Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dewi Owen a Mr Richard Parry Hughes. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Datganodd
Mr Aled Jones fuddiant personol yn eitem 5 gan ei fod yn adnabod y Cynghorydd Gwynfor
Owen yn bersonol ac yn broffesiynol trwy ei waith. Roedd yr aelod o’r
farn bod y buddiant hwn yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. Roedd
gan y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen fuddiant personol yn eu ceisiadau eu
hunain ond bod y Pwyllgor Safonau wedi caniatáu goddefeb
gyffredinol sy’n caniatáu i ymgeiswyr am oddefebau
fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau er diben ateb unrhyw gwestiynau
ynglŷn â’u cais yn unig. Gadawodd
yr aelodau y cyfarfod wedi ymdrin â chwestiynau. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim
i’w nodi. |
|
CAIS AM ODDEFEB - Y CYNGHORYDD DAWN JONES PDF 150 KB Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Dawn Jones gynrychioli’r
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan
y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a
hynny ar yr amod nad yw’n cael ei phenodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r
pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais am oddefeb gan y Cynghorydd Dawn Jones
i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen
a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth
Gwynedd. Cyn ystyried y cais, gosododd y Swyddog Monitro y
cyd-destun gan nodi bod y Pwyllgor Safonau wedi mabwysiadu trefn sy’n caniatáu
i ymgeiswyr am oddefebau fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor i ateb cwestiynau
posib’ gan y pwyllgor yn unig. Yna manylodd y Swyddog Monitro ar y cais dan sylw, gan
nodi:- ·
Bod y Cynghorydd Dawn Jones wedi
datgan buddiant oedd yn rhagfarnu yn y mater oherwydd bod unigolion yr oedd
ganddi gysylltiad personol agos â hwy yn derbyn y gwasanaethau oedd yn destun y
craffu. ·
Bod y cais yn cael ei gyflwyno ar
sail (dd) o’r rheoliadau perthnasol, sef “os oes cyfiawnhad i’r aelod gymryd
rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu
arbenigedd penodol yr aelod”. ·
Er bod y Cynghorydd Dawn Jones yn
gweithio i Sylfaen Cymunedol, sef cwmni sy’n darparu prosiectau cymunedol i
gefnogi pobl ifanc ar draws Môn, Conwy a Gwynedd ac sy’n anorfod yn dod i
gyswllt â phobl ifanc ag awtistiaeth, o drafod gyda’r aelod, ni ystyrid bod
natur na lefel yr ymwneud yma yn cael ei effeithio gan yr hyn sydd dan sylw. ·
Nad rôl cynghori na rhoi arweiniad
oedd rôl aelodau’r Grŵp Tasg, ond yn hytrach adolygu’r maes, ac er na
fyddent yn gwneud penderfyniadau, byddai eu hadroddiad yn dylanwadu ar
gyfeiriad craffu’r maes. ·
Bod canllawiau’r Ombwdsmon ar y Cod
Ymddygiad yn nodi bod angen i’r Pwyllgor Safonau gydbwyso budd y cyhoedd o ran
atal aelodau sydd â buddiannau rhagfarnus rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau
yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan grŵp
gweddol gynrychioliadol o aelodau’r Cyngor. ·
Pe dymunai’r Pwyllgor ganiatáu’r
cais, dylai fod yn fodlon bod gan yr aelod rôl neu arbenigedd penodol yn y maes
fyddai’n cyfrannu at waith y Grŵp Tasg. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Swyddog
Monitro. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r
Cynghorydd Dawn Jones. Yna gadawodd y Cynghorydd Dawn Jones y cyfarfod. Wrth drafod y cais, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r
ffactorau a ganlyn:- ·
Bod y Cynghorydd Dawn Jones wedi
gweithio hefo plant a phobl ifanc ers 34 o flynyddoedd ac wedi cefnogi
teuluoedd lle mae plentyn neu berson ifanc yn aros am asesiad a diagnosis o
awtistiaeth ers 15 mlynedd. ·
Ei bod hefyd wedi mynychu nifer o
gyrsiau hyfforddiant proffesiynol yn y maes awtistiaeth. Cytunodd y Pwyllgor fod yr aelod yn cyrraedd y trothwy o
ran arbenigedd penodol yn y maes ac y dylid caniatáu goddefeb iddi eistedd ar y
Grŵp Tasg. Awgrymwyd, fodd bynnag,
na ddylai gael ei phenodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg. PENDERFYNWYD caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Dawn Jones gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4. |
|
CAIS AM ODDEFEB - Y CYNGHORYDD GWYNFOR OWEN PDF 183 KB Cyflwyno adroddiad
y Swyddog Monitro. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (1) Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd
Gwynfor Owen gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp
Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu
Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a hynny ar yr amod nad yw’n cael ei benodi yn
Gadeirydd y Grŵp Tasg. (2) Gwrthod goddefeb i’r Cynghorydd
Gwynfor Owen siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y bydd y mater hwn yn
codi gan nad oedd yna ddigon o wybodaeth ynglŷn â’r cais i ddod i gasgliad
priodol. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r
pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais am oddefeb gan y Cynghorydd Gwynfor
Owen:- ·
I gynrychioli’r Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor
Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd. ·
I dderbyn goddefeb gyffredinol
fyddai’n caniatáu iddo siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y byddai’r
mater yn codi. Manylodd y Swyddog Monitro ar y cais dan sylw, gan
nodi:- ·
Bod y Cynghorydd Gwynfor Owen wedi
datgan buddiant oedd yn rhagfarnu yn y mater oherwydd bod unigolyn yr oedd
ganddo gysylltiad personol agos ag ef yn derbyn y gwasanaethau oedd yn destun y
craffu. ·
Bod y cais yn cael ei gyflwyno ar
sail (ch),(dd) ac (e) o’r rheoliadau perthnasol, sef “os yw natur buddiant yr
aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant
yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr
awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal”; “os oes cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r
buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod” ac “os yw'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol
iddo i'w ystyried gan bwyllgor trosolygu a chraffu
i'r awdurdod perthnasol ac nad yw buddiant yr aelod yn fuddiant ariannol”. ·
Nad rôl cynghori na rhoi arweiniad
oedd rôl aelodau’r Grŵp Tasg, ond yn hytrach adolygu’r maes, ac er na
fyddent yn gwneud penderfyniadau, byddai eu hadroddiad yn dylanwadu ar
gyfeiriad craffu’r maes. ·
Bod canllawiau’r Ombwdsmon ar y Cod
Ymddygiad yn nodi bod angen i’r Pwyllgor Safonau gydbwyso budd y cyhoedd o ran
atal aelodau sydd â buddiannau rhagfarnus rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau
yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan grŵp
gweddol gynrychioliadol o aelodau’r Cyngor. ·
Pe dymunai’r Pwyllgor ganiatáu’r
cais, dylai fod yn fodlon bod gan yr aelod rôl neu arbenigedd penodol yn y maes
fyddai’n cyfrannu at waith y Grŵp Tasg. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Swyddog
Monitro. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r
Cynghorydd Gwynfor Owen. Yna gadawodd y Cynghorydd Gwynfor Owen y cyfarfod. Wrth drafod y cais am oddefeb i eistedd ar y Grŵp
Tasg, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ffactorau a ganlyn:- ·
Bod gan y Cynghorydd Gwynfor Owen
brofiad o ymwneud â’r maes awtistiaeth y tu hwnt i brofiad teulu, gan ei fod yn
delio gydag amryw o rieni sydd â phlant ag awtistiaeth yn ei ward, a hefyd yn
Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Hafod Lon, sydd â chyfran uchel o’r plant wedi
cael diagnosis o awtistiaeth. ·
Ei fod hefyd wedi mynychu cyrsiau
ar awtistiaeth i rieni ac wedi bod i gyfarfodydd ynglŷn ag awtistiaeth. Cytunodd y Pwyllgor fod yr aelod yn cyrraedd y trothwy o
ran arbenigedd penodol yn y maes ac y dylid caniatáu goddefeb iddo eistedd ar y
Grŵp Tasg. Awgrymwyd, fodd bynnag,
na ddylai gael ei benodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg. Wrth drafod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |