Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

Gweddi neu Fyfyrdod Tawel

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gair gan Y Cynghorydd Menna Baines a chyfle am fyfyrdod. 

 

2.

ETHOL CADEIRYDD

I Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Hwn am y Flwyddyn 2023/2024

Penderfyniad:

Ail-ethol Y Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2023/24

 

 

Cofnod:

Ail-etholwyd Y Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd i’r Pwyllgor am y cyfnod 2023/2024

 

 

3.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Hwn am y Flwyddyn 2023/2024

 

Penderfyniad:

Ail-ethol Y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2023/24

 

Cofnod:

Ail-etholwyd Y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is-Gadeirydd i’r Pwyllgor am y cyfnod 2023/2024

 

4.

YMDDIHEURIADAU

I Dderbyn Unrhyw Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Elin Walker Jones, John P Roberts, Angela Russell, Beca Brown ac Eirian Bradley Roberts (Yr Eglwys Gatholig)

 

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I Dderbyn Unrhyw Ddatganiad o Fuddiant Personol

Cofnod:

6.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth

Cofnod:

7.

COFNODION pdf eicon PDF 296 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023, fel rhai cywir a bu i’r Cadeirydd eu llofnodi. 

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2021-2022 pdf eicon PDF 488 KB

I ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG ar gyfer 2021 - 2022

Penderfyniad:

Derbyn yr Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2021-22 yn ddarostyngedig i

Adolygu 3.1 i gynnwys cyfeiriad at benderfyniad y Cabinet yn 2019 i addasu y cyfansoddiad er mwyn ehangu cynrychiolaeth o’r crefyddau ar CYSAG ac i adlewyrchu y newid yn enwau yr Undebau Athrawon.

 

Cofnod:

Diolchwyd am yr adroddiad drafft a nodwyd y canlynol :

3.1 – Aelodaeth - mae angen ychwanegu manylion penderfyniad y Cabinet (cyfarfod 2019) i addasu y cyfansoddiad er mwyn ehangu y gynrychiolaeth o’r crefyddau eraill gan fod hwn yn ychwanegiad cyfansoddiadol pwysig, ynghyd â gwirio enwau yr Undebau Athrawon.

 

Cyfeiriwyd at wall teipio yn y fersiwn Saesneg, a chwestiynwyd y defnydd o’r term “Penderfyniad“ yn yr Adroddiad.  Cadarnhawyd y defnyddir “Penderfyniad” mewn perthynas ag addoli ar y cyd, sydd yn wasanaeth Cristnogol yn bennaf, ond yn gallu amrywio o Ysgol i Ysgol, ond nad oedd unrhyw Ysgol wedi gofyn i amrywio yn ystod cyfnod yr Adroddiad

 

Cadarnhawyd bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi derbyn Canllawiau Llywodraeth Cymru fel Maes Llafur cytunedig mewn cyfarfod blaenorol, ond bod Gwynedd angen creu ei Chynllun ei hun, yn seiliedig ar y Canllawiau, ac unwaith byddai y Cynllun yn derbyn sêl bendith CYSAG y byddai yn dod yn Gynllun Terfynol.  Nodwyd y gobaith bod gan ysgolion yr adnoddau angenrheidiol, yn enwedig yn y Gymraeg, er mwyn i’r Cynllun lwyddo.

Rhoddodd y Grŵp ei sêl bendith i’r Adroddiad Blynyddol yn ddarostyngedig i'r ychwanegiadau uchod.

 

PENDERFYNWYD:  Derbyn yr Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2021-22 yn ddarostyngedig i

Adolygu 3.1 i gynnwys cyfeiriad at benderfyniad y Cabinet yn 2019 i addasu’r cyfansoddiad er mwyn ehangu cynrychiolaeth o’r crefyddau ar CYSAG ac i adlewyrchu y newid yn enwau yr Undebau Athrawon.

 

9.

DIWEDDARIAD : CANLLAWIAU PRESENNOL ADDOLI AR Y CYD

Diweddariad ar y Canllawiau Presennol Addoli ar y Cyd a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol.  

Penderfyniad:

Ni fu modd derbyn digon o enwebiadau i sefydlu Gweithgor i ddiweddaru y Canllawiau Presennol Addoli ar y Cyd (yn unol â’r Penderfyniad yng nghyfarfod CYSAG 14 Mawrth, 2023).  O ganlyniad penderfynwyd derbyn cynnig y Parchedig Nick Sissons i edrych ar y canllawiau ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf.  Rhoddwyd enw arall ymlaen i wneud y gwaith ar y cyd, ond nid oedd yr Aelod honno yn bresennol.

 

Cofnod:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y drafodaeth ar y canllawiau a gynhaliwyd yn y cyfarfod blaenorol, ble daethpwyd i’r casgliad eu bod gwirioneddol angen eu diweddaru gan eu bod yn cyfeirio at Gristnogaeth yn unig, ac nad oedd yr iaith yn gynhwysfawr erbyn hyn.  Yn y cyfarfod hwnnw, bu i CYSAG gytuno i ffurfio Gweithgor i edrych ar y Canllawiau presennol.  Adroddwyd, er holi, mai dau enw yn unig gafodd eu rhoi ymlaen ar gyfer y dasg, ac o ganlyniad ni fu modd i’r Gweithgor gyfarfod, ac ni phenodwyd neb i arwain ar y gwaith.

 

Adroddwyd bod ceisiadau yn dod i law am y ddogfen yn eithaf aml, er ei bod wedi dyddio, ond nid oedd yn cael ei hystyried yn ddogfen fyw.  Nodwyd bod y Ddeddfwriaeth yn parhau i fod yr un fath, ac mai ieithwedd y ddogfen sydd wedi dyddio, a bod angen ychwanegu  gwybodaeth am grefyddau ar wahân i Gristnogaeth. 

 

Cynigiodd Y Parchedig Nick Sissons edrych ar y ddogfen ac ailgysylltu â’r Aelod arall oedd wedi gwirfoddoli ar gyfer y dasg gan adrodd yn ôl gyda syniadau cychwynnol yn y cyfarfod nesaf.  Cwestiynwyd tybed fyddai modd chwilio am arbenigwyr yn y maes, o’r tu allan i’r CYSAG, i roi mewnbwn i’r gwaith?

 

PENDERFYNWYD: Derbyn cynnig y Parchedig Nick Sissons i edrych ar y canllawiau ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf.  Gan fod enw arall hefyd wedi ei roi ymlaen yn y cyfarfod blaenorol i eistedd ar y Gweithgor, cytunwyd i gysylltu gyda’r Aelod honno hefyd gan nad oedd yn bresennol.

 

10.

CEFNOGAETH ARBENIGOL I'R CYSAG

Trafodaeth ar y Gefnogaeth Arbenigol i’r CYSAG

Penderfyniad:

Yn dilyn diweddariad gan y Pennaeth Addysg, penderfynodd y pwyllgor roi eu sêl bendith i’r Pennaeth drafod y posibilrwydd o gomisiynu cefnogaeth arbenigol i’r CYSAG drwy GwE, a symud y mater yn ei flaen cyn gynted â phosib.

 

Cofnod:

Atgoffwyd pawb fod  cefnogaeth arbenigol Swyddog GwE wedi ei thynnu yn ôl yn 2018, sydd wedi bod yn fater o ofid ac wedi amlygu diffyg arbenigedd yn y maes.

 

Adroddodd y Pennaeth Addysg ei fod wedi bod yn ceisio cael datrysiad a’i fod erbyn hyn mewn trafodaethau am y posibilrwydd o gomisiynu cefnogaeth arbenigol i’r CYSAG drwy GwE, er mwyn symud y mater yn ei flaen, yn ddarostyngedig i sêl bendith GwE.

 

PENDERFYNWYD: Rhoi sêl bendith i’r Pennaeth drafod y posibilrwydd o gomisiynu cefnogaeth arbenigol i’r CYSAG drwy GwE, gan symud y mater yn ei flaen cyn gynted â phosib.

 

11.

MATERION Y CCYSAGau pdf eicon PDF 392 KB

 

i.          Canllawiau Ymweld ac Ysgolion

ii.         Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

iii.        Ymgynhoriad Cymwysterau Cymru: Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16

iv.        Cyfarfodydd CCYSAGauC 19 Mehefin, 2023

v.         Canlyniadau Etholiadau Pwyllgor Gwaith y CCYSAGauC

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr Ohebiaeth gan nodi

 

i.    Canllawiau Ymweld ag Ysgolion : dogfen gynhwysfawr a defnyddiol iawn

ii.   Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg : gofyn i GwE gynnal trafodaeth ynglŷn â’r model newydd â’i addasrwydd ar gyfer rhoi sylw digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried y ddarpariaeth adnoddau drwy’r iaith Gymraeg.  Penderfynwyd hefyd ysgrifennu llythyr ar y ddarpariaeth o Adnoddau Iaith Gymraeg (i sicrhau eu bod ar gael yr un pryd ag adnoddau Saesneg) yn enw CYSAG, y Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg at Brif Weithredwr CBAC, Pennaeth Adran Adnoddau y CBAC, Y Gweinidog Addysg a’r Is-bwyllgor Cymraeg

iii.    Cofnodion Drafft CCYSAGau 21 Mawrth, 2023 : nodi o’r papurau bod gan y CCYSAGau waith diweddaru nifer o ddogfennau megis y Llyfryn Ymuno a CYSAG, maes o law

iv.    Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru : cefnogi ymateb y CCYSAGau

 

Cofnod:

Nodwyd bod y Canllawiau Ymweld ag Ysgolion  yn ddogfen gynhwysfawr a defnyddiol iawn.

 

O ran y cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, nodwyd y dymuniad y byddai deunydd yn yr iaith Saesneg ac yn yr iaith Gymraeg yn cyrraedd yr un pryd.  Adroddodd y Pennaeth Addysg ei fod yn gam pwysig a bod gan CYSAG gyfraniad pwysig iawn i’w wneud, a bod llawer o gyfleoedd i ddysgu Addysg Grefyddol o fewn y dyniaethau.  Cyfeiriodd hefyd at gyflwyniad a dderbyniwyd gan Lea Crimes ar ddatblygu’r cwricwlwm, oedd yn enghraifft dda o sut i ddatblygu’r cwricwlwm. 

 

Nodwyd bod rhaid cynnig ffyrdd gwahanol o gyflwyno gan edrych ar addysg gychwynnol athrawon, a’i bod yn hollbwysig cadw llygad ar y sefyllfa.  Nodwyd yr angen i weld beth fydd yn digwydd gyda TGAU.  Efallai bod mwy nag un platfform i leisio barn. 

 

Teimlwyd y byddai yn fuddiol gofyn i GwE gynnal trafodaeth ynglŷn â’r model newydd a’i  addasrwydd ar gyfer rhoi sylw digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried y ddarpariaeth adnoddau drwy’r iaith Gymraeg.  Penderfynwyd hefyd ysgrifennu llythyr am y ddarpariaeth o Adnoddau cyfrwng Cymraeg (i sicrhau eu bod ar gael yr un pryd ag adnoddau Saesneg) yn enw CYSAG, y Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg at CBAC, y Gweinidog Addysg a’r Is-bwyllgor Cymraeg.

 

Nodwyd efallai fod angen defnyddio grym geiriau y Papur Gwyn maes o law fel cyfle pellach i leisio barn.

 

O ran Cofnodion Drafft CCYSAGau 21 Mawrth, 2023 a’r papurau perthnasol adroddwyd bod gan y CCYSAGau waith diweddaru nifer o ddogfennau, gan gynnwys newid fformat adroddiadau, gan fod canllawiau wedi eu dyddio.

 

O ran yr Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru: Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16, cadarnhawyd bod CCYSAGau wedi  cyflwyno dadleuon cryf, a dderbyniodd gefnogaeth y CYSAG .

 

PENDERFYNWYD :

i.    Canllaw Ymweld ag Ysgolion: dogfen gynhwysfawr a defnyddiol iawn

ii.   Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: gofyn i GwE gynnal trafodaeth ynglŷn â’r model newydd â’i addasrwydd ar gyfer rhoi sylw digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried y ddarpariaeth adnoddau drwy’r iaith Gymraeg.  Penderfynwyd hefyd ysgrifennu llythyr am y ddarpariaeth o Adnoddau cyfrwng Cymraeg (i sicrhau eu bod ar gael yr un pryd ag adnoddau Saesneg) yn enw CYSAG, y Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg at Brif Weithredwr CBAC, Pennaeth Adran Adnoddau y CBAC, Y Gweinidog Addysg a’r Is-bwyllgor Cymraeg

iii.    Cofnodion Drafft : nodi bod gan y CCYSAGau waith diweddaru dogfennaeth

iv.    Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru: cefnogi ymateb y CCYSAGau

 

 

 

 

 

 

                        Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 p.m. a daeth i ben am 16:45 p.m.

 

 

 

 

CADEIRYDD