Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI

Cofnod:

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

 

·       Cynghorwyr John Pughe Roberts.

·       Gwern ap Rhisiart (Pennaeth Addysg)

·       Nick Sissons (Yr Eglwys Fethodistaidd)

·       Bethan Davies Jones (Undeb yr Annibynnwyr Cymraeg)

·       Naomi Wood (Yr Eglwys yng Nghymru)

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu

hystyried.

Cofnod:

Nodwyd bod llythyr wedi cael ei dderbyn gan Phil Lord, yn cynnig cefnogaeth arbenigol i’r Pwyllgor. Cytunwyd y byddai e-bost yn cael ei anfon at aelodau’r Pwyllgor i weld pwy fyddai’n mynychu cyfarfod gyda Phil Lord i benderfynu a dderbynir ei gynnig o gefnogaeth arbenigol ai peidio.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 130 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor

hwna gynhaliwyd ar 02 Gorffenaf, 2024 fel rhai cywir.

Cofnod:

6.

CYMDEITHAS HANES IDDEWIG DE CYMRU

I dderbyn cyflwyniad llafar gan Klavdja Erzen (Rheolwr Rhaglen a

Phrosiect) am Adnoddau dwyieithog i addysgu am yr Holocaust.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Klavdja Erzen (Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru) gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Eglurwyd bod y CHIDC (Cymdeithas Hanes Iddewig De Cymru) wedi’i sefydlu ers mis Tachwedd 2017 gyda’r nod o gadw a rhannu treftadaeth Iddewig Cymru â’r cyhoedd ehangach gan fynd i’r afael â gwrth-semitiaeth, gwadu’r Holocost a chamwybodaeth. Esboniwyd hefyd bod y gwaith y maent yn ei wneud yn amrywiol gan gynnwys digido a chyhoeddi deunyddiau, cynnal ymchwil, sgyrsiau, llwybrau treftadaeth ddigidol a chreu adnoddau addysgol.

 

Nodwyd bod ugain o adnoddau addysgol ar gyfer yr Holocost hyd yma. Crewyd yr adnoddau hyn mewn partneriaeth â’r Ganolfan ar gyfer Symudiad Pobl, Prifysgol Aberystwyth. Esboniwyd bod yr adnoddau’n ddwyieithog ac yn cyd-fynd â Cwricwlwm i Gymru. Cadarnhawyd eu bod yn addas ar gyfer dysgwyr rhwng 9–14 oed, ac yn rhad ac am ddim. Nodwyd hefyd bod yr adnoddau’n berthnasol i’r ardal leol ac yn cwmpasu pedwar maes gwahanol: y dyniaethau, celfyddydau, iechyd a lles, a ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu. Pwysleisiwyd bod yr holl adnoddau ar gael ar wefan Casgliad y Werin Cymru/People’s Collection Wales a hefyd ar safle Hwb.

 

Nodwyd bod y Gymdeithas wedi datblygu cyfleoedd dysgu proffesiynol ar gyfer athrawon ac ysgolion er mwyn rhannu eu hadnoddau. Esboniwyd bod yr hyfforddiant oddeutu 30–45 munud o hyd, y gellir eu cynnal ar-lein neu wyneb yn wyneb ac eu bod wedi’u teilwra i anghenion athrawon ac ysgolion yn rhad ac am ddim.

 

Diolchwyd i Klavdja am ei chyflwyniad, gan ei llongyfarch hi a’r Gymdeithas ar ddatblygiad adnoddau mor werthfawr. Croesawyd yn arbennig y ffocws ar gysylltiad â hanes lleol.

 

 

7.

DIWEDDARIAD AR Y GWAITH O DDATBLYGU Y CANLLAWIAU ADDOLI AR Y CYD

Diweddariad ar y Gwaith o Ddatblygu Canlawiau Addoli ar y Cyd.

Cofnod:

Nodwyd mai ychydig o ymatebion sydd wedi’u derbyn i’r llythyr a anfonwyd ym mis Mehefin, a chan hynny anfonwyd llythyr atgoffa, gan ddisgwyl derbyn yr ymatebion erbyn 11 Ionawr 2025.

 

8.

ADRODDIAD AR DDARPARIAETH ADDYSGU CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 334 KB

I ystyried yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad, a gyhoeddwyd yn Ebrill 2024 gan Ganolfan Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru (Prifysgol Bangor), gan y Cynghorydd Menna Baines gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Nodwyd bod awduron yr adroddiad wedi anfon holiaduron i ysgolion uwchradd a chynradd ac wedi derbyn 58 o ymatebion. Nodwyd bod athrawon yn gyffredinol yn cefnogi’r newid o addysg grefyddol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Esboniwyd bod cwynion am ddiffyg adnoddau yn Gymraeg, yn enwedig, gyda dim ond un gwerslyfr Saesneg ar gael yn swyddogol ar hyn o bryd. Nodwyd hefyd nad oes digon o hyfforddiant, a bod hyfforddiant yn anghyson o sir i sir. Teimlwyd bod pwnc Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael ei iselhau ac nad yw’n cael yr un amser â phynciau eraill. Nodwyd bod y ffocws yn parhau’n gyfyng er gwaethaf newid teitl y pwnc, a bod crefyddau traddodiadol yn parhau i gael y ffocws mwyaf. Nodwyd bod awduron yr adroddiad yn galw am ddatrysiad brys.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn: -

 

Nodwyd bod yr adroddiad yn ategu’r hyn a glywir gan nifer o athrawon. Esboniwyd bod y gwerslyfr yn cyflwyno’r crefyddau ar wahân, sy’n groes i sut mae ysgolion wedi dewis eu dysgu, felly mae’n anodd ei ddefnyddio.

 

Adroddwyd bod y sefyllfa’n ddamniol, gyda newidiadau mawr yn angenrheidiol. Mynegwyd pryder bod dim ond 17 o ysgolion yn cadarnhau bod eu hysgolion yn bodloni’r gofynion cyfreithiol, sydd felly’n awgrymu bod llawer o ysgolion yn torri’r gyfraith. Nodwyd bod angen i hyn ddod i sylw’r gymdeithas CYSAG Cymru. Nodwyd bod angen i’r adran yng Ngwynedd edrych i mewn i hyn ac ymateb gyda chynllun i unioni’r sefyllfa.

 

Nodwyd ymhellach ynglŷn â’r gwerslyfr nad yw’n addas i’r diben ac nad yw’n Gymraeg. Nodwyd hefyd nad oes cadarnhad o’r bwriad i’w gyfieithu. Cynigwyd anfon llythyr at CBAC ynghylch y gwerslyfr, a chopi ohono at y Gweinidog Addysg.

 

PENDERFYNWYD:

• Gofyn i’r Adran Addysg edrych ymhellach ar yr hyn a godwyd yn yr adroddiad o fewn Gwynedd.

• Gofyn i Gymdeithas CYSAG Cymru ystyried yr adroddiad ar lefel cenedlaethol.

• I’r Cadeirydd anfon llythyr at CBAC ac anfon copi at Weinidog Addysg Cymru ynghylch cyfieithu’r gwerslyfr Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

• I’r Cadeirydd holi Gareth Evans-Jones am unrhyw ddiweddariad ers i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.

 

9.

MANYLEB DRAFFT TGAU ASTUDIAETHAU CREFYDDOL MEDI 2025 pdf eicon PDF 947 KB

I derbyn diweddariad llafar gan Miriam Amlyn (NAS/UWT) ar y cynnig drafft.

Cofnod:

Cyflwynwyd diweddariad ar y drafft gan Miriam A. Amlyn (NAS/UWT) gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

 

Pryderwyd nad oedd y gwerslyfrau’n cael eu rhyddhau’n brydlon ac nad oeddynt yn ddwyieithog. Nodwyd y byddai rhwng 120 a 140 awr o ddysgu dan arweiniad yn angenrheidiol i’w cyflwyno, ond dim ond dwy awr yr wythnos, sef 76 awr y flwyddyn, a ddarperir. Mynegwyd pryder y byddai hyn yn arwain at anfantais i ddisgyblion wrth baratoi ar gyfer yr arholiad.

 

Nodwyd y byddai dau ddarn o waith cwrs yn cael eu cyflwyno ynghyd â’r ddau arholiad presennol. Pwysleisiwyd na fyddai’n bosibl newid yr amseroedd sydd wedi’u neilltuo ar gyfer cwblhau gwaith cwrs, a fyddai’n lleihau’r amser a roddir i addysgu’r pwnc a pharatoi ar gyfer yr arholiad.

 

O ran y cynnwys, nodwyd bod yr ymdriniaeth â’r crefyddau yn eithaf tebyg i fel yr oedd o’r blaen, ond gyda mwy o fanylder mewn rhai meysydd. Cynhwyswyd mwy o gynnwys ar gredoau anghrefyddol, hawliau dynol, a chynnwys newydd, nad oedd yn yr hen werslyfrau. Er gwaethaf hyn, nodwyd bod y cynnwys yn dda, ond efallai ei fod yn eithaf trwm o ran y manylder ychwanegol mewn rhai meysydd. Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd rhyddhau’r gwerslyfr yn Gymraeg a Saesneg ar yr un pryd.

 

Mynegwyd pryder pellach ynghylch cyflwyno gwaith cwrs, yn enwedig mewn cysylltiad â AI a’i ddefnydd posibl gan ddisgyblion i dwyllo. Nodwyd bod y cyfrifoldeb dros atal twyll o’r fath yn disgyn ar yr athro, ond er hynny, mae’n anodd rheoli gweithgareddau’r dosbarth i atal twyll o’r fath.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:

 

Nodwyd bod yr amser a neilltuwyd i bynciau dewis yn amrywio o ysgol i ysgol, fel yn Ysgol y Moelwyn, lle ceir tair awr yr wythnos. Esboniwyd bod y neilltuad amser yn cael ei benderfynu gan y pennaeth. Nodwyd hefyd y bu’r ysgol hon yn dechrau dysgu’r pynciau dewisol ym mis Chwefror yn y gorffennol, gan ganiatáu mwy o amser i ddysgu a lleihau’r problemau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad. Fodd bynnag, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi gwahardd trefniant o’r fath eleni, sydd yn peri pryder o ran cynnal ymddygiad a diddordeb, ynghyd â cholled tymor o gyswllt.

 

Mynegwyd bod y gwaith cwrs yn cael ei groesawu gan yr athrawes yn Ysgol y Moelwyn, gan ei bod yn teimlo bod y pwnc wedi bod dan anfantais yn y gorffennol mewn cymhariaeth â phynciau eraill sydd ag elfen gwaith cwrs.

 

Mewn perthynas â’r pryder o ddefnyddio AI i dwyllo, awgrymwyd y gallai fod yn ddefnyddiol holi’r disgyblion i weld a ydyn nhw’n deall yr hyn maent wedi’i ysgrifennu er mwyn cadarnhau mai eu heiddo nhw eu hunain yw’r gwaith mewn gwrionedd. Fodd bynnag, esboniwyd y byddai hyn yn cymryd amser i’w wneud ac efallai y byddai’n creu anghydfod rhwng y disgybl a’r staff.

 

Holwyd sut y mae’r ymrwymiad amser o’r cynllun cyfredol a’r cynllun blaenorol yn cymharu. Mewn ymateb, esboniwyd nad oedd yr ateb wrth law, ond roedd yn sicr y byddai’n fwy ymarferol gyda chyflwyno gwaith cwrs.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.