Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
Ystyried adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
4(a)
Rhaid i Aelodau gyflawni eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau gan roi sylw dyladwy
i’r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth fo’u rhyw, eu hil,
eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd. 4(b)
Rhaid i Aelodau ddangos parch at eraill ac ystyriaeth ohonynt. 6(1)(a)
Rhaid i Aelodau beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid yn rhesymol ei hystyried
yn un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu ar eu hawdurdod.
Cofnod: Yna esboniodd y
Cadeirydd natur / fformat y gwrandawiad. Cefndir 1. Ystyriodd y
Pwyllgor adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (“yr Ombwdsmon”)
i gŵyn a wnaed gan Mr Howard Huws (“yr Achwynydd”), bod y Cynghorydd
Louise Hughes (“yr Aelod”) wedi torri
Cod Ymddygiad Cyngor Gwynedd (“y Cyngor”). 2. Honnwyd bod yr
Aelod wedi ymddwyn yn amhriodol drwy ymateb mewn Almaeneg i ddau e-bost
anfonwyd ati gan yr Achwynydd yn y Gymraeg. 3. Daeth yr
Ombwdsmon i’r penderfyniad y gallai’r Aelod fod wedi torri Cod Ymddygiad y
Cyngor, yn benodol, paragraffau 4(a), 4(b) sy’n darparu: “4. Mae'n rhaid i chi: (a)
gyflawni eich dyletswyddau a’ch cyfrifoldebau gan roi
ystyriaeth briodol i'r egwyddor y dylai fod cyfle cyfartal i bawb, waeth beth
fo'u rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd; (b) dangos parch at bobl eraill ac ystyriaeth
iddynt; Canfu'r Ombwdsmon
hefyd y gellid ystyried gweithredodd yr Aelod yn rhesymol fel ymddygiad a allai
fod wedi torri paragraff 6 (1) (a) y Cod Ymddygiad: “6 (1) Mae'n rhaid i chi: (a) beidio ag ymddwyn mewn ffordd y gellid ystyried
yn rhesymol ei bod yn dwyn anfri ar eich swydd neu'r awdurdod;” 4. Cyfeiriodd yr
Ombwdsmon ei adroddiad ymchwilio at Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd i'w ystyried
gan ei Bwyllgor Safonau. Y Gwrandawiad 5. Cyflwynodd y
Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau (Dirprwy Swyddog Monitro Cyngor Gwynedd), oedd
yn cynghori’r Pwyllgor, ei adroddiad ar gychwyn y gwrandawiad. 6. Ystyriodd y
Pwyllgor adroddiad ysgrifenedig ymchwiliad yr Ombwdsmon, y dogfennau pellach a
gyflwynwyd ymlaen llaw gan yr Aelod a’r Ombwdsmon yn unol â threfn cyn-wrandawiad
y Pwyllgor, a’r dystiolaeth gan yr Awdurdod yn cadarnhau’r ddarpariaeth
gyfieithu oedd ar gael pan dderbyniwyd yr e-byst gan yr Aelod. Ystyriodd y Pwyllgor hefyd y cyflwyniadau
llafar yn ystod y gwrandawiad gan Katrin Shaw, Prif
Gynghorydd Cyfreithiol a Chyfarwyddwr Ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru, Swyddog Ymchwilio’r Ombwdsmon, yr Achwynydd, fel tyst, a’r
Aelod ei hun. Roedd yr Aelod wedi nodi’n
flaenorol na fyddai’n bresennol, gan ei bod wedi dweud yr hyn yr oedd am ei
ddweud yn ei chyflwyniadau ysgrifenedig i’r ymchwiliad. Fodd bynnag,
penderfynodd fod yn bresennol, er gwaethaf y pryder a'r trallod yr oedd y mater
yn ei achosi iddi, i sicrhau'r Pwyllgor ei bod yn cymryd y mater o ddifrif. Y Penderfyniad 7. Ystyriodd y
Pwyllgor yn gyntaf unrhyw ganfyddiad o ffaith yr oedd angen iddo wneud. Nid
oedd unrhyw ffeithiau oedd yn destun anghydfod yn yr achos hwn. Roedd y gŵyn yn deillio o gynnwys dau
e-bost anfonwyd gan yr Aelod ar 4/12/21 a 21/2/22. Roedd copïau o’r ddau e-bost yma yn y
dystiolaeth ysgrifenedig gerbron ac nid oedd amheuaeth felly ynglŷn â’r
hyn yr oedd yr Aelod wedi ei ddweud. 8. Aeth y Pwyllgor
ymlaen i ystyried ymddygiad yr Aelod, ac ar ôl ystyriaeth ofalus o’r holl
dystiolaeth a gyflwynwyd, penderfynodd y Pwyllgor fod yr Aelod wedi methu a
chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad fel a ganlyn: |