Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Williams 01286 679729
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Eric
M. Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o
fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 27
Chwefror, 2018 fel rhai cywir. |
|
YMGYNGHORIAD STRATEGAETH IAITH PDF 223 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd
fersiwn ddrafft o’r Strategaeth Iaith, ‘Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd
2018-2023’, gan y Rheolwr Gwasanaethau'r Iaith Gymraeg. Nodwyd bod y cyfnod
ymgynghori cyhoeddus ar y strategaeth wedi cychwyn ac y byddai’n dod i ben ar y
5ed o Fehefin 2018. Dywedwyd y bydd
croeso i unrhyw unigolyn neu sefydliadau gynnig unrhyw sylwadau, gwelliannau
neu awgrymiadau er mwyn eu hystyried. Bydd y strategaeth derfynol yn mynd ger
bron y Cabinet a’r Cyngor Llawn ym mis Hydref 2018, ynghyd â chynllun
gweithredu a fydd yn cael ei lunio yn yr haf. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol ymatebwyd i nifer o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol
mewn perthynas â: §
Gwallau iaith a cham
dreiglo yn y strategaeth. §
Camau gweithredol yn
esbonio beth sy’n mynd i ddigwydd, pwy sy’n gyfrifol, a sut mae mesur cynnydd
ddim wedi eu cynnwys yn y
strategaeth. §
Penderfyniadau’r Cyngor
sy’n gwrthweithio yn erbyn nifer o’r amcanion sydd wedi eu cynnwys yn
strategaeth e.e. cau'r clybiau ieuenctid sy’n hybu’r defnydd o Gymraeg ymhlith
phobl ifanc. Tywyswyd yr
aelodau drwy gynnwys y cwestiynau ymgynghoriad ar gyfer y Strategaeth Iaith. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol ymatebwyd i gyfres o gwestiynau/sylwadau gan
aelodau unigol mewn perthynas â: Crynodeb o’r sefyllfa bresennol a’r heriau §
Y ‘Seisnigrwydd slei’
sy’n deillio o'r dechnoleg/teclynnau electronig sy’n cael eu defnyddio mewn
ysgolion - oes modd mynd i’r afael a hyn?
§
Cyngor Gwynedd yw un o'r
unig sefydliadau yng Nghymru sy’n flaengar i gyfieithu ‘apps’, darparu
technoleg yn y Gymraeg, a darparu cyfarfodydd sy’n ddwyieithog – pam nad yw’r
llywodraeth yn cyfrannu arian er mwyn cefnogi’r gwaith arbennig yma? §
A yw’n deg annog pobl
ifanc ‘i fod yn arweinwyr cymunedol ac i drefnu gweithgareddau yn eu cymunedau’
pan mae’r Cyngor yn tynnu’r cyfleusterau a'r arian i wneud hyn oddi wrthynt? Blaenoriaeth 1: Iaith y Cartref §
Trosglwyddiad ieithyddol
yn wan ymhlith teuluoedd rhieni sengl - ydi’n bosib cael strategaeth benodol i
fynd i’r afael a’r mater yma? §
Trosglwyddiad ieithyddol
yn wan mewn teuluoedd ble mae’r tad yn unig sy’n siarad Cymraeg. Mae angen
cryfhau’r neges bod tadau gyda rôl bwysig i sicrhau bod eu plant yn tyfu fyny
yn ddwyieithog. §
Awgrym
i sefydlu canolfannau trochi newydd mewn ardaloedd gyda chanran uchel o blant
sy’n hwyr yn dysgu’r Gymraeg. §
Oes
modd clymu gweledigaeth yr iaith gartref gyda nod y Siarter Iaith? Blaenoriaeth 2: Iaith Dysgu §
Angen
darparu neges glir i ddisgyblion ysgolion uwchradd bod y Gymraeg yn gymhwyster
yn y sector gyhoeddus a’r sector breifat ac yn arwain at lawer mwy o gyfleoedd
gwaith yn y dyfodol. Blaenoriaeth 3: Iaith Gwaith a Gwasanaeth §
Mae’r gweithle yn le
pwerus i hybu’r defnydd o Gymraeg – mae’n bwysig ehangu’r gweithleoedd sy’n defnyddio’r
Gymraeg yn llwyr. §
Oes
modd dylanwadu ar fanciau ac archfarchnadoedd a chwmnïau ynni mawrion i wneud
mwy o ddewis iaith. § Mae’n bwysig sicrhau bod y peiriannau hyn yn defnyddio Cymraeg hawdd sy’n cael ei ddefnyddio pob dydd. Yn aml, mae’r cyfieithiad yn rhy drwsgl a chymhleth sydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD AR BOLISI ENWAU LLEFYDD Y CYNGOR PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd papur ymchwil yn
amlinellu dyletswyddau a hawliau statudol yr Awdurdod yng nghyswllt bathu,
arddel a chofnodi enwau tai, ystadau, strydoedd a lleoedd Gwynedd gan y Rheolwr
Prosiect Gwasanaethau Corfforaethol. Nodwyd bod y mater wedi bod yn destun sawl
cwyn sydd wedi dod ger bron y Pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf, ac amcan y
papur ymchwil yw cael gwell dealltwriaeth o’r sefyllfa. Gofynnwyd i’r aelodau
ystyried canlyniadau ac argymhellion yr ymchwil a rhoi eu barn am y camau nesaf
priodol. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol ymatebwyd i nifer o gwestiynau/sylwadau gan aelodau unigol
mewn perthynas â: §
Oes gan y Cyngor yr hawl
i fynnu enwau Cymraeg ar stadau newydd? §
Pwy sy’n gyfrifol am enwi
tai, datblygiadau a strydoedd sy’n berchen i’r Cyngor? §
Mae nifer o ddatblygiadau
newydd yn fwy tebygol o gael enwau Cymraeg, oes modd pwysleisio’r pwynt yma? §
Mae’r
mater yn codi pryder, nid yn unig wrth enw tai a strydoedd, ond wrth enwi
caeau, creigiau neu ddarnau o’r mynyddoedd. Oes modd edrych am arian i osod plac
arnynt yn nodi'r enwau cywir er mwyn hybu’r enwau Cymraeg? PENDERFYNWYD: Cytuno i barhau i
weithio ar sail yr adroddiad er mwyn cael mwy o eglurder, yn enwedig o ran enwi
nodweddion daearyddol a sut y gallwn ddylanwadu ar yr enwau a ddefnyddir gan gyrff
allanol fel y Post Brenhinol a’r Arolwg Ordnans, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor
ar unrhyw ddatblygiadau. |
|
CYFLWYNIAD TAN20 - ADRAN GYNLLUNIO Cofnod: Rhoddwyd cyflwyniad i’r Pwyllgor ar
Nodyn Cyngor Technegol 20: Cynllunio A’r Gymraeg (Tan 20) yn dilyn cais gan y
Cadeirydd a godwyd pryder bod arweinyddiaeth y llywodraeth ar y mater yn
annelwig a gwan. Nodwyd bod y Tan 20
newydd wedi’i gyhoeddi ers mis Hydref 2017 ac amlygwyd y
cysondebau/gwahaniaethau rhwng y fersiwn hwn a’r fersiwn blaenorol, a
thrafodwyd y gwendidau’r fersiwn newydd, a’r goblygiadau ar ardaloedd cynllunio
Gwynedd a Môn. Esboniwyd bod ymateb eisoes wedi’i
anfon i’r Llywodraeth yn enw grŵp Plaid Cymru ym mis Rhagfyr i fynegi
pryder ac anfodlonrwydd bod y Llywodraeth wedi anwybyddu sylwadau Cyngor
Gwynedd a Môn, ac wedi methu â; § chynnig diffiniad o ardaloedd
sensitifrwydd ieithyddol; § rhoi arweiniad ar yr asesiad iaith. Adroddwyd bod ymateb wedi ei dderbyn
gan y Gweinidog Lesley Griffiths AC, oedd yn nodi bod
rhyddid i Awdurdodau Lleol ehangu ar y polisi cenedlaethol a datblygu eu
canllawiau eu hunain i ymateb i anghenion lleol. Roedd felly yn rhoi y cyfrifoldeb yn nwylo’r
Awdurdod lleol i bennu’r hyn sydd yn briodol ar gyfer eu hardal hwy. Gofynnwyd i’r aelodau a oeddynt yn
dymuno anfon gohebiaeth bellach at y Llywodraeth yn enw’r Pwyllgor Iaith neu a
oeddynt yn hapus i weld beth fyddai’n dod o ddatblygiad y Canllaw Cynllunio
Atodol a chael diweddariad ar y mater yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor. PENDERFYNWYD: gadael yr eitem ar yr agenda ar gyfer diweddariad yn
y pwyllgor nesaf. |
|
CWYNION AC YMCHWILIADAU Cofnod: Nid oedd unrhyw gwynion nag
ymchwiliadau yw nodi. |