Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Ann Roberts 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer
2017/18. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y pwyllgor hwn am 2017/18. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2017/18. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Cai Larsen yn
is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Cynghorydd Alan Jones Evans. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nid oedd materion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2017 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 28 Chwefror, 2017 rhai cywir. |
|
ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG Derbyn adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad llafar Aelod Cabinet y Gymraeg, yn manylu ar
ddatblygiadau diweddar o fewn y maes, gan
gynnwys y canlynol:- ·
Y Siarter Iaith Cynradd wedi derbyn
cydnabyddiaeth genedlaethol a rhaid sicrhau ei fod yn gweithio yng Ngwynedd ac
yn gwneud gwahaniaeth. Byddir yn adrodd
i’r Pwyllgor Iaith yn rheolaidd y byddwn yn cael trafodaeth bwysig yn
rheolaidd. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
CYLCH GORCHWYL Y PWYLLGOR IAITH PDF 191 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, yr adran berthnasol
o Gyfansoddiad y Cyngor (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynodd yr Uwch
Gyfreithiwr - Corfforaethol y cefndir a’r newid i gylch gorchwyl y Pwyllgor
Iaith a fabwysiadwyd yn y Cyngor llawn ar 15 Mehefin 2017. Adroddwyd bod y newidiadau yn sgil y drefn
graffu newydd. Gwnaed sylwadau y
dylai fod gan y Pwyllgor Iaith rôl fwy gweithredol a rhagweithiol. Mynegwyd pryder aelod bod yr iaith yn mynd
i’r un cwch a nifer o bynciau eraill. Adroddodd
yr Aelod Cabinet ei bod yn awyddus i fod yn ymgynghori hefo’r pwyllgor rhwng y
cyfarfodydd ac os bydd yna fater pendant i fynd ar ei ôl, bydd yn croesawu
gweithio hefo aelodau’r Pwyllgor. Cadarnhawyd mai rôl y pwyllgor ydi edrych ar sut mae polisi iaith mewnol y
Cyngor yn cael ei weithredu a sut mae’r Cyngor yn cydymffurfio â’r Safonau
Iaith. Prif bwrpas y Pwyllgor ydi edrych
ar drefniadaeth fewnol y Cyngor mewn perthynas â’r Gymraeg. Adroddwyd bod y Pwyllgor wedi bod yn cynnal
ymchwiliadau oedd yn edrych ar bynciau neu faes penodol a llunio cyfres o
argymhellion gwella. Adroddwyd y tybir y
bydd y drefn yma’n parhau ac awgrymwyd cyflwyno rhaglen waith ar gyfer y
Pwyllgor i’w gyfarfod nesaf. Nodwyd y
bydd materion yn deillio o’r adroddiad safonau i’w gosod ar y rhaglen
waith. Amlinellwyd prif waith y Pwyllgor
ac adroddwyd bod hyrwyddo’r Gymraeg yn bwysig a byddir yn ymgynghori gyda’r
aelodau ar strategaethau ond prif ffocws y pwyllgor ydi’r trefniadau mewnol. |
|
Y DREFN GWYNION GORFFORAETHOL PDF 211 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Gyfreithiwr
– Corfforaethol yn nodi pwysigrwydd y drefn o ran y cyswllt agos hefo gofal
cwsmer i sicrhau bod cwynion yn cael sylw
dyladwy a bod goruchwyliaeth
o’r ymatebion. Nodwyd pryder yr aelodau
-
na fydd y Gymraeg, sydd mor bwysig, yn derbyn
sylw teilwng o ddilyn y drefn gwynion gorfforaethol. -
am y fiwrocratiaeth ac
y byddir yn colli golwg ar y nod. -
am ddiffyg rôl i’r pwyllgor o ran dylanwad ar y
cwynion a’r ymatebion. Nodwyd, o ran
cadw golwg ar y safonau, mae tystiolaeth yn bodoli bod y Cyngor yn ymateb i’r
safonau yn iawn beth bynnag a chwestiynwyd rôl y pwyllgor. Eglurodd y Swyddog Monitro mai trefn gwynion
gorfforaethol ar gyfer y cyhoedd ydyw i godi
cwynion ynglŷn â gwasanaeth, yn cynnwys cwynion iaith. Nodwyd bod y cyhoedd eisiau datrysiad sydyn felly hanfod y drefn yw gwneud
pethau yn rhwydd i’r cwsmer. Os oes gan aelod
gwyn, gellir cysylltu â’r gwasanaethau
uniongyrchol. Bydd yna rôl
i’r pwyllgor os daw yn amlwg
bod patrwm cynyddol i’r cwynion ond
dim rôl y pwyllgor ydi delio hefo
cwynion unigol. Rôl ehangach o ran ansawdd iaith fydd
gan y pwyllgor drwy edrych ar
dueddiadau. Mynegwyd pryder aelod nad
oedd aelodau’r pwyllgor yn cael
gweld y cwynion o hyn ymlaen. Mewn ymateb nodwyd mai
cwynion unigol oedd yn cael
eu cyflwyno yn y gorffennol ac nid oedd y pwyllgor
yn gweld patrymau dros amser. O ganlyniad nid oedd dylanwad
ar raglen waith y pwyllgor. Trwy ddilyn y drefn gwynion gorfforaethol bydd tueddiadau yn cael eu
hadnabod a gellir dod a’r tueddiadau
hynny gerbron y pwyllgor yma. Mynegwyd pryder
aelod bod y Gymraeg yn cael ei
gwthio i gael yr un math o ystyriaeth a chwyn am dwll yn y ffordd. Mae’r Gymraeg yn gwbl
wahanol ac yn treiddio drwy holl
waith y Cyngor. Cyfeiriodd yr Uwch Gyfreithiwr
– Corfforaethol at bwynt 17
yn yr adroddiad
sydd yn nodi’r
bwriad i adrodd i’r pwyllgor
hwn am y niferoedd a’r mathau o gwynion
iaith, y patrymau a chynlluniau i wella. Adroddodd bod y trefniadau yn gryfach
o fewn y Cyngor erbyn hyn ac yn
sicrhau bod y cwsmer yn cael ateb
i’w cwyn. Mae safon sut mae’r Cyngor
yn delio hefo cwynion wedi
gwella oherwydd bod yna oruchwyliaeth. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod adroddwyd na dderbyniwyd
cwyn iaith ers y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor
hwn. Gofynnodd aelod a oedd modd mynd
yn ôl i
ddefnyddio’r hen drefn. Mewn ymateb eglurodd y Swyddog Monitro mai cyfrifoldeb y Cabinet yw’r drefn gwynion
a’r Cabinet sydd wedi mabwysiadu’r drefn yma ar
sail model cenedlaethol. Hon yw’r
drefn gwynion gorfforaethol. Mae’r drefn yn
sicrhau bod problem sydd angen mwy o sylw
yn cael sylw
a bod y drefn yn un syml sy’n pwyso
ar adrannau i gael datrysiad. Awgrymodd aelod bod cais yn mynd i’r Cabinet i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR WEITHREDIAD Y SAFONAU IAITH PDF 253 KB Ystyried
adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad blynyddol gan yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg. Manylwyd ar y cynnwys gan y Swyddog Datblygu
Iaith. Eglurodd eu bod wedi penodi
swyddog i’r swydd wag - Swyddog Dysgu a Datblygu a fydd yn helpu hefo datblygu
sgiliau staff. Croesawyd y
datblygiadau fel y pencampwr iaith hamdden a’r awgrymiadau yn deillio o’r
Ymchwiliad Gwelededd yr Iaith Gymraeg sydd yn berthnasol i Safonau Iaith 35 a
36 – Safonau Cyflenwi Gwasanaeth yn ymwneud â digwyddiadau cyhoeddus. Nodwyd bod e
fodiwl wedi’i ddatblygu yn unol â gofynion y safonau iaith ac mae ar gael ar
gyfer pob aelod o staff. Adroddwyd ar y
Cynllun Pencampwyr Iaith a’r bwriad i’w ledaenu ar draws y Cyngor. Nodwyd bod y
gwaith a wnaed hyd yma yn yr adran Ymgynghoriaeth eisoes yn dangos gwahaniaeth
yn y modd y mae staff yn cyfathrebu gyda’i gilydd ac mewn cyfarfodydd. Gofynnodd aelod a oedd yna rôl i’r pwyllgor i geisio ymestyn beth mae’n
wneud, e.e. gweithio hefo’r sector breifat i wella’r ddarpariaeth. Er enghraifft, ymestyn allan o waliau’r sir a
gweld sut y gellir dylanwadu yn ehangach ar y defnydd o’r Gymraeg. Mewn ymateb
awgrymodd y Rheolwr Gwasanaethau Iaith Gymraeg bod y pwyllgor yn derbyn cyflwyniad ar ‘Hunaniaith’ sef y
fenter iaith yng Ngwynedd sydd a’r rôl o hyrwyddo’r Gymraeg y tu allan i furiau
Gwynedd. Adroddwyd bod y Cyngor ei hun
hefyd yn gwneud popeth o fewn ei allu i sicrhau cyd-ddealltwriaeth. Bydd y Cyngor yn llunio Strategaeth Iaith
newydd rhwng nawr a mis Mawrth. Awgrymodd aelod ymestyn y defnydd o gortynnau gwddf / bathodynnau iaith i
aelodau yn ogystal â’r staff. PENDERFYNWYD -
derbyn yr
adroddiad -
bod y pwyllgor
yn derbyn cyflwyniad ar ‘Hunaniaith’ yn ei gyfarfod nesaf. |
|
GWIREDDU'R UCHELGAIS - YMATEB I STRATEGAETH GYMRAEG NEWYDD LLYWODRAETH CYMRU PDF 489 KB Ystyried adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad blynyddol gan yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg. Manylwyd ar y cynnwys gan y Rheolwr
Gwasanaethau Iaith. . Bydd Strategaeth derfynol Llywodraeth Cymru
yn cael ei chyhoeddi ar 11 Gorffennaf 2017.
Nodwyd pryder bod
cymaint o ffocws ar addysg fel yr unig gyfrwng i gyrraedd y nod. Tynnwyd sylw’r
aelodau nad oes son am gadarnleoedd yr iaith, yr elfen o ddefnydd cymdeithasol
o’r Gymraeg, a’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymuned. Nodwyd pwysigrwydd
gosod cerrig milltir sydd yn cael ei gyfarch yn yr adroddiad, ond yn fater
anodd ei fesur. Defnyddir y system
addysg yn aml ond bydd yn her a rhaid meddwl am ffyrdd soffistigedig i fesur. Awgrymodd aelod
mai’r unig ffordd i wireddu’r uchelgais yw drwy agor mwy o ysgolion cyfrwng
Cymraeg. Mae llawer o deuluoedd lle nad
yw’r rhieni yn siarad Cymraeg felly dim Cymraeg ar yr aelwyd. Adroddodd aelod bod tri chwarter y siaradwyr Cymraeg yn cael eu cynhyrchu
gan y system addysg a chwarter gan y cartref.
Os am wireddu’r uchelgais, awgrymwyd mai ffordd ymlaen yw drwy ymestyn y
system addysg, yn arbennig yn y De Ddwyrain.
Dylai’r Llywodraeth gefnogi’r Awdurdodau Lleol sy’n gweithredu’r
gofynion yn barod a’r awdurdodau sydd yn cymryd camau i ymestyn y sector addysg
Gymraeg. Mynegwyd siom bod yr adroddiad yn crybwyll defnyddio’r system addysg yn
unig i wireddu’r uchelgais ac awgrymwyd cynnwys y maes cynllunio yn
ogystal. Yn aml mae’n faes sy’n cael
effaith ar yr iaith. Cytunodd aelod a’r
sylw hwn ac yn enwedig yn sgil penderfyniad Leslie Griffiths, Aelod Cabinet
Llywodraeth Cymru yn caniatáu i adeiladwyr apelio eto ar ôl i Wynedd droi cais
i lawr ddwywaith ynglyn a’r tir ym Mhenrhosgarnedd. Awgrymodd aelod
bod lle i edrych ar rôl Hunaniaeth o ran y pwyslais ar ddatblygu’r Gymraeg yn
gymunedol. Adroddwyd bod Mentrau Iaith
gyda rôl ganolog yng nghymunedau mewn llefydd eraill a bod lle i edrych ar rôl
y fenter iIaith yn y sir yma. Adroddodd yr Aelod
Cabinet – Y Gymraeg bod y Cyngor wedi pwysleisio’n glir nad trwy un cyfrwng,
sef y system addysg, mae gwireddu’r uchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg. Adroddodd aelod
bod rhaid edrych ar ôl cwmnïau gwledig a bod hybu’r economi yn hanfodol i gadw
siaradwyr Cymraeg yma. Adroddodd aelod
bod y nod yn iawn, ond bod y Llywodraeth a’r pwyllgor sydd wedi ffurfio’r
Strategaeth yn hesb o syniadau ac yn troi at addysg fel petai hynny’n allwedd i
bopeth. Adroddwyd bod
aelodau’r pwyllgor i gyd yn dod o’r De Ddwyrain. Mewn ymateb i’r
sylw ar aelodaeth y pwyllgor, adroddodd yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg bod dim
cynrychiolaeth o’r Gogledd Orllewin a bron dim o’r Gogledd yn ei
gyfanrwydd. Nodwyd ei bwriad i godi’r
mater hefo Cadeirydd y pwyllgor ac i geisio cynrychiolaeth deg o’r siaradwyr ar
draws Cymru. Dechreuodd y
cyfarfod am 10.30 y.b. a daeth i ben am hanner dydd. |