Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL Gweddi neu Fyfyrdod Tawel Cofnod: Agorwyd y cyfarfod gyda gair gan Y Cynghorydd Menna Baines
a chyfle am fyfyrdod. |
|
ETHOL CADEIRYDD I Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Hwn am y Flwyddyn 2023/2024 Penderfyniad: Ail-ethol
Y Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2023/24 Cofnod: Ail-etholwyd Y Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd
i’r Pwyllgor am y cyfnod 2023/2024 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I Ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor Hwn am y Flwyddyn 2023/2024 Penderfyniad: Ail-ethol
Y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y cyfnod 2023/24 Cofnod: Ail-etholwyd Y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is-Gadeirydd
i’r Pwyllgor am y cyfnod 2023/2024 |
|
YMDDIHEURIADAU I Dderbyn Unrhyw Ymddiheuriadau am Absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Elin
Walker Jones, John P Roberts, Angela Russell, Beca Brown ac Eirian Bradley
Roberts (Yr Eglwys Gatholig) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I Dderbyn Unrhyw Ddatganiad o Fuddiant Personol Cofnod: |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar
gyfer ystyriaeth Cofnod: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir Cofnod: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion
y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Mawrth, 2023, fel rhai cywir a
bu i’r Cadeirydd eu llofnodi. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYSAG 2021-2022 PDF 488 KB I ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG ar gyfer 2021 - 2022 Penderfyniad: Derbyn yr Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2021-22 yn ddarostyngedig i Adolygu 3.1 i gynnwys cyfeiriad at benderfyniad y Cabinet yn 2019 i addasu
y cyfansoddiad er mwyn ehangu cynrychiolaeth o’r crefyddau ar CYSAG ac i
adlewyrchu y newid yn enwau yr Undebau Athrawon. Cofnod: Diolchwyd am yr adroddiad drafft a nodwyd y canlynol : 3.1 – Aelodaeth - mae angen ychwanegu manylion penderfyniad y Cabinet
(cyfarfod 2019) i addasu y cyfansoddiad er mwyn ehangu y gynrychiolaeth o’r crefyddau eraill gan fod hwn yn
ychwanegiad cyfansoddiadol pwysig, ynghyd â gwirio enwau yr Undebau Athrawon. Cyfeiriwyd at wall teipio yn y fersiwn Saesneg, a chwestiynwyd y defnydd
o’r term “Penderfyniad“ yn yr Adroddiad.
Cadarnhawyd y defnyddir “Penderfyniad” mewn perthynas ag addoli ar y
cyd, sydd yn wasanaeth Cristnogol yn bennaf, ond yn gallu amrywio o Ysgol i
Ysgol, ond nad oedd unrhyw Ysgol wedi gofyn i amrywio yn ystod cyfnod yr
Adroddiad Cadarnhawyd bod Cabinet Cyngor Gwynedd wedi derbyn Canllawiau Llywodraeth
Cymru fel Maes Llafur cytunedig mewn cyfarfod blaenorol, ond bod Gwynedd angen
creu ei Chynllun ei hun, yn seiliedig ar y Canllawiau, ac unwaith byddai y
Cynllun yn derbyn sêl bendith CYSAG y byddai yn dod yn Gynllun Terfynol. Nodwyd y gobaith bod gan ysgolion yr adnoddau
angenrheidiol, yn enwedig yn y Gymraeg, er mwyn i’r Cynllun lwyddo. Rhoddodd y Grŵp ei sêl bendith i’r Adroddiad Blynyddol yn
ddarostyngedig i'r ychwanegiadau uchod. PENDERFYNWYD: Derbyn yr Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG 2021-22 yn ddarostyngedig i Adolygu 3.1 i gynnwys cyfeiriad at benderfyniad
y Cabinet yn 2019 i addasu’r cyfansoddiad er mwyn ehangu cynrychiolaeth o’r
crefyddau ar CYSAG ac i adlewyrchu y newid yn enwau yr Undebau Athrawon. |
|
DIWEDDARIAD : CANLLAWIAU PRESENNOL ADDOLI AR Y CYD Diweddariad ar y Canllawiau Presennol Addoli ar y Cyd a
drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol. Penderfyniad: Ni fu modd derbyn digon o enwebiadau
i sefydlu Gweithgor i ddiweddaru y Canllawiau Presennol Addoli ar y Cyd (yn
unol â’r Penderfyniad yng nghyfarfod CYSAG 14 Mawrth, 2023). O ganlyniad penderfynwyd derbyn cynnig y
Parchedig Nick Sissons i edrych ar y canllawiau ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod
nesaf. Rhoddwyd enw arall ymlaen i wneud
y gwaith ar y cyd, ond nid oedd yr Aelod honno yn bresennol. Cofnod: Cyfeiriodd y Cadeirydd at y drafodaeth ar y canllawiau a gynhaliwyd yn y
cyfarfod blaenorol, ble daethpwyd i’r casgliad eu bod gwirioneddol angen eu
diweddaru gan eu bod yn cyfeirio at Gristnogaeth yn
unig, ac nad oedd yr iaith yn gynhwysfawr erbyn hyn. Yn y cyfarfod hwnnw, bu i CYSAG gytuno i
ffurfio Gweithgor i edrych ar y Canllawiau presennol. Adroddwyd, er holi, mai dau enw yn unig
gafodd eu rhoi ymlaen ar gyfer y dasg, ac o ganlyniad ni fu modd i’r Gweithgor
gyfarfod, ac ni phenodwyd neb i arwain ar y gwaith. Adroddwyd bod ceisiadau yn dod i law am y ddogfen yn eithaf aml, er ei
bod wedi dyddio, ond nid oedd yn cael ei hystyried yn ddogfen fyw. Nodwyd bod y Ddeddfwriaeth yn parhau i fod yr
un fath, ac mai ieithwedd y ddogfen sydd wedi dyddio, a bod angen
ychwanegu gwybodaeth am grefyddau ar
wahân i Gristnogaeth.
Cynigiodd Y Parchedig Nick Sissons edrych ar y ddogfen ac ailgysylltu
â’r Aelod arall oedd wedi gwirfoddoli ar gyfer y dasg gan adrodd yn ôl gyda
syniadau cychwynnol yn y cyfarfod nesaf.
Cwestiynwyd tybed fyddai modd chwilio am arbenigwyr yn y maes, o’r tu
allan i’r CYSAG, i roi mewnbwn i’r gwaith? PENDERFYNWYD: Derbyn cynnig y Parchedig Nick
Sissons i edrych ar y canllawiau ac adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf. Gan fod enw arall hefyd wedi ei roi ymlaen yn
y cyfarfod blaenorol i eistedd ar y Gweithgor, cytunwyd i gysylltu gyda’r Aelod
honno hefyd gan nad oedd yn bresennol. |
|
CEFNOGAETH ARBENIGOL I'R CYSAG Trafodaeth
ar y Gefnogaeth Arbenigol i’r CYSAG Penderfyniad: Yn dilyn diweddariad gan y
Pennaeth Addysg, penderfynodd y pwyllgor roi eu sêl bendith i’r Pennaeth drafod
y posibilrwydd o gomisiynu cefnogaeth arbenigol i’r CYSAG drwy GwE, a symud y mater
yn ei flaen cyn gynted â phosib. Cofnod: Atgoffwyd pawb fod cefnogaeth
arbenigol Swyddog GwE wedi ei thynnu yn ôl yn 2018, sydd wedi bod yn fater o
ofid ac wedi amlygu diffyg arbenigedd yn y maes. Adroddodd y Pennaeth Addysg ei fod wedi bod yn ceisio cael datrysiad a’i
fod erbyn hyn mewn trafodaethau am y posibilrwydd o
gomisiynu cefnogaeth arbenigol i’r CYSAG drwy GwE, er mwyn symud y mater yn ei
flaen, yn ddarostyngedig i sêl bendith GwE. PENDERFYNWYD: Rhoi sêl bendith i’r Pennaeth drafod y posibilrwydd o
gomisiynu cefnogaeth arbenigol i’r CYSAG drwy GwE, gan symud y mater yn ei
flaen cyn gynted â phosib. |
|
MATERION Y CCYSAGau PDF 392 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd yr
Ohebiaeth gan nodi i. Canllawiau Ymweld ag Ysgolion :
dogfen gynhwysfawr a defnyddiol iawn ii. Cyfleoedd Dysgu Proffesiynol
Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg : gofyn i GwE gynnal trafodaeth
ynglŷn â’r model newydd â’i addasrwydd ar gyfer rhoi sylw digonol i
Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried y ddarpariaeth adnoddau drwy’r iaith
Gymraeg. Penderfynwyd hefyd ysgrifennu
llythyr ar y ddarpariaeth o Adnoddau Iaith Gymraeg (i sicrhau eu bod ar gael yr
un pryd ag adnoddau Saesneg) yn enw CYSAG, y Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet
Addysg at Brif Weithredwr CBAC, Pennaeth Adran Adnoddau y CBAC, Y Gweinidog
Addysg a’r Is-bwyllgor Cymraeg iii. Cofnodion Drafft CCYSAGau 21 Mawrth, 2023 :
nodi o’r papurau bod gan y CCYSAGau waith diweddaru nifer o ddogfennau megis y
Llyfryn Ymuno a CYSAG, maes o law iv. Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru : cefnogi
ymateb y CCYSAGau Cofnod: Nodwyd bod
y Canllawiau Ymweld ag Ysgolion yn
ddogfen gynhwysfawr a defnyddiol iawn. O ran y
cyfleoedd Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer
Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, nodwyd y dymuniad y byddai deunydd yn yr iaith
Saesneg ac yn yr iaith Gymraeg yn cyrraedd yr un pryd. Adroddodd y Pennaeth Addysg ei fod yn gam
pwysig a bod gan CYSAG gyfraniad pwysig iawn i’w wneud, a bod llawer o
gyfleoedd i ddysgu Addysg Grefyddol o fewn y dyniaethau. Cyfeiriodd hefyd at gyflwyniad a dderbyniwyd
gan Lea Crimes ar
ddatblygu’r cwricwlwm, oedd yn enghraifft dda o sut i ddatblygu’r
cwricwlwm. Nodwyd
bod rhaid cynnig ffyrdd gwahanol o gyflwyno gan edrych ar addysg gychwynnol
athrawon, a’i bod yn hollbwysig cadw llygad ar y sefyllfa. Nodwyd yr angen i weld beth fydd yn digwydd
gyda TGAU. Efallai bod mwy nag un
platfform i leisio barn. Teimlwyd y byddai yn fuddiol gofyn i GwE gynnal trafodaeth ynglŷn â’r
model newydd a’i addasrwydd ar gyfer
rhoi sylw digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried y ddarpariaeth
adnoddau drwy’r iaith Gymraeg.
Penderfynwyd hefyd ysgrifennu llythyr am y ddarpariaeth o Adnoddau
cyfrwng Cymraeg (i sicrhau eu bod ar gael yr un pryd ag adnoddau Saesneg) yn
enw CYSAG, y Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg at CBAC, y Gweinidog
Addysg a’r Is-bwyllgor Cymraeg. Nodwyd efallai fod
angen defnyddio grym geiriau y Papur Gwyn maes o law fel cyfle pellach i leisio
barn. O ran Cofnodion Drafft CCYSAGau 21
Mawrth, 2023 a’r papurau perthnasol adroddwyd bod gan y CCYSAGau
waith diweddaru nifer o ddogfennau, gan gynnwys newid fformat adroddiadau, gan
fod canllawiau wedi eu dyddio. O
ran yr Ymgynghoriad
Cymwysterau Cymru: Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16, cadarnhawyd bod CCYSAGau wedi
cyflwyno dadleuon cryf, a dderbyniodd gefnogaeth y CYSAG . PENDERFYNWYD : i. Canllaw
Ymweld ag Ysgolion: dogfen gynhwysfawr a defnyddiol iawn ii. Cyfleoedd
Dysgu Proffesiynol Newydd ar Gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg: gofyn i GwE
gynnal trafodaeth ynglŷn â’r model newydd â’i addasrwydd ar gyfer rhoi
sylw digonol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg, gan ystyried y ddarpariaeth
adnoddau drwy’r iaith Gymraeg.
Penderfynwyd hefyd ysgrifennu llythyr am y ddarpariaeth o Adnoddau
cyfrwng Cymraeg (i sicrhau eu bod ar gael yr un pryd ag adnoddau Saesneg) yn
enw CYSAG, y Pennaeth Addysg a’r Aelod Cabinet Addysg at Brif Weithredwr CBAC,
Pennaeth Adran Adnoddau y CBAC, Y Gweinidog Addysg a’r Is-bwyllgor Cymraeg iii.
Cofnodion Drafft : nodi bod gan y CCYSAGau
waith diweddaru dogfennaeth iv.
Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru: cefnogi ymateb y CCYSAGau Dechreuodd y cyfarfod am 3.30 p.m. a daeth i ben am 16:45 p.m. CADEIRYDD |