Lleoliad: Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Y Cynghorwyr Beca Brown, Eric M. Jones, Eirwyn Williams
ac Elwyn Jones (Is-gadeirydd y Cyngor) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 25 Ionawr 2022 fel rhai cywir. Gofynnwyd am ddiweddariad ynglŷn â faint o dai
sydd bellach wedi eu prynu oddi ar y farchnad agored gan yr Adran Dai. Nodwyd
fod y cofnodion yn cyfeirio at un tŷ wedi ei brynu hyd at fis Ionawr 2022;
holiwyd ynglŷn â’r sefyllfa ddiweddaraf. Bydd yr Ymgynghorydd Iaith yn
gwirio’r nifer. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: TÎM ARWEINYDDIAETH A GWASANAETHAU CYFREITHIOL PDF 438 KB Derbyn diweddariad ar sut mae’r Tîm Arweinyddiaeth a Gwasanaethau
Cyfreithiol yn gweithredu’r Polisi Iaith a’u cynllun ar gyfer hyrwyddo’r
Gymraeg yng Ngwynedd Penderfyniad: ·
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. ·
Cytunwyd i’r Prif
Weithredwr anfon llythyr at y Llywodraeth ar ran y Pwyllgor Iaith yn mynegi siom
nad oes modd i swyddogion Cyngor Gwynedd ac eraill gyfrannu yn rhwydd drwy’r
Gymraeg mewn cyfarfodydd a drefnir gan Lywodraeth Cymru bob amser a'u hannog i
sicrhau bod darpariaeth cyfieithu ar y pryd ar gael yn ddiofyn mewn
cyfarfodydd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Pennaeth Gwasanaeth
Cyfreithiol a tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Adroddodd
y Prif Weithredwr ar y datblygiad diweddar yn sgil newid defnydd o feddalwedd
Microsoft y Cyngor fel ei fod ar gael yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Nodwyd bod 60% o staff yn ei ddefnyddio yn wirfoddol; bydd hyn yn newid i fod
yn fandadol o ddyddiad cychwyn y Cyngor newydd. -
Nodwyd bod y Cyngor yn arwain mewn amryw o
bartneriaethau rhanbarthol megis GwE, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru,
Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd Cymru a Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd, gyda
chyfrifoldeb dros sefydlu, trefnu a chynllunio’r cyfarfodydd. Ychwanegwyd fod y
Cyngor yn gwirfoddoli i arwain ar yr uchod am ei fod yn gyfle i ddylanwadu ar
ddefnydd iaith y cyrff drwy sicrhau eu bod yn cael eu sefydlu drwy gyfrwng y
Gymraeg o’r cychwyn cyntaf a’n gweithredu polisi iaith y Cyngor. -
Soniwyd am y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd a
Môn sydd yn cael ei fynychu gan y Prif Weithredwr ac yn gyfle i ddylanwadu ar
ddefnydd sefydliadau cyhoeddus eraill o’r Gymraeg. -
Mynegwyd siom yn rhai sefydliadau ble roedd rhaid
brwydro i gael cyfrannu yn y Gymraeg mewn rhai cyfarfodydd. Nodwyd fod
Llywodraeth Cymru yn un sefydliad ble roedd ychydig iawn o ymdrech yn cael ei
wneud i ddarparu cyfieithydd. Awgrymwyd y dylai’r Cyngor ohebu yn gyhoeddus
efo’r Llywodraeth i fynegi siom. -
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar y prif
feysydd yr arweiniai arnynt a nododd enghreifftiau o geisio dylanwadu ar
ddefnydd yr iaith yn y meysydd hynny. Enghreifftiau o hyn oedd wastad holi am
gopïau Cymraeg o adroddiadau ym mhob cyfarfod a gwneud yn siŵr fod
darpariaeth cyfieithu ar gael yn enwedig mewn cyfarfodydd ar lein. -
Credwyd fod yr enghreifftiau uchod yn ysgogi eraill i
ofyn yr un cwestiynau a bod gwelliant i’w weld o gymharu â’r sefyllfa ddeg
mlynedd yn ôl. -
Cyfeiriwyd at yr Agenda Mwy na Geiriau, gwaith
partneriaethau a chydweithio o fewn y meysydd gofal a diogelwch cymunedol a rôl
y Cyfarwyddwr o fewn Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fel cyswllt swyddogol.
Manylwyd am y Fforwm Mwy na Geiriau gan nodi fod cymeradwyaeth cenedlaethol
wedi ei dderbyn am waith y fforwm yn y Gogledd sydd yn rhannu ymarfer da a
chydweithio. -
Adroddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ei bod hi’n
cyfrannu yn y Gymraeg ym mhob Cyfarfod o’r Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ynghyd
â nifer o aelodau eraill a bod hynny yn cael ei annog a’i werthfawrogi gan
Gadeirydd a Prif Weithredwr y Bwrdd Iechyd. -
Soniwyd am lansiad Maethu Cymru a’r gwaith ar y cyd
i ddylanwadu a llwyddo i gael y logo yn Gymraeg yn gyntaf a’r Saesneg yn ail. - Adroddodd Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol ar y Gwasanaeth Cyfreithiol gan nodi ei fod yn wasanaeth bach o ran maint ond yn gorgyffwrdd ag Adrannau eraill drwy ddarparu cefnogaeth gyfreithiol a phriodoldeb. Soniwyd am y gefnogaeth sydd yn cael ei ddarparu i’r Crwner o fewn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN YMGYNGHORIAETH GWYNEDD PDF 567 KB Derbyn diweddariad ar sut mae Adran YGC yn gweithredu’r Polisi Iaith a’u
cynllun ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Ymgynghoriaeth Gwynedd gan nodi fod
yr Adran yn delio o fewn y byd peirianyddol sydd yn cael ei ystyried yn
ddiwydiant eithaf Seisnigaidd. Arweinia hyn at broblemau recriwtio staff â
sgiliau ieithyddol o safon uchel. Adroddwyd bod yr Adran yn gweithio ar nifer o
brosiectau a chynlluniau i helpu staff i gyrraedd dynodiadau iaith eu swyddi ac
i wella sgiliau ieithyddol eu gweithlu; ceir manylion am y prosiectau hyn yn yr
adroddiad. Cyfeiriwyd at y pwyntiau canlynol yn yr adroddiad: -
Diolchwyd i’r Swyddogion Dysgu a Datblygu’r
Iaith Gymraeg am eu gwaith yn cefnogi staff yr Adran i asesu gallu ieithyddol
eu hunain ac i ddarparu hyfforddiant pellach pe bai angen. -
Soniwyd am unigolion o fewn yr Adran sydd wedi
gwneud cynnydd ac yn cael eu hannog i siarad Cymraeg o ganlyniad i gynlluniau
fel y Cynllun Cyfeillion neu’r Cynllun Arfer drwy’r Brifysgol. -
Nodwyd bod yr Adran yn annog timau i gynnal
sgyrsiau drwy’r Gymraeg. Cydnabyddwyd bod y cyfnod clo wedi amharu rhywfaint ar
y cynnydd hyn a bwriedir ail afael yn y gefnogaeth i’r timau i ddefnyddio’r
Gymraeg fel iaith dydd i ddydd y gweithlu. -
Pwysleisiwyd y bydd yr Adran yn ceisio ymestyn
eu defnydd o’r iaith Gymraeg yn fewnol a gyda chyrff eraill fel contractwyr ac
ymgynghorwyr ymhellach drwy ohebu’n Gymraeg; credwyd fod hyn yn dangos effaith
ac yn cael dylanwad. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion canlynol: -
Diolchwyd am y cyflwyniad ac am holl waith yr Adran.
Nodwyd bod llwyddiant y Cynllun Adfer drwy’r Brifysgol yn ddiddorol iawn a
holwyd os yw Cynghorau a Sefydliadau eraill yn ymwybodol ohono ac os oedd modd
ei farchnata. -
Gofynnwyd os yw’r cyrsiau i staff dderbyn
cymwysterau proffesiynol peirianwyr yn cael eu cynnig yn Gymraeg, ac os ddim,
os oes lle i ofyn am gymorth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i wneud yn siŵr
fod y cyrsiau yn cael eu cynnig yn ddwyieithog. Cwestiynwyd beth mae’r
sefydliadau Addysg yn ei wneud i helpu’r Adran sydd yn ceisio darparu gweithlu
Gymraeg gyda’r cymwysterau perthnasol. -
Mynegwyd sylw am eirfa dechnegol sy’n perthyn
i’r maes ac awgrymwyd ei bod yn bosib parhau i gynnal sgyrsiau yn y gwaith yn
Gymraeg er fod y termau yn Saesneg. Credwyd ei bod yn bwysig trafod y gwaith yn
Gymraeg tra’n parhau i ddefnyddio’r eirfa dechnegol Saesneg i godi hyder staff.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Ymgynghoiaeth
Gwynedd: - Mynegwyd nad oedd gwaith yn cael ei wneud gan yr Adran i hyrwyddo’r Cynllun Adfer ond yn hytrach adrodd yn ôl rhwng y Cyngor a’r Brifysgol. Ychwanegodd yr Ymgynghorydd Iaith fod y gwasanaeth Iaith yn ran o'r Bwrdd Rheoli ar gyfer y prosiect hwn. Nodwyd ei fod yn brosiect ymchwil gan y Brifysgol gyda’r Brifysgol yn arwain arno gyda nifer o gyrff cyhoeddus eraill wedi cymryd rhan yn y gwaith ymchwil. Credwyd bod y cyfrifoldeb yn disgyn ar y Brifysgol i rannu yr ymarfer da a hyrwyddo llwyddiant ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CYNLLUN HYBU'R GYMRAEG: ADRAN ECONOMI A CHYMUNED PDF 425 KB Derbyn diweddariad ar sut mae Adran Economi a Chymuned yn gweithredu’r
Polisi Iaith a’u cynllun ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yng Ngwynedd Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth Adran
Economi a Chymuned a cyfeiriodd yn fras at y prif bwyntiau canlynol: -
Nodwyd bod lleihad bychan iawn i’w weld yn nifer y staff
sydd wedi cyrraedd dynodiad iaith eu swyddi o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Credwyd bod hyn yn adlewyrchiad o’r cynnydd yn y nifer o staff dros dro a
benodwyd yn ystod y flwyddyn diweddaf e.e. wardeiniaid ychwanegol er mwyn
ymateb i’r sefyllfa cofid. -
Adroddwyd bod cyfleoedd wedi codi i ddatblygu iaith y
sawl sydd ddim yn cwrdd â’r gofynion. Nodwyd bod unigolion wedi manteisio ar y
cyfleoedd ac wedi gwerthfawrogi’r gefnogaeth a’r anogaeth i ddatblygu eu
sgiliau ieithyddol. Ychwanegwyd bod heriau yn bodoli wrth gwblhau hunan asesiad
iaith oherwydd bod nifer o staff tymhorol dros dro o fewn yr Adran a rhai
bellach wedi gadael. -
Amlygwyd rhai meysydd gwasanaethau newydd gafodd eu
cyflwyno yn ystod y cyfnod cofid. Yma cymerwyd y cyfle i roi pwyslais ar ddarparu
gwybodaeth drwy’r Gymraeg a hyrwyddo gwasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg. -
Adroddwyd
bod y Gwasanaeth Llyfrgelloedd ac Archifdai yn adnoddau gwerthfawr i deuluoedd
sy’n galluogi plant i glywed y Gymraeg ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau.
Mynegwyd pwysigrwydd y gwasanaeth Archifau sy’n paratoi pecynnau gwybodaeth a
deunyddiau Cymraeg i Ysgolion Gwynedd, bellach roedd mwy o bwyslais ar yr
adnodd yma. -
Cyfeiriwyd
at y gwaith hyrwyddo’r diwylliant Cymreig sy’n cael ei wneud gan y Gwasanaeth
Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau. Soniwyd am y gwaith ar effaith cynnydd
ymwelwyr y Sir ar yr iaith sydd yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Nodwyd bod
mesuryddion bellach yn eu lle i fesur yr effaith ar iaith y Sir. -
Mynegwyd disgwyliad yr Adran i bartneriaethau sy’n
cydweithio â nhw i ddarparu deunydd yn ddwyieithog. Ychwanegwyd fod yr Adran yn
sicrhau bod gwefannau ac apiau ar gael yn ddwyieithog yn ogystal â sicrhau eu
bod ar gael yn Gymraeg i Siroedd a phartneriaethau eraill. Adroddwyd bod yr
Adran wedi cryfhau’r gofynion iaith fel amod mewn tendrau wrth rannu
cytundebau. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion canlynol: -
Diolchwyd am yr adroddiad llawn a mynegwyd y byddai’n
ddiddorol gweld beth fydd canlyniad y gwaith ar effaith ymwelwyr ar yr iaith
gan gydnabod maint y dasg. -
Holwyd pryd fydd y gwaith hwn yn cael ei
gyhoeddi. -
Gwnaethpwyd sylw bod lleoliad yn chwarae rhan ar ba
mor niweidiol gall twristiaeth fod ar iaith mewn ardal benodol. Croesawyd y
gwaith hwn a chredwyd y bydd y canlyniadau yn ddiddorol. -
Gofynnwyd a yw’n bosib mesur faint o dwristiaeth mae
hanes, iaith a diwylliant Cymru yn llwyddo i’w ddenu i Wynedd ac i Gymru sef
twristiaeth fwy diwylliannol. -
Mynegwyd siom fod y Cyngor Celfyddydau ddim yn
cefnogi prosiectau sy’n hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Economi a
Chymuned: - Bod llawer o ffactorau yn cyfrannu at effaith ymwelwyr ar yr iaith ac nad yw’n hawdd dadansoddi’r effaith. Adroddwyd bod y gwaith hwn bellach ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DIWEDDARIAD AR WAITH HUNANIAITH - MENTER IAITH GWYNEDD PDF 418 KB I ystyried yr adroddiad Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu.
Darparwyd trosolwg o waith a blaenoriaethau Hunaniaeth, Menter Iaith Gwynedd.
Cyfeiriwyd at yr adroddiad sydd yn manylu ar brosiectau amrywiol y fenter a
gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Anogwyd yr Aelodau i wylio’r fideos
gan gyfeirio at y fideo ymwybyddiaeth iaith; gellir gweld y dolenni cyswllt ar
gyfer y fideos yn yr adroddiad. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau holi ymhellach: -
Holwyd
ynghylch y meddylfryd o symud Hunaniaeth oddi wrth y Cyngor. -
Cyfeiriwyd ar y fideo ymwybyddiaeth iaith gafodd
ei greu gan y tîm Hunaniaeth oedd yn cyfeirio at y saith peth pwysig am hanes
Cymru; credwyd fod y fideo yn wych ac yn adnodd pwerus. Cadarnhawyd bod fersiwn
efo is-deitlau Saesneg o’r fideo hefyd ar gael. Eglurwyd bod y grŵp strategol yn awyddus i Hunaniaeth fod yn enbyd
fwy annibynnol oddi wrth y Cyngor ac y byddai manteision i hynny, nodwyd bod
llawer o Fentrau iaith eraill yn fentrau cymunedol. Ychwanegwyd y byddai’n
rhaid sicrhau cynaliadwyedd y fenter i’r dyfodol. Bydd diweddariad yn cael ei
ddarparu i’r Pwyllgor yn ystod y tymor newydd. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. |
|
ADRODDIAD CANMOLIAETH A CHWYNION PDF 401 KB Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd
Iaith oedd yn nodi’r cwynion yn ogystal â’r enghreifftiau o lwyddiant wrth
hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn y Cyngor. Soniwyd am y datblygiadau diweddar gan gyfeirio at y sesiynau
ymwybyddiaeth iaith i staff y Cyngor sydd wedi ail ddechau yn rhithiol yn
ddiweddar. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu rhedeg gan yr Ymgynghorydd Iaith a’r
Swyddog Dysgu a Datblygu’r Gymraeg ac wedi derbyn adborth positif iawn; bydd y
sesiynau yn parhau ac yn cael eu cynnig i fwy o Adrannau ar draws y Cyngor. Cyfeiriwyd at y cwynion gan sôn am y dyfarniad diweddar yn dilyn ymchwiliad
gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch gofynion iaith hysbyseb swydd y Prif
Weithredwr. Adroddwyd bod camau gweithredu bellach wedi eu cymryd gan
bwysleisio nad oedd yr achos na’r dyfarniad hwn yn adlewyrchiad o drefniadau
arferol y Cyngor. Manylwyd ar yr amodau newydd sydd bellach mewn lle fel rhan
o’r polisi recriwtio; bydd yr amodau hynny yn cael eu hychwanegu at y polisi
iaith. Golyga hyn y bydd y gofynion iaith yn cael eu nodi yn glir bob tro. Adroddwyd ar rai o ymholiadau diweddar, rhai yn rhan o ymholiadau
cenedlaethol ehangach; gellir gweld manylion yn yr adroddiad. Soniwyd hefyd am
y dair cwyn gafodd eu derbyn yn ymwneud â pholisi iaith y Cyngor; un o
ganlyniad i faterion TG sydd yn y broses o geisio cael eu datrys a gwaith
pellach ar y gweill i fynd i’r afael a’r mater. Nid oedd un cwyn yn berthnasol
i’r Cyngor am nad oedd gan y Cyngor rym i orfodi ar faterion iaith busnesau yn
y sector breifat. Datryswyd y gwyn olaf am bamffled uniaith Saesneg a
dderbyniwyd gan y cyhoedd; trefnwyd i gyfieithu’r daflen yn sydyn yn ogystal â
gwirio a diweddaru deunyddiau pellach o fewn yr Adran dan sylw. Rhoddwyd cyfle i'r aelodau holi ymhellach: -
Tynnwyd
sylw fod yr un math o gwynion a materion yn codi eu pennau o gymharu â
blynyddoedd eraill. -
Diolchwyd am yr adroddiad. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cymerwyd y cyfle ar ddiwedd y cyfarfod i estyn
cydymdeimlad y Pwyllgor at deulu Aled Roberts, Comisiynydd yr Iaith yn dilyn ei
ymadawiad diweddar. |