Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Virtual Meeting - Zoom

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Menna Baines yn Gadeirydd y pwyllgor ar gyfer 2025/26.

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Meryl Roberts yn Is-gadeirydd y pwyllgor ar gyfer 2025/26.

3.

GWEDDI NEU FYFYRDOD TAWEL

Cofnod:

Agorwyd y cyfarfod gyda gweddi gan y Cynghorydd Paul Rowlinson.

4.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan:

 

           Gwern ap Rhisiart (Pennaeth Addysg)

           Eurfryn Davies (Undeb Bedyddwyr Cymru)

           Jean Owen (Ffydd Bahá'í)

           Nathan Abrams (Iddewiaeth)

           Y Cynghorydd John Pughe Roberts

 

Croesawyd Phil Lord fel aelod o’r Pwyllgor yn Ymgynghorydd Annibynnol. Diolchwyd i Buddug Mair Huws am ei gwaith ardderchog ar y Pwyllgor hwn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

5.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Anne Lloyd-Jones fuddiant personol am ei bod yn aelod o fwrdd llywodraethwyr Ysgol Pen-y-bryn, ond nid oedd o’r farn fod hyn yn ei rhagfarnu.

6.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw fater brys yn ôl barn y Cadeirydd i’w ystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

7.

COFNODION pdf eicon PDF 92 KB

Y Cadeirydd i gynnig bod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2025 yn cael eu llofnodi fel cofnod cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 04 Chwefror 2025 fel cofnodion cywir, gan nodi un cywiriad.

8.

MATERION YN CODI pdf eicon PDF 249 KB

Cofnod:

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad blynyddol 2024/25 gan nodi un cywiriad.

9.

CYFIEITHU'R ANGHYFIEITHADWY

I dderbyn cyflwyniad gan Jennie Downs ar Gynefin a datblygiad ysbrydol ym maes y Dyniaethau.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Jennie Downes (Myfyriwr Ôl-raddedig) ar Gyfieithu’r Anghyfieithadwy. Roedd y cyflwyniad yn archwiliad o’r modd y gellir taflu goleuni ar ddatblygiad ysbrydol yn y Maes Dysgu Dyniaethau drwy lens y Cynefin, gyda ffocws arbennig ar ddysgu o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

Yn ystod y cyflwyniad, trafodwyd y prif benawdau canlynol:

·       Cyflwyniad a chefndir byr i’r ymchwil i’r Cynefin.

·       Golwg ar ddeddfwriaeth Cymru a’r Cwricwlwm i Gymru.

·       Ceisio dealltwriaeth o’r cwestiwn: Sut y gellir, drwy ymgysylltu â’r Cynefin, gefnogi dysgwyr (Camau Cynnydd 1 i 3) i ymateb i’r elfen ysbrydol yn eu dysgu o fewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg?

·       Cwmpas yr ymchwil ar y Cynefin.

·       Cyfieithu’r Cynefin i ymarfer cwricwlaidd.

·       Ymchwil ddyfnach yn canolbwyntio ar y Beibl Cymraeg.

·       Ymchwil bellach i ddiwygio’r cwricwlwm a’r cyd-destun byd-eang.

·       Ysbrydolrwydd a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

·       Y Ffocws Byd-eang o fewn Cwricwlwm i Gymru.

I gloi, tynnwyd y canfyddiadau canlynol o’r ymchwil:

·       Bod angen amgylchedd dysgu ‘diogel’ er mwyn gallu archwilio cysyniadau heriol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, a chydnabod a rhoi gwerth ar gynnydd ysbrydol.

·       Y gellid defnyddio pwnc y Beibl Cymraeg a’r cyfieithiadau fel cyd-destun dilys ar gyfer dysgu ar draws y cwricwlwm yng Nghymru.

·       Ei bod yn bwysig datblygu diwylliant o gydnabod a gwerthfawrogi arferion sy’n dod i’r amlwg ym maes Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

·       Bod angen ymchwil bellach ar naratif a’r Cynefin, ac y bydd hyn yn cael ei archwilio yn ystod y cam nesaf o’r ymchwil.

Diolchwyd am y cyflwyniad.

 

Holwyd ynghylch y ffordd orau i rannu ffrwyth yr ymchwil ag ysgolion a sut i droi'r ymchwil yn adnoddau ar gyfer dysgu’r cwricwlwm. Mewn ymateb, nodwyd bod y Bible Society wedi creu adnodd bychan ar sail yr ymchwil sy’n canolbwyntio ar hanes lleol, a bod hwn yn bwynt cychwyn cadarnhaol. Mynegwyd bod cyfle i rannu’r cyflwyniad ag ysgolion a’i bod  yn hapus i wneud hynny’n bersonol. Pwysleisiwyd pwysigrwydd sicrhau fod ysgolion yn edrych ar eu hanes a’u straeon lleol wrth drafod Cynefin a’r ymchwil. Nodwyd bod Dr Gareth Evans-Jones ym Mhrifysgol Bangor wedi cyflwyno’r ymchwil o fewn y Brifysgol, gyda’r camau nesaf yn cynnwys cyhoeddi’r ymchwil mewn cylchgrawn ym mis Tachwedd.

Holwyd a oedd y tensiwn rhwng y syniad o fod yn gysylltiedig â rhywle a bod yn or-gysylltiedig wedi’i archwilio o fewn yr ymchwil, ac os nad oedd, a oedd ymwybyddiaeth o ymchwil arall a oedd wedi archwilio’r maes hwn. Mewn ymateb, mynegwyd diddordeb personol mewn straeon a naratifau a’r modd y cânt eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall ac o un diwylliant i’r llall. Nodwyd ei bod yn bwriadu cynnal ymchwil pellach yn y maes hwn.

Holwyd pa effaith a gafodd y ffaith fod y Testament Newydd gwreiddiol wedi’i ysgrifennu yn y Groeg, ac nid yn yr Aramaeg, yn y cyd-destun hwn. Mewn ymateb, nodwyd bod William Morgan wedi gweithio o’r Ysgrythurau Groeg gwreiddiol, nid o gyfieithiad Aramaeg. Mynegwyd y farn bod gwaith William Morgan yn anhygoel, a bod ystyr llawer dyfnach i gyfieithiad Cymraeg y Beibl o ganlyniad.

Nodwyd bod angen gwahaniaethu rhwng  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

DADANSODDIAD O ADRODDIADAU AROLYGU pdf eicon PDF 188 KB

I dderbyn dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu diweddar gan Estyn.

Cofnod:

Derbyniwyd yr adroddiadau arolygu.

 

Holwyd a oedd pob ysgol yn cynnal gwasanaeth boreol (‘assembly’). Mewn ymateb, nodwyd y byddai Estyn yn tynnu sylw at unrhyw ysgol nad oedd yn bodloni’r gofyn cyfreithiol am addoli ar y cyd pe byddent yn adrodd yn ôl ar hynny yn eu hadroddiad. Nodwyd mai dim ond methiant i fodloni’r gofyn cyfreithiol a gaiff ei nodi gan Estyn, nid pan fo’r ysgol yn bodloni’r gofyn.

 

Eglurwyd bod sawl ysgol yn cynnal  addoli ar y cyd yn y bore o fewn dosbarthiadau cofrestru, ac yn wythnosol yn cynnal gwasanaeth. Nodwyd ymhellach fod  addoli ar y cyd mewn rhai achosion yn cael ei gynnal drwy fyfyrdod yn hytrach nag addoli, a bod y negeseuon a gaiff eu rhannu yn cyd-fynd â chredoau nifer o grefyddau megis caredigrwydd a pharch.

11.

CYNNWYS ADRODDIADAU BLYNYDDOL CYSAG pdf eicon PDF 1 MB

·       I dderbyn y cyflwyniad.

·       I drafod diben a chynnwys Adroddiadau Blynyddol CYSAG.

Cofnod:

Derbyniwyd adroddiadau blynyddol CYSAG.

 

Amlygwyd bod cyflwyniad o gyfarfod diwethaf WASACRE ar dudalen 22 ymlaen. Nodwyd bod WASACRE yn ceisio barn CYSAGau ynghylch pa argymhellion i’w rhoi i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chynnwys adroddiadau blynyddol. Ymhelaethwyd bod y cyflwyniad yn amlygu’r farn fod y canllawiau ar gyfer cynnwys adroddiadau yn amhendant, wedi dyddio ac yn edrych yn ôl at y gorffennol.

 

Holwyd a oedd gan Aelodau’r Pwyllgor farn ynghylch addasrwydd y dull presennol o gynhyrchu adroddiad blynyddol a’i gynnwys. Holwyd ymhellach beth oedd barn yr Aelodau ynghylch a ddylai cynllun gweithredu ar gyfer symud ymlaen ddod yn rhan o’r adroddiad blynyddol.

 

Cytunwyd ei bod yn bwysig cynnwys crynodeb o’r hyn a fu, ond bod angen cael nod cytunedig wrth adrodd yn ôl yn yr adroddiadau blynyddol er mwyn arwain at newid mwy cadarnhaol yn y dyfodol.

12.

CYFLEOEDD CGM/AG OBLYGOL AR GYFER BLWYDDYN 10 A 11 pdf eicon PDF 2 MB

I dderbyn cyflwyniad ar y cyfleoedd sydd ar gael i ysgolion i ddarparu Addysg Grefyddol orfodol i ddisgyblion ym Mlwyddyn 10 ac 11.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Phil Lord, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·  Bod y cyflwyniad wedi’i baratoi gyda’r bwriad o helpu athrawon ac arweinwyr ddeall sut mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn ffitio i mewn i’r cwricwlwm ehangach, a beth sy’n ofynnol yn gyfreithiol i’w ddarparu i ddysgwyr o fewn y maes (yn enwedig ym Mlwyddyn 10/11).

·  Bod y cyflwyniad yn canolbwyntio ar sut y gall ysgolion ddarparu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg i ddysgwyr y tu hwnt i bwnc TGAU.

·  Bod sawl newid wedi’i wneud i Gwricwlwm i Gymru mewn perthynas â CGM, sef:

o   Bod angen cynnwys crefydd ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol.

o   Bod yr hawl i dynnu’n ôl o CGM wedi’i ddiddymu.

o   Bod dim gofyn i ddarparu CGM i ddisgyblion ôl-16.

·       Bod CGM yn hybu nid yn unig ddysgwyr gwybodus ond hefyd rai trugarog a goddefgar.

·       Bod gofyn cyfreithiol i ddarparu CGM i ddysgwyr 3–16 oed.

·       Bod y cwricwlwm yn cynnwys elfennau datblygiad ysbrydol mewn sawl ffurf, megis tuag at eraill, yn bersonol, yn gymunedol, tuag at y byd naturiol, drwy greadigrwydd ac wrth ystyried ystyr a phwrpas.

·       Bod saith lens CGM i’w defnyddio wrth dynnu gwybodaeth.

·       Bod sawl dull o gyflwyno CGM i ddysgwyr.

·       Bod cymwysterau Agored Cymru yn dod i ben yn 2027, gyda chymhwyster ‘Skills Suite’ yn eu disodli.

·       Bod gostyngiad yn nifer y dysgwyr sy’n manteisio ar y cwrs byr TGAU CGM, gyda niferoedd y cwrs hir yn aros yn sefydlog.

·       Bod pryder ynghylch pwysau gwaith ar athrawon sy’n addysgu TGAU CGM.

·       Bod gofynion gwahanol ynghylch CGM mewn ysgolion preifat/ffydd a chynlluniau mewn ysgolion cyhoeddus.

·       Bod dulliau Amlddisgyblaethol ac Rhyngddisgyblaethol i ddysgu CGM, ond bod beirniadaeth o’r dull olaf gan fod perygl o golli’r gwahaniaethau rhwng y disgyblaethau unigol.

Awgrymwyd y dylai’r Awdurdod drafod gyda Phil Lord gyda’r bwriad o gynnig hyfforddiant i Benaethiaid Gwynedd ar y mater hwn.

 

13.

CCYSAGauC pdf eicon PDF 533 KB

       I dderbyn cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas ar 6 Mawrth 2025.

       Nodi’r llythyr at Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

       Er gwybodaeth: Cyfarfod nesaf CCYSAGauC – 2 Gorffennaf 2025, yn cael ei gynnal yn rhithiol gan Ynys Môn.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

·  Derbyniwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 6 Mawrth 2025.

 

·  Nodwyd llythyr at Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.