Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom

Cyswllt: Einir Rh Davies  01286 679868

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

Cyfle am weddi neu fyfyrdod tawel

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan Y Cynghorydd Paul Rowlinson a chyfle am fyfyrdod tawel.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I Dderbyn Unrhyw Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Beca Brown, Nathan Abrams, Bethan Davies

Jones, Siôn Huws, Edward Parry-Jones a Gwawr M Williams a daeth ymddiheuriad hwyr i law

gan Eirian Bradley Roberts

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I Dderbyn Unrhyw Ddatganiad o Fuddiant Personol

Cofnod:

4.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw faterion sydd o frys ym marn y Cadeirydd ar gyfer ystyriaeth

Cofnod:

5.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL pdf eicon PDF 171 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig bod cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf, 2023 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir

Cofnod:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf, 2023, fel rhai cywir a bu i’r Cadeirydd eu llofnodi. 

 

6.

DIWEDDARIADAU O GYFARFODYDD CYSAG BLAENOROL

Diweddariadau Gwynedd o Ran :

i.          Adroddiad Blynyddol CYSAG 2021 - 2022

ii.         Cefnogaeth Arbenigol i’r CYSAG

iii.         Gohebiaeth a Ddanfonwyd ar ran CYSAG  

 

Penderfyniad:

Derbyn y diweddariadau uchod gan edrych ymlaen at groesawu Bethan James i’w rôl

newydd gyda CYSAG

 

Cofnod:

Diweddariadau Gwynedd o Ran :

i. Adroddiad Blynyddol CYSAG 2021 - 2022

ii. Cefnogaeth Arbenigol i’r CYSAG

iii. Gohebiaeth a anfonwyd ar ran CYSAG

 

i.          Adroddiad Blynyddol CYSAG 2021-2022

Cadarnhawyd bod y newidiadau a drafodwyd yn y cyfarfod blaenorol wedi eu cwblhau ac y bydd y gwaith ar Adroddiad Blynyddol CYSAG 2022-2023 yn cael sylw maes o law.

ii.         Cefnogaeth Arbenigol i’r CYSAG

Atgoffwyd pawb y bu i’r gefnogaeth arbenigol gan Swyddog GwE gael ei dynnu yn ôl yn 2018, ac o ganlyniad nad oedd arbenigedd ar y Pwyllgor ers hynny, oedd wedi profi yn rhwystredig.  Cadarnhawyd fod y Pennaeth Addysg ar y pryd wedi  bod mewn trafodaethau gyda GwE i adfer y gefnogaeth a chadarnhawyd y bydd Bethan James yn cefnogi o hyn ymlaen.  Adroddwyd na fydd y gefnogaeth ar yr un lefel ag a oedd yn flaenorol, ond y bydd Bethan James yn mynychu cyfarfodydd CYSAG ac yn rhoi hanner diwrnod o gefnogaeth, ac fel man cychwyn y bydd yn rhoi cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf.

 

iii.         Gohebiaeth a anfonwyd ar ran CYSAG

Yn y cyfarfod blaenorol cytunwyd i ysgrifennu at GwE i ofn am eglurder ar rôl GwE ond cadarnhawyd nad anfonwyd y llythyr, ac yn hytrach na hyn bydd Bethan James yn rhoi cyflwyniad yn y cyfarfod nesaf ar y gefnogaeth mae GwE yn ei rhoi yn y maes dysgu yma.

Yn y cyfarfod blaenorol hefyd, cytunwyd i lythyru CBAC a Llywodraeth Cymru yn gofyn iddynt wneud yn siŵr eu bod yn darparu Adnoddau Cymraeg; eto nodwyd bod llythyr wedi ei ddrafftio ond nad oedd wedi ei anfon.

 

PENDERFYNWYD:  Derbyn y diweddariadau uchod gan edrych ymlaen at groesawu Bethan James i’w rôl newydd gyda CYSAG.

 

7.

DIWEDDARIAD AR Y GWAITH O DDATBLYGU Y CANLLAWIAU ADDOLI AR Y CYD pdf eicon PDF 135 KB

Diweddariad ar y Gwaith o Ddatblygu Canlawiau Addoli ar y Cyd  

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chynnig Y Parchedig Nick Sissons ein bod fel CYSAG yn ysgrifennu llythyr at CCYSAGauC a chyrff cenedlaethol yr holl eglwysi yng Nghymru i holi sut fyddai modd iddynt fod o gymorth i symud y mater yn ei flaen. Cytunodd y Parchedig Sissons i ddrafftio’r llythyr.

 

Cofnod:

Atgoffwyd pawb o gefndir y sefylla ble gofynnwyd am enwebiadau rhai misoedd ôl erbyn hyn, i edrych ar y canllawiau presennol gan eu bod wedi dyddio.  ‘Roedd pawb yn cytuno eu bod yn anaddas erbyn hyn, ac o ganlyniad cynigiodd Y Parchedig Nick Sissons a’r Cynghorydd Elin Walker Jones edrych ar y Canllawiau presennol.

 

Adroddodd Y Parchedig Sissons, ar ôl edrych ar y canllawiau presennol, ei bod wedi dod yn amlwg faint o waith oedd ei angen, ac awgrymodd nad oedd gwerth mewn mynd drwy’r ddogfen bresennol a’i haddasu gan fod materion ehangach angen sylw, yn enwedig yr angen i adolygu’r ddeddfwriaeth ar addoli ar y cyd. Tybed a oedd unrhyw un yn ymwybodol beth oedd yr ysgolion yn ei wneud ar hyn o bryd?  Roedd y Parchedig Sissons yn teimlo bod rôl yma i’r Eglwysi arwain ar y gwaith gan fod gwir angen dogfen fwy addas erbyn hyn.

 

Cyfeiriodd at y papur ble roedd 4 opsiwn wedi ei gynnig sef

 

Opsiwn 1: Gwneud dim

Opsiwn 2: Addasu y Polisi presennol

Opsiwn 3: Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn iddynt gymryd y mater o Addoli ar y Cyd neu gynulliad o ddifri, ac adolygu’r ddeddfwriaeth fel mater brys.

Opsiwn 4: Cyfaddawd? Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a chreu polisi newydd sydd yn ystyried anghenion iechyd meddwl, ysbrydol a moesol plant a phobl ifanc o ddifri. Polisi sy’n cael ei ysgrifennu gan y rhai sy’n ymgymryd â’r gwaith yma o fewn ysgolion yn rheolaidd : Polisi sydd yn rhoi gwerth ar gymuned ysgol-gyfan.

 

Nododd Y Parchedig Sissons y bydd y sefyllfa yn parhau i fod yn ofidus nes bydd y ddeddfwriaeth yn cael ei newid, a nododd ei bryder bod cyd-addoli yn fater rhy bwysig i’w adael ar yr ochr.

 

Ehangodd Y Cynghorydd Walker Jones ar yr uchod gan nodi bod cyfle yn cael ei golli i gyfarch y mater o gyd-addoli ac na fyddai addasu’r ddogfen bresennol yn unig yn cyfarch y mater. 

 

Adroddodd ei phryder hefyd ei bod yn ymddangos nad yw Llywodraeth Cymru nac ESTYN yn cymryd y mater o ddifrif, ac o ganlyniad bod angen i CYSAG wneud rhywbeth ar fyrder er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa.

 

Diolchwyd i’r Parchedig Nick Sissons a’r Cynghorydd Elin Walker Jones am eu gwaith yn mynd at wraidd y mater ac agorwyd y llawr i sylwadau.

 

Nodwyd pryder nad oedd yn hollol glir beth oedd yn digwydd mewn ysgolion ar hyn o bryd a chwestiynwyd paham nad oedd adroddiadau ESTYN yn dod i sylw CYSAG erbyn hyn?  Cadarnhaodd y Swyddog Adnoddau Cynorthwyol a Chlerc CYSAG bod ffurf adroddiadau ESTYN yn wahanol erbyn hyn, gyda ychydig iawn o gyfeiriad at gyd-addoli.  

 

Nodwyd yr ymdeimlad ei bod yn ddyletswydd ar Aelodau CYSAG i fonitro beth sydd yn digwydd yn yr ysgolion, ond cwestiynwyd a yw derbyn gwahoddiad i fynd i wasanaeth mewn ysgol yn golygu bod gwasanaeth yn cael ei gynnal yn rheolaidd mewn gwirionedd?

 

Adroddwyd bod ysgolion yn gwneud ceisiadau am gopi o’r canllawiau, felly  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

MATERION CCYSAGauC pdf eicon PDF 172 KB

I.                     Adroddiad am Weithgareddau y Gymdeithasfa : Cadeirydd

II.                   Adroddiad ar Gyfer y Flwyddyn Ariannol 2022/2023 : Trysorydd

III.                 Aelodaeth Pwyllgor Gwaith CCYSAGauC 2023/ 2024

IV.                Cofnodion Drafft Cyfarfod CCYSAGauC Tymor yr Haf a Gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023

V.                  Cyfle i roi barn ar yr ymgynghoriad ar y cymhwyster newydd arfaethedig, Astudiaethau Crefyddol TGAU (dechrau dysgu 2026) (ar wefan CBAC)

VI.                Cyfle i gyfrannu at lunio rhaglen gyffrous ar gyfer Cynhadledd 2024 a fydd yn cynnwys seminarau rhyngweithiol ar-lein rhad ac am ddim, yn ogystal â digwyddiad diwrnod y gynhadledd gorfforol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr ohebiaeth gan CCYSAGauC a’r diweddariadau perthnasol.

 

Cofnod:

I. Adroddiad am Weithgareddau y Gymdeithasfa : Cadeirydd

II. Adroddiad ar Gyfer y Flwyddyn Ariannol 2022/2023 : Trysorydd

III. Aelodaeth Pwyllgor Gwaith CCYSAGauC 2023/ 2024

IV. Cofnodion Drafft Cyfarfod CCYSAGauC Tymor yr Haf a Gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2023

V. Cyfle i roi barn ar yr ymgynghoriad ar y cymhwyster newydd arfaethedig, Astudiaethau Crefyddol TGAU (dechrau dysgu 2026) (ar wefan CBAC)

VI. Cyfle i gyfrannu at lunio rhaglen gyffrous ar gyfer Cynhadledd 2024 a fydd yn cynnwys seminarau rhyngweithiol ar-lein rhad ac am ddim, yn ogystal â digwyddiad diwrnod y gynhadledd gorfforol.

 

Cyfeiriwyd at yr uchod oedd wedi eu rhannu er gwybodaeth, a chymerwyd y cyfle i rannu diweddariadau o gyfarfod diwethaf y CCYSAGauC fel a ganlyn :

Data Ysgolion – codwyd y pryder nad oedd y data arferol ar gael, ond cafwyd cadarnhad y byddai mwy o ddata ar gael, gyda rhybudd iechyd nad oedd i’w ddefnyddio i wneud cymhariaethau.

Cyfeiriwyd at yr Adnoddau Dysgu Cenedlaethol gan dynnu sylw penodol at y modiwl Llywodraethwyr a gofynnwyd i'r Adnoddau gael eu hybu.

Cadarnhawyd y bydd cyd-addoli yn destun yn y Gynhadledd Flynyddol 2024

 

Tynnwyd sylw at yr Ymgynghoriad ar y cymhwyster newydd arfaethedig gan nodi ei bod yn hynod bwysig i athrawon yn benodol gymryd y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad.

 

Nodwyd bod y cwestiwn ynglŷn â Dysgu CA4 angen ystyriaeth, a chymerwyd y cyfle i gadarnhau y bydd yn cael ei asesu yn ffurfiol.

 

PENDERFYNWYD: Derbyn yr ohebiaeth gan CCYSAGauC a’r diweddariadau perthnasol.

 

Diolchwyd i bawb am eu sylwadau