Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Ethol y
Cynghorydd Rob Triggs fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar
gyfer 2022/23. COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Rob Triggs yn Gadeirydd y Pwyllgor
ar gyfer y flwyddyn 2022/23. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2022/23. Penderfyniad: Ethol y
Cynghorydd Eryl Jones-Williams fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Abermaw ar gyfer 2022/23. COFNODION: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn
Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Louise Hughes (Cyngor Gwynedd)
a’r Cynghorydd
Nia Jeffreys (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi) yn ogystal â Wendy Ponsford (Clwb Hwylio Meirionydd), Mark James (Cymdeithas y
Bad Achub) a Ian Sadler (Pwyllgor Ras y Tri Copa). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi
cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 22ain o Fawrth
2022 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 22 Mawrth 2022, fel rhai
cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 249 KB I ystyried a) adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau b) adroddiad yr Harbwrfeistr Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr
adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a gwahoddwyd
yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau. Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno
i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben Mawrth
2023. ·
Atgoffwyd yr aelodau fod cylch gorchwyl pwyllgorau’r harbwr wedi cael ei
greu o dan Adran 102 Deddf Llywodraeth Leol 1972 a bod Cabinet y Cyngor yn
cadarnhau’r aelodaeth. ·
Cadarnhawyd bod angen i aelodau’r pwyllgor nodi’n
ffurfiol os nad ydynt yn gallu parhau i fynychu’r pwyllgor er mwyn gallu newid
yr aelodaeth yn ffurfiol ac ethol cynrychiolydd newydd. ·
Eglurwyd fod Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn
cael gwahoddiad i fynychu’r cyfarfodydd er mwyn trafod materion pwysig gyda’r
aelodau, cyn adrodd yn ôl i’r Cabinet ble fydd angen. ·
Datganwyd fod lleihad yn y nifer o gychod ar
angorfeydd yr harbwr. Cadarnhawyd bod y niferoedd wedi gostwng yn harbyrau eraill y sir hefyd. Er hyn, mae niferoedd y cychod
sydd wedi eu hangori yn yr harbwr dal yn uchel ac mae nifer ymwelwyr i’r dref
wedi cynyddu. Pwysleisiwyd bod nifer y cychod sydd wedi eu cofrestru i’w cadw
yno wedi aros yn gyson. ·
Mynegwyd bod cyflwr yr angorfeydd yn dda iawn ac
mae llai o doriadau wedi digwydd eleni. ·
Esboniwyd bod y swyddogion yn o broses o greu holiadur boddhad cwsmer ar
gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd hwn yn holiadur digidol a gobeithir i’r ffigyrau
cychwynnol gael eu rhannu â’r pwyllgor yn y cyfarfod nesaf. Côd
Diogelwch Morol Phorthladdoedd ·
Manylwyd fod yr harbwr wedi cael archwiliad trylwyr gan Wylwyr y Glannau
ac wedi derbyn adborth cadarnhaol. Mae’r harbwr wedi derbyn archwiliad gan
Berson Dynodedig allanol, sef Capten Mark Forbes o
Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r Cyngor wedi rhyddhau Datganiad o Gydymffurfiad
gyda’r Cod Diogelwch i Asiantaeth Gwylwyr y Glannau fel rhan o’r broses
angenrheidiol. ·
Soniwyd bod digwyddiad wedi codi yn ddiweddar ble roedd cwch wedi suddo.
Mae’r cwch bellach wedi cael ei roi ar y traeth ac mae’r swyddogion wedi
cysylltu gydag asiant y cwch. Mae gan y perchennog 21 diwrnod i symud y cwch
neu bydd rhaid i’r swyddogion ei dynnu oddi ar y safle. Mynegwyd bod
digwyddiadau o’r fath yn anodd ei datrys yn gyflym gan fod anawsterau yn codi
gyda phwy sydd yn berchen ar y tir. Nid oes modd i’r swyddogion symud unrhyw gychod oddi ar y tir os yw’n dir preifat neu’n dir rheilffordd. o Holiwyd pwy fyddai’n gorfod talu i dalu am
symud y cwch hwn a chadarnhaodd y Rheolwr Harbyrau
mai’r Awdurdod Harbyrau sydd yn gorfod talu’r gost.
Gellir derbyn ad-daliad o’r costau hyn gan y perchennog os oes prawf mai nhw
sy’n berchen y cwch. o Eglurwyd bod gan
Gyfoeth Naturiol Cymru fas-data o gychod sydd wedi
cael eu gadael ar ôl os byddai hynny’n ddefnyddiol i swyddogion yn y dyfodol. ·
Mynegwyd pryder am y defnydd o Fadau Dŵr
Personol (jet ski) yn yr ardal, gan eu bod yn gallu
bod yn beryglus i ddefnyddwyr eraill y môr. o Cadarnhawyd yn ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
ETHOL SYLWEDYDDION I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol – a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli Penderfyniad: Penderfynwyd
cysylltu gyda holl aelodau’r pwyllgor dros e-bost er mwyn rhoi cyfle i’r holl
aelodau rhoi eu hunain ymlaen fel sylwedyddion. COFNODION: PENDERFYNWYD cysylltu gyda
holl aelodau’r pwyllgor dros e-bost er mwyn rhoi cyfle i’r holl aelodau rhoi eu
hunain ymlaen fel sylwedyddion. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL I ystyried materion ar gais yr
Aelodau. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF COFNODION: Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 28ain o Fawrth 2023. Cymerwyd y cyfle i ddiolch yn
fawr i’r Rheolwr Harbyrau am flynyddoedd o waith
caled ac am ei ymrwymiad a’i angerdd tuag at harbyrau’r
sir. Rhannwyd dymuniadau gorau iddo yn ei ymddeoliad. |