Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom
Cyswllt: Jasmine Jones 01286 679667
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Nick Sissons. |
|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan: • Cynghorydd Dewi Jones (Aelod Cabinet
Addysg) • Cynghorydd Elin Walker Jones • Cynghorydd Meryl Roberts • Eurfryn Davies (Undeb Bedyddwyr
Cymru) • Bethan Jones (yr Annibynwyr Cymraeg) • Nathan Abrams (Iddewiaeth) • Eleri Moss (Penaethiaid Uwchradd) |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw fater brys yn ôl barn y Cadeirydd i’w ystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Y Cadeirydd
i gynnig bod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 18
Tachwedd 2025 yn cael eu llofnodi fel cofnod cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Tachwedd 2025 fel cofnodion cywir. |
|
|
MATERION YN CODI • Cynllun Datblygu CYS(AG) Gwynedd • Esiamplau o Bolisïau i’w rhannu gydag
ysgolion • Esiamplau o gwestiynau i werthuso CGM (Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg) ac Addoli ar y Cyd Cofnod: Cadarnhawyd
bod enghreifftiau/templedi o bolisïau a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi
eu rhannu gydag ysgolion heddiw. Cadarnhawyd bod enghreifftiau o gwestiynau i werthuso CGM ac Addoli ar y Cyd wedi eu hysgrifennu a’u cyfieithu, ac y byddent yn cael eu rhannu gyda’r aelodau yn fuan. |
|
|
DYNEIDDIAETH - MANTEISION CYNNWYS ARGYOEDDIADAU ATHRONYDDOL ANGREFYDDOL YNG NGHWRICWLWM CGM I dderbyn cyflwyniad gan Luke Donnellan, Cyfarwyddwr Deall Dyneiddiaeth, Dyneiddwyr y DU. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan Luke Donnellan, Cyfarwyddwr Deall Dyneiddiaeth, ‘Humanists UK’, ar
Ddyneiddiaeth a’r manteision o gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol
yng nghwricwlwm CGM. Yn ystod y cyflwyniad, trafodwyd y prif bwyntiau canlynol: • Nodwyd bod adran addysg ‘Humanists
UK’ yn cefnogi athrawon mewn ysgolion ar draws y DU gydag adnoddau a
gwasanaethau i addysgu am Ddyneiddiaeth fel rhan o addysg CGM eang a chytbwys. • Rhoddwyd gwybodaeth gefndirol
ynglŷn â CGM yng Nghymru, gan bwysleisio bod cwricwlwm CGM Cymru yn nodi’r
angen i gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. • Nodwyd bod argyhoeddiadau athronyddol
anghrefyddol yn golygu “philosophical convictions which are based on a
non-religious worldview as opposed to a religious worldview”. • Tanlinellwyd bod tri phrif fudd o
gynnwys argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol yng nghwricwlwm CGM, sef ei fod
yn gyfoethog o ran gwybodaeth, ei fod yn cefnogi cyd-ddealltwriaeth a
chydlyniant cymdeithasol, a’i fod yn annog datblygiad personol. • Nodwyd bod pum prif gred yn
gysylltiedig â Dyneiddiaeth, yn ogystal â’r ffaith ei bod yn anghrefyddol, sef
bod pobl yn rhan o natur, bod dealltwriaeth wyddonol o’r byd yn bwysig, mai dim
ond un bywyd sydd gan bawb, nad yw moeseg yn ddibynnol ar grefydd, a bod gan
bobl gyfrifoldeb i wneud y byd yn well. • Nodwyd bod cyfran uwch o boblogaeth
Cymru yn nodi eu bod yn anghrefyddol (47%) nag yn grefyddol (44%) yn ôl
canlyniadau’r cyfrifiad, gyda thua thraean i hanner y boblogaeth anghrefyddol
yn arddel credoau Dyneiddiaeth. • Nodwyd bod nifer o Gymry enwog
hanesyddol yn cael eu hadnabod fel dyneiddwyr. • Nodwyd bod sawl adnodd ar gael ar
wefan ‘Humanists UK’, understandinghumanism.org.uk, er mwyn cefnogi addysgu am
y pwnc, gydag adnoddau penodol i athrawon yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog. • Nodwyd bod y llyfr ‘My Humanist
Family’ ar gael er mwyn cefnogi addysgu am y pwnc i blant ifanc. Diolchwyd
am y cyflwyniad. Cwestiynwyd
faint o amser a roddir i addysgu Dyneiddiaeth mewn ysgolion. Mewn ymateb,
nodwyd nad oedd yr ateb yn glir, ond bod tystiolaeth yn dangos nad oedd digon o
amser yn cael ei neilltuo i bwnc CGM yn gyffredinol, ac felly bod hynny’n
effeithio ar y cyfle i ddisgyblion ddysgu am Ddyneiddiaeth. Nodwyd, er bod y
cwricwlwm wedi newid, fod yr amser a neilltuir i argyhoeddiadau athronyddol
anghrefyddol yn parhau i fod yn isel, o bosibl oherwydd y cyfnod trawsnewid i’r
cwricwlwm newydd neu oherwydd gwrthwynebiad o fewn rhai ysgolion i’w cynnwys.
Pwysleisiwyd bod ‘Humanists UK’ yn gwneud popeth o fewn ei allu i gyfathrebu ag
ysgolion er mwyn cynnig adnoddau dysgu a hyfforddiant i helpu i hwyluso’r
cyfnod trawsnewid hwn. Tanlinellwyd bod pethau’n gwella yn hyn o beth, ond bod
llawer o waith i’w wneud o hyd. Cwestiynwyd a oedd Dyneiddwyr yn dod at ei gilydd yn rheolaidd fel cymuned. Mewn ymateb, nodwyd bod hyn yn amrywio o un Dyneiddiwr i’r llall. Nodwyd bod sefydliadau Dyneiddwyr, megis ‘Humanists UK’, yn cynnal digwyddiadau blynyddol, a bod grwpiau mwy lleol o Ddyneiddwyr yn cynnal digwyddiadau er mwyn hybu cymdeithasu. Pwysleisiwyd bod cyfleoedd ar ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
CYNLLUN DATBLYGU CYSAG 2025-26 I gytuno ar flaenoriaethau gwaith parhaus CYS(AG) ar gyfer y flwyddyn academaidd. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan Phil Lord, Ymgynghorydd Annibynnol, gan dynnu sylw at y prif
bwyntiau canlynol: • Bod modd defnyddio’r cynllun datblygu
i esbonio, fel rhan o’r adroddiad blynyddol, yr hyn a gyflawnwyd. • Bod tair prif flaenoriaeth yn y
cynllun datblygu, sef datblygu effeithiolrwydd CYSAG, monitro a chefnogi
darpariaeth AG a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn ysgolion yr Awdurdod Lleol, a
monitro a chefnogi darpariaeth addoli ar y cyd a datblygiad ysbrydol, moesol,
cymdeithasol a diwylliannol yn ysgolion yr Awdurdod. • Bod y gweithgareddau o dan
flaenoriaeth un yn cynnwys sicrhau bod gwybodaeth berthnasol yn yr adroddiad
blynyddol, gan gynnwys adnoddau perthnasol ar gyfer ysgolion. • Bod y gweithgareddau o dan
flaenoriaeth dau yn cynnwys darparu deunyddiau monitro a pholisïau
enghreifftiol, gan gynnwys y polisi sy’n ymwneud â’r ffaith nad oes gan rieni
hawl bellach i dynnu eu plant yn ôl o wersi CGM. • Bod y gweithgareddau o dan
flaenoriaeth tri yn cynnwys Cynghorwyr ac aelodau CYSAG sy’n llywodraethwyr
ysgol yn treialu’r cwestiynau ac yn adrodd yn ôl i CYSAG. • Bod y cynllun ar gyfer y flwyddyn
hon, a bod modd ychwanegu gweithgareddau i’r cynllun yn y blynyddoedd i ddod. Diolchwyd
am y cyflwyniad. Mynegwyd y farn bod datgysylltiad rhwng yr hyn a oedd yn
digwydd o fewn ysgolion a’r hyn yr oedd CYSAG yn ymwybodol ohono, ac felly
croesawyd y cynllun datblygu a’i flaenoriaethau er mwyn sicrhau bod y Pwyllgor
yn cael dylanwad cadarnhaol ar ysgolion. Cwestiynwyd
yr amserlen, gan holi a oedd yn realistig y byddai popeth yn cael ei gyflawni
erbyn tymor yr haf. Mewn ymateb, nodwyd bod yr adnoddau i’w cynnwys yn yr
adroddiad blynyddol eisoes wedi eu creu. Nodwyd hefyd bod yr elfen o
Lywodraethwyr yn mynd i ysgolion i dreialu cwestiynau yn ddibynnol ar gymorth
yr aelodau er mwyn llwyddo i gyrraedd y targed amser. Cwestiynwyd a oedd bwriad i aelodau CYSAG nad oeddent yn Llywodraethwyr fynd i ysgolion er mwyn treialu’r cwestiynau. Mewn ymateb, nodwyd mai’r bwriad oedd i aelodau oedd yn Llywodraethwyr dreialu’r cwestiynau yn gyntaf cyn ehangu’r drefn i aelodau eraill CYSAG. Awgrymwyd y dylai’r Adran Addysg ofyn i ysgolion nad oeddent yn gysylltiedig ag aelod o GYSAG wirfoddoli i dderbyn ymweliad gan aelod o GYSAG, er mwyn iddynt ofyn y cwestiynau ac arsylwi addoli ar y cyd o fewn eu hysgolion. |
|
|
RHEOLI'R HAWL I DYNNU'N ÔL O CGM Bydd CYS(AG) yn trafod ac yn cytuno ar y gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion i reoli’r newid deddfwriaethol hwn yn effeithiol. Cofnod: Cyflwynwyd
yr eitem gan Phil Lord, Ymgynghorydd Annibynnol, gan dynnu sylw at y prif
bwyntiau canlynol: • Bod gwersi CGM, yn hanesyddol, wedi
canolbwyntio llawer mwy ar gredoau Cristnogol lleol, ac felly bod teimlad ar y
pryd bod yr hawl i dynnu’n ôl yn angenrheidiol. • Bod gwersi CGM wedi newid yn
sylweddol dros y blynyddoedd i fod yn aml-gred, ond er hynny bod yr hawl i
dynnu’n ôl wedi parhau tan 2022, pan ddiddymodd Llywodraeth Cymru hawl rhieni i
dynnu eu plant yn ôl o CGM. • Bod achosion wedi codi lle’r oedd
rhieni yn dymuno tynnu eu plant yn ôl o CGM, er nad oedd ganddynt yr hawl i
wneud hynny, ac y gallai hyn greu problemau o fewn ysgolion. • Bod y ddogfen wedi ei chynhyrchu er
mwyn categoreiddio pryderon rhieni ynglŷn â CGM, a rhoi gwybodaeth
ynglŷn â’r camau gweithredu gorau i ddelio â’r pryderon hynny. • Bod y ddogfen yn mynd i fod yn
ddefnyddiol i ysgolion er mwyn sicrhau eu bod yn gallu ymateb mewn ffordd
briodol pe bai unrhyw achosion neu bryderon yn codi yn y dyfodol. Diolchwyd
am y cyflwyniad. Nodwyd bod y ddogfen yn ddefnyddiol iawn, a’i bod yn well
paratoi’n rhagweithiol yn hytrach nag aros i achos godi cyn creu dogfen i roi
cymorth i ysgolion. Cwestiynwyd
a oedd bwriad i anfon copi o’r ddogfen i bob ysgol yn y sir. Mewn ymateb,
awgrymwyd y dylai’r Adran Addysg wneud y ddogfen yn hygyrch ar SharePoint
addysg er mwyn i athrawon wybod ei bod ar gael pe bai angen. Cwestiynwyd a oedd
unrhyw ddogfennau o’r fath ar gael eisoes. Mewn ymateb, nodwyd nad oedd
dogfennau ar gael yng Ngwynedd ar gyfer ysgolion y sir. Cwestiynwyd
a oedd yr hawl i dynnu plant yn ôl o CGM yn cynnwys addoli ar y cyd. Mewn
ymateb, nodwyd bod yr hawl i dynnu’n ôl o addoli ar y cyd yn parhau i fodoli. Mynegwyd cefnogaeth i’r ddogfen ac i’w nod o gefnogi ysgolion i ddarparu CGM. Awgrymwyd newid y geiriad yn y ddogfen ynglŷn â gwrthod CGM am resymau hiliol neu resymau rhagfarnllyd. |
|
|
• I dderbyn cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar-lein ar 2 Gorffennaf 2025. • I gytuno ar bresenoldeb yng nghyfarfod nesaf CCYSAGauC – 19 Mawrth 2026 (Rhithiol). Cofnod: Derbyniwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2025. |