Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd T. Victor
Jones (Cyngor Cymuned Llanbedrog) yn Gadeirydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn am y
flwyddyn 2024/25. Cofnod: Penderfynwyd
ethol T. Victor Jones (Cyngor Cymuned Llanbedrog) yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfnod 2024/25. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25. Penderfyniad: Ethol Sian Parri (Cyngor Cymuned Tudweiliog) yn Is-gadeirydd y Cydbwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn am y flwyddyn 2024/25. Cofnod: Penderfynwyd
ethol Sian Parri (Cyngor Cymuned Tudweiliog) yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfnod
2024/25. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldebau. Cofnod: Derbyniwyd datganiadau o ymddiheuriad gan y
Cynghorydd John Brynmor Hughes, Einir Wyn (Cyngor Cymuned
Llanengan), Rhian Sanson (Cyngor Tref Nefyn), Dewi Evans (Cyngor Cymuned
Aberdaron), Eirian Allport (Cyngor Cymuned Clynnog Fawr), Gillian
Walker (Cyfeillion Llŷn) ac Andrew Davidson sydd newydd ymddeol
o Archeoleg Gwynedd (Bydd Jenny Emmett yn cymryd ei
le ar y Cydbwyllgor). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw eitem sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r
Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd, 2023, fel rhai cywir. |
|
DELWEDD NEWYDD I'R AHNE PDF 72 KB I ystyried y mater ymhellach. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. b)
Ategu’r penderfyniad gafodd ei wneud yng nghyfarfod blaenorol
o’r Cydbwyllgor ar 22 Tachwedd 2023 i beidio mabwysiadu’r teitl a’r logo
cenedlaethol newydd ‘Tirweddau Cenedlaethol’. Cofnod: Croesawyd
John Watkins, Prif Weithredwr y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol i’r cyfarfod
ac atgoffwyd y Cyd-bwyllgor Ymgynghorol o’r drafodaeth ‘nol yng nghyfarfod mis
Tachwedd, 2023 am greu brand a delwedd newydd i’r dynodiad Ardal o Harddwch
Naturiol Eithriadol. Cyfeiriwyd at yr argymhelliad i newid yr enw gweithredol o
‘Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol’ i ‘Dirweddau Cenedlaethol’.
Adroddwyd bod yr enw Tirweddau Cenedlaethol yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru a
Lloegr gan nodi bod cefnogaeth wedi ei fynegi i’r newid hwn gan Lywodraeth
Cymru. Mynegodd Prif
Weithredwr y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol bod y newid yma ar y gweill ers
sawl mlynedd yn dilyn cyfnod o adolygu ac ymchwil dwys. Nododd bod y dynodiadau
Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol i fod gystal â’r Parciau Cenedlaethol o
ran eu safon (er fod y dynodiad yn wahanol) gan adrodd bod y newid hwn i’r
brand a’r enw yn ymgais i godi ymwybyddiaeth yn genedlaethol o bwysigrwydd y
tirweddau. Credwyd y byddai hyn o gymorth i ddenu adnoddau i’r dynodiadau gan
atgoffa eu bod yn ddynodiadau cenedlaethol sy’n cael eu rheoli yn lleol. Nodwyd bod
pob un o’r tirweddau yn Lloegr a nifer yng Nghymru bellach yn defnyddio’r enw
a’r brand newydd, sy’n parchu pa mor unigryw yw’r tirweddau unigol ond yn
cydnabod eu bod yn rhan o deulu ehangach. Mynegwyd cefnogaeth i’r hyn mae’r
Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yn ceisio eu cyflawni. Credwyd ei bod
yn bwysig i benderfyniadau ac ystyriaethau lleol ymddangos yn rhan o deulu
cenedlaethol ac y byddai hyn o fudd wrth ddenu arian ac ehangu eu proffil. I
gloi adroddwyd ar y mewnbwn a dderbyniwyd ar y brand newydd gan nodi ei fod
wedi derbyn sylwadau cadarnhaol iawn. Derbyniwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:- ·
Nodwyd bod gwefan Tirweddau Cenedlaethol yn Saesneg a bod logo
Llywodraeth Cymru ar y wefan. Mynegwyd anfodlonrwydd cryf nad oedd y wefan yn
ddwyieithog. ·
Dadleuwyd bod angen gwarchod yr Iaith Gymraeg gan fynegi barn na fyddai
tegwch yn cael ei roi i’r Gymraeg gan y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol. ·
Amlygwyd yr awydd i anfon neges bod Cymru yn genedl ar
wahân a chredwyd y byddai gwrthod y newid hwn yn cyflawni hynny. ·
Mynegwyd safbwynt bod gwerth mabwysiadu’r enw a’r brand
newydd pe bai gwneud hynny yn cryfhau proffil yr AHNE yma yn Llŷn.
Cydnabuwyd bod yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn a gofynnwyd a oes modd cyfieithu
gwefan Tirweddau Cenedlaethol fel ei fod yn ddwyieithog. ·
Credwyd bod yr enw a logo presennol AHNE Llŷn yn gofiadwy ac yn
ddeniadol gan fynegi safbwynt bod yr enw Tirweddau Cenedlaethol yn awgrymu
Cymru a Lloegr. Mynegwyd y byddai ‘Tirweddau Cymru’ yn well enw pe bai rhaid
newid. ·
Nodwyd bod pawb yn gyfarwydd efo’r enw AHNE Llŷn a
chredwyd nad oedd awydd i’w newid. ·
Diolchwyd i Brif Weithredwr y Gymdeithas Tirweddau
Cenedlaethol am ei sylwadau a’i ddadl ond mynegwyd cefnogaeth i lynu â’r
penderfyniad gwreiddiol o beidio â mabwysiadu’r teitl a’r logo newydd. Mewn
ymateb, nododd Prif Weithredwr y Gymdeithas Tirweddau Cenedlaethol:- · Ei fod yn cydnabod y pwynt ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DIWEDDARIAD AR BROSIECTAU CYFALAF AHNE LLŶN PDF 80 KB I ddarparu gwybodaeth a diweddariad i aelodau ar brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Swyddog
Prosiectau AHNE Llŷn er gwybodaeth
i’r aelodau er mwyn eu diweddaru ar brosiectau cyfalaf AHNE Llŷn. Eglurwyd
bod Tirweddau Cynaliadwy Lleoedd Cynaliadwy (TCLC) yn gynllun grant gan
Lywodraeth Cymru i gefnogi prosiectau cyfalaf yn y Parciau Cenedlaethol a’r
AHNE. Cadarnhawyd bod y prosiectau yn cwmpasu tair
blynedd (2022-25). Adroddwyd ar themâu'r prosiectau cyfalaf oedd wedi eu gosod
gan Lywodraeth Cymru sef Bioamrywiaeth ac adfer natur, Dad-garboneiddio,
Cymunedau gwydn a gwyrdd a Thwristiaeth Gynaliadwy. Darparwyd
diweddariadau ar y prosiectau cyfalaf TCLC Llŷn yn yr adroddiad,
prosiectau megis: · Adnewyddu grisiau
Porth Ysgo · Tiroedd Comin
Mynytho, Horeb a Rhos Botwnnog · Coed Cynhenid · Rhywogaethau
ymledol estron · Canolfan Llithfaen · Maes Parcio chwarel
Llanbedrog · Prosiectau ar y Cyd
- Terfynau Traddodiadol, Yr Awyr Dywyll a Phecyn Addysg. Holwyd am y
prosiect Rhywogaethau ymledol estron gan nodi bod planhigion estron i’w gweld
mewn lleoliadau megis Garn Boduan a Thre Ceiri. Cyfeiriwyd at y prosiect Coed
Cynhenid a gofynnwyd os oedd Swyddogion yr AHNE yn cynnal trafodaethau efo Cadw
cyn plannu coed. Pryderwyd bod y plannu yn digwydd mewn ardaloedd sy’n
archeolegol sensitif. Cadarnhawyd bod yr Uned AHNE yn bwriadu cynnal
adolygiadau archaeoleg yn fuan cyn plannu coed. Awgrymwyd efallai bod grantiau
ar gael gan Cadw a gofynnwyd i’r Swyddogion rannu ddiweddariadau ynglŷn
â’r plannu efo cynrychiolydd Archeoleg Gwynedd fel ei bod yn gallu cyfrannu. Holwyd ymhellach ynghylch yr ardaloedd
plannu coed â’r raddfa o wneud hynny. Nodwyd bod bwriad edrych ymhellach ar
safleoedd y tiroedd sydd ym mherchnogaeth Cyngor Gwynedd ond bod safle Ysgol
Botwnnog yn edrych yn addawol iawn. Nodwyd nad oedd bwriad plannu ar y
safleoedd i gyd. Cadarnhawyd bod modd rhoi grantiau i berchnogion safleoedd
carafanau i blannu coed drwy’r Gronfa Ddatblygu Cynaliadwy. Gobeithir gallu
ystyried prosiectau tebyg i hyn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnwyd gan Aelod a oes modd derbyn
crynodeb neu restr o brosiectau cyfalaf dros y 3 mlynedd ddiwethaf er mwyn cael
gweld beth oedd y prosiectau, ym mha ardal a faint o gyfalaf gafodd ei roi er
mwyn gweld yr amrywiaeth. Gofynnwyd am y wybodaeth yma am y Gronfa Ddatblygu
Gynaliadwy yn ogystal. Bydd y Swyddog Prosiectau AHNE Llŷn yn darparu’r
wybodaeth. Diolchwyd am yr holl waith gan nodi bod
adborth positif iawn wedi ei dderbyn am y gwaith o adnewyddu grisiau Porth Ysgo. Diolchwyd hefyd i Swyddogion AHNE am y gwaith ar y
ganolfan yn Llithfaen gan nodi bod pawb yn edrych ymlaen i’r ganolfan agor. Holwyd ynghylch y neuadd yn Llanbedrog gan
adrodd bod cyflwr y neuadd yn wael a bod y to yn sâl. Gofynnwyd a oes cymorth
ar gael gan fod gwaith gwario ar y neuadd. Cadarnhawyd y byddai’r Swyddogion
AHNE yn trafod ymhellach efo’r aelod y tu allan i’r cyfarfod hwn. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. |
|
I roi gwybodaeth i aelodau ar y Prosiect “Perthyn”. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn y wybodaeth. b)
Cynnal cyfarfod arall i drafod y mater. Cofnod: Adroddwyd bod
yr eitem yma wedi ei chynnwys ar y Rhaglen ar gais aelod Cyngor Cymuned
Tudweiliog. Nodwyd bod tri Cyngor Cymuned yn Llŷn wedi penderfynu dynodi
eu hardaloedd yn Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol ym mis Rhagfyr 2023, gyda’r
bwriad o sefydlogi a chryfhau’r Gymraeg yn Llŷn yn dilyn pryderon am
ddylanwadau ail-gartrefi, tai haf a thwristiaeth. Adroddwyd bod Cynghorau
Cymuned eraill bellach wedi ymuno â’r prosiect. Eglurwyd bod
posibilrwydd i amrywio polisi cyhoeddus a gweithredu o blaid y Gymraeg yn yr
ardaloedd sydd wedi eu dynodi yn Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol. Cyfeirir ar
hyn ym mhapur safbwynt y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Adroddwyd ar
lafar gan aelod Cyngor Cymuned Tudweiliog ar waith y prosiect Perthyn a
chytunwyd i dderbyn y wybodaeth. Bu cryn drafod ar y pwnc a cynigwyd i ail
gynnwys yr eitem ar Raglen cyfarfod nesaf o’r Cyd-bwyllgor Ymgynghorol pan fydd
yr adroddiad yn barod ac wedi ei rannu efo holl aelodau’r Cyd-bwyllgor. PENDERFYNIAD a)
Derbyn y
wybodaeth. b)
Cynnal cyfarfod
arall i drafod y mater. |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 129 KB I gyflwyno gwybodaeth i aelodau ar Gynllun Rheoli’r AHNE. Cofnod: Rhedwyd allan o amser cyn cyrraedd yr eitem hon. Bydd yr eitem yn cael ei
chynnwys ar Raglen cyfarfod nesa’r Cyd-bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn. |