Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dewi Roberts. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant
personol. COFNODION: Datganodd y
Cynghorydd Anne Lloyd Jones fuddiant personol yn eitem 6 – Adroddiad ar
Ganlyniad Ymchwiliad i Gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Michael Stevens o Gyngor
Tref Tywyn, oherwydd ei bod yn aelod o Gyngor Tref Tywyn. Nid oedd o’r farn ei fod yn fuddiant oedd yn
rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. Datganodd Mr Hywel
Eifion Jones fuddiant personol yn eitem 8 – Adroddiad Blynyddol Panel Dyfarnu
Cymru 2019-20 a 2020-21, oherwydd ei fod yn aelod lleyg ar Banel Dyfarnu
Cymru. Nid oedd o’r farn ei fod yn
fuddiant oedd yn rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar
yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Ni chodwyd
unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn fel rhai cywir:- ·
26 Hydref, 2021 (Cyfarfod Arbennig) ·
8 Tachwedd, 2021 ·
8 Rhagfyr, 2021 (Cyfarfod Arbennig) Dogfennau ychwanegol:
COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 26 Hydref, 8
Tachwedd ac 8 Rhagfyr, 2021 fel rhai cywir, yn amodol ar nodi nad oedd y
Cynghorydd Anne Lloyd Jones wedi cyflwyno ymddiheuriad i gyfarfod 26 Tachwedd,
ond yn hytrach wedi methu bod yn rhan o’r cyfarfod. |
|
GRWP TASG A GORFFEN - Y FFRAMWAITH SAFONAU FOESEGOL PDF 246 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Penderfyniad: (a) Gofyn i’r Swyddog Monitro ddod yn ôl gydag
adroddiad i’r Pwyllgor, mewn ymgynghoriad â’r Grŵp Tasg a
Gorffen, ar gamau gweithredu mewn ymateb i Adroddiad Richard Penn. (b) Bod y Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol
yn cynnal trafodaeth gychwynnol gyda sampl o glercod cynghorau cymuned a thref,
er mwyn dechrau deall yr anghenion yn y sir. COFNODION: Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn manylu ar ganfyddiadau ac
argymhellion y Grŵp Tasg a sefydlwyd gan y pwyllgor i drafod
canfyddiadau’r Adolygiad o’r Fframwaith Safonau Moesegol i Gymru. Nododd y Swyddog Monitro ei fod yn croesawu
adroddiad y Grŵp Tasg, gan ychwanegu:- ·
Y bu’r ymarferiad yn gyfle i gymryd cam yn ôl o waith y Pwyllgor Safonau
a lle mae’n eistedd o fewn yr Awdurdod, a’i broffil. ·
Bod adroddiad Richard Penn yn gyfle i weld yr
hyn oedd yn digwydd mewn llefydd eraill, ac i ystyried a oedd yna syniadau neu
gyfleoedd i ddatblygu’r pwyllgor. ·
Ei bod nawr, ar drothwy Cyngor o’r newydd yn dilyn yr Etholiadau ym mis
Mai, yn amser da i ddechrau adeiladu ar hyn drwy’r broses anwytho, ayb. ·
Y gwelid o’r adroddiad bod yna lawer o bethau ymarferol y gellid eu
hymgorffori mewn rhaglen waith, ac mewn ffordd o weithredu hefyd, megis y
cysyniad yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 bod arweinyddion
grwpiau gwleidyddol yn gyfrifol am ymddygiad eu haelodau. Roed gan y pwyllgor hwn rôl newydd i
hyrwyddo, cefnogi a monitro’r gwaith yma, ac roedd hynny’n agor y drws i gael
perthynas fwy byw ac agos gyda’r arweinyddion grwpiau. Byddai hefyd yn fodd o sicrhau gwell cyswllt
gydag uwch reolaeth y Cyngor, y swyddogion statudol eraill, neu o leiaf godi
ymwybyddiaeth o’r Pwyllgor Safonau. ·
Bod awgrym bod cynghorau cymuned a thref yn brif ffynhonnell problemau
Cod Ymddygiad, ac er bod yna elfen o wirionedd yn hynny, roedd y ffaith bod yna
dros 60 o gynghorau cymuned a thref o amrywiol faint ar draws Gwynedd, gydag
oddeutu 750 o gynghorwyr yn gwasanaethu ar y cynghorau hynny, yn golygu bod
canran yr aelodau sy’n dod ar draws materion Cod Ymddygiad yn gymharol
fychan. Gan hynny, roedd y gwaith
cenhadu a gwneud y cyswllt a rhoi’r gefnogaeth am fod yn waith cyson, ond fel
roedd yr adroddiad yn nodi, roedd rhaid cychwyn yn rhywle a chreu platfform i
ddatblygu perthynas fwy byw. ·
Fel y corff â’r cyfrifoldeb statudol tuag at
ymddygiad aelodau yn y cynghorau cymuned, roedd yn bwysig nad oedd y Pwyllgor
Safonau yn mynd ar goll yn y broses o gefnogi a hyrwyddo, a’i fod yn cael ei
weld fel y corff statudol gyda’r rôl drosolwg a chynnal. Mewn ymateb i gwestiynau, nododd y Swyddog
Monitro:- ·
Ei bod yn amlwg bod yna amrywiaeth ar draws Cymru o ran sut mae
pwyllgorau safonau yn gweithredu. Roedd
sôn am ymestyn y Fforwm Cadeiryddion ar draws Cymru gyfan, a byddai hynny’n
rhoi cyfle i gychwyn cael cysondeb.
Roedd y pwyllgor hwn wedi ymateb i Adroddiad Richard Penn
drwy weld beth mae pobl eraill yn wneud, ac efallai y gellid dysgu o hynny er
mwyn edrych ar y ffordd mae’r pwyllgor yn gweithio. Ychwanegwyd mai’r neges o Gynhadledd Safonau
Cymru Gyfan a gynhaliwyd yn ddiweddar oedd bod lle i ni ddysgu oddi wrth ein
gilydd. · O ran y rhwystredigaeth na all aelodau bellach gymryd rhan mewn trafodaethau ar faterion lle mae ganddynt ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r adroddiad ar ganlyniad yr ymchwiliad i’r gŵyn
yn erbyn y Cynghorydd Michael Stevens o Gyngor Tref Tywyn, i’w anfon at y
Swyddog Monitro, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, y Cynghorydd Stevens
a’r achwynydd, yn unol â gofynion y Rheoliadau. COFNODION: Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn manylu ar ganlyniad ymchwiliad
i gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Michael Stevens o Gyngor Tref Tywyn, yn unol
â darpariaethau Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau
Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (fel y’u diwygiwyd). Diolchwyd i’r swyddogion
am eu gwaith trylwyr a’u cefnogaeth i’r aelodau yn ystod yr holl broses o
drefnu a chynnal y gwrandawiad. Nodwyd bod
penderfyniad Llywydd Panel Dyfarnu Cymru i wrthod cais y Cynghorydd Michael
Stevens am ganiatâd i apelio yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Safonau yn
adlewyrchu bod y pwyllgor wedi dod i benderfyniad rhesymol, ac wedi’i eirio’n
ofalus a da, ar y mater. Ategodd y
Cadeirydd y sylw hwn, gan nodi ei bod hithau wedi ei phlesio’n arw gydag ymateb
y Panel Dyfarnu, a diolchodd i bawb am y gefnogaeth. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r adroddiad ar ganlyniad yr
ymchwiliad i’r gŵyn yn erbyn y Cynghorydd Michael Stevens o Gyngor Tref
Tywyn, i’w anfon at y Swyddog Monitro, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru,
y Cynghorydd Stevens a’r achwynydd, yn unol â gofynion y Rheoliadau. |
|
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 262 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Penderfyniad: Nodi’r wybodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd -
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am
benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. Cyfeiriodd y
Cadeirydd at ddyhead y Grŵp Tasg, a sefydlwyd i drafod y Fframwaith
Safonau Foesegol, am ragor o fanylion ynglŷn â honiadau tra bo’r achosion
hynny’n mynd rhagddynt. Mewn ymateb i
gwestiwn, eglurodd y Swyddog Monitro fod y Cynghorydd Roy Owen wedi ei atal tan
yr Etholiad ym mis Mai, a gan nad oedd wedi ei ddiarddel fel aelod, bod ganddo
hawl i sefyll eto fel ymgeisydd. Yn yr
un modd, gan nad oedd y Cynghorydd Michael Stevens wedi’i ddiarddel o fod yn
aelod o unrhyw gyngor, roedd modd iddo sefyll eto fel ymgeisydd ar Gyngor Tref
Tywyn. Awgrymodd y
Cadeirydd mai dyma lle’r oedd pobl yn gweld y drefn braidd yn wan. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL DYFARNU CYMRU 2019-20 A 2020-21 PDF 177 KB Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi’r adroddiadau er gwybodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd -
adroddiad y Swyddog Monitro yn atodi copïau o Adroddiadau Blynyddol 2019-20 a
2020-21 Panel Dyfarnu Cymru er sylw’r pwyllgor. Croesawyd y ffaith
bod yr adroddiadau bellach yn cynnwys crynodebau o achosion. PENDERFYNWYD nodi’r adroddiadau er gwybodaeth. |