Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Dim. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd y
Cynghorydd John Wyn Williams fuddiant personol yn eitem 9 ar y rhaglen –
Diweddariad ar Gyfarfod gyda Chartrefi Cymunedol Gwynedd - oherwydd ei fod yn
aelod o Fwrdd CCG. Nid oedd yr aelod o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu a chymerodd ran lawn
yn y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 22 Hydref, 2015 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22
Hydref, 2015 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD YR AELOD CABINET - Y GYMRAEG Cyflwyno adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad llafar yr Aelod Cabinet – Y Gymraeg, yn manylu ar ddatblygiadau
diweddar o fewn y maes, gan gynnwys y canlynol:- ·
Y
cadarnhad amodol o lwyddiant y grant hyrwyddo defnydd y Gymraeg. ·
Y
gwaith o sefydlu’r ganolfan iaith newydd ym Mangor. ·
Cynhadledd
ar yr 22ain o Ionawr yn Llanrwst i lansio’r Siarter Iaith ar draws y siroedd y
Gogledd. ·
Cynhadledd
ar y 13eg o Ionawr a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r ymgynghoriad ar
fframwaith strategaeth olynol ar y cynllun Mwy na Geiriau. ·
Ymgynghoriad
Llywodraeth Cymru ar newidiadau arfaethedig i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20
sy’n ymwneud â Chynllunio a’r Gymraeg. ·
Y
bwriad i feithrin perthynas gyda’r Dr Rhian Hodges
a’r Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor, sy’n arbenigwyr ar bolisi a chynllunio
ieithyddol. ·
Trafodaethau
ar y Safonau Iaith a’u heffaith ar Bolisi Iaith y Cyngor. ·
Y
bwriad i gyflwyno argymhellion yr Ymchwiliad Iaith – Defnydd o’r Gymraeg mewn
Cyfarfodydd Allanol i’r Cabinet ar y 19eg o Ionawr i’w mabwysiadu ac i
weithredu arnynt. Trafodwyd y
materion a ganlyn:- (A)
Ymgynghoriad TAN 20 Nododd yr Uwch
Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni:- ·
Y
bwriadai’r Adran Gynllunio drefnu seminar i’r aelodau ar bnawn yr 8fed o Fawrth er mwyn rhoi cyfle i aelodau’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau, y pwyllgor hwn ac eraill i geisio dylanwadu
ar y canllaw cenedlaethol drwy gyfrannu eu sylwadau ar y newidiadau
arfaethedig. ·
Yn
ogystal â hynny, bod yna ganllawiau lleol yn cael eu datblygu a bod yr Aelod
Cabinet wedi datgan ei fwriad i drafod y canllaw lleol gyda’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau a’r pwyllgor hwn. Cytunwyd, er
hwylustod, i gylchredeg linc i’r TAN 20 presennol ar wefan Llywodraeth Cymru i
aelodau’r pwyllgor. (B)
Cyd-weithio gyda Phrifysgol Bangor Holwyd a fyddai
modd gwahodd yr arbenigwyr ar bolisi a chynllunio ieithyddol i gyfarfod y
Pwyllgor Iaith. Atebodd yr Aelod Cabinet
fod angen trafodaeth bellach gyda’r Brifysgol yn gyntaf i ridyllu’r deunydd
academaidd er mwyn gweld beth sy’n berthnasol i’r Cyngor ac y gellid dod yn ôl
at y Pwyllgor Iaith ar ôl datblygu’r drafodaeth ymhellach. (C)
Enwau Lleoedd Nododd yr Uwch
Reolwr – Democratiaeth a Chyflawni:- ·
Yn
sgil y penderfyniad yn y cyfarfod diwethaf i bwyso am gynnwys cymal ynglŷn
â’r Gymraeg yn y Bil Amgylcheddol Hanesyddol, y
derbyniwyd ymateb gan Gadeirydd y pwyllgor yn y Senedd sy’n trafod y bil yn
datgan bod y bil wedi’i ddiwygio, ym mis Tachwedd 2015, i gynnwys adran sy’n ei
gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a chynnal rhestr o enwau lleoedd
hanesyddol yng Nghymru (sef adran 33 newydd i’r Bil). ·
Bod
y bil wedi’i ddiwygio hefyd i’w gwneud yn ofynnol i Gofnodion Amgylchedd
Hanesyddol (a fydd yn cael eu paratoi gan awdurdodau cynllunio lleol) ddarparu
dull o gael gafael ar fanylion pob enw lle hanesyddol yn ardal yr awdurdod
hwnnw sydd wedi’i gynnwys yn y rhestr a gaiff ei llunio a’i chynnal gan
Weinidogion Cymru. Yn ystod y
drafodaeth:- · Cytunwyd i aros i weld beth mae’r canllawiau’n ddweud ac ystyried bryd hynny sut y gall y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYFLWYNIAD GAN Y TIM DYSGU A DATBLYGU Derbyn cyflwyniad gan y Tim Dysgu a Datblygu ar y broses o ddatblygu staff di-gymraeg. Cofnod: Derbyniwyd
cyflwyniad gan y Swyddog Datblygu Gweithlu / Cyd-gysylltydd Iaith Gymraeg ar y
broses o ddatblygu staff di-gymraeg, gan gyfeirio at y sefyllfa bresennol,
gwasgariad staff sy’n dysgu Cymraeg drwy’r sir, camau
i gefnogi dysgwyr a’r ffordd ymlaen. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.
Trafodwyd :- ·
Anhawster
adnabod pobl yn y system gan nad ydy rheolwyr bob amser yn glir beth ydy’r
lefel iaith ar gyfer y swydd, ac o ganlyniad dydy’r staff ddim yn cael eu
cyfeirio am hyfforddiant iaith. ·
Yr
anhawster yn y maes gofal oherwydd y methiant i gyflawni’r gwasanaeth yn newis
iaith y cleient o ganlyniad i anawsterau recriwtio staff. Nodwyd bod y sefyllfa’n well yng nghartrefi’r
Cyngor nag mewn cartrefi preifat.
Awgrymwyd nad oedd y cwmni sy’n darparu gofal ym Mhant yr Eithin,
Harlech yn cyflawni gofynion y contract a chytunodd yr Uwch Reolwr Busnes i geisio cadarnhad o’r sefyllfa. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gweithio gyda phlant
a phobl ifanc yn yr ysgolion a’r colegau i gyfarch yr argyfwng recriwitio yn y maes gofal. ·
Yr
awdit mewnol o sgiliau ieithyddol y staff. Diolchwyd i’r
Swyddog Datblygu Gweithlu / Cyd-gysylltydd Iaith Gymraeg am y cyflwyniad ac am
y drafodaeth. |
|
MWY NA GEIRIAU Derbyn cyflwyniad gan yr Uwch
Reolwr Busnes ar gynnydd y Grwp
Tasg Mwy na Geiriau. Cofnod: Derbyniwyd cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Busnes ar
gynnydd y Grŵp Tasg Mwy na Geiriau, gan gyfeirio at:- ·
Y cefndir i
fframwaith strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau Cymraeg mewn Iechyd,
Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol a’r ymgynghoriad presennol ar
fframwaith strategol olynol fyddai’n sail gryfach i
arfogi’r meysydd gofal ac iechyd i weithredu’r strategaeth. ·
Gwaith a
chanfyddiadau’r Grŵp Tasg a’r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny. Eglurwyd nad oedd y Grŵp Tasg wedi
cyfarfod ers Mai 2015 gan y bu’n aros am y Safonau Iaith newydd er mwyn cael
eglurder, ond bod angen ail afael yn y grŵp bellach. Nodwyd hefyd bod angen ail-edrych ar aelodaeth
y Grŵp Tasg er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol. ·
Enghreifftiau o
waith da sy’n digwydd yn y gymuned. ·
Yr angen i newid
y drefn monitro gan mai 2 swyddog yn unig sy’n cadw golwg dros 60-70 o gartrefi
a 100 o ofalwyr cartref. ·
Datblygiadau
technolegol yn y maes, megis system dechnoleg gwybodaeth newydd sy’n cofnodi
gwybodaeth cleientiaid a chyfieithu peirianyddol yn y maes iechyd a gofal. ·
Y syniad o rannu
adnoddau o ran gweithwyr gyda chynghorau eraill a gweld Mwy na Geiriau yn cael
ei ledaenu ymhellach. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.
Trafodwyd :- ·
Yr
angen i roi blaenoriaeth i ddiwallu’r angen yng Ngwynedd
am ofalwyr Cymraeg, neu unrhyw ofalwyr, drwy sefydlu cynllun o gydweithio gydag
ysgolion a cholegau dros nifer o flynyddoedd.
Nodwyd, serch hynny, bod yna lawer i fod yn falch ohono yng Ngwynedd a bod rhaid cynnal y momentwm hwnnw. ·
Yr
angen i gael mewnbwn ar lefel gorfforaethol i waith y Grŵp Tasg. Nodwyd bod yna lawer o weithgaredd yn y maes
ar lefel lleol a rhanbarthol, ond nad oedd cynllun yn ei le ar gyfer ymateb i’r
broblem. ·
Yr
angen i ymateb i’r ymgynghoriad ar y fframwaith strategol olynol. Nodwyd bod yr egwyddorion sylfaenol yn gadarn
iawn ynddo, ond mai’r gweithredu oedd y broblem. Gofynnwyd i’r Swyddog Cefnogi Aelodau a
Chraffu anfon linc i’r ddogfen at yr aelodau ac erfyniodd yr Uwch Reolwr Busnes
ar bawb i gymryd yr amser i ddarllen y ddogfen ac ymateb iddi cyn y dyddiad
cau, sef 28 Chwefror. PENDERFYNWYD (a) Gofyn i’r Aelod Cabinet y Gymraeg, ar y cyd â’r Aelod Cabinet Gofal, gynnal trafodaeth gyda Morwena
Edwards, Cyfarwyddwr Corfforaethol, sy’n arwain ar y prosiect hwn, er mwyn
gweld sut y gellir clymu Mwy na Geiriau gydag unrhyw
strategaeth arall sydd gan y Cyngor i ddarparu yn y maes gofal, ystyried beth
mae’r Grŵp Tasg wedi’i wneud hyd yma a beth sydd angen iddo’i
wneud, a dod ag adroddiad yn ôl i’r pwyllgor hwn. (b) Bod yr aelodau yn cyflwyno unrhyw sylwadau ar y
fframwaith strategaeth olynol i sylw’r Uwch Reolwr Busnes cyn 28 Chwefror. Diolchwyd i’r Uwch Swyddog Busnes am y cyflwyniad ac am y drafodaeth. |
|
SAFONAU IAITH A PHOLISI IAITH I'R CYNGOR PDF 236 KB Ystyried adroddiad
yr Uwch Reolwr
(Democratiaeth a Chyflawni) (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad yr Uwch Reolwr (Democratiaeth a Chyflawni) yn gwahodd sylwadau’r
pwyllgor ar bolisi iaith drafft i’r Cyngor cyn iddo gael ei gyflwyno i’r Cyngor
llawn ar 3 Mawrth er mwyn ei fabwysiadu. Yn ystod y
drafodaeth:- ·
Pwysleisiwyd
bod yr isafswm a osodir gan y Safonau yn rhy isel i gyfarch uchelgais y Cyngor
hwn ar gyfer yr iaith Gymraeg mewn sawl un o’r meysydd ac na ddymunid gweld
gwanhau sefyllfa bresennol y Cyngor. ·
Mewn
ymateb i sylw bod y fersiwn Saesneg o wefan y Cyngor yn cael ei chynnig gyntaf
wrth chwilio am Gyngor Gwynedd ar beiriannau chwilio, eglurodd y Swyddog
Datblygu Iaith y credai mai cwcis y defnyddiwr unigol
oedd yn achosi i’r wefan fynd i’r dudalen Saesneg yn lle’r Gymraeg. Holwyd a oedd modd mynd ar ôl hynny eto a
chytunodd yr Aelod Cabinet i wneud ymholiadau. PENDERFYNWYD (a) Gan fod paragraffau 3.1 a 3.3 o’r polisi yn cyfeirio at
gyfrannu mewn cyfarfodydd trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, dileu paragraff
3.1 a mewnosod paragraff 3.3 fel paragraff 3.1 newydd. (b) Gofyn i’r Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni holi’r
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol oes yna amserlen o ran pryd y disgwylir i
berson di-gymraeg sy’n cael ei benodi i swydd ddysgu’r iaith a beth sy’n
digwydd os nad yw’r person hwnnw’n cyrraedd y
gofynion o fewn yr amserlen, er mwyn cyflwyno’r polisi i’r Cyngor llawn ym
Mawrth. |
|
DIWEDDARIAD AR GYFARFOD GYDA CHARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD PDF 184 KB Ystyried adroddiad
y Swyddog Datblygu Iaith (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd -
adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn cyflwyno diweddariad ar gyfarfod gyda
Chartrefi Cymunedol Gwynedd yn sgil cŵyn a
dderbyniodd y Pwyllgor Iaith ynglŷn â gweithrediad CCG o’u Cynllun Iaith
a’u bwriad i hysbysebu dwy swydd uwch reolwr heb i’r Gymraeg gael ei nodi fel
sgil hanfodol. Yn ystod y
drafodaeth:- ·
Pwysleisiwyd
nad oedd y ddirprwyaeth fu’n trafod gyda Phrif Weithredwr CCG yn derbyn yr
anawsterau a mynegwyd gwrthwynebiad llwyr i benderfyniad y cwmni i fynd yn
groes i’w polisi a’u cynllun iaith eu hunain. ·
Nodwyd
y dylid gofyn i CCG am sicrwydd ysgrifenedig nad ydynt am fynd yn groes i’w
polisi iaith yn y dyfodol; y bydd y Gymraeg yn sgil hanfodol ar gyfer swydd y
Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau, fydd yn cael ei hysbysebu’n fuan, a bod y
ddau uwch reolwr di-gymraeg a benodwyd yn 2015 yn dysgu Cymraeg. ·
Awgrymwyd bod cyfrifoldeb ar gynghorwyr a phobl yn
gyffredinol i geisio cyfeirio’r bobl gywir at y
mathau hyn o swyddi. ·
Nodwyd,
o safbwynt y Cyngor, bod rhaid sicrhau bod unrhyw gytundebau gyda’r trydydd
sector, neu bwy bynnag, yn ei gwneud yn hollol glir bod raid i’r cyrff hynny
ymlynu at eu polisïau iaith ac y byddai’n fuddiol cael diweddariad ar hynny
wrth i ddyletswyddau neu gyfrifoldebau drosglwyddo i gyrff eraill yn sgil
unrhyw doriadau. ·
Nodwyd
bod swyddogion y Comisiynydd Iaith yn gwneud darn o waith ar oblygiadau
allanoli gwasanaethau i’r iaith Gymraeg ac y byddai’n fuddiol cyflwyno’r gwaith
hwnnw i’r pwyllgor er mwyn iddo fod yn ffactor fydd yn fyw ym meddyliau’r
Cyngor wrth iddynt orfod gwneud penderfyniadau i allanoli. PENDERFYNWYD (a) Gofyn i’r Swyddog Datblygu Iaith drefnu cyfarfod gyda
Phrif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Gwynedd i drafod y cyfleoedd a’r pryderon
uchod, gan ofyn yn benodol am sicrwydd ysgrifenedig ganddynt:- ·
Nad ydynt am fynd yn
groes i’w polisi iaith yn y dyfodol. ·
Y bydd y Gymraeg yn
sgil hanfodol ar gyfer swydd y Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau, fydd yn
cael ei hysbysebu’n fuan. ·
Bod y ddau uwch
reolwr di-gymraeg a benodwyd yn 2015 yn dysgu Cymraeg. (b) Adrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn ar ganlyniadau gwaith y
Comisiynydd Iaith ar oblygiadau allanoli gwasanaethau i’r iaith Gymraeg. |
|
Ystyried adroddiad
y Swyddog Datblygu Iaith (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad y Swyddog Datblygu Iaith yn manylu
ar y cwynion iaith diweddaraf i law. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |