Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dyfrig Jones yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am 2015/16.

 

2.

IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd am 2015/16.

Cofnod:

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Jason Humphreys yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2015/16.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

Cofnod:

Y Cynghorwyr Lesley Day, Gwynfor Edwards, Sian Gwenllian, June Marshall, Gethin Glyn Williams a John Wyn Williams.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Annwen Hughes fuddiant personol yn eitem 9(B) ar y rhaglenYmchwiliad Tai Gwyliau a Threthioherwydd ei bod yn berchen ar haf.

 

Roedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y mater.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 221 KB

          Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2015 fel rhai cywir.

 

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2015 fel rhai cywir.

 

7.

STRATEGAETH GAFFAEL 2014/15 pdf eicon PDF 374 KB

STRATEGAETH GAFFAEL 2014/15

Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies

 

(A)    Cyflwyno drafft terfynol o’r Strategaeth gan yr Aelod Cabinet Economi  (ynghlwm).

 

(B)    Ystyried y cwestiynau a godwyd yn y Cyfarfod Paratoi  (ynghlwm).

 

10.40am – 11.25am

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd

 

(a)     Drafft terfynol o’r Strategaeth gan yr Aelod Cabinet Economi.

(b)     Y cwestiynau a godwyd yn y Cyfarfod Paratoi ar 23 Ebrill.

 

Gosodwyd y cyd-destun gan yr Aelod Cabinet ac ymatebodd i gwestiynau’r Cyfarfod Paratoi mewn perthynas â:-

 

·         Llwyddiant y Strategaeth Gaffael flaenorol o safbwynt cyflawni ei holl amcanion.

·         Uchelgais cyffredinol y Cyngor ar gyfer caffael.

·         Taro cydbwysedd rhwng sicrhau gwerth am arian drwy gaffael a chadw’r budd yn lleol.

·         Canlyniadau’r ymgysylltu gyda budd-ddeiliaid yn lleol.

·         Adnoddau ar gyfer gwireddu’r Strategaeth newydd.

·         Addasrwydd y mesuryddion ar gyfer y Strategaeth ddrafft.

·         Sicrhau ymrwymiad a dealltwriaeth ar draws y Cyngor i wireddu’r trefniadau caffael newydd ac amcanion y Strategaeth.

·         Cyfraniad caffael at ganfod arbedion ariannol i’r Cyngor.

·         Rheolaeth categori fel dull o gynnig y cyfle gorau i sicrhau rheolaeth gadarn o drefniadau caffael y Cyngor a gwerth am arian / arbedion ariannol.

·         Gweithrediad e-gaffael ar draws y Cyngor.

·         Y dulliau sydd mewn lle i fesur cydymffurfiaeth gyda gofynion Cynllun Iaith y Cyngor.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau pellach a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd yr Aelod Cabinet, yr Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni a’r Rheolwr Caffael Corfforaethol i gwestiynau / sylwadau ynglŷn â:-

 

·         Y swm o £185 miliwn a wariwyd gan y Cyngor, yn ystod 2013/14, ar nwyddau, gwaith a gwasanaethau a ddarparwyd gan sefydliadau allanol.  Nodwyd bod y datganiad yn y rhagair i’r Strategaeth yn gamarweiniol ac y dylid gwneud yn glir bod y swm yma’n cynnwys arian sy’n dod i mewn i’r Cyngor, yn ogystal ag arian y Cyngor ei hun.

·         Perfformiad da’r Cyngor yn erbyn y targed gwariant lleol o 45% ac awgrymwyd y dylid defnyddio’r ffigur hwn yn yr adroddiad y tro nesaf.

·         Yr angen i bwyso ar y Cynulliad i sicrhau maes cyfartal i’r cynghorau i gyd o ran mesur perfformiad a darparu ystadegau.

·         Dulliau o gyfarch enghreifftiau lle mae pencadlys cwmni y tu allan i’r ardal, ond y gwaith ei hun yn cael ei gontractio’n lleol.

·         Awgrym y byddai rhoi’r baich ar y cwmni, yn hytrach na’r Uned Gaffael, i ddatgan faint o weithwyr lleol a gyflogir ar gontractau, ayb, yn ychwanegiad defnyddiol iawn.

·         Ymateb i gwynion a sut bydd rheolaeth categori yn creu mwy o arbenigedd o fewn meysydd penodol ac yn cynorthwyo dysgu ar draws.

·         Rôl caffael, yn y ffordd newydd drwy reolaeth categori, fel galluogwr i’r gwasanaethau gyrraedd eu targed effeithlonrwydd.

·         Cais am sicrwydd bod y Cyngor wedi rhoi digon o gyfleoedd i gwmnïau lleol.

·         Dylanwad y Cyngor ar y sector breifat.

·         Osgoi biwrocratiaeth ddiangen.

·         Pwysigrwydd newid diwylliant a’r angen am hyfforddiant adrannol ac ar y cyd.

·         Pwysigrwydd sicrhau nad ydi rhai prosesau e-gaffael yn llesteirio caffael da.

·         Pwysigrwydd ymgysylltu â budd-ddeiliaid lleol a chodi sgiliau lleol.

·         Yr angen i wthio’r ffin cyn belled ag sy’n rhesymol bosib’ o ran yr iaith Gymraeg.

·         Pwysigrwydd darparu arweiniad yn y maes caffael i gynghorau tref a chymuned oherwydd y gallent fod yn cymryd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

STRATEGAETH FFORDD GWYNEDD pdf eicon PDF 195 KB

STRATEGAETH FFORDD GWYNEDD

Aelod Cabinet: Y Cynghorydd Peredur Jenkins

 

Cyflwyno’r Strategaeth drafft gan yr Aelod Cabinet Adnoddau  (ynghlwm).

 

11.25am – 12.25pm

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

          Cyflwynwydadroddiad yr Aelod Cabinet Adnoddau yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor ar y fersiwn ddiweddaraf o’r Strategaeth ddrafft cyn cyflwyno’r drafft terfynol i’r Cabinet i’w fabwysiadu’n ffurfiol.

 

          Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun a rhoddwyd cyflwyniad gan y Prif Weithredwr yn cyfarch nifer o gwestiynau a godwyd yn y Cyfarfod Paratoi ar 23 Ebrill mewn perthynas ag:-

 

·         Ystyr Ffordd Gwynedd

·         Uchelgais cyffredinol y Cyngor ar gyfer Ffordd Gwynedd ac a ydyw’n realistig ac yn gyraeddadwy?

·         Digonolrwydd yr adnoddau mewn lle a’r capasiti i wireddu gweledigaeth Strategaeth Ffordd Gwynedd a’i roi ar waith.

·         Y tebygolrwydd y bydd Ffordd Gwynedd yn llwyddo.

·         Tystiolaeth bod Ffordd Gwynedd wedi llwyddo i wella gwasanaethau i drigolion a sicrhau arbedion ariannol yn y ddau gynllun peilot ym meysydd digartrefedd ac eiddo.

·         Dulliau o sicrhau ymrwymiad a dealltwriaeth ar draws y Cyngor i wireddu Ffordd Gwynedd.

·         Y mesurau perfformiad sy’n bosibeu rhoi mewn lle er mwyn sicrhau’r newid diwylliant o fewn y Cyngor.

·         Yr ymgysylltu ffurfiol / anffurfiol gyda budd-ddeiliaid.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau pellach a chynnig sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd yr Aelod Cabinet a’r Prif Weithredwr i gwestiynau / sylwadau ynglŷn â:-

 

·         Sut mae’r Strategaeth yn cyd-blethu gyda’r cysyniad o Reoli Galw a’r Strategaeth Arbedion?

·         Y dull o raeadru Ffordd Gwynedd i lawr ac ar draws y sefydliad.

·         Sut mae Ffordd Gwynedd yn ymateb i ddeddfwriaeth gwlad a gofynion Llywodraeth Cymru ac amrywiol gyrff allanol ac ydi’r Cyngor hwn yn ddigon dewr i gymryd y cerydd er mwyn cadw trigolion Gwynedd yn hapus?

·         Y sialens o gael pobl i ymddwyn yn wahanol.

·         Ymdeimlad bod y datganiadRhoi Pobl Gwynedd yn Ganolog yn her sylweddol oherwydd bod yna leisiau cryfion o fewn pob ardal sydd â’u hagenda eu hunain.

·         Y gwersi a ddysgwyd o’r cynlluniau peilot.

 

          Mynegwyd dymuniad y pwyllgor i weld Strategaeth Ffordd Gwynedd yn llwyddo a chasglwyd mai un o’r pwyntiau pwysicaf yn codi o’r drafodaeth oedd y cwestiwn o risg a’r angen i arfogi’r holl staff, o’r brig i lawr, i ddefnyddio eu synnwyr cyffredin ac i fod â’r hyder i gymryd risgiau bach, sydd efallai, yn mynd i ddod â gwobrwyon mawr.

 

          Mynegwyd pryder mai ond hanner aelodau’r pwyllgor oedd yn bresennol i gymryd rhan yn y drafodaeth hon.  Roedd y staff wedi ymroddi i’r newidiadau hyn, ac ‘roedd yn hynod bwysig eu bod hwy a’r Tîm Arweinyddiaeth yn cael y gefnogaeth briodol gan yr aelodau hefyd.

 

          Diolchwyd i’r Aelod Cabinet a’r Prif Weithredwr am y drafodaeth.

 

9.

YMCHWILIADAU pdf eicon PDF 211 KB

YMCHWILIADAU

 

(A)    Ymchwiliad Tai Gwyliau a Threthicyflwyno drafft o’r briff (ynghlwm).

 

(B)    Ymchwiliad Craffu Ymgysylltucyflwyno drafft diwygiedig o’r briff (ynghlwm).

 

          12.25pm – 12.40pm

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyddrafft o sgôp dau ymchwiliad craffu posib’, sef:-

 

(a)     Ymchwiliad Craffu Tai Gwyliau a Threthi

 

(b)     Ymchwiliad Craffu Ymgysylltu

 

          Gofynnwyd i’r pwyllgor ddewis un o’r ddau ymchwiliad a chytunwyd bod yr Ymchwiliad Tai Gwyliau a Threthi yn flaenoriaeth uwch.

 

PENDERFYNWYD

(a)     Sefydlu Ymchwiliad Craffu i’r maes Tai Gwyliau a Threthi.

(b)     Penodi’r Cadeirydd, y Cynghorydd Dyfrig Jones, ynghyd â’r Cynghorwyr Trevor Edwards, Aled Evans, Eirwyn Williams a Wyn Williams, yn aelodau o’r Ymchwiliad, a gofyn i Vera Jones (Rheolwr Aelodau – Gwasanaethau Democrataidd) gysylltu â holl aelodau’r pwyllgor i wahodd rhagor o enwau.