Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Rhonwen Jones 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau. Cofnod: Croesawyd yr Aelod
Cabinet a swyddogion i’r cyfarfod. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elin Walker Jones |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I ddatgan unrhyw fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion brys sydd wedi codi. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 17 Ionawr 2019, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar y 17eg Ionawr, 2019 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD YR AELOD CABINET PDF 660 KB Rhoi diweddariad ar y prif ddatblygiadau ym maes y Gymraeg ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet dros Iaith. Esboniwyd y rhoddir dwy wobr flynyddol yn Seremoni gwobrwyo'r Cyngor ar
ei Orau, fel a ganlyn:
Dyfarnwyd y gwobrau eleni i Nancy Wilkinson (Swyddog Amgylchedd yn
Ymgynghoriaeth Gwynedd) a Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch a Llesiant (am eu gwaith
i sicrhau adnoddau Cymraeg ar gyfer hyfforddiant 'The Institution of
Occupational Safety and Health' (IOSH). Cyflwynwyd dau
fideo o’r seremoni wobrwyo ar ddiwedd y cyfarfod yn dangos yr enillwyr. Tynnwyd sylw gan
aelod at eitem 5.4 (Datblygiadau Eraill),
Canllaw Cynllunio Atodol. Awgrymodd yr Aelod Cabinet iddi gyfarfod
gyda’r Aelod i drafod ymhellach. Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD CANMOLIAETH A CHWYNION MAES Y GYMRAEG PDF 537 KB Cyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gwynion ac engreifftiau o lwyddiant wrth hybu defnydd o’r Gymraeg yng ngwasanaethau’r Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Swyddog Datblygu Iaith a nodwyd ei fod yn edrych ar gwynion a
chanmoliaeth law yn llaw, er mwyn gallu adnabod tueddiadau a rhoi darlun llawn
i’r aelodau o’r hyn sydd yn digwydd o fewn y Cyngor o safbwynt cydymffurfio
gyda’r Safonau a’r Polisi Iaith. Canmoliaeth Esboniwyd fod yr
adroddiad yn dangos dau achos penodol sydd wedi dod i sylw dros y misoedd
diwethaf lle mae swyddogion y Cyngor wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn i hyrwyddo’r
Gymraeg ac i sicrhau bod trigolion yn cael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg o safon: 1. Hyfforddiant diogelwch (IOSH): Cafodd y Gwasanaeth Iechyd, Diogelwch
a Llesiant eu cydnabod yng ngwobrau’r Cyngor ar ei Orau yn ddiweddar am eu
gwaith i sicrhau bod modd cael hyfforddiant IOSH yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y
Gymraeg. Ers cryn amser, roedd staff y Cyngor wedi bod yn cynnal sesiynau
hyfforddi cyfrwng Cymraeg yn y maes hwn, ond yn gorfod defnyddio deunyddiau
Saesneg yn unig gan nad oedd y corff siartredig yn darparu deunyddiau dwyieithog.
Roedd y mater wedi ei gyfeirio at y Comisiynydd er mwyn cael eu cefnogaeth nhw
i ddwyn pwysau ar y darparwyr, ond yn y pen draw, ymdrechion swyddogion y
Cyngor, dynnodd sylw at ofynion y safonau a galwadau gan staff am ddeunyddiau
Cymraeg, 2.
Ffurflen ar-lein newydd direct.gov ar
gyfer Bathodyn Glas Nodwyd bod Rheolwr Siopau Gwynedd a Galw
Gwynedd a’i swyddogion yn gweithio’n galed ar hyn o bryd i sicrhau bod y
ffurflen ar-lein newydd ar gyfer ceisiadau Bathodyn Glas yn cwrdd â gofynion y
Safonau a Pholisi’r Cyngor. Roedd y swyddogion wedi sylwi wrth brofi’r system
(cyn mynd yn fyw) bod nifer o wallau a chamgymeriadau gyda’r fersiwn Gymraeg,
ac mae’r Cyngor wedi gwrthod trosglwyddo i’r system ar-lein newydd heb i’r
newidiadau gael eu gwneud i gyrraedd y safon ddisgwyliedig. Maent wedi bod yn
cydweithio gyda’r uned gyfieithu a thîm y we i wirio’r system, ac wedi codi’r
mater efo’r darparwr gan gynnwys Llywodraeth Cymru. Mae trafodaethau yn parhau
ar hyn o bryd a’r system yn dal heb fynd yn fyw. Cwynion Ers dechrau 2019, derbyniwyd gohebiaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg am
dair cwyn yn ymwneud efo’r Safonau Iaith. Penderfynodd y Comisiynydd beidio ag ymchwilio ymhellach i’r cwynion ar
sail yr esboniadau isod: 1.
E-bost
safonol Saesneg yn unig wedi ei anfon mewn ymateb i e-bost Cymraeg anfonwyd at
GwE. Penderfynwyd peidio ag ymchwilio
wedi i’r Comisiynydd dderbyn gohebiaeth gan uned Gyfreithiol y Cyngor oedd yn
tynnu sylw at y ffaith nad oedd Safonau’r Cyngor yn berthnasol i GwE oherwydd
eu statws fel cydbwyllgor. 2.
Derbynneb
uniaith Saesneg wedi ei hanfon gan Bartneriaeth Prosesau Cosb Cymru. Esboniwyd bod hyn wedi digwydd o ganlyniad i
nam technegol ar ôl i’r gweinyddwyr wneud diweddariadau i’r system dalu. Roedd
y mater eisoes wedi dod i sylw’r Cyngor ac wedi ei ddatrys erbyn derbyn y
gŵyn gan y Comisiynydd, a chytunodd y Comisiynydd bod y Cyngor eisoes wedi
delio gyda’r mater yn briodol. 3. Gwasanaeth cynnal asesiadau a phrosesu ceisiadau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
HUNANIAITH - MENTER IAITH GWYNEDD PDF 994 KB Cyflwynir yr adorddiad hwn er mwyn rhoi cefndir i aelodau’r Pwyllgor am waith a blaenoriaethau cyfredol y fenter. Cofnod: Mewn ymateb i gais y Cadeirydd cyflwynwyd diweddariad ar waith
Hunaniaith, gan amlinellu llwyddiannau, gwersi a ddysgwyd, a chymryd y cyfle i
godi ymwybyddiaeth yr Aelodau o’r gwaith. Trosolwg o waith 2018-19 Adroddwyd fod
2018-19 wedi bod yn flwyddyn dda o ran parhau i ddatblygu rhai partneriaethau
allweddol, megis gyda Chymraeg i Blant a Grŵp Llandrillo Menai, a’i bod yn
ymddangos bod y buddsoddiad amser i gyd-gynllunio a chydweithio yn dechrau
talu. Yn ogystal, nodwyd
bod y cydweithio ar draws y Mentrau Iaith yn gyffredinol wedi datblygu
ymhellach, gyda Mentrau Iaith Cymru (y sefydliad ambarél sy’n cefnogi gwaith y
mentrau ar draws Cymru) yn arwain at sawl prosiect cenedlaethol. Mae cyfleoedd hefyd ar gyfer mwy o gydweithio
rhwng mentrau iaith rhanbarth y Gogledd yn y dyfodol. Cafwyd
dau gyflwyniad gan y Swyddogion Iaith: Blynyddoedd
Cynnar Esboniwyd fod seminarau wedi eu cynnal er mwyn arfogi gweithlu’r
blynyddoedd cynnar a darparwyr gweithgareddau gyda’r wybodaeth i fynd a’r neges
am werth dwyieithrwydd at deuluoedd.
Nodwyd fod yr adborth o’r seminarau wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac er
na lwyddwyd i ddenu rhai o’r busnesau a mudiadau sy’n darparu gweithgareddau
teuluol oedd wedi eu targedu, teimlai’r Swyddog bod y digwyddiadau wedi bod yn
llwyddiant, ac y bwriedir parhau i gydweithio gyda Chymraeg i Blant a
Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar y Cyngor ar ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Targedu Pobl Ifanc oedran 15+: Cynhaliwyd cynhadledd i bobl ifanc i drafod gwerth y Gymraeg fel sgil ar
gyfer byd gwaith, gan gyflwyno arfer da a modelau rôl o feysydd proffesiynol a
galwedigaethol. Nod y gynadle oedd annog
pobl ifanc i feddwl am eu dewisiadau gyrfaol gan roi sylw penodol i ystyried y
Gymraeg yn eu dewisiadau. Cynhaliwyd y gynhadledd ar y cyd gyda swyddogion Grŵp Llandrillo
Menai, a chanolbwyntiwyd ar fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai gyda sectorau
Adeiladwaith, Gwallt a Harddwch a Lletygarwch a Thwristiaeth. Cafwyd adborth da
a chytunwyd bod cynnwys y sesiynau yn fuddiol a phriodol ond bod angen ambell
fireiniad megis symleiddio geirfa, a chynnwys llai o gwestiynau agored, fel modd
i hwyluso cyfranogiad a thrafodaethau. Cynhaliwyd cyfarfod cloriannu ar ôl y digwyddiadau a chytundeb ymysg y
swyddogion bod y gynhadledd wedi llwyddo o ran y trefniadau a chynnwys, er bod
angen ambell fireiniad a man addasiadau os am gynnal digwyddiad tebyg yn y
dyfodol. Un pryder a fynegwyd oedd y
trafferthion a gafwyd wrth ennyn diddordeb ac ymrwymiad tiwtoriaid y grŵp. Mynegodd yr Aelodau siom yn hyn, gan nodi awydd i gymryd camau
pellach. Nododd Swyddog Datblygu
Iaith Gwynedd ei bod am ysgrifennu yn swyddogol at Grŵp Llandrillo Menai i
rannu’r adborth ar werthusiad am y cynadleddau er mwyn rhannu’r pryderon. Cynigodd Aelod y pwyllgor
y byddai yn fodlon ysgrifennu llythyr at Grŵp Llandrillo Menai, ar ran y
pwyllgor. Derbyniwyd y cynnig. Rhoddwyd cyfle i’r Aelodau godi cwestiynau cyffredinol am waith Hunaniaith, gofynnwyd yr Aelodau sut roedd Hunaniaith yn dewis yr ardaloedd i dargedu. Mewn ymateb, nodwyd bod yr ardaloedd oedd wedi derbyn sylw dros y tair blynedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYFARFODYDD PWYLLGOR IAITH PDF 55 KB Amcan yr adroddiad yw ystyried nifer o gyfarfodydd cyffredin y Pwyllgor a gynhelir yn ystod y flwyddyn fwrdeistrefol. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith, er mwyn
ceisio barn Aelodau’r Pwyllgor ar amlder a nifer cyfarfodydd y Pwyllgor mewn
blwyddyn. Nodwyd barn yr Aelodau fod angen cadw at y niferoedd presennol o
gyfarfodydd, gan ddatgan pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg i bawb. PENDERFYNWYD: Parhau gyda’r drefn
gyfredol o gynnal pedwar cyfarfod o’r pwyllgor mewn blwyddyn. |