Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Einir Rh Davies 01286 679868
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24 Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Rob Triggs fel Cadeirydd y
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar gyfer 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Rob Triggs yn Gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2023/24. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2023/24 Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams fel
Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar gyfer 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eryl Jones-Williams yn
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2023/24. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ond
hysbysodd y Cadeirydd fod ei fab, Kane Triggs, yn Gymhorthydd Harbwr Abermaw,
er gwybodaeth. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL PDF 214 KB I gadarnhau cofnodion Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw a
gynhaliwyd ar 28ain Mawrth, 2023 Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 28 Mawrth, 2023 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 202 KB I ystyried adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. Cofnod: Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau a’r Harbwrfeistr Croesawyd pawb i’r cyfarfod, gan ddiolch i’r Aelod Cabinet
am allu bod yn bresennol hefyd, a cychwynnwyd gydag
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau Angorfeydd Abermaw a Chofrestru Cychod Cadarnhawyd bod 71 cwch wedi eu
cofrestru yn 2023 o’i gymharu â 64 yn
2022, a’i bod yn braf adrodd ar y cynnydd.
Tybiwyd mai y costau is sydd yn denu cwsmeriaid i Harbwr Abermaw a
gobeithio y bydd y ffigwr yn hyd yn oed uwch flwyddyn nesaf a’r tueddiad yn parhau. Adroddwyd bod y rhan fwyaf wedi eu cofrestru
ar-lein, sef 1,269 o gychod pŵer a 1,240 o gychod dŵr personol. Côd Diogelwch Morol Porthladdoedd Cadarnhawyd bod Harbwr Abermaw yn
cydymffurfio a’r Gofynion, a petai gan unrhyw un sylwadau ar y Côd, bod modd iddynt hysbysu’r Uwch Swyddog Harbyrau. Materion Staffio Cadarnhawyd nad oedd unrhyw newid wedi
bod yn y sefyllfa staffio, ond bod yr Harbwrfeistr a’r Harbwrfeistr
Cynorthwyol wedi bod yn helpu yn Harbyrau Porthmadog
ac Aberdyfi. Cymerwyd y cyfle hefyd i
ddiolch i’r staff tymhorol am eu holl waith.
Materion Ariannol : Sefyllfa Ariannol Harbwr Abermaw Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol
ar y gyllideb gan grynhoi o dan y prif benawdau. Adroddodd bod y wybodaeth wedi ei selio ar
gyfarfod gyda y Swyddogion Cyllid yn ystod mis Awst, oedd yn dangos
gwir-wariant am bum mis ac yna yn proffwydo gwariant ar gyfer Medi 2023 i
Fawrth 2024. Adroddodd ei fod yn anodd
iawn proffwydo a bod materion megis gaeaf trwm am effeithio ar y ffigyrau. Gweithwyr - £65k - gorwariant £800
oherwydd costau goramser gan fod staff wedi bod yn rhoi cymorth ym Mhorthmadog
ac Aberdyfi. Nid yw’r gyllideb hon yn
adlewyrchu costau staff tymhorol Eiddo - £12k - gorwariant £650 -
oherwydd y byrddau picnic ar arwyddion, a chadarnhawyd bod hyn i’w ddisgwyl Trafnidiaeth - £1000 - tan wariant £700
– mae’r ffigwr yn cynnwys tanwydd/petrol
i’r cwch (ond ddim yn cynnwys costau cynnal a chadw). Nodwyd bod y ffigwr oherwydd bod y cwch wedi
bod allan llai oherwydd yr haf gwael a bod y peiriannau newydd yn gwneud y
gwaith yn fwy economaidd. Gwasanaethau a Chyflenwadau - £11k -
gorwariant o £6k - mae hyn yn cynnwys y cadwyni, shaclau,
goleuadau, ynghyd a phris y cymhorthydd mordwyo newydd (oedd dros £3k). Adroddwyd eu bod wedi gorfod talu i
gontractwyr osod y bwi ynghyd a chostau gwasanaethu peiriannau’r cwch. O ran yr Incwm, adroddwyd ei fod yn dod
o’r ffioedd angori, ffioedd aros dros dro, a’r maes parcio ac mai y targed oedd
£38,500 ond eu bod yn proffwydo £40,500.
Cyfeiriwyd at y gwaith ar y Bont a’r incwm gan Gwmni Network
Rail, ond nad oedd llawer mwy o incwm. Cadarnhawyd, heb yr incwm Network
Rail, na fyddai y targed wedi ei gyrraedd. O ran y ffigyrau penodol nodwyd £50,924 o wariant, £55,524 wedi ei broffwydo a gorwariant o £4,601, a’r ymdeimlad oedd nad oedd hyn yn peri pryder, er y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL I ystyried materion ar gais yr Aelodau Cofnod: |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar y 19eg o Fawrth, 2024 Cofnod: |