Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD Ethol
Cadeirydd ar gyfer 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Jason Humphreys yn
gadeirydd y pwyllgor hwn am 2016/17. |
|
IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd W.Roy Owen yn
Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr
Anwen Davies, Lesley Day, Elwyn Edwards, Gweno Glyn, Linda Morgan, Angela
Russell, Glyn Thomas a Hefin Underwood. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Ebrill, 2016 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14
Ebrill, 2016 fel rhai cywir. |
|
YMATEB Y CABINET I ARGYMHELLION Y PWYLLGOR CRAFFU CORFFORAETHOL PDF 244 KB Cyflwyno
adroddiad y Cadeirydd a’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad gan y cyn-gadeirydd, y Cynghorydd Dyfrig Jones,
yn adrodd yn ôl ar ymateb y Cabinet i argymhellion y pwyllgor hwn mewn
perthynas â’r materion a ganlyn:- ·
Strategaeth Caffael Cyngor Gwynedd: Rheolaeth Categori a Chadw’r Budd yn
Lleol; ·
Strategaeth Technoleg Gwybodaeth Drafft; ·
Budd i Wynedd o Gadw’r Dreth Fusnes. Nodwyd
na chafwyd trafodaeth fanwl ar argymhellion y craffwyr
parthed y Strategaeth Technoleg Gwybodaeth Drafft gan fod y Cabinet yn symud
ymlaen i drafod y strategaeth yn ystod cyfarfod y diwrnod hwnnw, ond bod
sylwadau’r craffwyr wedi’u hystyried fel rhan o’r
drafodaeth honno. Ychwanegodd yr Aelod
Cabinet Adnoddau fod y Cabinet wedi mabwysiadu’r Strategaeth Technoleg
Gwybodaeth erbyn hyn a bod yr adran wedi derbyn adnoddau ychwanegol ar gyfer ei
gweithredu. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD YR YMCHWILIAD TAI GWYLIAU A THRETHI PDF 3 MB Cyflwyno adroddiad drafft yr Ymchwiliad Craffu
Tai Gwyliau a Threthi (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Ymchwiliad Tai Gwyliau a Threthi. Gosododd y Cadeirydd y cyd-destun gan wahodd y Cynghorydd Eirwyn
Williams, Cadeirydd yr Ymchwiliad, i gyflwyno’r adroddiad yn ffurfiol i’r
pwyllgor ac i’r Aelod Cabinet Adnoddau. Wrth gyflwyno’r adroddiad, diolchodd y Cynghorydd Eirwyn Williams i
aelodau’r ymchwiliad a’r swyddogion am eu holl waith, gan hefyd ddiolch i’r
swyddogion proffesiynol o’r tu allan i’r Cyngor oedd wedi rhoi o’u hamser i
ddod i siarad gyda’r aelodau fel rhan o’r ymchwiliad. Yn ystod y drafodaeth:- ·
Nodwyd y gwelir cynnydd parhaus yn nifer y tai sy’n trosglwyddo o’r
gyfundrefn Treth Cyngor i’r gyfundrefn Trethi Annomestig a bod angen parhau i
bwyso am newid yn y ddeddfwriaeth. ·
Awgrymwyd y dylai’r Aelod Cabinet gysylltu â chynghorau eraill er mwyn
sicrhau eu bod hwythau’n llawn ddeall y sefyllfa. ·
Nodwyd bod y trosglwyddiadau hyn yn fygythiad
i sylfaen y Dreth Gyngor. ·
Holwyd a ellid dadlau bod Gwynedd yn achos
arbennig yn wyneb y nifer uchel o dai mewn aml-feddiannaeth o fewn y sir a bod hynny’n cael ei adlewyrchu gan y Llywodraeth yn eu setliad
grant blynyddol. ·
Mynegwyd siomedigaeth nad oedd yn hysbys i aelodau’r pwyllgor craffu cyn
cyfarfod y Cyngor ar y 3ydd o Fawrth fod angen
rhagrybudd o flwyddyn i godi premiwm ar ail gartrefi a bod yr ymchwiliad wedi’i
roi fel rheswm dros beidio dod i benderfyniad erbyn y dyddiad hwnnw ynglŷn
â chyflwyno rhybudd ar gyfer gweithredu hynny o flwyddyn ariannol 2017/18
ymlaen. ·
Nodwyd bod angen i’r Cyngor benderfynu erbyn Rhagfyr eleni os yw am godi
premiwm ar ail gartrefi o 2018/19 ymlaen ac awgrymwyd y dylid ymestyn yr
ymchwiliad i edrych ar yr opsiynau (a’r risgiau) ynghlwm â hynny, gan hefyd
edrych ar faterion eraill megis y posibilrwydd o godi treth twristiaeth o 5% er
mwyn ariannu cyfleusterau o fewn y gymuned.
Cytunwyd i drafod hynny ymhellach ar ddiwedd y cyfarfod yng Nghyfarfod
Paratoi’r Pwyllgor. ·
Nodwyd, er y croesawid addewidion y gwahanol bleidiau gwleidyddol i
leihau trethi busnesau bach, y byddai perchnogion unedau hunan ddarpar sydd
wedi trosglwyddo i’r gyfundrefn Trethi Annomestig yn elwa o hynny hefyd, ac y
dylid lobïo’r Aelodau Cynulliad er mwyn gweld oes yna
rywbeth y gellid ei wneud ynglŷn â’r sefyllfa. Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r craffwyr am eu
gwaith trylwyr oedd wedi arwain at well dealltwriaeth o’r sefyllfa a nododd ei
fod yn derbyn 3 argymhelliad yr ymchwiliad yn y meysydd trethiant, prisio a
chynllunio. Ychwanegodd ei fod yn credu
fod yr ateb i’r broblem i’w ganfod o fewn y drefn gynllunio. Awgrymodd hefyd y dylai’r pwyllgor craffu
edrych ar yr opsiynau (a’r risgiau) ynghlwm â chodi premiwm ar ail gartrefi a
chyflwyno awgrymiadau i’r Cabinet.
Cytunwyd i drafod hynny ymhellach ar ddiwedd y cyfarfod yng Nghyfarfod
Paratoi’r Pwyllgor. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’i gyflwyno i’r Aelod
Cabinet Adnoddau. |
|
YMGYSYLLTU AR HER GWYNEDD PDF 254 KB Cyflwyno adroddiad y Cynghorwyr J.W.Williams ac R.H.Wyn Williams,
cynrychiolwyr y Pwyllgor Craffu Corfforaethol wnaeth ymgymryd â’r gwaith (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad gan y Cynghorwyr John Wyn Williams ac R.H.Wyn
Williams, fu’n cynrychioli’r pwyllgor hwn mewn cyfarfod o Grŵp Ymgysylltu
Gwynedd ar 5 Ebrill oedd yn cymryd stoc o ymarferiad Her Gwynedd i weld pa
wersi y gellid eu dysgu ynglŷn â threfniadau ymgysylltu’r Cyngor i’r
dyfodol. Nodwyd mai
un o brif gasgliadau’r grŵp oedd mai un o wendidau posib’ Her Gwynedd oedd
bod peth o’r cynnwys a ddarparwyd gan y gwasanaethau yn anodd i’r cyhoedd ei
ddeall ac yn defnyddio iaith gymhleth a gormod o “dermau Cyngor” na all y
cyhoedd eu deall (yn y Gymraeg na’r Saesneg) a bod yr anallu i gyfathrebu
negeseuon clir a syml yn wendid y mae angen edrych arno. Awgrymwyd efallai bod lle yma am waith gan
Ymchwiliad Craffu neu Grŵp Tasg i edrych ar sut y gellid gwella ar hyn. Nodwyd y
bu’r ymarferiad hwn yn ymarferiad newydd a gwahanol o safbwynt craffu a
gofynnwyd i’r aelodau geisio asesu a oedd cryfderau a
/ neu wendidau i’r trefniadau hyn er mwyn gallu ceisio dod i gasgliad a ellid
defnyddio’r math yma o ymarferiad craffu i’r dyfodol, a hynny mewn gwahanol
feysydd. Yn ystod y
drafodaeth:- ·
Casglwyd bod yr ymarferiad o safbwynt craffu wedi bod yn ymarferiad
llwyddiannus, lle gellid ymgeisio gwneud gwaith tebyg mewn meysydd eraill i’r
dyfodol. ·
Nodwyd bod y math hwn o ymarferiad yn osgoi dyblygu gwaith. ·
Awgrymwyd nad oedd angen i swyddogion fynd gyda’r craffwyr
i gyfarfodydd o’r fath ac y dylai’r aelodau lunio eu cofnod / adroddiad eu
hunain o gasgliadau’r drafodaeth. Nododd y
Dirprwy Arweinydd fod cynnwys y craffwyr yn y
grŵp wedi bod yn werthfawr iawn a manylodd ar y gwaith pellach sydd i’w
wneud yng nghyswllt yr ymarferiad Her Gwynedd. |
|
GWAITH CRAFFU PELLACH - SYMYLRWYDD IAITH (WRTH YMGYSYLLTU) PDF 599 KB Cyflwyno sgop
ar gyfer ymchwiliad craffu (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – sgôp ar
gyfer ymchwiliad craffu yn sgil casgliad Grŵp Ymgysylltu Gwynedd mai un o
wendidau posib’ Her Gwynedd oedd bod peth o’r cynnwys a ddarparwyd gan y
gwasanaethau yn anodd i’r cyhoedd ei ddeall ac yn defnyddio iaith gymhleth a
gormod o “dermau Cyngor” na all y cyhoedd eu deall (yn y Gymraeg na’r Saesneg)
a bod lle, o bosib’, am waith gan Ymchwiliad Craffu neu Grŵp Tasg i edrych
ar sut y gellid gwella ar hyn. PENDERFYNWYD sefydlu Ymchwiliad Craffu Symylrwydd
Iaith (Wrth Ymgysylltu) a bod y Cynghorwyr John Wyn Williams ac R.H.Wyn Williams yn aelodau ohono. |
|
ARBEDION YN YR ADRAN RHEOLEIDDIO PDF 214 KB Rhan
1 – Arbedion Pellach Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio (Dros Dro) (ynghlwm). Rhan
2 – Arbedion Pellach – Difa Pla Cyflwyno adroddiad yr Uwch
Reolwr Eiddo Corfforaethol (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Croesawyd aelodau o’r
Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r cyfarfod i gyd-graffu’r eitem hon gydag aelodau’r
Pwyllgor Craffu Corfforaethol. (A) Rhan 1 – Arbedion Pellach Cyflwynwyd –
adroddiad y Pennaeth Adran Rheoleiddio (Dros Dro) yn gofyn i’r pwyllgor graffu
cynlluniau arbedion a gyfeiriwyd gan y Cabinet am waith pellach gan y craffwyr, sef dau gynllun yn ymwneud â lleihau cyllidebau
Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd a chynllun yn ymwneud â lleihau’r gyllideb ar
gyfer hysbysebu ceisiadau cynllunio. Gwahoddwyd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i ddweud gair cyn i’r Pennaeth Adran Rheoleiddio Dros Dro amlinellu cynnwys yr
adroddiad. Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau holi’r Aelod Cabinet a’r swyddogion a chyflwyno
sylwadau. Yn ystod y drafodaeth:- ·
Mynegwyd cefnogaeth i gefnogi staff y Cyngor a’u grymuso. ·
Mynegwyd cymeradwyaeth i fod yn edrych ar yr arbedion o safbwynt pobl
Gwynedd yn hytrach nag o safbwynt y Cyngor. ·
Nodwyd y bydd cydweithio yn haws o hyn allan o bosib’. ·
Nodwyd risg gan yr aelodau ynghylch codi ffioedd gan nad oedd manylion
yn bodoli ar hyn o bryd. ·
Nodwyd bod budd wedi bod o graffu’r adroddiad ar y cyd rhwng y ddau
bwyllgor. Gwahoddwyd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i grynhoi cyn i Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Corfforaethol gloi’r drafodaeth. PENDERFYNWYD (a) Derbyn yr wybodaeth yn yr adroddiad, yn cynnwys yr hyn sydd wedi
ei gyflawni ar yr arbedion hyd yn hyn. (b) Argymell i’r Cabinet bod yr Adran yn bwrw ymlaen i gyfarfod
arbediad o £278,440 drwy weithredu ar gynllun amgen a fydd yn canolbwyntio ar
gynyddu incwm, newid strwythur a lleihau risgiau sydd yn rhwystro arbedion sydd
wedi eu cymeradwyo rhag eu gwireddu. (c) Bod yr adran yn adrodd ar y cynnydd ar yr holl arbedion a
thoriadau ynghyd â ffigurau pendant i ymrwymo iddynt o ran cynllun amgen i’r
Pwyllgor Craffu Cymunedau ymhen 9 mis. (B) Rhan 2 – Arbedion Pellach – Difa Pla Cyflwynwyd –
adroddiad yr Uwch Reolwr Eiddo Corfforaethol yn diweddaru’r aelodau ar opsiynau
posib’ ar gyfer darpariaeth y Gwasanaeth Difa Pla a Wardeiniaid Cŵn i’r
dyfodol ac yn gofyn iddynt graffu’r opsiynau a gynigir
i gau’r bwlch ariannol presennol. Gwahoddwyd
Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau i ddweud gair cyn i’r Uwch Reolwr Eiddo
Corfforaethol amlinellu cynnwys yr adroddiad. Rhoddwyd
cyfle i’r aelodau holi’r Aelod Cabinet a’r swyddogion a chyflwyno
sylwadau. Yn ystod y drafodaeth:- ·
Mynegwyd cefnogaeth i’r ffordd amgen o gwrdd â’r
arbedion / toriadau ac am feddwl yn ddyfeisgar. ·
Croesawyd y datblygiad i redeg y gwasanaeth fel busnes hunan gynhaliol. ·
Pwysleisiwyd yr angen i’r gwaith marchnata gael ei wneud gynted â
phosib’ er mwyn cynyddu lefel defnydd y gwasanaeth (yn arbennig yn Arfon). ·
Nodwyd y risg o gynyddu’r gost yn ormodol (risg y byddai pobl yn mynd â’u busnes i rywle arall), ond croesawyd lefel o 10% yn is
na’r farchnad. ·
Pwysleisiwyd hefyd bod rhaid cadw enw da’r gwasanaeth, gan barhau i
sicrhau fod safon y gwasanaeth yn gyflym ac effeithiol. ·
Croesawyd bod gwarant o wasanaeth yr un diwrnod i gleientau
bregus, e.e. cartrefi henoed. · Nodwyd y risg o ddileu’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. |