Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dewi Owen. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant
personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim
i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Mehefin, 2023 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26
Mehefin, 2023 fel rhai cywir. |
|
Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:- ·
Dderbyn
newidiadau arfaethedig i’r Drefn Datrys Lleol (fel yr amlygir yn Atodiad 1 i’r
adroddiad) i adlewyrchu dyfodiad y ddyletswydd statudol newydd ar gyfer
Arweinyddion Grwpiau, a’u hargymell i’r Cyngor llawn; ·
Gefnogi ei fwriad i fynnu defnydd ffurflen gwynion
(Atodiad 2) fel rhan o’r gyfundrefn Datrys Lleol. Gwahoddwyd sylwadau / cwestiynau gan yr aelodau. Nodwyd bod raid
penderfynu ar ryw bwynt a yw cŵyn yn addas i’w datrys yn lleol, neu a
ddylai gael ei chyfeirio at yr Ombwdsmon, a holwyd oni ddylid cynnwys y cam
hwnnw yn y broses yn rhywle. Holwyd ai polisi
Cyngor Gwynedd oedd bod rhaid i bob cŵyn gan y cyhoedd gael ei chyfeirio
at yr Ombwdsmon, oherwydd y gellid dadlau y byddai’n well ymdrin â rhai mân
gwynion cyhoeddus lefel isel drwy’r Drefn Ddatrys Lleol. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro:- ·
Er na ellid rhoi data ar hyn, bod tueddiad yn
gyffredinol i anfon cwynion cyhoeddus at yr Ombwdsmon am ddau reswm, sef nad
oedd bob amser yn hawdd adnabod natur y pryder a bod angen adnoddau ar gyfer
ymchwilio i mewn i’r cwynion hynny. ·
Nad oedd y drefn bresennol wedi’i dylunio ar gyfer
ymdrin â chwynion cyhoeddus, ac er y byddai yna rinweddau o fynd i lawr y lôn
honno, byddai’n rhaid sicrhau proses sy’n gweithio ac yn cynnal hyder y cyhoedd
ynddi. Awgrymwyd y
dylai’r ffurflen gwynion ofyn i’r achwynydd ddatgan pa allbwn mae ef/hi yn ei
geisio fel canlyniad i’r gŵyn. O
bosib’ bod yr achwynydd yn chwilio am ymddiheuriad yn unig, neu’n dymuno i’r
sawl y mae’n cwyno amdano weld y sefyllfa o’i bersbectif ef/hi. Credid y byddai gofyn y cwestiwn o gymorth o
ran penderfynu sut i ymdrin â chwynion gan y byddai’n amlygu nad yw pob
cŵyn gyhoeddus yn drwm ar adnoddau a bod modd cael datrysiad syml a
chyflym ar gyfer aelodau’r cyhoedd mewn rhai achosion. Nodwyd bod y fersiwn Saesneg o baragraff 3 o Atodiad 1 i’r adroddiad yn
wallus a chadarnhaodd y Swyddog Monitro y byddai’n gwirio ac yn gwneud
addasiadau i sicrhau bod y geiriad yn darllen yn gywir. PENDERFYNWYD 1.
Derbyn
y newidiadau arfaethedig i’r Drefn Datrys Lleol i adlewyrchu dyfodiad y
ddyletswydd statudol newydd ar gyfer Arweinyddion Grwpiau, a’i hargymell i’r
Cyngor llawn. 2.
Cefnogi bwriad y Swyddog Monitro i
fynnu defnydd ffurflen gwynion fel rhan o’r gyfundrefn Datrys Lleol, fel sydd
wedi’i chynnwys yn Atodiad 2 i’r adroddiad, gyda’r ychwanegiad bod y ffurflen
yn gofyn i’r achwynydd ddatgan pa allbwn mae ef/hi yn ei geisio fel canlyniad
i’r gŵyn. |
|
GWEITHDREFN WRANDAWIADAU I'R PWYLLGOR SAFONAU PDF 106 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r
addasiadau i’r Weithdrefn Wrandawiadau i’r Pwyllgor Safonau ynghyd â’r daflen
wybodaeth gysylltiedig. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn gwahodd y
pwyllgor i gymeradwyo addasiadau i’r Weithdrefn Wrandawiadau i’r Pwyllgor
Safonau ynghyd â’r daflen wybodaeth gysylltiedig, yn sgil profiad gwrandawiadau
diweddar. Diolchodd y Swyddog Monitro i’r Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau am ei
waith gan nodi ei fod yn croesawu ac yn argymell i’r Pwyllgor gefnogi’r
diwygiadau. Diolchodd y Cadeirydd i’r Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau am gyflwyno
darn o waith proffesiynol iawn. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
addasiadau i’r Weithdrefn Wrandawiadau i’r Pwyllgor Safonau ynghyd â’r daflen
wybodaeth gysylltiedig. |
|
COFRESTR RHODDION A LLETYGARWCH PDF 115 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi
a derbyn cynnwys yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn manylu ar y
Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch ac yn gwahodd sylwadau’r pwyllgor fel rhan o’i
waith o fonitro safonau o fewn y Cyngor. Gan gyfeirio at y datganiadau
ar y gofrestr gyfredol, pwysleisiodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau nad
oedd y 2 aelod dan sylw yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio, eithr yn aelodau
lleol oedd wedi cael cynnig o rodd ar ôl i’r penderfyniadau gael eu gwneud. Nododd y Swyddog Monitro fod yr adroddiad yn adlewyrchu nad yw bob amser
yn hawdd ymdrin â sefyllfaoedd fel hyn.
Nododd hefyd fod y datganiad gwrthod yn galonogol gan ei bod yn
allweddol bod unrhyw rodd sy’n cael ei chynnig, boed yn cael ei derbyn ai
peidio, yn cael ei chofnodi. Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod, eglurwyd nad oedd lletygarwch a ddarperir i aelodau wrth
wasanaethu ar gyrff allanol yn rhodd gan drydydd parti, e.e. cynrychiolwyr y
Cyngor ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol neu gyfarwyddwyr Adra, a bod gan y cyrff
hynny eu Cod Ymddygiad a’u trefniadau penodol eu hunain. Er hynny, byddai’n cynghori y dylai unrhyw
aelod sy’n ansicr o’u sefyllfa gofrestru beth bynnag. PENDERFYNWYD nodi a derbyn cynnwys
yr adroddiad. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 99 KB Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r
wybodaeth a pharhau i gyflwyno’r wybodaeth i’r Pwyllgor Safonau mewn ffurf
crynodebau heb fanylion penodol. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno
gwybodaeth am benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn
aelodau. Roedd yr adroddiad hefyd yn
gofyn i’r Pwyllgor ystyried a fyddent yn dymuno i’r materion hyn gael eu trin
fel eitem eithriedig yn y dyfodol, fel bod modd cyflwyno’r wybodaeth gyflawn a
ddarperir gan yr Ombwdsmon i alluogi’r Pwyllgor i drafod yn fanylach
oblygiadau’r penderfyniadau o safbwynt dehongli’r Cod Ymddygiad. Nododd y
Swyddog Monitro:- ·
Bod opsiwn o fynd yn gaeedig, ond nad oedd yn siŵr pa
werth fyddai’n ychwanegu i’r Pwyllgor o gael y manylion ynglŷn â phwy yw’r
unigolion a’r cynghorau dan sylw, ayb. ·
Bod y swyddogion yn ymwybodol o’r
adroddiad gwreiddiol lle mae problem wedi codi, a phetai angen cysylltu, e.e. i
drafod sefyllfa cynghorydd, gellid gwneud hynny. ·
Pe byddai yna batrwm yn codi, e.e.
mewn cyngor penodol, y byddai’n ofalus ynglŷn â dod â hynny gerbron y
Pwyllgor beth bynnag oherwydd y gallai achos yn ymwneud â’r cyngor hwnnw ymddangos
gerbron gwrandawiad o’r Pwyllgor Safonau maes o law. Gwahoddwyd sylwadau/cwestiynau gan yr aelodau. Nodwyd bod geiriad achosion 202303259 & 202303399 yn amwys oherwydd y cyfeirir at y
cynghorydd fel ‘ef’ yn y frawddeg gyntaf, ond fel ‘hi’ yn y
frawddeg ganlynol. Awgrymwyd nad oedd yr
hyfforddiant wedi gwella dim ar y sefyllfa yng Nghyngor Tref Tywyn, lle mae mân
achosion yn codi’n gyson. Mewn ymateb,
nododd y Swyddog Monitro:- ·
Bod
rhain yn gwynion sydd ddim yn mynd ymlaen i ymchwiliad, ac sy’n awgrymu,
efallai, bod yr hyfforddiant wedi gweithio. ·
Nad
oedd modd osgoi cwynion yn gyfan gwbl, ac o bosib’, nad oedd bodolaeth y
cwynion yma yn yr adroddiad yn creu darlun mor ddu â hynny. Nodwyd
na ddeellid pam bod yr Ombwdsmon, ar ôl canfod bod aelod wedi torri’r Cod
Ymddygiad, yn penderfynu nad oes angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r
materion yr ymchwiliwyd iddynt. Pryderid
bod hynny’n gallu arwain at sefyllfaoedd gwaeth yn y dyfodol, ac awgrymwyd y dylai
unrhyw achos, waeth pa mor fach, gael ei ymchwilio iddo os yw’r cynghorydd dan
sylw wedi torri’r Cod yn flaenorol. Mewn
ymateb, nododd y Swyddog Monitro:- ·
Nad oedd yn anghytuno â’r sylw, ond
bod cynghori ar gwynion yn anodd ar yr adegau hynny pan fo cynghorydd yn amlwg
wedi torri’r Cod, ond nad oes budd cyhoeddus, efallai, mewn cymryd camau mewn
perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt. ·
Bod yr Ombwdsmon a’i swyddogion hefyd yn wynebu tasg anodd yn
cloriannu’r cwynion ac yn dod i gasgliad ynglŷn â pha rai sydd angen
ymchwilio iddynt. ·
Bod Adroddiad Blynyddol yr
Ombwdsmon yn amlygu bod yna bwyslais mawr ar barch a chydraddoldeb, ac o bosib’
mai dyna’r achosion y mae’r Ombwdsmon fwyaf tebygol o ymchwilio iddynt, a hefyd
fwyaf tebygol o gymryd camau yn y budd cyhoeddus. Gan gyfeirio at achos 202201791, nodwyd bod awgrym gan yr Ombwdsmon nad oedd y cyngor a roddwyd gan y Clerc mor glir ag y gallai fod, a holwyd a oedd y swyddogion wedi nodi bod angen darparu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON PDF 110 KB Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r
adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd -
adroddiad y Swyddog Monitro yn amgáu adroddiad blynyddol yr Ombwdsmon am y
flwyddyn 2022-23. Nododd y Swyddog
Monitro:- ·
Y gwelwyd gostyngiad yn nifer y materion Cod
Ymddygiad, ond bod pryder mwyaf yr Ombwdsmon ynghylch materion parch a
chydraddoldeb, gydag oddeutu 67% o’r cwynion a dderbynnir yn ymwneud â’r agwedd
yma. ·
Ei
bod yn anodd tynnu unrhyw negeseuon penodol o’r adroddiad, ond y deellid, o
drafodaethau gyda swyddogion yr Ombwdsmon, eu bod yn edrych ar y patrymau
cwynion sy’n deillio o’r Adroddiad Blynyddol, ac o bosib’, y ceid gwybodaeth
bellach fyddai o gymorth i fframio hyfforddiant, ond hefyd y drafodaeth gydag
Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol. Gan gyfeirio at y
Dangosyddion Perfformiad Allweddol (tudalen 124 o’r adroddiad / tudalen 177 o’r
rhaglen), nododd y Cadeirydd fod y perfformiad o ran achosion a gaewyd o fewn
12 mis wedi llithro fymryn o 67% yn 2021/22 i 66% yn 2022/23, o gymharu â’r
targed o 90%, a holwyd a ddylid gwneud sylw i’r Ombwdsmon bod y Pwyllgor yn
bryderus ynglŷn â’r llithriad hwn.
Mewn ymateb, nododd y Swyddog Monitro nad oedd yn glir beth oedd wedi
achosi hyn, ond y gallai gysylltu â swyddogion yr Ombwdsmon i gael esboniad o’r
ffactorau sydd wedi arwain at y sefyllfa, ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |