Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldebau. Cofnod: Derbyniwyd datganiadau o ymddiheuriad gan Einir
Wyn (Cyngor Cymuned Llanengan), Eirian Allport
(Cyngor Cymuned Clynnog Fawr), Gillian Walker (Cyfeillion Llŷn), Euros
Jones (FWAG Cymru) ac Linda Ashton (Cyfoeth Naturiol Cymru). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. |
|
MATERION BRYS I ystyried
unrhyw eitem sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Mehefin 2024, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r
Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Mehefin, 2024, fel rhai cywir. |
|
PROSIECT TIRLUN BYW LLŶN PDF 181 KB I rannu
gwybodaeth gydag Aelodau ar brosiect ‘Tirlun Byw Llŷn’. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog Gweithgareddau AHNE Llŷn gan nodi bod Prosiect
Tirlun byw Llŷn yn cael ei ariannu ar y cyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru a
Chyngor Gwynedd. Eglurwyd bod
tair thema i’r prosiect sef; Nodweddion Hanesyddol, Amgylchedd Naturiol ac
Mynediad. Ymhelaethwyd bod nifer o allbynnau penodol wedi cael eu gosod er mwyn
sicrhau bod nod y prosiect o gwblhau mân waith ar y ddaear a chynnal
gweithgareddau yn cael ei gyfarch. Cadarnhawyd mai allbynnau’r prosiect yw: · Cwblhau gwaith ar
1-2 o safleoedd o fewn AHNE Llŷn ar gyfer y themâu canlynol o
Nodweddion Hanesyddol o
Cynefinoedd o
Gwella Mynediad · Cynnal 4 digwyddiad
i gefnogi datblygiad sgiliau gwledig (megis adfer waliau cerrig a gwrychoedd) · Cynnal 6 digwyddiad
i roi cyfle i bobl gadw’n heini a dysgu am fyd natur a’r amgylchedd (megis
Teithiau Cerdded ac Awyr Dywyll) · Cynnal isafswm o 8
digwyddiad i Wirfoddolwyr er mwyn cefnogi themâu’r prosiect gan gynnwys adfer
nodweddion, hel sbwriel a gwella llwybrau. Tywyswyd yr
Aelodau drwy nifer o weithgareddau sydd eisoes wedi cael eu cynnal gan gynnwys
sesiynau codi waliau sych (Hyfforddiant Sgiliau Gwledig), cadw Cymru’n Daclus
(Sesiynau Casglu Sbwriel) ac hyfforddiant strimio yn Coleg Glynllifon
(Hyfforddiant i’r Gwirfoddolwyr). Diolchwyd i bawb oedd ynghlwm a’r
digwyddiadau hyn. Nodwyd cefnogaeth i brosiectau sy’n cydweithio gyda dysgwyr y
Gymraeg er mwyn sicrhau cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer yr iaith yn gymdeithasol. Nodwyd bod
nifer o weithgareddau ar y gweill gan nodi bydd y digwyddiadau yn cael eu
hyrwyddo yn gyhoeddus dros yr wythnosau nesaf. Gofynnwyd i’r Aelodau rannu
gwybodaeth am y digwyddiadau o fewn eu cymunedau lleol ac estynnwyd gwahoddiad
i bawb fynychu’r digwyddiadau. PENDERFYNIAD Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. |
|
I gyflwyno
gwybodaeth i Aelodau ar y Prosiect ‘Perthyn’. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn gan atgoffa aelodau o’r sgwrs gychwynnol
ar y mater yn ystod cyfarfod y Cyd-bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Mehefin
2024. Cyfeiriwyd at
y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a sefydlwyd gan Llywodraeth Cymru yn 2022 er mwyn
ymchwilio i’r heriau sy’n wynebu’r Gymraeg ac i awgrymu ffyrdd o addasu
polisïau cyhoeddus er budd yr iaith a chymunedau. Manylwyd bod adroddiad
terfynol y Comisiwn wedi cael ei gyflwyno yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol
yn Rhondda Cynon Taf eleni. Ymhelaethwyd bod yr adroddiad yn edrych ar
ddirywiad y Gymraeg ac yn pwysleisio pwysigrwydd cadarnleoedd y Gymraeg, megis
Penrhyn Llŷn, a gosod argymhellion ar gyfer gweithrediadau cefnogol i’r
dyfodol. Tynnwyd sylw penodol i’r argymhelliad o ddynodi ardaloedd ‘o
arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’ ble mae dros 40% o siaradwyr ardaloedd
penodol yn siarad y Gymraeg. Nodwyd bod argymhellion pellach i ardaloedd Dwysedd Uwch yn cynnwys: · Dwysau’r ystyriaeth
a wneir o’r Gymraeg o fewn fframwaith polisi · Caniatáu ymyraethau
ac amrywiaeth polisi a phwyslais polisi o blaid y Gymraeg fel iaith gymunedol · Sicrhau fod yr
amrywiaeth polisi yn ymateb i anghenion cymdeithasol ac ieithyddol yr ardaloedd
hyn · Rhoi grymoedd
angenrheidiol i rymuso cymunedau i wrthdroi shifft iaith. Eglurwyd bod
prosiect Perthyn wedi cael ei sefydlu gan Cyfeillion Llyn a Chymdeithas
Pen-y-graig mewn ymateb i araith Jeremy Miles (Aelod Cabinet dros Economi, Ynni
a’r Iaith Gymraeg) yn 2022, ble ddywedodd fod yr iaith yn perthyn i bawb ac yn
gosod dyletswydd i bawb gydweithio er mwyn sicrhau ei ddyfodol. Nodwyd bod
Perthyn yn unol â nod y Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn
2050 ac yn gefnogol o argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Esboniwyd bod
y prosiect hefyd yn edrych ar sawl maes arall sydd yn gysylltiedig â’r iaith
megis polisïau gosod tai, ystadegau ieithyddol ac enwau Cymraeg. Ychwanegwyd
bod prosiect Perthyn yn hybu Croeso Cymraeg, diwydiant ymwelwyr sydd yn rhoi
pwyslais a chefnogaeth i’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig. Eglurwyd bod gan
y prosiect tair nod, sef: · Gwarchod a
chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol · Cynyddu niferoedd
siaradwyr ac aelwydydd Cymraeg · Cyflwyno croeso
Cymraeg i bawb a hanes ein bro i’r byd Adroddwyd bod
Cyfeillion Llŷn a Chymdeithas Pen-y-graig wedi codi ymwybyddiaeth o
brosiect Perthyn gyda cynghorau cymuned a thref lleol. Cadarnhawyd bod
cynghorau Aberdaron, Botwnnog a Thudweiliog wedi dynodi ardaloedd o arwyddocâd
ieithyddol Dwysedd Uwch gyda nifer o gynghorau eraill yn rhan o’r prosiect
erbyn hyn. Esboniwyd bod
‘cynlluniau i warchod a chryfhau’r Gymraeg’ wedi cael ei ychwanegu at restr o
gynlluniau fydd yn cael blaenoriaeth yng Nghynllun Adfywio Lleol, Cynllun Ardal
Ni Pen Llŷn 2023 am y tro cyntaf, yn dilyn cefnogaeth Cynghorau Cymuned Llŷn
i ddynodi’r Ardal yn un o arwyddocâd ieithyddol Dwysedd Uwch. PENDERFYNIAD · Croesawu
adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg a datgan cefnogaeth i Lywodraeth Cymru · Galw ar
Lywodraeth Cymru i weithredu ar argymhellion Comisiwn Cymunedau Cymraeg fel
mater o frys er mwyn gwarchod yr iaith ym Mhen Llŷn. · Cefnogi mewn
egwyddor prosiect Perthyn a’r 3 prif nod |
|
CYNLLUN RHEOLI’R AHNE PDF 113 KB I rannu
gwybodaeth gydag Aelodau ar Gynllun Rheoli’r AHNE. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Swyddog AHNE Llŷn gan atgoffa’r Aelodau bod paratoi ac
olygu Cynllun Rheoli yn un o gyfrifoldebau statudol Cyngor Gwynedd yn unol â
Deddf Cefn gwlad a Hawliau Tramwy 2000. Nodwyd bod gan y Cyd-bwyllgor
Ymgynghorol hwn rôl yn ystod y broses o baratoi ac adolygu’r Cynllun. Cydnabuwyd
bod amryw o ffactorau wedi amharu ar amserlen adolygu’r Cynllun megis y
pandemig, gwaith ar brosiectau cyfalaf eraill a chapasiti’r swyddogion i
gyflawni’r gwaith yn amserol. Er hyn, pwysleisiwyd bod y Cynllun presennol wedi
dyddio ac mae ei adolygu yn flaenoriaeth. Pwysleisiwyd
pwysigrwydd ystyried y gwybodaeth ddiweddaraf am nodweddion yr ardal,
cynlluniau, strategaethau ac amcanion cadwraeth wrth adolygu’r Cynllun. Nodwyd
hefyd bydd angen dilyn canllawiau gan Cyngor Cefn Gwlad Cymru sydd bellach yn
cael eu diweddaru gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer AHNEau ac Parciau
Cenedlaethol. Nodwyd bod swyddogion AHNE Llŷn eisoes wedi cyflawni peth
gwaith cefndirol drwy gomisiynu diweddariad o Adroddiad ar Gyflwr yr AHNE, gyda
chrynodeb o ddiweddariad ar wahanl nodweddion o’r ardal wedi cael ei gyflwyno
i’r Cyd-bwyllgor. Ychwanegwyd y bu i Ymgynghorydd gael ei gomisiynu er mwyn
diweddaru Cyd-destun y Cynllun. Atgoffwyd
yr Aelodau o rinewddau AHNE Llŷn, gan nodi na ragwelir yr angen i addasu’r
rhain ar gyfer y Cynllun diwygiedig. Nodwyd mai’r rhinweddau sydd yn perthyn i
AHNE Llŷn yw: ·
Tirlun ac Arfordir Hardd ·
Tawelwch ac Amgylchedd lân ·
Cyfoeth o fywyd gwyllt a
chynefinoedd ·
Yr Amgylchedd Hanesyddol ·
Yr Iaith Gymraeg a’r diwylliant ·
Pobl a chymunedau clos ·
Cynnyrch a busnesau lleol ·
Mynediad hawliau tramwy Argymhellwyd
gweledigaeth newydd ar gyfer y Cynllun diwygiedig yn seiliedig ar y flwyddyn
2050 sef; “Ardal
o dirlun ac arfordir hardd gyda bywyd gwyllt cynhenid yn ffynnu, lefel isel o
lygredd amgylcheddol a digonedd o gyfleon mynediad cyhoeddus. Adeiladau a
nodweddion hanesyddol mewn cyflwr da, busnesau lleol yn llwyddo a chymunedau
Llŷn yn cynnal yr iaith a’r diwylliant Cymreig”. Ychwanegwyd
bod y weledigaeth hon yn ddiweddariad i’r weledigaeth at gyfer 2040 sydd eisoes
mewn lle yn y Cynllun presennol. Eglurwyd
bydd Uned AHNE yn adolygu amcanion a pholisiau’r Cynllun presennol gan drefnu
cyfarfod o’r Cyd-bwyllgor i drafod yr addasiadau hynny. Ymhelaethwyd bydd y
Cynllun Gweithredu yn cael ei addasu er mwyn cynnwys manylion am y gwaith yr
anelir ei gwblhau o fewn cyfnod gweithredol y Cynllun. Nodwyd yr angen i
adolygu Asesiadau Rheoliadau Amgylcheddol a Rhywogaethau sydd ynglwm â’r
cynllun. Aethpwyd
ymlaen i gadarnhau bydd cyfnod o ymgynghori ar y Cynllun diwygiedig drafft.
Cadarnhawyd bydd gan y Cyd-bwyllgor rôl i ystyried y sylwadau a dderbynnir. Trafodwyd sefydlu is-bwyllgorau penodol er mwyn datblygu’r Cynllun a derbyn mewnbwn manwl gan Aelodau’r Cyd-bwyllgor ar rinweddau penodol AHNE Llŷn. Er hyn, pwysleisiwyd gallai hyn arafu’r broses o ddiweddaru’r Cynllun gan i’r Uned dderbyn gwybodaeth ac argymhellion yn dameidiog. Sicrhawyd bydd trafodaethau ar agweddau o adolygu’r Cynllun yn cael ei drafod yn fanwl yng nghyfarfodydd y Cyd-bwyllgor yn y dyfodol. Cytunwyd ei fod yn holl-bwysig bod cymaint o fewnbwn a phosib i’r Cynllun gan gydnabod mai cyfrifoldeb statudol Cyngor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |