Lleoliad: Plas Heli, Pwllheli, LL53 5YQ. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol cadeirydd am y flwyddyn 2017/18. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Sian
Parri yn Gadeirydd am y flwyddyn 2017/18. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol
is-gadeirydd am y flwyddyn 2017/18. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gareth Williams yn Is-gadeirydd am y flwyddyn 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Anwen Davies, John Brynmor Hughes ac Aled Wyn Jones (Cyngor Gwynedd) ynghyd â Brett Garner (Cymdeithas Pysgotwyr Llŷn), Laura Hughes (Ymddiriedolaeth Genedlaethol) ac Alun Price (Cyfoeth Naturiol Cymru). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd Gruffydd Williams (Cyngor Tref Nefyn) fuddiant personol, yn eitem 5 ar y rhaglen ‘Mater Brys’, oherwydd ei fod yn aelod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd. Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd yr ystafell yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod
cais diwygiedig wedi ei gyflwyno i’r Gwasanaeth Cynllunio ar safle 'The Shanty,
Abersoch' (cais rhif C17/1024/39/LL). Atgoffodd yr aelodau bod y Cyd-Bwyllgor
wedi trafod y cais gwreiddiol yn y cyfarfod blaenorol ar 6 Medi 2017 ac wedi
cyflwyno’r sylwadau isod ar y cais i’r Gwasanaeth Cynllunio: Ø Bod Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn
yn gwrthwynebu’r cais ar sail: ·
Byddai’r bwriad yn
or-ddatblygiad o’r safle amlwg hon gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ
presennol. ·
Byddai’r datblygiad yn
ymwthiol. Ø Bod y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol yn pryderu o
ran effaith gronnol datblygiadau o’r fath ar yr AHNE. Nododd y gwrthodwyd y cais gwreiddiol yng
nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 25 Medi 2017. Adroddodd bod y Pwyllgor Cynllunio yn ei
gyfarfod ar 18 Rhagfyr 2017 wedi gohirio penderfyniad ar y cais diwygiedig er
mwyn rhoi cyfle i’r Cyd-Bwyllgor gyflwyno sylwadau ar y cais. Nododd bod y bwriad wedi ei leihau o ran
maint y tŷ, nid oedd modurdy yn rhan o’r cais diwygiedig a byddai mwy o
lystyfiant o gwmpas y datblygiad gan ei fod yn llai. Nododd ei fod wedi
cyflwyno sylwadau ar y cais ar ran yr Uned AHNE i’r Gwasanaeth Cynllunio yn
unol â’r drefn. Eglurodd ei fod ef fel cynllunydd siartredig yn gymwys i
gyflwyno sylwadau ar geisiadau cynllunio. Nododd ei fod wedi cyflwyno sylwadau ar y cais o ran materion yn ymwneud
â’r effaith ar yr AHNE a’i fod o’r farn: ·
Bod ymdrech da i geisio dylunio’r adeilad i weddu i’r safle unigryw ar drwyn
y Penrhyn a bod safon y dyluniad yn uwch na’r datblygiadau bob ochr a oedd yn
fwy trefol a digymeriad; ·
Bod y deunyddiau ar y
cyfan yn addas i’r safle arfordirol; ·
Wedi pwyso a mesur
manylion y cais na fyddai’r bwriad yn amharu ar yr AHNE. Amlygodd fod yr Uned AHNE wedi cyflwyno
sylwadau yn datgan pryder am nifer o geisiadau i ddymchwel ac ail-adeiladu yn
ardal Abersoch, er enghraifft Gwesty Harbour Hotel, Gwesty White House a Blaen
y Wawr ond fod y ceisiadau wedi eu caniatáu er hynny. Tynnodd sylw’r aelodau at y cynlluniau a lluniau o’r datblygiad a oedd
wedi eu harddangos yn y cyfarfod, gan nodi bod un cynllun yn dangos y
gwahaniaeth rhwng y cais gwreiddiol a’r cais diwygiedig. Nododd bod
cynrychiolydd o gwmni Cadnant Planning (asiant y cais) yn bresennol a byddai’n
ymateb i gwestiynau’r aelodau. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau edrych ar y
cynlluniau a’r lluniau. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nododd yr
aelodau'r prif bwyntiau canlynol: ·
Er bod maint y tŷ
wedi lleihau dal yn pryderu gan ei fod yn parhau i fod yn dri llawr gyda
defnydd helaeth o wydr ar safle amlwg; ·
Bod maint y tŷ yn
fwy na’r tŷ gwreiddiol a ni fyddai’r tŷ arfaethedig yn yr union
leoliad a’r tŷ presennol; ·
Pryder o ran effaith
gronnol datblygiadau o’r fath ar yr ardal; ·
Bod angen gwarchod adeiladau
hanesyddol a byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle gyda dyluniad estron; ·
Byddai caniatáu’r cais
yn gosod cynsail. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Cyd-Bwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Medi 2017, fel rhai cywir yn ddarostyngedig i ddiwygio’r presenoldeb yn y fersiwn Saesneg i nodi bod Brett Garner yn cynrychioli “Llŷn Fishermen’s Association”. |
|
CYNLLUN RHEOLI'R AHNE - NEWIDIADAU ARFAETHEDIG PDF 217 KB Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn
yr adroddiad, gan nodi yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 6 Medi 2017
penderfynwyd derbyn drafft diwygiedig o Gynllun Rheoli’r AHNE fel sail ar gyfer
ymgynghori cyhoeddus. Adroddodd y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 2 Hydref
a 10 Tachwedd. Tywysodd yr
aelodau drwy Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys crynodeb o’r prif
sylwadau a dderbyniwyd, sylwadau’r Gwasanaeth AHNE ac argymhelliad i newid y
cynllun neu beidio. Nododd aelodau
unigol y prif sylwadau isod yng nghyswllt y sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o’r
ymgynghoriad cyhoeddus: ·
Fyddai’n bosib defnyddio geiriad gwahanol i Brexit, unai ‘gadael yr Undeb
Ewropeaidd’ neu’r sillafiad Cymraeg? ·
6.3 - Bod y ffens ar Fwlch yr Eifl yn cael effaith weledol ar yr AHNE.
Roedd yn ardal mynediad agored ac roedd yn mynd yn syth at wal amddiffynnol
Tre’r Ceiri. Ddim yn deall sut y cafwyd rhoi ffens; ·
6.3 - Bod angen cyfeirio at y gwaith a gyflawnwyd
eisoes o ran tanddaearu gwifrau ar Fwlch yr Eifl yn y Cynllun; ·
6.7 - Bod meysydd carafanau teithiol yn gorboblogi eu meysydd ac
oherwydd diffyg staffio gan y Cyngor o ran gorfodaeth roedd yn anodd ei reoli.
Yr angen i sgrinio meysydd carafanau i leihau’r effaith weledol; ·
12.2 - O ran ymestyn y tymor twristiaeth yn yr ardal yn gynaliadwy a gwarchodol
o’r amgylchedd, yr angen i hyrwyddo yn gynaliadwy i’r iaith Gymraeg yn ogystal
gan wneud yr iaith yn bwynt gwerthu’r ardal. Roedd angen cydnabod bod
twristiaeth er yn beth da wedi cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg yn yr
ardal; ·
12.6 - Y dylid bod arwyddion yn cyfeirio pobl at yr
AHNE o’r A55 fel rhan o Raglen Ffyrdd Cymru i dynnu sylw pobl at yr ardal; ·
12.6 - Bod angen sicrhau nad oedd Ffordd y Glannau
a fyddai’n cychwyn yn Aberdaron a gorffen yn Nhŷ Ddewi fel rhan o Raglen
Ffyrdd Cymru yn cael ei hyrwyddo ar draul rhannau eraill o Ben Llŷn; ·
13 - Bod angen hyrwyddo llwybr amlddefnydd mynediad i bawb o Nefyn i
Benrhyn Nefyn; ·
13.3 - Fyddai’n bosib nodi yn y Cynllun Rheoli beth a nodir yng
Nghynllun Gwella Hawliau Tramwy'r Cyngor i atgyfnerthu paragraff 13.11.2 yn
enwedig o ran blaenoriaethau; ·
13.4 - Bod sylw Cyfoeth Naturiol Cymru yn eithaf
negyddol o ran grŵp o wirfoddolwyr yn gwneud y gwaith gan nodi na fyddai’n
gwbl ddigonol i atal colli rhannau pwysig o’r rhwydwaith. Dylid nodi bod gwaith
gwirfoddolwyr o fudd pellach i’r rhwydwaith na ddim ond o safbwynt iechyd a’r
iaith Gymraeg; ·
Fyddai’n bosib cynnwys map mwy manwl o’r AHNE yn y
Cynllun? Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y swyddogion: ·
Gellir newid i beidio defnyddio’r gair Brexit yn y fersiwn Gymraeg; ·
O ran y ffens ar Fwlch yr Eifl, y gwnaed ymholiadau â Chyfoeth Naturiol
Cymru ac fe wneir ymholiadau pellach; ·
Yn unol â’r argymhelliad fe roddir mwy o wybodaeth
am gynlluniau tanddaearu gwifrau ym mharagraff 6.92 o’r Cynllun Rheoli ac ychwanegu
cyfeiriad at y ffens; · Yr awgrymir yn y Cynllun i gynnal arolwg ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |