Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. John Pughe Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I ddatgan
unrhyw fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi
unhryw faterion brys sydd wedi codi Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Y Cadwirydd
I gadanhau cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 10 Gorffennaf
2018 Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 10 Gorffennaf, 2018 fel rhai
cywir. |
|
ADRODDIAD AELOD CABINET Diweddariad
gan yr Aelod Cabinet Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet yr adroddiad gan
nodi yn dilyn y Cyngor Llawn fod Cynllun Hybu’r Gymraeg bellach wedi ei
fabwysiadu. Mynegwyd fod grant o £2m Arfor wedi ei gyhoeddi gan y Llywodraeth.
Ychwanegwyd fod trafodaethau cychwynnol wedi ei gynnal am y cynllun. Ategwyd
fod y Gymraeg yn ganolog i’r Cynllun Arfor. Nodwyd fod yr Aelod Cabinet a
Rheolwr Gwasanaethau’r Gymraeg bellach yn rhan o’r trafodaethau. Nodwyd fod Cynllun Hunaniaith wedi cael 2
flynedd ychwanegol o gyllid a'u bod yn y broses o greu cynllun ar gyfer
2020/21. Mynegwyd fod y cynllun blaenorol yn cynllun tair blynedd ac fod y dair
blynedd bellach yn tynnu at y terfyn. Nodwyd yr angen am gynllun newydd a fydd
yn edrych ar brosiectau hir dymor a'i fod yn gyfle i feddwl sut y gall
Hunaniaith symud ymlaen. Sylwadau o’r drafodaeth ·
Nodwyd fod cynllun Arfor yn
gynllun sydd wedi cael ei drafod ers pum mlynedd a datganwyd hapusrwydd fod
grant wedi ei gyhoeddi. Trafodwyd y bydd
y Cynllun TWF ac Arfor yn rhedeg ochor yn ochor, ond na fyddant yn cyd-weithio,
a ni ddylid cynllun TWF amharu ar ddeinameg Cynllun Arfor. ·
Ychwanegwyd fod cynllun Arfor
angen ei ddatblygu a bod angen trafod cynlluniau o fewn y 4 sir y bydd Arfor yn
rhan ohoni. ·
Mynegwyd gwahaniaethau rhwng
cynllun Arfor a TWF gan nodi nad yw diwylliant yn rhan ganolog o gynllun TWF a
bod y Gymraeg yn rhan ganolog o Gynllun Arfor. |
|
RHAGLEN WAITH Y CYNLLUN HYBU PDF 35 KB I ystyried adroddiad y Rheolwr
Gwasanaethau’r Gymraeg Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod hwn
yn gyfle i edrych yn fanylach a chael trafodaeth ar y rhaglen waith.
Ychwanegwyd mai rhaglen waith cychwynnol yw’r hwn ac y bydd datblygiadau yn
cael ei wneud i’r rhaglen unwaith y bydd modd cael yr holl bartneriaid at ei
gilydd er mwyn datblygu prosiectau ar y cyd. Mynegwyd fod 5 maes
blaenoriaeth yn y rhaglen waith ac edrychwyd ar bob blaenoriaeth yn unigol. a.
Iaith
y Teulu Trafodwyd
partneriaeth gyda’r Mudiad Meithrin gan nodi fod cydweithio yn digwydd ond fod
angen trafodaethau pellach. Ychwanegwyd fod y Mudiad Meithrin yn gwneud
newidiadau i’w prosiectau ac o ganlyniad nad oes trafodaethau dwys wedi eu
cynnal a’r mudiad. Nodwyd
fod trosglwyddo iaith yn deuluol yn digwydd yn arferol yng Ngwynedd, ond ychwanegwyd
fod angen dealltwriaeth o ble mae’r bylchau o ran ardaloedd ble nad yw
trosglwyddo iaith yn deuluol mor uchel ag eraill. Holwyd os byddai modd cael
data, a mynegwyd efallai y byddai modd cael y data gan yr Adran Addysg.
Trafodwyd y wybodaeth sydd yn cael ei gasglu mewn ysgolion a nodwyd fod rhieni
yn asesu lefel iaith plant cyn iddynt gychwyn yn yr ysgol. Trafodwyd
fod plant yn amsugno iaith yn y blynyddoedd cynnar a holwyd os oes appiau ar
gael ar gyfer yr oedran yma drwy’r Gymraeg. Ategwyd fod myfyriwr drwy’r Coleg
Cymraeg wedi bod yn gwneud ymchwil ar y maes dros gyfnod o 10 diwrnod yn y
cyngor, a bod y canlyniad yn dangos fod nifer uchel o appiau yn targedu oedran
cynradd a meithrin. Ychwanegwyd fod angen datblygu mwy o appiau ar gyfer oedrannau
uwchradd. Mynegwyd fod angen hyrwyddo’r appiau fwy o fewn cymdeithas. Trafodwyd
sut mae modd sicrhau fod staff clybiau brecwast ac ar ôl ysgol yn glynu at y
polisi iaith. Mynegwyd fod ymrwymiad ysgolion i’r siarter iaith yn gysylltiedig
â’r clybiau. Ychwanegwyd fod GwE wedi gwneud asesiad iaith ar staff o fewn
ysgolion. Ategwyd efallai fod angen sicrhau fod y Siarter Iaith yn cael ei
gynnwys ar agenda cyfarfodydd Llywodraethwyr yn rheolaidd er mwyn sicrhau fod y
Gymraeg yn cael ei gynnwys ym mhob agwedd o glybiau yn ogystal. b.
Iaith
Dysgu Mynegwyd
fod y system addysg yn un sydd yn gweithio o fewn y sir ond nodwyd dau fan
gwan. Y cyntaf oedd gostyngiad yn nifer y plant sydd yn siarad Cymraeg iaith
gyntaf ym mlwyddyn 6 a 7 a’r ail y lleihad mewn nifer o blant sydd yn astudio
pynciau drwy’r Gymraeg. Nodwyd fod y mannau gwan yma yn cael eu hadnabod o
Siarter Iaith ysgolion Uwchradd. Mynegwyd fod angen diweddariad gan yr adran. c.
Iaith
gwaith a Gwasanaeth Nodwyd
fod angen cadw data o faint sydd yn cael gwasanaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn
benodol wrth edrych ar wasanaeth ieuenctid, hamdden a gofal. Nodwyd fod angen
cadw golwg ar hyn. d.
Iaith
a Chymuned Trafodwyd iaith a ddefnyddir mewn cyfarfydd Cynghorau Chymuned ac ychwanegwyd fod ychydig o arian ar gael ar gyfer cael cyfieithwyr mewn cyfarfodydd yn y gymuned. Nodwyd fod yr arian ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
RHAGLEN WAITH Y PWYLLGOR IAITH PDF 44 KB I ystyried adroddiad y Rheolwr
Gwasanaethau’r Gymraeg Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
eitem yn ddilyniant i’r eitem flaenorol. Mynegwyd mai pwrpas yr eitem yw er
mwyn cael themâu a meysydd penodol y gall y Pwyllgor edrych arnynt. Tynnwyd
sylw at ddatblygu gweithlu gan nodi fod y cynllun ar waith. Ychwanegwyd fod mwy
o gyfleodd hyfforddiant. Nodwyd y byddai modd cael staff Hunaniaeth i
ddod i’r Pwyllgor yn aml er mwyn cyflwyno achosion achos o’r prosiectau maent
yn rhan ohonynt. Byddai hyn, ychwanegwyd, yn codi ymwybyddiaeth y pwyllgor i’r
gwaith mae Hunaniaith yn ei wneud. Holwyd beth yw blaenoriaeth rhaglen waith y
Pwyllgor. Mynegwyd y byddai’n dda cael dysgu gan eraill sydd yn gweithio ym
maes yr Iaith Gymraeg. Ategwyd y byddai’n dda edrych be all pobl eraill ei
ddysgu gan y Cyngor. Nodwyd fod angen magu perthynas a Phwyllgorau Iaith y
siroedd cyfagos. Nodwyd fod angen blaenoriaethu gan
bwysleisio fod rhai o’r meysydd a mwy o waith nac eraill. Trafodwyd sgiliau’r
gweithlu gan nodi ei bod yn ymarfer da fod y Cyngor yn gweithio drwy gyfrwng y
Gymraeg yn unig. Holwyd os yw’r polisi yn cynnwys staff sydd yn cael eu
contractio, megis gyrwyr tacsis. Mynegwyd nad yw’r polisi yn cynnwys y staff
sydd yn cael eu contractio ac efallai
fod angen amlygu’r polisi yn y meysydd yma. PENDERFYNIAD Derbyniwyd yr adroddiad. |
|
NEWID YMDDYGIAD AC ARFERION IAITH Cyflwyniad
gan Arwel Williams o Brifysgol
Bangor Cofnod: Cafwyd cyflwyniad Arwel Williams a oedd yn
amlinellu ymchwil Newid Ymddygiad a oedd yn
ymchwilio i’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle. Manylwyd ar yr ymchwil a'i fod
wedi bod yn canolbwyntio newid ymddygiad ac arferion iaith yn benodol mewn
adran y Brifysgol. Manylwyd ar fethodoleg yr ymchwil ac y sut y bu i’r data
gael ei gasglu. Ychwanegwyd y bydd y Cyngor yn ail ran yr ymchwil a fydd yn
cychwyn yn ystod y misoedd nesaf. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Nodwyd
fod yr ymchwil yn un diddorol ond fod pob gweithle am fod yn unigryw gan ei fod
yn ddibynnol ar nifer y bobl sydd yn siarad Cymraeg yn y swyddfeydd.
Ychwanegwyd fod tueddiad os rhywun yn ddi-gymraeg i sgyrsiau droi i’r Saesneg. ¾
Mynegwyd
fod gwersi i’w dysgu ar gyfer lleoliadau eraill o gam cyntaf yr ymchwiliad. ¾
Nodwyd
diddordeb i weld beth fydd canlyniadau’r ail ran o’r ymchwil gyda Chyngor
Gwynedd a’r Bwrdd Iechyd. ¾
Trafodwyd
beth yw effeithiau hir dymor y cynllun ond nodwyd nad oes dadansoddiad llawn
o’r data wedi ei wneud ac y bydd yr Adran Seicoleg yn rhan o’r gwaith i
ddadansoddi’r data. |
|
I dderbyn diweddaraid gan Reolwr Gwasanaethau
Iaith Gymraeg Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod un cwyn wedi ei dderbyn yn ystod y cyfnod sef
holiadur aelwydydd. Ychwanegwyd fod yr holiadur yma heb gael ei anfon allan gan
y Cyngor ac wedi ei ryddhau yn ddiarwybod i’r Cyngor. Ychwanegwyd
fod un ymchwiliad yn mynd rhagddo a bydd mwy o wybodaeth i ddilyn. Trafodwyd
trefn gwynion y Comisiynydd Iaith, a bod yr adran Iaith yn ceisio cyfeirio
pethau at y Comisiynydd i ofyn am gymorth os yn methu cydymffurfio a’r gofynion
iaith. Cyflwynwyd enghraifft sydd wedi ei gyfeirio at y Comisiynydd sef gwers
lyfrau ar gyfer hyfforddiant mewn maes arbenigon ar gael yn Saesneg yn unig. Tynnwyd
sylw at rai cwynion penodol yn ymwneud a Pholisi Iaith y Cyngor oedd wedi ei
derbyn. Yn y maes amgylchedd roedd rhai dogfennau ar gael yn Gymraeg yn unig,
roedd hyn o ganlyniad i amserlen dynn o fewn yr adran. Ychwanegwyd pan
dderbyniwyd y gwyn roedd y dogfennau Saesneg yn barod i’w cyhoeddi. Tynnwyd
sylw os yn chwilio am y Cyngor ar wefan ‘Google’ mai'r cyfeiriad Saesneg sydd
yn cael ei ddangos. Nodwyd fod yr adran yn ceisio cysylltu â Google i edrych ar
y mater ac nad yw wedi ei ddatrys eto. Mynegwyd fod cwyn wedi dod o ganlyniad i
Amodau Cronfa Benthyciadau Busnes heb ddefnyddio’r Gymraeg, ond yn dilyn y gwyn
fod yr adran wedi edrych ar hyn ac wedi creu amodau newydd. Ychwanegwyd fod
cwyn o ganlyniad i ddim taflenni Cymraeg ar gyfer Cymunedau dros Waith, ond
roedd y lleoliad penodol wedi gorffen eu cyflenwad o daflenni Cymraeg ac felly
bu iddynt dderbyn mwy gan yr adran berthnasol. PENDERFYNIAD Derbyniwyd
yr adroddiad. |
|
MESUR O LWYDDIANT: CRYNODEB O ADRODDIAD SICRWYDD COMISIYNYDD Y GYMRAEG 2017/18 PDF 177 KB Er gwybodaeth i aelodau Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi mai atodiad munud olaf oedd y crynodeb. Mynegwyd fod yr
adroddiad yn nodi canlyniadau'r flwyddyn. Nodwyd fod angen dadansoddiad Gwynedd
yn benodol a bydd angen ail ymweld â’r eitem yn y cyfarfod nesaf. |