Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
ETHOL CADEIRYDD *Ethol Cadeirydd ar gyfer y pwyllgor
hwn. Penderfyniad: Ethol
y Dr Einir Young yn gadeirydd y pwyllgor hwn. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol y Dr Einir Young yn gadeirydd y pwyllgor hwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ETHOL IS-GADEIRYDD *Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y pwyllgor hwn. *D.S – mae’r
rheoliadau perthnasol yn nodi:- “Dim ond aelod
annibynnol o'r Pwyllgor Safonau a all fod yn gadeirydd neu is-gadeirydd.” Penderfyniad: Ethol
Mr Hywel Eifion Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn. Cofnod: PENDERFYNWYD
ethol Mr Hywel Eifion Jones yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant
personol. Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni chodwyd unrhyw faterion brys. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2022 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14
Chwefror, 2022 fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro dau gyfeiriad at y Cadeirydd
fel ‘he’ yn hytrach na ‘she’ yn y fersiwn Saesneg, fel a nodir
isod:- “The Chair noted that the discussion on Richard
Penn's Report in the Standards Conference had been of a very high standard, but
we, in Gwynedd, had made great strides in understanding the report from our
perspective. She added that if any other standards committees had
undertaken a similar exercise to the Task Group in Gwynedd, it would be
interesting to bring all the work together to see whether there were similar
themes that could be discussed further.” “The Chair shared the slides ‘Standards – a view
from Gwynedd’ that she had presented at the recent All Wales Standards
Conference.” |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2021/22 PDF 178 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo’r adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor
llawn ar 6 Hydref, yn ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y
Cadeirydd a’r Swyddog Monitro, cyfeiriad at ymateb yr Ombwdsmon i benderfyniad
y Pwyllgor ar y gŵyn a gyfeiriwyd ato, ac i wneud mân addasiadau i
fywgraffiadau’r aelodau. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn
amgáu drafft o adroddiad blynyddol y pwyllgor ar gyfer 2021/22. Gwahoddwyd sylwadau a chymeradwyaeth y
pwyllgor i’r ddogfen. Nodwyd
bod un aelod wedi cyflwyno diweddariad i’w fywgraffiad eisoes a chyfeiriodd
aelodau at ddiweddariadau / cywiriadau pellach, sef:- ·
Mr Hywel Eifion Jones – ddim yn aelod o
Fwrdd Betsi Cadwaladr bellach, ond yn aelod o Bwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio Cyngor Gwynedd. Hefyd yn
Gadeirydd Adra ac yn aelod o Fwrdd Pensiynau Gwynedd. ·
Y Cynghorydd Beth Lawton – ddim yn
Is-gadeirydd Pwyllgor Craffu Gofal Cyngor Gwynedd bellach, ond yn Gadeirydd y
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi yn ystod 2021/22. ·
Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones – yn parhau
i fod yn Drysorydd cangen leol yr NSPCC. Awgrymwyd y dylid
cynnwys cyfeiriad dan y pennawd ‘Achosion
fu gerbron y Pwyllgor’ at ymateb cadarnhaol yr Ombwdsmon i benderfyniad y
pwyllgor ar y gŵyn a gyfeiriwyd ato, gan nodi bod yr achos yn un a fethodd
fynd i apêl oherwydd bod y pwyllgor wedi gwneud ei waith mor drylwyr, a hynny
oherwydd y gefnogaeth a ddarparwyd gan yr Adran a’r swyddogion. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
adroddiad blynyddol i’w gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 6 Hydref, yn
ddarostyngedig i ychwanegu cyflwyniad a rhagair gan y Cadeirydd a’r Swyddog
Monitro, cyfeiriad at ymateb yr Ombwdsmon i benderfyniad y pwyllgor ar y
gŵyn a gyfeiriwyd ato, ac i wneud mân addasiadau i fywgraffiadau’r
aelodau. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
HUNAN ASESIAD A RHAGLEN WAITH PDF 260 KB Cyflwyno
adroddiad y Swyddog Monitro. Penderfyniad: (a)
Mabwysiadu’r
canlynol fel hunan asesiad y pwyllgor o’i berfformiad yn 2021/22.
(b) Cymeradwyo’r
rhaglen waith a ganlyn ar gyfer 2022/23:- 11 Gorffennaf, 2022 Adroddiad Blynyddol Honiadau yn erbyn Aelodau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 Cofrestr Rhoddion
a Lletygarwch Cofrestr Datgan
Buddiant Adroddiad
Blynyddol yr Ombwdsmon Honiadau yn erbyn
Aelodau Mabwysiadu
Protocol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol 13 Chwefror 2023 Adroddiad
Blynyddol y Panel Dyfarnu Honiadau yn erbyn
Aelodau Hunan Asesiad a
Rhaglen Waith Adroddiad
Blynyddol y Pwyllgor (c) Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Aelod Pwyllgor Cymunedol, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro, i fwrw ymlaen â’r gwaith gyda sampl o glercod cynghorau cymuned a thref i ddeall yn well beth yw eu hanghenion, gan sicrhau trefn foesegol briodol ar gyfer gwneud hynny, ac ymgynnull cyfarfod pellach o’r Grŵp Tasg a Gorffen – Y Fframwaith Safonau Moesegol ddechrau Medi i dderbyn adborth ... view the full Penderfyniad text for item 8. Cofnod: Cyflwynwyd –
adroddiad y Swyddog Monitro yn gwahodd y pwyllgor i:- ·
gynnal
hunan asesiad o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod 2020/21; ac ·
ystyried
rhaglen waith ddrafft ar gyfer 2022/23. Wrth gynnal yr
hunan asesiad, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:- ·
Y
byddai’n fuddiol rhifo’r swyddogaethau yn y tabl o hyn allan. ·
Y
dylid sicrhau bod hunan asesiadau blaenorol y pwyllgor wrth law yn y dyfodol er
mwyn gallu cymharu, sicrhau cysondeb a mesur cynnydd. ·
Mynegwyd
siomedigaeth mai ond 5 allan o’r 69 cynghorydd sir oedd yn bresennol yn yr
hyfforddiant diweddar ar y Cod Ymddygiad.
Mewn ymateb, eglurwyd bod pob cynghorydd sir wedi derbyn hyfforddiant
cyffredinol ar y Cod fel rhan o’r diwrnodau croesawu yn dilyn yr etholiadau diweddar,
a bod o leiaf un sesiwn arall mwy manwl wedi’i drefnu. Bwriedid cynnal sesiwn debyg gydag aelodau
cyfetholedig y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi hefyd. ·
Awgrymwyd
y byddai’r Protocol Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol arfaethedig yn fodd o gael
gwell trefn ar y sefyllfa drwy roi pwysau a chyfrifoldeb ar yr Arweinyddion i
sicrhau bod eu haelodau yn mynychu hyfforddiant o’r fath. ·
Awgrymwyd,
o safbwynt bod yn weledol, y dylai aelodau o’r Pwyllgor Safonau, neu o leiaf y
Cadeirydd/Is-gadeirydd fod yn bresennol ar gychwyn y sesiynau hyfforddiant. ·
Awgrymwyd
ei bod yn gamarweiniol dweud mai ond 5 aelod oedd wedi mynychu’r hyfforddiant
diweddar ar y Cod gan fod yr hyfforddiant yn cael ei recordio ac ar gael ar y
Fewnrwyd Aelodau i bawb ei wylio yn eu hamser eu hunain. Nodwyd y byddai’n fuddiol gwybod faint o bobl
sydd wedi gwylio’r recordiad a chytunodd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau i
wneud ymholiadau ynglŷn â hynny. ·
Holwyd
a oedd y recordiad o’r hyfforddiant ar gael ar gyfer aelodau cynghorau cymuned
a thref yn ogystal. Mewn ymateb, eglurwyd
bod y recordiad ar gael ar Fewnrwyd Aelodau Gwynedd yn unig ar hyn o bryd, ond
diau y byddai modd i’r Cyngor drefnu mynediad ar gyfer aelodau’r cynghorau
cymuned a thref. Nodwyd ei bod yn bwysig
sicrhau bod y recordiad ar gael i bawb, ac awgrymwyd y byddai’n fuddiol cynnwys
yr hyfforddiant ar dudalen we'r Pwyllgor Safonau yn ogystal. Nododd y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau y
byddai’n edrych ar y ffordd orau ymlaen o ran sicrhau bod yr adnodd ar gael. ·
Gan
gyfeirio at y swyddogaeth o fonitro gweithrediad y Cod Ymddygiad (4), eglurodd
y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau fod yr Ombwdsmon wedi dirwyn y Llyfr
Achosion Cod Ymddygiad i ben, a bellach bod rhaid mynd i wefan yr Ombwdsmon i
chwilio am wybodaeth ynglŷn ag achosion.
Gan hynny, byddai’n rhaid edrych beth yw’r ffordd orau o gyflwyno’r
wybodaeth i’r pwyllgor yn y dyfodol. O
bosib’ y gellid cyfuno hynny gyda’r adroddiadau rheolaidd ar honiadau yn erbyn
aelodau, gyda’r nod o gyflwyno rhywbeth mwy ystyrlon i’r pwyllgor. · O ran y swyddogaeth o ymarfer yr holl swyddogaethau mewn perthynas â chynghorau cymuned (9), roedd peth anghytundeb ymhlith yr aelodau ynglŷn â’r asesiad, gyda rhai o blaid defnyddio categori 3 ar y sail bod yna gamau sydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
HONIADAU YN ERBYN AELODAU PDF 259 KB Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau. Penderfyniad: Nodi’r
wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd -
adroddiad y Rheolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn cyflwyno gwybodaeth am
benderfyniadau’r Ombwdsmon ar gwynion ffurfiol yn erbyn aelodau. Gan gyfeirio at gŵyn
rhif 202004473, mynegwyd pryder ei bod wedi cymryd gymaint o amser i’r
Ombwdsmon ddod i’r farn nad oedd yr aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod
Ymddygiad, a nodwyd bod hyn yn hollol annheg ar yr aelod oedd wedi gorfod
wynebu etholiad gyda’r mater hwn yn gysgod drosto. Mewn ymateb, nodwyd bod hwn yn bwynt oedd yn
cael ei godi’n aml, ac er bod Swyddfa’r Ombwdsmon yn dweud eu bod yn cyflymu’r
broses o gynnal asesiad cychwynnol i benderfynu a ddylid ymchwilio i gŵyn
ai peidio, roedd yr ymchwiliad ei hun yn medru cymryd llawer iawn o amser. PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth. |