a dibynadwy efo gwasanaeth
fyddai’n anodd ei ddefnyddio ar y diwrnod. -
Holiwyd faint o
dwristiaid a faint o bobl leol oedd yn defnyddio’r gwasanaeth. -
Cwestiynwyd os
oedd y gwasanaeth hwn wir yn lleihau ôl-troed carbon. -
Pryderwyd y byddai’r gwasanaeth hwn yn gwanhau’r
gwasanaeth bws cyhoeddus a chwestiynwyd beth fyddai’n digwydd i’r gwasanaeth
craidd yno petai llai a llai yn ei ddefnyddio a grantiau fel y fenter hon yn
rhedeg allan. -
Awgrymwyd i edrych ymhellach na cherddwyr ac i gysidro
darparu gwasanaeth tebyg gyda’r nos. Mewn ymateb, nodwyd: - Bod 1590 o geisiadau wedi eu derbyn rhwng 19 Gorffennaf 2021 i 1 Tachwedd 2021, o’r rhain fe gafodd 1469 o deithiau eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
SŴN AWYRENNAU DROS AHNE LLŶN PDF 139 KB Morus
Dafydd, Swyddog Prosiect
AHNE i roi adroddiad ar Sŵn
Awyrennau dros AHNE Llŷn. Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a cydnabyddwyd bod y sŵn
gan awyrennau o RAF Y Fali yn hedfan dros Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol
Llŷn wedi lleihau yn ddiweddar. Cofnod: Cafwyd diweddariad ar y mater brys hwn a godwyd yng
nghyfarfod mis Mai. Rhedwyd drwy’r adroddiad gan nodi fod llythyr wedi cael ei
yrru gan y Cydbwyllgor er mwyn datgan pryder am y sŵn awyrennau o RAF Fali
oedd yn hedfan dros AHNE Llŷn. Nodwyd yr ymateb a dderbyniwyd gan
Arweinydd Sgwadron yn y Fali a oedd yn adrodd eu bod yn ceisio’u gorau i
hyfforddi dros y môr pan yn bosib. Yn ychwanegol, dywedodd Jeremy Quinn, fel
ymateb i gwestiwn Hywel Williams AS, fod yr RAF am gynyddu lefelau ymgysylltu â’r cymunedau a chyhoeddi
gwybodaeth fwy rhagweithiol ar eu gwefan. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion â
ganlyn gan aelodau:- -
Nodwyd fod lefel y sŵn wedi lleihau
dros y misoedd diwethaf ac o ganlyniad fod nifer y cwynion gan bobl leol wedi
lleihau. -
Roedd rhai Aelodau wedi ymweld â RAF
Fali ble nodwyd fod yr offer bellach ganddynt i’w galluogi i hedfan y Texan T1
dros y môr. Mewn ymateb nodwyd: -
Y parheir i gadw golwg ar y
sefyllfa. PENDERFYNIAD Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. |
|
PARTNERIAETH GWYRDDNI PDF 129 KB Adroddiad
gan Swyddog Prosiect GwyrddNi, Elis Smits. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad gan Swyddog Prosiect GwyrddNi, Elis Smits. Pe
bydd mwy o wybodaeth yn cael ei dderbyn bydd y Swyddog AHNE Llŷn yn ei
rannu efo’r Cydbwyllgor. Cofnod: Darparwyd gwybodaeth am GwyrddNI,
mudiad Newid Hinsawdd newydd sydd wedi ei sefydlu yng Ngwynedd. Rhedwyd drwy
ddatganiad Swyddog Prosiect GwryddNi, Elis Smits gan nodi efallai y gall fynychu cyfarfod o’r
Cydbwyllgor hwn yn y dyfodol i roi diweddariad pellach i’r grŵp. Eglurwyd mai
bwriad y mudiad yw annog trafodaethau o amgylch newid hinsawdd a dod a phobl
ynghyd i ddysgu a gweithredu yn lleol. Nodwyd fod mwy o wybodaeth ar gael ar y
we os fydd aelodau’r Cydbwyllgor yn dymuno cael golwg neu os fydd y Swyddog
Gwasanaethau AHNE yn derbyn rhagor o wybodaeth yna gallai ei rannu efo’r
Cydbwyllgor. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:- -
Nodwyd er gwybodaeth gan aelod Cyngor Cymuned Llanbedrog ei fod eisoes wedi cael sgwrs
dros y ffôn efo Elis Smits yn dilyn darllen ei
ddatganiad. Adroddwyd y bydd Mr Smits yn mynychu
cyfarfod Prynhawn Difyr fory ym Mhwllheli er mwyn
cyflwyno ei hun a rhoi cyflwyniad i’r grŵp. PENDERFYNIAD Penderfynwyd derbyn y
wybodaeth yn yr adroddiad gan Swyddog Prosiect GwyrddNi,
Elis Smits. |
|
DYNODIAD AWYR DYWYLL PDF 231 KB Bleddyn Jones, Swyddog AHNE i roi adroddiad ar Ddynodiad
Awyr Dywyll. Penderfyniad: Penderfynwyd i ohirio’r mater
yma er mwyn cael mwy o ymgynghori. Dymunai rai o Aelodau’r Cydbwyllgor dderbyn
mwy o wybodaeth cyn cefnogi’r cais i'r IDA am ddynodiad Parc Awyr Dywyll ar
gyfer AHNE Llŷn. Cytunwyd i’r Swyddog AHNE Llŷn drefnu
cyfarfod rhithiol at ddechrau’r flwyddyn a gwahodd yr holl Gynghorau Cymuned o
fewn yr AHNE er mwyn sicrhau ymgynghori pellach ar y pwnc a rhoi cyfle i’r
Cynghorau Cymuned holi cwestiynau. Nodwyd y byddai’r Swyddog AHNE Llŷn yn
anfon cyflwyniad ymlaen i’r Cynghorau Cymuned; bydd yn trefnu i Swyddog
gysylltu efo Clercod y Cynghorau Cymuned i drefnu. Cofnod: Tywyswyd y Cydbwyllgor drwy Adroddiad y
Swyddog AHNE gan ofyn iddynt gefnogi’r argymhelliad drwy gefnogi cais i’r IDA
(International Dark Sky Association) am statws Parc Awyr Dywyll i’r ardal. Adroddwyd fod trafodaethau eisoes wedi
digwydd rhwng staff yr Uned a staff yr IDA, sydd yn gefnogol iawn i’r bwriad o
wneud cais am statws awyr dywyll ar gyfer AHNE Llŷn. Credwyd fod gan yr
ardal hon achos cryf i dderbyn y dynodiad. Roedd yr IDA o’r farn y byddai statws
Parc Awyr Dywyll Rhyngwladol yn hytrach na statws Cymuned yn fwy priodol i’r
ardal hon ac yn adlewyrchiad gwell o safon yr awyr dywyll yma. Ychwanegwyd y
byddai’r cais yn cael ei gyflwyno flwyddyn nesaf petai’r Cydbwyllgor yn
gefnogol. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:- -
Mynegwyd fod rhai o’r Cynghorau Cymuned/Tref yn
ansicr ynglŷn â chefnogi’r cais. Adroddwyd fod merched yn bennaf yn
dueddol o fod ofn y tywyllwch wrth gerdded gyda’r nos a bod llawer o’r pryderon
yn gwreiddio o hyn. -
Gofynnwyd
i’r Swyddog Gwasanaeth AHNE fynychu Cyfarfod Cyngor Tref Nefyn, ynghyd a
Chynghorau Cymuned eraill, i roi cyflwyniad i’r aelodau ac i’w darbwyllo.
Credwyd fod lle i gael trafodaeth bellach ar y mater yma. -
Mynegodd Aelod ei fod yn erbyn cefnogi’r cais
oherwydd rhesymau diogelwch a phryderai y byddai’r dynodiad yn cael ei
ddefnyddio fel rheswm yn erbyn rhai materion e.e. i beidio â darparu mwy o
oleuadau lonydd. -
Yn ogystal roedd pryderon o amgylch ffermydd;
dadleuwyd fod ffermydd angen goleuni mwy llachar oherwydd bod gwaith yn mynd
ymlaen yn y nos yno. -
Holwyd beth oedd y gwahaniaeth rhwng statws
Cymuned a Pharc Awyr Dywyll. -
Dymunai
rai o aelodau’r Cydbwyllgor gefnogi’r cais hwn; nodwyd mai pwrpas y dynodiad
fydd i wneud yn siŵr fod goleuadau yn tywynnu yn y llefydd sydd eu hangen
nhw ac i leihau gwastraff a llygredd golau. -
Dadleuwyd fod yr ardal hon yn addas ar gyfer y
prosiect a bod llawer yn cael mwynhad o edrych ar y sêr yn yr ardal. -
Cyniwyd
i ohirio’r mater er mwyn cael mwy o ymgynghori. Mewn ymateb, nodwyd: -
Nad oes bwriad i ddiffodd goleuadau stryd. Yn
hytrach bwriedir hyrwyddo, addysgu, cynnal digwyddiadau a defnyddio arfer da,
e.e. pwyntio goleuadau lawr, defnyddio goleuadau sydd ddim mor llachar. -
Bod statws Parciau Awyr Dywyll yn uwch na statws
Cymuned am eu bod yn fwy o ran maint a dim gymaint ohonynt. Eglurwyd y byddai’r
ardal AHNE gyfan yn derbyn statws Parc. -
Fod llawer o fuddion i’w cael o dderbyn y
dynodiad uchod a sicrhawyd na fydd y dynodiad yn amharu ar bobl sy’n byw yn yr
ardal. -
Fod y Swyddog Gwasanaeth AHNE yn fodlon mynychu
cyfarfodydd Cynghorau Tref/Cymuned neu gael sgwrs bellach efo Aelodau sy’n
ansicr o’r cynllun a dod a’r mater yn ôl i’r Cydbwyllgor hwn. Adroddodd y
byddai’n braf derbyn cefnogaeth y Cydbwyllgor. - Y bydd ymgynghori pellach ar y pwnc hwn. Bydd y Swyddog Gwasanaeth AHNE ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Bleddyn
Jones, Swyddog AHNE i roi adroddiad ar
Brosiectau Cyfalaf. Penderfyniad: Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad ar Brosiectau Cyfalaf AHNE
Llŷn. Cofnod: Darparwyd gwybodaeth am brosiectau cyfalaf
AHNE Llŷn gan roi diweddariad ar brosiectau eleni sef: ·
Atgyweirio Trac
Porth Meudwy – Nodwyd fod cyfraniad ariannol wedi ei wneud yn dilyn y
tirlithriad a amharodd ar y ffordd. Rhannwyd fod y gwaith bellach wedi ei
gwblhau a’r trac wedi ei drwsio. ·
Gwelliannau yn
ardal y Cei, Trefor – Adroddwyd fod bras-gynlluniau tendrau wedi cael eu
cwblhau a gobeithir dechrau ar y gwaith yn fuan yn y flwyddyn newydd. ·
Gwelliannau i
gyfres o hawliau tramwy yn yr AHNE – Nodwyd fod 6 llwybr i gyd a bod y rhan
fwyaf o’r gwaith wedi cael ei osod. Ychwanegodd y Swyddog Gwasanaeth AHNE ei
fod yn hyderus y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen. ·
Adnewyddu toiledau Lôn Gam, Nefyn – Eglurwyd fod y gwaith
cefndirol wedi ei wneud ynglŷn â chostau cyn y tirlithriad diweddar, sydd
wedi dal pethau yn ôl. Adroddwyd bellach fod cadarnhad y gall y gwaith symud yn
ei flaen; mae’r dogfennau tendro yn cael eu paratoi ar hyn o bryd. Ychwanegwyd fod sgyrsiau wedi digwydd efo
Llywodraeth Cymru. Rhaid aros nes bydd y gyllideb wedi ei osod gan y Senedd cyn
derbyn cadarnhad fod arian ar gael at y flwyddyn ariannol 2022/23. Ar ôl derbyn
y cadarnhad hwn bydd y Cydbwyllgor yn gwybod faint o arian fydd ar gael, bydd
cyfle wedyn i ymgynghori. Nodwyd bydd y themâu ar gyfer y prosiectau yn parhau
fel y flwyddyn bresennol. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a
ganlyn gan aelodau:- -
Holwyd faint o arian gafodd ei roi i’r prosiect Porth Meudwy. Mewn ymateb nododd y Swyddog Gwasanaeth AHNE
fod cyfraniad o £30k wedi cael ei wneud at y gwaith yma. Ychwanegwyd fod y
gwaith yn cael ei reoli gan Ymgynghoriaeth Gwynedd. PENDERFYNIAD Penderfynwyd derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad. |