Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Rob Triggs (Cyngor Gwynedd) a’r
Cynghorydd Louise Hughes (Cyngor Gwynedd) yn ogystal â Daniel A Cartwright
(Harbwrfeistr Abermaw), Arthur F Jones (Uwch Swyddog Harbyrau) a Mark James
(Cymdeithas y Bad Achub). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
I gadarnhau cofnodion Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Bermo a gynhaliwyd ar 8fed Tachwedd, 2022. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR I ystyried a) adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau b) adroddiad gan yr Harbwrfeistr Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr
adroddiad. COFNODION: Croesawyd pawb i’r cyfarfod, a nodwyd
bod nifer yn mynychu am y tro cyntaf, a chymerwyd y cyfle i bawb gyflwyno eu
hunain. Yn ychwanegol, nodwyd bod nifer
i ffwrdd yn sâl a chytunwyd i ddanfon neges i ddymuno gwellhad buan iddynt. Yn sgil absenoldeb salwch yr Uwch
Swyddog Harbyrau, cyflwynwyd yr adroddiad gan y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol. Cymerodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol y cyfle i atgoffa y Pwyllgor bod Barry Davies, y
cyn-Reolwr Gwasanaeth Morwrol yn ymddeol ar y 31/3/23 ar ôl 27 mlynedd o
wasanaeth i’r Cyngor. Diolchwyd yn fawr
i Barry Davies am ei waith a’i arweiniad.
Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod Cadarnhawyd bod gwaith cynnal a chadw wedi ei wneud ar yr
angorfeydd ‘trots’ a bod cyflwr yr offer yn
dderbyniol. Mae Contractwr Angori Lleol
wedi cadarnhau bod 2 allan o 3 angorfa ymwelwyr wedi eu codi oherwydd eu bod yn
sefyll ar fanc tywod ond bod y contractwr wedi cael trafferth gyda chodi yr angoraf
agosaf at y bont rheilffordd. Mae y drefn o gofrestru badau pŵer
ar-lein yn weithredol erbyn hyn, sydd o gymorth mawr gyda rheoliadau GDPR. Cadarnhawyd bod y problemau cychwynnol wedi
eu datrys a’r drefn yn gyffredinol yn gweithio yn esmwyth. Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd Cyfeiriwyd at y Ddeddf Newydd ar gyfer
Badau Pŵer sydd yn weithredol o 31/3/23 sef y 'Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023', gan nodi
bod angen arweiniad pellach, er bod cyfarfod cychwynnol gyda’r Heddlu wedi
cymryd lle. Cadarnhawyd bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn arwain ar y Cod Diogelwch, a bod gwaith gwella
wedi ei wneud i sicrhau bod yr Harbwr mor ddiogel â phosib, mewn cydweithrediad
a Chapten Matt Forbes,
Harbwrfeistr Conwy. Materion Staffio Adroddwyd bod Kane A Triggs wedi ei
benodi yn Harbwrfeistr Cynorthwyol ac fe’i croesawyd
i’w gyfarfod cyntaf. Cadarnhawyd y
bwriad i benodi pum swyddog traeth, gyda dau o’r rhain yn cychwyn cyn y
Sulgwyn, ac y bydd swyddogion yn parhau gyda y gwaith cynnal a chadw, ond nad oedd
bwriad cyflogi rhagor yn yr Harbwr. Gwahoddwyd Aelodau i gynnig sylwadau ar
yr uchod, a nodwyd fel a ganlyn : Mae y sustem cofrestru ar-lein yn weithredol ac unrhyw
bryderon wedi eu datrys. Mae cais wedi dod i Swyddogion Traeth Tymhorol dderbyn hyfforddiant cymorth cyntaf gwell. Ymhelaethwyd nad oedd amser i hyfforddi yn ddigonol flwyddyn ddiwethaf, er cyn y cyfnod Covid roedd cymorth cyntaf uwch yn rhan o’r anwytho, ac mae hwn yn rhywbeth sydd wedi llithro, ond bod bwriad trefnu hyfforddiant flwyddyn yma. Nodwyd bod yr Heddlu a Chymdeithas y Bad Achub hefyd wedi codi yr un pwynt. Adroddwyd bod cydweithredu da ar y traethau gyda Gwylwyr y Glannau, y Bad Achub a’r Heddlu a bod pawb yn werthfawrogol o’i gilydd. Atgyfnerthodd y Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned y sylw am y newid mewn Deddfwriaeth ar gyfer Badau Dwr personol, yn enwedig y pryder nad oeddynt yn disgyn i’r categori cychod, a chadarnhaodd eu bod yn parhau i ddisgwyl canllawiau ac y bydd ... view the full COFNODION text for item 4. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL I ystyried materion ar gais yr Aelodau COFNODION: Dim i’w
nodi |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol
Harbwr Abermaw ar y 24ain o
Hydref, 2023 COFNODION: Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 24ain Hydref, 2023 Dechreuodd y cyfarfod am 3:00yh a daeth i ben am 4:05yh _____________________________________________ (Cadeirydd) |