Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Ethol
Cadeirydd am 2015/16. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dyfrig Jones yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am
2015/16. |
|
IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd am 2015/16. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Jason Humphreys yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr Lesley Day, Gwynfor Edwards, Sian Gwenllian,
June Marshall, Gethin Glyn Williams a John Wyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Annwen Hughes fuddiant
personol yn eitem 9(B) ar y rhaglen – Ymchwiliad Tai Gwyliau a Threthi – oherwydd ei bod yn berchen ar
dŷ haf. ‘Roedd yr aelod o’r
farn ei fod
yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar y mater. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26
Mawrth, 2015 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2015 fel rhai cywir. |
|
STRATEGAETH GAFFAEL 2014/15 STRATEGAETH
GAFFAEL 2014/15 Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies (A) Cyflwyno drafft terfynol o’r Strategaeth
gan yr Aelod
Cabinet Economi (ynghlwm). (B) Ystyried y cwestiynau a godwyd yn y Cyfarfod
Paratoi (ynghlwm). 10.40am – 11.25am Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – (a) Drafft terfynol o’r Strategaeth gan yr Aelod
Cabinet Economi. (b) Y cwestiynau a godwyd yn y Cyfarfod Paratoi
ar 23 Ebrill. Gosodwyd y cyd-destun gan yr Aelod
Cabinet ac ymatebodd i gwestiynau’r
Cyfarfod Paratoi mewn perthynas â:- ·
Llwyddiant y Strategaeth Gaffael flaenorol o safbwynt cyflawni ei holl amcanion. ·
Uchelgais cyffredinol y Cyngor ar gyfer
caffael. ·
Taro cydbwysedd rhwng
sicrhau gwerth am arian drwy gaffael
a chadw’r budd yn lleol. ·
Canlyniadau’r ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid yn lleol. ·
Adnoddau ar gyfer
gwireddu’r Strategaeth newydd. ·
Addasrwydd y mesuryddion ar gyfer y Strategaeth
ddrafft. ·
Sicrhau ymrwymiad a dealltwriaeth ar draws y Cyngor i wireddu’r trefniadau caffael newydd ac amcanion y Strategaeth. ·
Cyfraniad caffael at ganfod arbedion ariannol i’r Cyngor. ·
Rheolaeth categori fel dull o gynnig y cyfle gorau i sicrhau
rheolaeth gadarn o drefniadau caffael y Cyngor a gwerth am arian / arbedion ariannol. ·
Gweithrediad e-gaffael ar draws y Cyngor. ·
Y dulliau sydd mewn lle i fesur
cydymffurfiaeth gyda gofynion Cynllun Iaith y Cyngor. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau
pellach a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
ymatebodd yr Aelod Cabinet, yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni a’r Rheolwr
Caffael Corfforaethol i gwestiynau / sylwadau ynglŷn â:- ·
Y swm
o £185 miliwn a wariwyd gan y Cyngor, yn ystod 2013/14, ar nwyddau, gwaith a
gwasanaethau a ddarparwyd gan sefydliadau allanol. Nodwyd bod y datganiad yn y rhagair i’r
Strategaeth yn gamarweiniol ac y dylid gwneud yn glir bod y swm yma’n cynnwys arian sy’n dod i mewn i’r Cyngor, yn ogystal
ag arian y Cyngor ei hun. ·
Perfformiad
da’r Cyngor yn erbyn y targed gwariant lleol o 45% ac awgrymwyd y dylid
defnyddio’r ffigur hwn yn yr adroddiad y tro nesaf. ·
Yr angen
i bwyso ar y Cynulliad i sicrhau maes cyfartal i’r cynghorau i gyd o ran mesur
perfformiad a darparu ystadegau. ·
Dulliau
o gyfarch enghreifftiau lle mae pencadlys cwmni y tu allan i’r ardal, ond y
gwaith ei hun yn cael ei gontractio’n lleol. ·
Awgrym
y byddai rhoi’r baich ar y cwmni, yn hytrach na’r Uned Gaffael, i ddatgan faint
o weithwyr lleol a gyflogir ar gontractau, ayb, yn ychwanegiad defnyddiol iawn. ·
Ymateb
i gwynion a sut bydd rheolaeth categori yn creu mwy o arbenigedd o fewn meysydd
penodol ac yn cynorthwyo dysgu ar draws. ·
Rôl
caffael, yn y ffordd newydd drwy reolaeth categori, fel galluogwr i’r
gwasanaethau gyrraedd eu targed effeithlonrwydd. ·
Cais
am sicrwydd bod y Cyngor wedi rhoi digon o gyfleoedd i gwmnïau lleol. ·
Dylanwad
y Cyngor ar y sector breifat. ·
Osgoi biwrocratiaeth ddiangen. ·
Pwysigrwydd
newid diwylliant a’r angen am hyfforddiant adrannol ac ar y cyd. ·
Pwysigrwydd
sicrhau nad ydi rhai prosesau e-gaffael yn llesteirio caffael da. ·
Pwysigrwydd
ymgysylltu â budd-ddeiliaid lleol a chodi sgiliau lleol. ·
Yr
angen i wthio’r ffin cyn belled ag sy’n rhesymol
bosib’ o ran yr iaith Gymraeg. · Pwysigrwydd darparu arweiniad yn y maes caffael i gynghorau tref a chymuned oherwydd y gallent fod yn cymryd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
STRATEGAETH FFORDD GWYNEDD STRATEGAETH FFORDD
GWYNEDD Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Peredur Jenkins Cyflwyno’r Strategaeth drafft gan yr
Aelod Cabinet Adnoddau (ynghlwm). 11.25am – 12.25pm Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad
yr Aelod Cabinet Adnoddau yn gwahodd
sylwadau’r pwyllgor ar y fersiwn ddiweddaraf
o’r Strategaeth ddrafft cyn cyflwyno’r
drafft terfynol i’r Cabinet i’w fabwysiadu’n ffurfiol. Gosododd yr Aelod
Cabinet y cyd-destun a rhoddwyd
cyflwyniad gan y Prif Weithredwr yn cyfarch nifer
o gwestiynau a godwyd yn y Cyfarfod Paratoi
ar 23 Ebrill mewn perthynas ag:- ·
Ystyr Ffordd Gwynedd ·
Uchelgais cyffredinol y Cyngor ar gyfer
Ffordd Gwynedd ac a ydyw’n realistig ac yn gyraeddadwy? ·
Digonolrwydd yr adnoddau mewn lle
a’r capasiti i wireddu gweledigaeth Strategaeth Ffordd Gwynedd a’i roi ar
waith. ·
Y tebygolrwydd y bydd
Ffordd Gwynedd yn llwyddo. ·
Tystiolaeth bod Ffordd
Gwynedd wedi llwyddo i wella gwasanaethau i drigolion a sicrhau arbedion ariannol yn y ddau gynllun
peilot ym meysydd digartrefedd ac eiddo. ·
Dulliau o sicrhau ymrwymiad a dealltwriaeth ar draws y Cyngor i wireddu Ffordd Gwynedd. ·
Y mesurau perfformiad
sy’n bosib’ eu rhoi mewn
lle er mwyn
sicrhau’r newid diwylliant o fewn y Cyngor. ·
Yr ymgysylltu ffurfiol / anffurfiol gyda budd-ddeiliaid. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau
pellach a chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
ymatebodd yr Aelod Cabinet a’r Prif Weithredwr i gwestiynau / sylwadau ynglŷn â:- ·
Sut mae’r Strategaeth yn cyd-blethu gyda’r cysyniad o Reoli Galw a’r Strategaeth
Arbedion? ·
Y dull o raeadru Ffordd
Gwynedd i lawr ac ar draws
y sefydliad. ·
Sut mae Ffordd
Gwynedd yn ymateb i ddeddfwriaeth gwlad a gofynion Llywodraeth Cymru ac amrywiol gyrff allanol ac ydi’r Cyngor hwn
yn ddigon dewr i gymryd y cerydd er mwyn
cadw trigolion Gwynedd yn hapus? ·
Y sialens o gael pobl i ymddwyn yn wahanol. ·
Ymdeimlad bod y datganiad ‘Rhoi Pobl Gwynedd yn Ganolog’ yn her sylweddol oherwydd bod yna leisiau cryfion o fewn pob ardal
sydd â’u hagenda eu hunain. ·
Y gwersi a ddysgwyd o’r cynlluniau peilot. Mynegwyd dymuniad y pwyllgor i weld Strategaeth Ffordd Gwynedd yn llwyddo a chasglwyd mai un o’r pwyntiau
pwysicaf yn codi o’r drafodaeth
oedd y cwestiwn o risg a’r angen
i arfogi’r holl staff, o’r brig i lawr, i ddefnyddio eu synnwyr
cyffredin ac i fod â’r hyder i gymryd
risgiau bach, sydd efallai, yn
mynd i ddod â gwobrwyon mawr. Mynegwyd pryder mai ond hanner
aelodau’r pwyllgor oedd yn bresennol
i gymryd rhan yn y drafodaeth hon. ‘Roedd y staff wedi ymroddi i’r
newidiadau hyn, ac ‘roedd yn hynod
bwysig eu bod hwy a’r Tîm
Arweinyddiaeth yn cael y gefnogaeth briodol gan yr
aelodau hefyd. Diolchwyd i’r Aelod
Cabinet a’r Prif Weithredwr am y drafodaeth. |
|
YMCHWILIADAU (A) Ymchwiliad
Tai Gwyliau a Threthi – cyflwyno drafft o’r briff (ynghlwm). (B) Ymchwiliad
Craffu Ymgysylltu – cyflwyno drafft diwygiedig o’r briff (ynghlwm). 12.25pm – 12.40pm Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – drafft o sgôp dau ymchwiliad
craffu posib’, sef:- (a) Ymchwiliad Craffu Tai Gwyliau a Threthi (b) Ymchwiliad Craffu Ymgysylltu Gofynnwyd i’r pwyllgor
ddewis un o’r ddau ymchwiliad a chytunwyd bod yr Ymchwiliad Tai Gwyliau a Threthi yn flaenoriaeth
uwch. PENDERFYNWYD (a) Sefydlu Ymchwiliad
Craffu i’r maes Tai Gwyliau a Threthi. (b) Penodi’r Cadeirydd,
y Cynghorydd Dyfrig Jones, ynghyd
â’r Cynghorwyr Trevor
Edwards, Aled Evans, Eirwyn Williams a Wyn Williams, yn
aelodau o’r Ymchwiliad, a gofyn i Vera Jones
(Rheolwr Aelodau – Gwasanaethau
Democrataidd) gysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i wahodd rhagor o enwau. |