Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Eitemau
Rhif eitem

1.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

COFNODION:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi o fyfyrdod gan y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones.

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

 

           Gwern ap Rhisiart (Pennaeth Addysg)

           Nick Sissons (Yr Eglwys Fethodistaidd)

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

COFNODION:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu

hystyried

COFNODION:

Dim i’w nodi.

5.

COFNODION pdf eicon PDF 140 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor

hwna gynhaliwyd ar 19 Tachwedd, 2024 fel rhai cywir.

COFNODION:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2024 fel rhai cywir.

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYSAG GWYNEDD 2023/24 pdf eicon PDF 249 KB

I gysidro Adroddiad blynyddol CYSAG Gwynedd 2023/24.

COFNODION:

Penderfynwyd gohirio’r eitem hon i’r cyfarfod nesaf.

7.

DIWEDDARIAD AR ADRODDIAD DARPARIAETH ADDYSGU CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG MEWN YSGOLION YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 334 KB

I dderbyn diweddariad ar yr adroddiad gan Dr Gareth Evans-Jones.

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Cyflwynwyd yr eitem gan Dr Gareth Evans-Jones, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

Agorwyd y cyflwyniad drwy roi cyd-destun ynghylch y Canolfan[M(1]  Genedlaethol Addysg Grefyddol Cymru, a gafodd ei hail-lansio ym mis Awst 2023 yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd. Adroddwyd mai amcan y Ganolfan yw hybu astudiaeth, gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o draddodiadau crefyddol, gwerthoedd a thraddodiadau athronyddol sy’n bodoli yng Nghymru a’r byd ehangach.

Nodwyd bod y Ganolfan, dros y flwyddyn ddiwethaf, wedi trefnu a chynnal sawl sesiwn a nifer o weithgareddau:

  • Trefnwyd sesiwn adolygu Lefel A fewnol i fyfyrwyr Ynys Môn, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin.
  • Cynhaliwyd pythefnos o sesiynau adolygu Lefel A ar-lein, gan gwmpasu 24 sesiwn ar Athroniaeth, Moeseg a Bwdhaeth.
  • Darparwyd hyfforddiant DPP i athrawon ar addysgu Bwdhaeth ac Hindŵaeth.
  • Cynhaliwyd ysgol haf ar-lein ym mis Gorffennaf, gyda 15 o ddarlithoedd i gyflwyno myfyrwyr i bynciau lefel prifysgol mewn athroniaeth, moeseg a chrefydd.
  • Cynhaliwyd panel ar addysgeg yr Holocost, a threfnwyd sgwrs ar-lein gan un o oroeswyr yr Holocost ar gyfer ysgolion uwchradd.
  • Trefnwyd sgyrsiau arbennig gyda Nerys Siddall (Mary Jones) a Hanan Issa (Bardd Cenedlaethol Cymru).
  • Cynhyrchwyd adnodd addysgiadol ‘Heddwch yn ein Haddysg’, sef cronfa o wersi a deunyddiau ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 7/8/9 i’w defnyddio yng nghyd-destun pwnc Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg neu fel rhan o’r cwrs Dyniaethau Cymysg.
  • Cynhyrchwyd 10 blwch arteffactau crefydd-benodol ar gyfer addysgu prif grefyddau’r byd, sydd ar gael i’w benthyg i ysgolion.

Esboniwyd bod y prosiect ymchwil wedi’i ddatblygu o ganlyniad i geisiadau athrawon ysgolion i’r Ganolfan i gael eu cynorthwyo ynglŷn â’u hanghenion penodol ar gyfer addysgu Safon Uwch, Addysg Grefyddol ac Addysg Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn yr adrannau[M(2]  iau hyd at TGAU. Nodwyd bod y prosiect ymchwil wedi para naw mis ac yn edrych ar ddarpariaeth addysgu CGM ledled Cymru. Nodwyd mai diben yr holiadur oedd cael gwell syniad o’r heriau y mae athrawon yn teimlo eu bod yn eu hwynebu, pa gryfderau sy’n bodoli, a pha agweddau sy’n wan ar hyn o bryd, er mwyn i’r Ganolfan allu ymateb a chynnal cyfres o sesiynau datblygu.

Amlygwyd bod 58 o ysgolion wedi ymateb, ond gan fod nifer yr ysgolion uwchradd a ymatebodd yn uwch, penderfynwyd llunio adroddiad ar sail y data uwchradd. Nodwyd bod enghreifftiau da o athrawon yn manteisio ar ac ymgysylltu â chyfleoedd hyfforddiant, ond bod enghreifftiau hefyd a oedd yn codi pryderon.

Nodwyd bod y pwnc CGM yn cael ei addysgu naill ai fel pwnc annibynnol neu fel rhan o gynllun Dyniaethau Cymysg hyd at TGAU, gan fod y TGAU yn parhau i fod yn Addysg Grefyddol. Amlygwyd bod pryder wedi codi o ganlyniad i hyn ynglŷn â cholli arbenigedd pwnc ac ynghylch y ffaith bod athrawon sy’n addysgu’r pwnc heb gael eu hyfforddi’n ddigonol. Nodwyd bod hyfforddiant wedi’i greu er mwyn addysgu’r pwnc o fewn Dyniaethau Cymysg ond nid yn unigol. Ymhelaethwyd bod y diffyg hyfforddiant hwn yn peri pryder gan fod natur y pwnc mor sensitif.

Nodwyd mai un gwerslyfr  ...  view the full COFNODION text for item 7.