Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301 E-bost: GlyndaOBrien@gwynedd.gov.uk
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Dr W. Gwyn Lewis. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd
Dilwyn Lloyd, Mrs Miriam Amlyn (NAS/UWT), Mr Rheinallt Thomas (Aelod Cyfetholedig). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw fater brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2015. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2015 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG GWYNEDD 2014-15 PDF 627 KB Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol Drafft er ystyriaeth cyn
cyhoeddi copi terfynol. Cofnod: Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Gwynedd am y flwyddyn
academaidd 2014-15, er cymeradwyaeth yr aelodau, cyn cyhoeddi’r
adroddiad terfynol. (A) Eglurodd Miss Bethan James
mai pwrpas yr Adroddiad Blynyddol
ydoedd crynhoi’r gwaith a gyflawnwyd gan CYSAG dros y flwyddyn flaenorol a phwysigrwydd bod yr argymhellion o fewn yr adroddiad yn
cael eu dwyn
i sylw’r awdurdod. Tywyswyd yr Aelodau drwy gynnwys yr
adroddiad gan dynnu sylw bod 14 o ysgolion cynradd wedi cyflwyno adroddiadau hunan arfarniadau yn ystod 2013-14. O safbwynt y tri chwestiwn allweddol yn fframwaith
arolygu cyffredin ESTYN ac yn benodol y ddarpariaeth
ar gyfer addoli ar y cyd,
nodwyd pwysigrwydd i
Aelodau CYSAG ymweld â sesiynau
addoli ar y cyd ysgolion er
mwyn bodloni eu hunain bod ysgolion
yn cydymffurfio a’r gofynion statudol. Ymddengys bod un
Ysgol uwchradd yng nghyffiniau Bangor yn awyddus i aelod o CYSAG Gwynedd ymweld â’r Ysgol honno ac felly byddai’n fuddiol i aelod ymweld pan ddaw'r gwahoddiad. Tynnwyd sylw bod arolygiadau ESTYN yn ffocws i drafodaethau
llynedd o safbwynt Ysgol
Crud y Werin, Ysgol Dyffryn
Nantlle ac Ysgol y Gader. Derbyniwyd cyflwyniad gan Ysgol Crud y Werin a gwelwyd bod gwelliant yn ansawdd
cynlluniau'r Ysgol dan sylw. Efallai y byddai’n amserol i wahodd Ysgol Dyffryn Nantlle ac Ysgol y Gader i gefnogi CYSAG drwy ddangos y cynnydd a wneir yn y ddwy ysgol. Tynnwyd sylw at arfarniad gwaith CYSAG ac fe welwyd cynnydd boddhaol yn erbyn
mwyafrif o’r blaenoriaethau.
Nodwyd bod un o’r argymhellion yn cyfeirio at gynnig gweithdai tymhorol i gydlynwyr pwnc wrth iddynt
hunan arfarnu addysg grefyddol ac addoli ar y cyd
yn eu hysgolion. Eglurodd Miss
Bethan James ei bod wedi cynnal gweithdai o hanner diwrnod yn Ynys Môn i unrhyw Ysgol oedd angen cefnogaeth
ac y byddai modd gwneud trefniadau cyffelyb yn Wynedd
pe dymunir. Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r broses o weithredu a monitro argymhellion CYSAG i’r awdurdod, nodwyd y byddir yn cyflwyno’r
argymhellion i’r Pennaeth
Addysg. Esboniodd Miss Bethan James
mai cyfrifoldeb CYSAG yw llunio maes
llafur CYTÛN addysg grefyddol i ysgolion
Gwynedd. Atgoffwyd
yr Aelodau y bu i CYSAG fabwysiadu fframwaith cyffredin fel maes
llafur CYTUN Gwynedd 2008 ac yn unol â’r rheolau
dylid diwygio’r maes llafar CYTÛN pob 5 mlynedd. Cymerodd CYSAG
Gwynedd benderfyniad i oedi
cyn ei adolygu
hyd nes y gwyddys beth fyddai’n
digwydd i’r cwricwlwm newydd yn deillio o argymhellion
yr Athro Donaldson. Hyderir y byddir, drwy Aelodau newydd CYSAG Gwynedd
a grŵp o athrawon i gynghori, yn gallu
helpu CYSAG i ymateb i egwyddorion adroddiad “Dyfodol Llwyddiannus” yr Athro Donaldson. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr
adroddiad blynyddol drafft ar gyfer
2014/15. (b) Cymeradwyo’r argymhellion a gynigwyd yn yr adroddiad. |
|
HUNAN ARFARNIADAU YSGOLION PDF 231 KB (a)
I dderbyn, er gwybodaeth,
ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer
Haf i Hydref 2015. (b)
I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion
canlynol: (i)
Ysgol Babanod Morfa Nefyn
(ii)
Ysgol Beddgelert (iii)
Ysgol Hirael (iv)
Ysgol Llanaelhaearn (v)
Ysgol Llanelltyd (vi)
Ysgol y Traeth (vii)
Ysgol Dyffryn Nantlle (viii)
Ysgol y Gader Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Tywysodd Clerc CYSAG yr
Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi
crynodeb o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu
sylw bo 5 ysgol gynradd wedi
eu harolygu gan ESTYN yn ystod
tymor yr Haf 2015. Cyfeiriwyd at ddyfyniadau wedi eu cymryd o adroddiadau
ESTYN o dan y pennawd gofal, cymorth ac arweiniad dangosydd 2.3 o’r Fframwaith Arolygu Cyffredin. Esboniodd Miss Bethan James ar yr
eirfa a ddefnyddir gan ESTYN yn benodol
o safbwynt addoli ar y cyd a bod yn rhaid bod yn
ofalus ar sut y dehonglir y brawddegau e.e. “llwyddiannus” sy’n golygu da, “priodol” sy’n golygu digonol. Atgoffwyd yr Aelodau hefyd na ddylid bod yn
rhy feirniadol o ysgolion sydd wedi
derbyn anfoddhaol / digonol am yr elfen
gofal, cymorth ac arweiniad gan ei
fod yn bosibl
i’r dyfarniad fod yn cyfeirio
at elfennau eraill heblaw addoli ar
y cyd a datblygiad ysbrydol a moesol. (b) Tywyswyd
yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Morfa Nefyn, Beddgelert, Hirael, Llanaelhaearn, Llanelltyd, Y Traeth, a dwy Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle a’r Gader gan
gyfeirio at y tri chwestiwn
allweddol sef: 1.
Pa mor dda yw’r
deilliannau mewn Addysg Grefyddol? 2. Pa mor dda yw’r ddarpariaeth mewn Addysg Grefyddol? 3. Pa mor dda yw’r ddarpariaeth ar gyfer addoli
ar y cyd? Gwerthfawrogwyd yr hunan arfarniadau
gan Aelodau CYSAG a derbyniwyd
eglurhad gan Miss Bethan
James ynglŷn â’r blwch sy’n nodi
safonau medrau llythrennedd, rhifedd, TGCh a meddwl a’i
fod wedi ei gynnwys er
annog ysgolion i wahaniaethu safonau addysg grefyddol a’r medrau ac i fod yn fwy
penodol o’r math o elfennau a gyflwynir yn yr adroddiad. Tynnwyd sylw at elfennau diddorol a wna rhai ysgolion ac y byddir yn croesawu
ysgolion i fynychu cyfarfodydd CYSAG i’r dyfodol i rannu arferion da gydag Aelodau. PENDERFYNWYD: (a) Derbyn a nodi cynnwys
yr arolygiadau a’r hunan arfarniadau. (b) Cymeradwyo i Miss Bethan James, Ymgynghorydd
Her, wahodd Ysgol i roi cyflwyniad ar unrhyw
elfen o’r hunan arfarniad a fyddai o ddiddordeb i CYSAG. |
|
CANLYNIADAU ADDYSG GREFYDDOL 2015 PDF 625 KB I dderbyn adroddiad gan Ymgynghorydd HerGwE ar yr uchod. Cofnod: Cyflwynwyd a thywyswyd yr Aelodau drwy ganlyniadau Haf 2015 sef asesiadau athrawon
Cyfnod Allweddol 3 lle gwelwyd bod 94% wedi cyrraedd lefel
5+. Rhagwelir
y byddai mwy o bwysau i’r dyfodol
i gyrraedd lefelau 6 a
7. Llongyfarchir
yr ysgolion lle gwelir bod 25 disgybl yng Ngwynedd
yn deilwng o Lefel 8 ac roedd hyn yn glod
i’r ysgolion hynny. O safbwynt TGAU, esboniwyd bod pob plentyn yn
ymgymryd â chwrs statudol addysg grefyddol ond bod astudiaethau crefyddol yn cyfeirio at y cwrs dewisol. Rhaid cofio bod rhai ysgolion yn cynnig
y cwrs gydag ysgolion eraill yn cydweithio a rhannu adnoddau. Tynnwyd sylw bod y niferoedd o ymgeiswyr yn cadw’n
weddol gyson o ystyried demograffi gyda 371 wedi sefyll
yr arholiad a thraean ohonynt yn llwyddo i gael
A*. Esboniwyd ei fod yn
anodd cymharu canlyniadau yn genedlaethol oherwydd ni wyddys beth
yw’r trefniadau gan fod rhai disgyblion
yn dilyn y cwrs ar ôl
Ysgol a rhai yn ei gyflawni ym
Mlwyddyn 10, ac amrywiaeth yn yr oriau
dysgu sydd ar gael i’r
ymgeiswyr. Ar y cyfan, nodwyd bod canlyniadau ar gyfer y cwrs llawn
yn dda gyda
chanlyniadau’r merched yn rhagori ar
ganlyniadau’r bechgyn. Fodd bynnag, roedd rhai
ysgolion yn cynnal diddordeb bechgyn mewn astudiaethau
crefyddol oherwydd, mai’n debyg, natur
y pynciau cyfoes. Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod ynglŷn
â’r bwlch rhwng merched a bechgyn, nodwyd bod hyn yn her a sialens
i ysgolion ond bod cwrs Manyleb B wedi cynyddu o ran poblogrwydd gyda’r bechgyn oherwydd efallai'r elfennau materion cyfoes a.y.b. ac y dylid cyflwyno’r pynciau hyn iddynt ynghynt
yn eu gyrfa
addysg grefyddol. Cydnabuwyd bod ymdrech yn cael
ei wneud yn yr ysgolion
ac yn aml iawn bod Adrannau yn cystadlu
yn erbyn ei gilydd am yr
un disgyblion o ran dewisiadau
pynciol. Esboniwyd bod disgyblion yn y gorffennol wedi cael dewis o ddau
gwrs sef cwrs traddodiadol (Manyleb A) a chwrs cyfoes yn astudio
pynciau llosg o safbwynt gwahanol grefyddau (Manyleb B). Roedd cwrs Manyleb B wedi cynyddu o ran poblogrwydd ac yn llwyddiannus hyd yn oed gyda
bechgyn. Fodd bynnag, roedd
bwriad gan CBAC i gyflwyno cwrs newydd
yn 2017 sy’n cyfuno’r cwrs traddodiadol
a’r cwrs cyfoes. Penderfynwyd: Derbyn, nodi a diolch am y wybodaeth uchod. |
|
CYNLLUNIAU LLYWODRAETH CYMRU O FEWN ADDYSG GREFYDDOL PDF 180 KB I ystyried
llythyr a dderbyniwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau ynghylch newidiadau i Addysg Grefyddol. Cofnod: Cyfeiriwyd at lythyr oddi wrth
y Gweinidog Addysg a Sgiliau
ynglŷn â newidiadau i addysg grefyddol yn sgil newidiadau
i’r cwricwlwm yn deillio o adroddiad
yr Athro Graham Donaldson. Tynnwyd sylw at baragraff sy’n nodi gwahoddiad
i gonsortia rhanbarthol addysg (sef GwE) i weithio gydag ysgolion
cynradd, uwchradd ac arbennig er mwyn
iddynt geisio bod yn Ysgolion Arloesol. Byddai’r ysgolion hyn yn
arwain ar ddylunio a datblygu’r cwricwlwm newydd, fel rhan o bartneriaeth
drwy Gymru, ynghyd a rhanddeiliad perthnasol. Teimlwyd y byddai hyn yn
faich ar yr ysgolion arloesol
ac o safbwynt Gwynedd dylai
CYSAG gynnal trafodaethau gyda’r ysgolion er mwyn sicrhau
bod y briff ym maes addysg grefyddol
yn addas a pherthnasol. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU CYSAG GWYNEDD 2015-2016 I ystyried
cynllun datblygu drafft ar gyfer
CYSAG Gwynedd am y flwyddyn 2015-16. Cofnod: Adroddodd Miss Bethan James
y bu i CYSAG ddatblygu cynllun gweithredu llynedd yn amlinellu’r
hyn roedd CYSAG am gyflawni yn ystod
y flwyddyn. Nid oedd cynllun
gweithredu wedi ei ddrafftio ar
gyfer 2015-16 hyd yn hyn ond
fe drafodwyd a phenderfynwyd ar gynnwys y materion canlynol fel rhan
o’r cynllun: (a) Datblygu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau rheolaethol cydlynwyr ac arweinyddion pwnc (b) Annog athrawon addysg grefyddol Gwynedd (sector cynradd
ac uwchradd) ac Aelodau CYSAG Gwynedd i gyfrannu’n llawn at unrhyw adolygiad o’r cwricwlwm a’r
trefniadau asesu (c) Sicrhau bod yr ymgynghorydd her yn cynnig gweithdai
tymhorol er mwyn cynnig arweiniad
i gydlynwyr pwnc wrth iddynt hunan
arfarnu addysg grefyddol ac addoli ar y cyd yn
eu hysgolion (d) Sicrhau bod ysgolion yn ymateb
i unrhyw ddiffygion sydd wedi dod
i’r amlwg yn ystod yr
ymarferion hunan arfarnu a/neu ymweliad
arolygu ESTYN Mewn perthynas â (d) uchod, nodwyd bod Ysgolion Dyffryn Nantlle a’r Gader wedi
gweithio’n galed yn dilyn arolygiadau
diweddar a hyderir y byddent yn barod
i groesawu Aelodau CYSAG i’r
ysgolion i weld y cynnydd neu yn rhoi
cyflwyniad yng nghyfarfod nesaf CYSAG. Yn achos Ysgol y Gader roedd cyfeiriad yn Adolygiad ESTYN nad oedd rhai
athrawon wedi cynnal addoliad ar y cyd yn
ddyddiol ac awgrymodd yr Ymgynghorydd Her y byddai’n ymweld â’r Ysgol yn y dyfodol. Penderfynwyd: Cymeradwyo i’r Ymgynghorydd Her i: (a) lunio cynllun gweithredu
am y flwyddyn 2015/16 (b) drefnu iddi hi, ynghyd a Chadeirydd CYSAG, ymweld ag Ysgolion Dyffryn Nantlle a’r Gader pan yn
gyfleus. |
|
CYMDEITHAS CYSAGAU CYMRU PDF 444 KB I dderbyn
cofnodion cyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd fel a ganlyn: (a)
25 Mehefin 2015 yn Yr Wyddgrug, Sir Fflint (b)
25 Tachwedd 2015, Glyn Ebwy Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a) Cyflwynwyd y cofnodion Cyfarfodydd diwethaf o’r Gymdeithas a gynhaliwyd ar: 25
Mehefin 2015 25
Tachwedd 2016 (b)
Rhoddwyd sylw i lythyr a dderbyniwyd gan Libby Jones, Ysgrifenyddes Cymdeithas CYSAGau Cymru yn gwahodd
enwebiadau ar gyfer Pwyllgor Gwaith Cymdeithas CYSAGau Cymru. Tynnwyd sylw mai Mrs Ruth Davies oedd cynrychiolydd CYSAG Gwynedd ar y Pwyllgor Gwaith
ond ei bod bellach wedi ymddiswyddo
ers mis Tachwedd
2015 ac yn unol â chyfansoddiad Cymdeithas CYSAGau Cymru bod hawl gan Wynedd
i enwebu aelod i fynychu’r cyfarfodydd yn ei lle
tan y cyfarfod blynyddol sydd i’w gynnal
ym Mehefin 2016. Nodwyd bod cyfarfod nesaf y Gymdeithas ar 8 Mawrth 2016 yn Sir Fynwy. Awgrymwyd os oes gan
unrhyw Aelod ddiddordeb mewn mynychu cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru iddynt gysylltu
yn uniongyrchol a Chadeirydd CYSAG Gwynedd a / neu
Miss Bethan James, Ymgynghorydd Her GwE. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion. (b)
Cymeradwyo i Aelodau gysylltu
os oes ganddynt
ddiddordeb mewn mynychu Cyfarfodydd Cymdeithas CYSAGau Cymru ar
ran CYSAG Gwynedd. |