Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Menna Baines.

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

 

           Cynghorydd Dewi Jones (Aelod Cabinet Addysg)

           Nick Sissons (Yr Eglwys Fethodistaidd)

           Joanna Thomas (Yr Eglwys yng Nghymru)

           Eurfryn Davies (Undeb Bedyddwyr Cymru)

           Bethan Davies Jones (Undeb yr Annibynwyr Cymraeg)

           Gwern ap Rhisiart (Pennaeth Addysg)

           Gwawr Maelor Williams (Eglwys Bresbyteraidd Cymru)

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw fater brys yn ôl barn y Cadeirydd i’w ystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 132 KB

Y Cadeirydd i gynnig bod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a

gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2025 yn cael eu llofnodi fel cofnod cywir.

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Mehefin 2025 fel cofnodion cywir.

6.

MATERION YN CODI

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG GWYNEDD 2024-25 pdf eicon PDF 295 KB

I dderbyn Adroddiad Blynyddol CYSAG Gwynedd am 2024-25.

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad blynyddol 2024-25.

8.

CYNLLUN DATBLYGU POSIBL CYSAG 2025-26 pdf eicon PDF 291 KB

I drafod sut y gall CYSAG gefnogi ei ysgolion orau

i. Hyrwyddo CYSAG

ii. Datblygiad o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg

iii. Datblygiad o Addoli ar y Cyd

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Phil Lord (Ymgynghorydd Annibynnol), gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

-        Awgrymwyd y dylai CYSAG greu cynllun datblygu gyda thua tri amcan i gefnogi ei waith ac er mwyn gallu adrodd ar ddiwedd y flwyddyn yn erbyn yr amcanion hynny.

-        Awgrymwyd blaenoriaethu’r tri amcan canlynol: datblygu effeithiolrwydd CYSAG a hyrwyddo CYSAG o fewn ysgolion; monitro a chefnogi darpariaeth AG a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ysgolion yr Awdurdod Lleol; a monitro a chefnogi darpariaeth addoli ar y cyd a’r datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol yn ysgolion yr Awdurdod.

-        Awgrymwyd creu cylchlythyr i’w anfon i ysgolion i hyrwyddo elfennau megis y rhestr chwarae CGM gan Lywodraeth Cymru, EFTRE a CCYSAGAUC.

-        Pwysleisiwyd pwysigrwydd cael deialog gyda ysgolion er mwyn sicrhau bod CYSAG yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o fewn ysgolion y sir, a bod ysgolion yn ymwybodol o’r hyn sy’n cael ei drafod mewn cyfarfodydd CYSAG.

-        Pwysleisiwyd bod pryder ynglŷn â’r capasiti i gyflawni popeth a awgrymwyd, ond bod angen parhau’n uchelgeisiol.

Diolchwyd am y cyflwyniad.

Nodwyd bod yr awgrym o greu cylchlythyr i’w rannu ymysg ysgolion yn un buddiol. Awgrymwyd darparu cylchlythyr yn dilyn pob cyfarfod CYSAG er mwyn codi ymwybyddiaeth ysgolion o’r hyn sy’n cael ei gyflwyno a’i drafod o fewn y cyfarfod. Nodwyd y byddai modd cynnwys dolenni o fewn y cylchlythyr i ddeunyddiau addysgu a amlygwyd o fewn y trafodaethau. Pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd sicrhau bod y cylchlythyr mewn fformat sy’n addas ar gyfer cynulleidfa ysgolion.

Mynegwyd barn bod y cyswllt rhwng CYSAG ac ysgolion wedi gwanhau, ac felly croesawyd unrhyw ddull o gryfhau’r cyswllt hwn yn y dyfodol. Nodwyd nad oedd y pwyllgor yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o fewn ysgolion gan nad oedd adroddiadau hunanasesu ysgolion wedi’u derbyn. Cwestiynwyd a oedd modd derbyn yr adroddiadau hunanasesu hyn, a chwestiynwyd ymhellach a oedd modd creu cyswllt drwy ymweld ag ysgolion. Pwysleisiodd y pwyllgor bwysigrwydd deall beth fyddai’n fuddiol i ysgolion er mwyn blaenoriaethu gwaith y pwyllgor wrth symud ymlaen.

Nodwyd bod un llywodraethwr o fewn Ysgol Dyffryn Ogwen yn cymryd cyfrifoldeb dros edrych ar un pwnc, ac os oedd hyn yn arfer cyffredin ym mhob ysgol uwchradd, awgrymwyd creu cyswllt er mwyn anfon adnoddau atynt a derbyn adroddiad blynyddol ganddynt. Cytunwyd â’r awgrym hwn, gan nodi pwysigrwydd peidio ag anghofio ysgolion cynradd o fewn y broses. Pwysleisiwyd nad oedd yn realistig derbyn adroddiad gan bob ysgol, ond y byddai modd derbyn adroddiadau gan ddigon o ysgolion i roi darlun realistig o’r hyn sy’n digwydd yn ysgolion y sir.

Nododd yr Ymgynghorydd Annibynnol fod rhestr o gwestiynau ar gael i lywodraethwyr eu defnyddio wrth holi athrawon o fewn ysgolion. Awgrymwyd dosbarthu’r rhestr hon i aelodau’r pwyllgor er mwyn i lywodraethwyr ei defnyddio ac adrodd yn ôl ar y canfyddiadau. Awgrymwyd hefyd y gallai aelodau’r pwyllgor sydd hefyd yn llywodraethwyr dreialu’r drefn newydd a awgrymwyd. Nodwyd ymhellach y byddai’n bosibl creu adroddiad o’r ymatebion i’r cwestiynau i’w gyflwyno i gyfarfodydd CYSAG drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYFARWYDDWR ADDYSG NEWYDD ESGOBAETH BANGOR

I gyflwyno Joanna Thomas.

Cofnod:

Penderfynwyd gohirio’r eitem i’r cyfarfod nesaf.

10.

RHESTR CHWARAE CGM LLYWODRAETH CYMRU

I dderbyn cyflwyniad ar y cymorth a ddarperir i ysgolion a llywodraethwyr ynglŷn â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Repository - Hwb

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Phil Lord (Ymgynghorydd Annibynnol), gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

-        Bod Llywodraeth Cymru wedi’u comisiynu drwy CCYSAGAUC i gefnogi ysgolion gyda’r trosglwyddiad i’r cwricwlwm newydd.

-        Bod yr adnoddau yn amlygu’r gwahaniaethau rhwng CGM ac Addysg Grefyddol.

-        Bod chwe modiwl o fewn yr adnodd, sef: Blynyddoedd Cynnar, Ysgolion Cynradd, Ysgolion Uwchradd, Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), Penaethiaid a Llywodraethwyr.

-        Bod y chweched modiwl yn newydd ac ar gael yn benodol ar gyfer llywodraethwyr.

-        Bod esiamplau cryf ar gael ynglŷn â sut i ddefnyddio’r wybodaeth sydd o fewn yr adnoddau yn yr ystafell ddosbarth.

-        Bod y modiwl ar gyfer penaethiaid yn cynnwys rhestr sy’n amlygu goblygiadau’r newidiadau yn y cwricwlwm iddynt, yn enwedig ynglŷn â’r ffaith nad oes gan rieni bellach hawl i dynnu eu plentyn yn ôl o ddysgu CGM.

-        Bod goblygiadau’r newidiadau yn y cwricwlwm ar staffio hefyd wedi’u hamlygu, gan nad oes gan athrawon bellach yr hawl i dynnu eu hunain yn ôl o addysgu CGM.

-        Bod elfennau ymarferol o fewn pob modiwl.

-        Awgrymwyd rhoi cyflwyniad byr o tua 10 munud ar y rhestr chwarae mewn cyfarfodydd llywodraethwyr er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o’r adnodd sydd ar gael.

Diolchwyd am y cyflwyniad, gan nodi bod yr adnodd yn un gwerthfawr i ysgolion y sir.

 

11.

POLISIAU ENGHREIFFTIOL CGM A ADDOLI AR Y CYD pdf eicon PDF 125 KB

I ystyried cefnogi ysgolion gyda pholisiau enghreifftiol o CGM a addoli ar y cyd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Phil Lord (Ymgynghorydd Annibynnol), gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

-        Bod ysgolion yn mynegi pryder ynghylch rhieni sy’n dymuno tynnu eu plant yn ôl o wersi CGM am nad ydynt yn dymuno i’w plant ddysgu am wahanol grefyddau.

-        Bod cael polisi yn ddefnyddiol yn yr achosion hynny lle mae rhieni yn mynnu tynnu eu plant yn ôl o wersi CGM, gan fod y polisi yn esbonio bwriadau ac amcanion gwersi CGM, megis meithrin dealltwriaeth, goddefgarwch ac amlygu’r amrywiaeth eang o grefyddau sy’n bodoli yng Nghymru.

-        Bod polisi o’r fath yn cynnig gwarchodaeth i ysgolion.

-        Bod y polisi addoli ar y cyd yn rhoi sylfaen i ysgolion a rhieni gynnal trafodaethau ynghylch amcanion addoli ar y cyd.

-        Bod y polisi addoli ar y cyd yn benodol ar gyfer ysgolion sirol.

-        Bod diffiniad o addoli ar y cyd wedi’i gynnwys yn y polisi drafft, sef: “Amser i gorff yr ysgol (yn ei gyfanrwydd neu mewn grwpiau llai) gwrdd a myfyrio ar y gwerthoedd y mae’r ysgol yn eu hystyried yn bwysig. Bydd llawer o’r gwerthoedd hyn yn seiliedig ar y traddodiad Cristnogol (ond nid hynny’n unig).”

-        Bod y polisi addoli ar y cyd yn eithaf cynhwysfawr, a’r polisi CGM yn fwy sylfaenol.

-        Bod rhestr o gwestiynau gwerthuso ar gael i’w cynnwys fel atodiad i’r polisi addoli ar y cyd, pe dymunid.

Diolchwyd am y cyflwyniad.

Nodwyd bod mewnrwyd yr ysgolion yn cael ei defnyddio i ledaenu templedi polisïau. Nodwyd bod polisi addoli ar y cyd y sir bellach wedi dyddio, a’i fod wedi’i gydnabod fel polisi sydd angen ei ddiweddaru. Mynegwyd y farn y byddai creu polisi addoli ar y cyd newydd o fudd i ysgolion. Nodwyd y byddai’r cam nesaf, pe bai’r pwyllgor yn cymeradwyo’r cais, yn rhannu’r polisi’n fewnol o fewn yr adran er mwyn sicrhau cytundeb y gellid ei rannu gyda’r ysgolion fel templed swyddogol yr awdurdod.

Mynegwyd cefnogaeth i’r ddau bolisi gael eu defnyddio fel templedi swyddogol yr awdurdod. Pwysleisiwyd bod y polisi CGM yn esbonio i rieni pam nad oes ganddynt bellach yr hawl i dynnu eu plant yn ôl o ddysgu CGM, a manteision y cwricwlwm newydd i’w plant. Mynegwyd y farn y byddai’r polisïau hyn yn arf pwysig i ysgolion wrth symud ymlaen.

Cytunwyd gan y pwyllgor i ail-ymweld â’r eitem yn y cyfarfod nesaf er mwyn ei chymeradwyo.

 

12.

CYNHADLEDD EFTRE (Fforwm Ewropeaidd o Athrawon Addysg Grefyddol) 2025

I gyflwyno adroddiad llafar o’r gynhadledd EFTRE diweddar a gynhaliwyd ym Budapest.

www.EFTRE.net

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Phil Lord (Ymgynghorydd Annibynnol), gan adrodd ar ei brofiad yng Nghynhadledd EFTRE 2025. Yn ystod y trafodaethau, tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol:

-        Bod Addysg Grefyddol yn tueddu i fod yn gyffesol yn y mwyafrif o wledydd Ewrop.

-        Hyd yn oed mewn gwlad fel yr Almaen, bod gan yr eglwys bresenoldeb sylfaenol o fewn Addysg Grefyddol i’r mwyafrif o ddysgwyr, yn dibynnu ar yr ardal benodol.

-        Bod gwledydd Sgandinafaidd yn fwy tebyg i Gymru o ran eu darpariaeth Addysg Grefyddol na gweddill Ewrop, ond gyda phwyslais mwy ar wybodaeth yn hytrach na thrafodaeth.

-        Bod 60 o gynrychiolwyr wedi mynychu’r gynhadledd yn Hwngari o bob rhan o Ewrop.

-        Bod y cyflwyniad cyntaf a fynychwyd yn canolbwyntio ar y pwnc holi, gan annog athrawon i hyrwyddo mwy o holi o fewn gwersi.

-        Bod yr ail gyflwyniad yn canolbwyntio ar gwestiynau dirfodol, gan bwysleisio bod plant wedi colli rhywfaint o’r eirfa i drafod materion dirfodol megis rhyfel a’r pandemig, gan bod llai o holi cwestiynau o'r fath o fewn cymdeithas.

-        Bod y trydydd cyflwyniad yn ymwneud â’r berthynas rhwng Iddewiaeth ac Islam.

-        Bod bid wedi’i gyflwyno i gynnal Cynhadledd EFTRE 2026 yng Nghaerdydd.

 

13.

CCYSAGAUC pdf eicon PDF 299 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ar 2 Gorffenaf 2025.

 

Er gwybodaeth: Cyfarfod nesaf CCYSAGauC – 19 Tachwedd 2025, yn cael ei gynnal yn rhithiol gan Bro Morgannwy.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2025.