Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dewi Owen a Mr Richard Parry Hughes.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Datganodd Mr Aled Jones fuddiant personol yn eitem 5 gan ei fod yn adnabod y Cynghorydd Gwynfor Owen yn bersonol ac yn broffesiynol trwy ei waith.

 

Roedd yr aelod o’r farn bod y buddiant hwn yn rhagfarnu, a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem.

 

Roedd gan y Cynghorwyr Dawn Jones a Gwynfor Owen fuddiant personol yn eu ceisiadau eu hunain ond bod y Pwyllgor Safonau wedi caniatáu goddefeb gyffredinol sy’n caniatáu i ymgeiswyr am oddefebau fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau er diben ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â’u cais yn unig.  Gadawodd yr aelodau y cyfarfod wedi ymdrin â chwestiynau.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

4.

CAIS AM ODDEFEB - Y CYNGHORYDD DAWN JONES pdf eicon PDF 150 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Dawn Jones gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a hynny ar yr amod nad yw’n cael ei phenodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais am oddefeb gan y Cynghorydd Dawn Jones i gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd.

 

Cyn ystyried y cais, gosododd y Swyddog Monitro y cyd-destun gan nodi bod y Pwyllgor Safonau wedi mabwysiadu trefn sy’n caniatáu i ymgeiswyr am oddefebau fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor i ateb cwestiynau posib’ gan y pwyllgor yn unig.

 

Yna manylodd y Swyddog Monitro ar y cais dan sylw, gan nodi:-

 

·         Bod y Cynghorydd Dawn Jones wedi datgan buddiant oedd yn rhagfarnu yn y mater oherwydd bod unigolion yr oedd ganddi gysylltiad personol agos â hwy yn derbyn y gwasanaethau oedd yn destun y craffu.

·         Bod y cais yn cael ei gyflwyno ar sail (dd) o’r rheoliadau perthnasol, sef “os oes cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod”.

·         Er bod y Cynghorydd Dawn Jones yn gweithio i Sylfaen Cymunedol, sef cwmni sy’n darparu prosiectau cymunedol i gefnogi pobl ifanc ar draws Môn, Conwy a Gwynedd ac sy’n anorfod yn dod i gyswllt â phobl ifanc ag awtistiaeth, o drafod gyda’r aelod, ni ystyrid bod natur na lefel yr ymwneud yma yn cael ei effeithio gan yr hyn sydd dan sylw.

·         Nad rôl cynghori na rhoi arweiniad oedd rôl aelodau’r Grŵp Tasg, ond yn hytrach adolygu’r maes, ac er na fyddent yn gwneud penderfyniadau, byddai eu hadroddiad yn dylanwadu ar gyfeiriad craffu’r maes.

·         Bod canllawiau’r Ombwdsmon ar y Cod Ymddygiad yn nodi bod angen i’r Pwyllgor Safonau gydbwyso budd y cyhoedd o ran atal aelodau sydd â buddiannau rhagfarnus rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan grŵp gweddol gynrychioliadol o aelodau’r Cyngor.

·         Pe dymunai’r Pwyllgor ganiatáu’r cais, dylai fod yn fodlon bod gan yr aelod rôl neu arbenigedd penodol yn y maes fyddai’n cyfrannu at waith y Grŵp Tasg.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Swyddog Monitro.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Cynghorydd Dawn Jones.

 

Yna gadawodd y Cynghorydd Dawn Jones y cyfarfod.

 

Wrth drafod y cais, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ffactorau a ganlyn:-

 

·         Bod y Cynghorydd Dawn Jones wedi gweithio hefo plant a phobl ifanc ers 34 o flynyddoedd ac wedi cefnogi teuluoedd lle mae plentyn neu berson ifanc yn aros am asesiad a diagnosis o awtistiaeth ers 15 mlynedd.

·         Ei bod hefyd wedi mynychu nifer o gyrsiau hyfforddiant proffesiynol yn y maes awtistiaeth.

 

Cytunodd y Pwyllgor fod yr aelod yn cyrraedd y trothwy o ran arbenigedd penodol yn y maes ac y dylid caniatáu goddefeb iddi eistedd ar y Grŵp Tasg.  Awgrymwyd, fodd bynnag, na ddylai gael ei phenodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

 

PENDERFYNWYD caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Dawn Jones gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 4.

5.

CAIS AM ODDEFEB - Y CYNGHORYDD GWYNFOR OWEN pdf eicon PDF 183 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

(1)  Caniatáu goddefeb i’r Cynghorydd Gwynfor Owen gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd, a hynny ar yr amod nad yw’n cael ei benodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

(2)  Gwrthod goddefeb i’r Cynghorydd Gwynfor Owen siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y bydd y mater hwn yn codi gan nad oedd yna ddigon o wybodaeth ynglŷn â’r cais i ddod i gasgliad priodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a phenderfynu ar gais am oddefeb gan y Cynghorydd Gwynfor Owen:-

·         I gynrychioli’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y Grŵp Tasg a Gorffen a sefydlwyd gan y Pwyllgor Craffu Gofal i drafod gweithredu Cynllun Awtistiaeth Gwynedd.

·         I dderbyn goddefeb gyffredinol fyddai’n caniatáu iddo siarad a phleidleisio ar unrhyw achlysur y byddai’r mater yn codi.

 

Manylodd y Swyddog Monitro ar y cais dan sylw, gan nodi:-

 

·         Bod y Cynghorydd Gwynfor Owen wedi datgan buddiant oedd yn rhagfarnu yn y mater oherwydd bod unigolyn yr oedd ganddo gysylltiad personol agos ag ef yn derbyn y gwasanaethau oedd yn destun y craffu.

·         Bod y cais yn cael ei gyflwyno ar sail (ch),(dd) ac (e) o’r rheoliadau perthnasol, sef os yw natur buddiant yr aelod yn gyfryw fel na fyddai cyfranogiad yr aelod yn y busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo yn niweidio hyder y cyhoedd yn y modd y mae busnes yr awdurdod perthnasol yn cael ei gynnal”; “os oes cyfiawnhad i’r aelod gymryd rhan yn y busnes y mae’r buddiant yn berthnasol iddo oherwydd rôl neu arbenigedd penodol yr aelod” acos yw'r busnes y mae'r buddiant yn berthnasol iddo i'w ystyried gan bwyllgor trosolygu a chraffu i'r awdurdod perthnasol ac nad yw buddiant yr aelod yn fuddiant ariannol”.

·         Nad rôl cynghori na rhoi arweiniad oedd rôl aelodau’r Grŵp Tasg, ond yn hytrach adolygu’r maes, ac er na fyddent yn gwneud penderfyniadau, byddai eu hadroddiad yn dylanwadu ar gyfeiriad craffu’r maes.

·         Bod canllawiau’r Ombwdsmon ar y Cod Ymddygiad yn nodi bod angen i’r Pwyllgor Safonau gydbwyso budd y cyhoedd o ran atal aelodau sydd â buddiannau rhagfarnus rhag cymryd rhan mewn penderfyniadau yn erbyn budd y cyhoedd mewn penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan grŵp gweddol gynrychioliadol o aelodau’r Cyngor.

·         Pe dymunai’r Pwyllgor ganiatáu’r cais, dylai fod yn fodlon bod gan yr aelod rôl neu arbenigedd penodol yn y maes fyddai’n cyfrannu at waith y Grŵp Tasg.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Swyddog Monitro.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau i’r Cynghorydd Gwynfor Owen.

 

Yna gadawodd y Cynghorydd Gwynfor Owen y cyfarfod.

 

Wrth drafod y cais am oddefeb i eistedd ar y Grŵp Tasg, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ffactorau a ganlyn:-

 

·         Bod gan y Cynghorydd Gwynfor Owen brofiad o ymwneud â’r maes awtistiaeth y tu hwnt i brofiad teulu, gan ei fod yn delio gydag amryw o rieni sydd â phlant ag awtistiaeth yn ei ward, a hefyd yn Gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Hafod Lon, sydd â chyfran uchel o’r plant wedi cael diagnosis o awtistiaeth.

·         Ei fod hefyd wedi mynychu cyrsiau ar awtistiaeth i rieni ac wedi bod i gyfarfodydd ynglŷn ag awtistiaeth.

 

Cytunodd y Pwyllgor fod yr aelod yn cyrraedd y trothwy o ran arbenigedd penodol yn y maes ac y dylid caniatáu goddefeb iddo eistedd ar y Grŵp Tasg.  Awgrymwyd, fodd bynnag, na ddylai gael ei benodi yn Gadeirydd y Grŵp Tasg.

 

Wrth drafod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.