Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Rhonwen Jones 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI Quiet reflection or prayer. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Y Cyng. Dewi Roberts, Elin Walker Jones, Heledd Jones (Undebau
Athrawon), Anest G Frazer (Yr Eglwys yng Nghymru), Cathryn Davey (UCAC), Edward
Pari-Jones (Dyneiddwyr) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Nid oedd unrhyw ddatgan buddiant personol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cadarnhau cofnodion cyfarfod
o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12fed Mehefin 2019 fel rhai cywir ac yn trafod
unrhyw fater sydd yn codi o’r cofnodion. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2019 fel rhai cywir yn
ddarostyngedig i’r cywiriadau canlynol: Presenoldeb –
angen cofnodi presenoldeb Y Cynghorydd Mike Stevens Eitem 8 -
defnyddir y term ymddiswyddiadau - angen cywiro hwn i ddiswyddiadau Yn y cofnod,
‘Ymateb Llythyr Kirsty Williams’ awgrymwyd ysgrifennu at Kirsty Williams -
nodwyd bod y cofnod yn aneglur ac mai’r penderfyniad oedd ysgrifennu at Kirsty
Williams a Siân Gwenllïan fel Aelod Cynulliad. |
|
Mae
Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y cynnig i sicrhau y gall pob dysgwr
fanteisio ar y cwricwlwm llawn. Yn ei gynnig mae Llywodraeth Cymru yn
holi barn ar:
Mae’r
gweinidog yn awyddus i sicrhau ei bod yn cynnal i bob plentyn a pherson ifanc
maen ysgolion a gynhelir astudio Addysg Grefyddol ac Addysg Cydberthynas a
Rhywioldeb ac i newid enw Addysg Grefyddol i ‘Crefyddau a bydolygon’. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Arweiniodd Mair Huws y drafodaeth ar
ymatebion y Cyngor i’r ddogfen ymgynghori a nodwyd y pwyntiau cyffredinol
canlynol cyn ymateb i’r cwestiynau penodol :-
Mae yn gamgymeriad nadu rhieni rhag gwneud
unrhyw beth Ar y llaw arall, ni ddylid rhoi y dewis i
rieni a dylid tynnu yr hawl oddi wrthynt Mae yn bwysig i
blant gael addysg lawn, gytbwys Mae yn anodd deall paham fyddai rhieni am
wrthod i’w plant wneud y pwnc Mae gwerth mawr i’r pwnc gan ei fod yn bwnc
sydd yn cyffwrdd â chymaint o bynciau eraill Mae angen i’r pwnc
gael ei drin yn gyfartal, fel pynciau eraill - hynny yw, nid oes opsiwn i
eithrio allan o bynciau eraill Tybed fyddai newid enw y pwnc o
gymorth? Onid yw plant yn eu colled o
beidio bod yn mynychu y gwersi hyn? Nodwyd y byddai yn
ddiddorol cael y ffigyrau sydd yn dangos faint o rieni sydd wedi tynnu eu plant
allan o wersi y pwnc drwy Wynedd. Cyfeiriwyd at y
plant rheiny sydd yn cael eu dysgu adref a chwestiynwyd a ydynt yn cael gwersi
addysg grefyddol? Awgrymwyd efallai y
byddai modd i CYSAG greu pecyn neu restr ddarllen ar eu cyfer. Nododd Mair Huws y byddai yn holi yr Adran ac
yn trefnu i’r mater gael ei drafod mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cymerwyd pleidlais
ar y mater a chytunwyd bod y CYSAG o blaid tynnu yr hawl i eithrio. Cytunwyd y byddai Mair Huws yn cynnwys y
sylwadau uchod wrth ymateb i’r cwestiynau fel a ganlyn : Cwestiwn
1
– Beth fyddai'r goblygiadau i ddysgwyr, rhieni/gofalwyr ac ysgolion petai'n
ofynnol i bob dysgwr gael gwersi Addysg Grefyddol a/neu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
yn y cwricwlwm newydd? Nodwyd fod gan
rieni yr hawl i dynnu eu plant o bethau eraill, ond hefyd bod gan ddisgyblion
hawliau hefyd. Nodwyd ei bod yn drafodaeth
anodd, ond diddorol. Mae yn bwysig
peidio anwybyddu hawliau rhieni, ond cwestiynwyd pam tynnu sylw i’r pwnc
arbennig hwn. Nodwyd nad oes goblygiadau
i rieni na phlant gan ei fod yn statudol ar hyn o bryd. Efallai mai un goblygiad fyddai mwy o addysgu
yn y Cartref? Cwestiwn
2
–Pa gymorth, gwybodaeth ac arweiniad fyddai eu hangen petai'r dull gweithredu
hwn yn cael ei fabwysiadu? Nodwyd y byddai rhieni angen gwybodaeth
gefndirol ac y byddai angen pecyn ar y penaethiaid. Nodwyd gyda’r holl newidiadau sydd yn mynd
ymlaen yn y maes Dyniaethau ac Addysg Iechyd, bod angen llawer iawn o gymorth
yn gyffredinol ar ysgolion Cwestiwn
3 – Ein cynnig yw na ddylai rhieni/gofalwyr allu atal eu plant rhag cael
gwersi Addysg Grefyddol neu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb. Caiff hyn ei
gyflwyno o fis Medi 2022, i bob dysgwr oed cynradd a dysgwyr ym Mlwyddyn 7 yn
yr ysgol uwchradd (gyda grwpiau blwyddyn eraill yn cael eu hychwanegu bob
blwyddyn). Gweler uchod. Cwestiwn
4
– Beth sy'n enw priodol i ‘addysg grefyddol’, er mwyn adlewyrchu'r cwmpas
ehangach a gynigir ar gyfer y cwricwlwm newydd yn gywir? Cafwyd yr awgrymiadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
HUNAN ARFARNU YSGOLION PDF 59 KB a. Adroddiad llafar gan Glenda Evans, Pennaeth Ysgol Brynaerau b. I
dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion
ar gyfer cyfnod yr Haf i Hydref 2019. (Copi’n amgaeedig) c. I
gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Derbyniwyd yr
adroddiad. Penderfynwyd: ysgrifennu ar yr
ysgolion i’w llongyfarch, ac i ail-wahodd Glenda Evans i’r cyfarfod nesaf. |
|
AWDIT ORIAU GWERSI ADDYSG GREFYDDOL MEWN YSGOLION UWCHRADD PDF 48 KB I gyflwyno'r nifer o wersi Addysg Grefyddol a gynhaliwyd yng Nghyfnod Allweddol 3 a 4 yn dilyn trafodaeth ar y mater yn y cyfarfod blaenorol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd bod amrywiaeth a gwahaniaeth o ysgol i
ysgol. Nodwyd y byddai yn ddiddorol
cymharu y canlyniadau yn erbyn yr amser sydd yn cael ei roi i’r disgyblion. Penderfynwyd
ail-gysylltu â’r ysgolion i ofyn am ddadansoddiad o’r ffigyrau. Nodwyd os mai gwaelodlin yw hon yna mae angen
iddi fod yn hollol gywir. |
|
COFNODION CYFARFOD CYSAGAU CYMRU 28AIN MEHEFIN 2019 PDF 367 KB Er
gwybodaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod diwethaf o’r Gymdeithas a
gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2019 Penderfynwyd: Derbyn a nodi cynnwys y cofnodion. Dechreuodd y cyfarfod am 2:00 pm a daeth i ben am
3.20 pm |