Lleoliad: Ystafell Gwyrfai, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ymddiheuriadau:- Aled Jones (Aelod Annibynnol) a Mr Richard
Parry Hughes (Aelod Pwyllgor
Cymuned) Croesawyd y Cynghorydd Dewi Roberts i’w gyfarfod cyntaf o’r pwyllgor hwn. |
||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Nid oedd yna fater brys i’w drafod. |
||||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2017 fel rhai cywir (ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 23 Ionawr, 2017 fel rhai cywir. |
||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2016 - 2017 PDF 388 KB Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Cofnod: Cyflwynwyd – drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2016-2017. Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y pwyllgor i’r ddogfen. Nodwyd na chyfeiriwyd unrhyw gŵyn o dorri’r Cod Ymddygiad at y pwyllgor am benderfyniad yn ystod y flwyddyn,
ond y gallai un o’r cwynion a restrwyd
yn Atodiad 2 i’r adroddiad gael
ei chyfeirio at sylw’r pwyllgor maes o law. Cyfeiriwyd at ddau wall bychan yn y fersiwn Saesneg
o’r rhan o’r adroddiad sy’n
cyfeirio at waith y pwyllgor yn ystod
2016-2017, sef:- Goddefebau – angen dileu’r
frawddeg ‘Both
applications were turned down’ yn yr ail baragraff. Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru – camsillafiad o’r gair ‘request’ yn y frawddeg
olaf. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r drafft o adroddiad blynyddol gyda’r mân gywiriadau a nodwyd, a’i gyflwyno i
gyfarfod 5 Hydref o’r Cyngor. |
||||||||||||||||||||||||||
TREFN DATRYS LLEOL AR GYFER CYNGHORAU TREF A CHYMUNED PDF 95 KB Ystyried
adroddiad y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn ceisio
cefnogaeth y pwyllgor i Drefn Datrys
Lleol Un Llais Cymru ar gyfer
Cynghorau Tref a Chymuned. Croesawyd y protocol fel dull o geisio datrys cwynion lefel isel am aelodau
yn lleol, ond mynegwyd peth
pryder nad oedd cyfnod penodol
o amser wedi’i bennu ar gyfer
y broses. Cefnogwyd argymhelliad
i annog Cynghorau
Tref a Chymuned i fabwysiadu trefn
o’r fath. Nodwyd hefyd y byddai’n fuddiol gofyn i’r
cynghorau hynny adrodd yn ôl
i ddweud a ydynt wedi penderfynu
derbyn y canllawiau ai peidio. PENDERFYNWYD cefnogi Trefn Datrys
Lleol Un Llais Cymru ac annog Cynghorau Tref a Chymuned i fabwysiadu
trefn o’r fath. |
||||||||||||||||||||||||||
DISGRIFIADAU ROL AELODAETH PWYLLGOR SAFONAU PDF 95 KB Ystyried adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth – adroddiad y Swyddog Monitro yn atodi copi
o’r adroddiad ar ddisgrifiadau rolau aeth gerbron
y Cyngor llawn ar 15 Mehefin ynghyd
â chopi o’r
Swydd Ddisgrifiadau perthnasol i’r Pwyllgor Safonau. Gofynnwyd i’r
swyddogion roi gwybod i’r aelodau
pan fydd yn amser iddynt arwyddo’r
swydd ddisgrifiadau. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
||||||||||||||||||||||||||
HUNAN ASESIAD A RHAGLEN WAITH PDF 189 KB Ystyried adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn
i’r pwyllgor gynnal hunan asesiad
o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod
2016-17 ac ystyried rhaglen
waith ddrafft ar gyfer 2017-18. Gofynnwyd i’r
aelodau ystyried y swyddogaethau a restrwyd yng ngholofn gyntaf
yr hunan asesiad gan nodi
pa asesiad a gredai oedd yn
berthnasol iddynt gan ddefnyddio’r categorïau canlynol:- ·
Categori 1 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gwneud cynnydd
sylweddol iawn yn cyflawni’r swyddogaethau, neu yn achos tasgau penodol, nad
yw’r angen i weithredu wedi codi. ·
Categori 2 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r
swyddogaeth yn sylweddol, gan gynnal yr un safon â llynedd. ·
Categori 3 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r swyddogaeth,
ond bod angen rhoi sylw pellach. ·
Categori 4 – Dim tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r
swyddogaeth a bod sail i awgrymu bod angen rhoi sylw i’r maes. Eglurwyd hefyd:- ·
Bod angen nodi’r dystiolaeth sy’n cefnogi’r categori
mae’r pwyllgor yn ei ddyfarnu. ·
O ddyfarnu categori i bob swyddogaeth a nodi’r
dystiolaeth, gallai’r pwyllgor ddod i gasgliad ynglŷn â pha gamau pellach sydd angen eu cymryd, os o gwbl. ·
Y byddai unrhyw
awgrymiadau am gamau pellach yn bwydo trwodd i raglenni gwaith y pwyllgor i’r
dyfodol. Nodwyd y dylai rhaglen waith
2016-2017 (Atodiad 2 i’r adroddiad) gynnwys y rheswm dros beidio
cynnal cyfarfod o’r pwyllgor ar
27 Mawrth, 2017. PENDERFYNWYD (a)
Mabwysiadu’r canlynol fel hunan
asesiad y pwyllgor o’i waith (ychwanegiadau i’r ddogfen mewn llythrennau italig
ac wedi’u tanlinellu):-
|