Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Courtney Leigh Jones E-bost: Courtneyleighjones@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: Cofnod: |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd ar gyfer 2025/26. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd
Eryl Jones-Williams fel Is-gadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw ar
gyfer 2025/26. Cofnod: |
|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriad am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Robert Williams (Cyngor Tref
Abermaw ), Ashley Field (Ras Hwylio'r Tri Chopa), Robert Aeron Williams
(Grŵp Gwella Cyrchfannau Abermaw). |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR I ystyried adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau. Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau a Harbwrfeistr Abermaw. Data Perfformiad Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau. Mynegwyd balchder
bod nifer y cytundebau angori yn yr harbwr wedi cynyddu yn ystod y tymor. Yn
ogystal, gwelwyd cynnydd o 10% yn nifer y cychod pŵer a gofrestrwyd y
tymor hwn o’i gymharu ag y llynedd. Soniwyd am y system
gofrestru ar lein sy’n cael ei defnyddio er mwyn ceisio arbed papur. Adborth a gafwyd
am Harbwr Abermaw Eglurwyd bod codau
QR i’w gweld o gwmpas yr harbwr er mwyn i gwsmeriaid allu rhoi adborth ar yr
harbwr. Datgelwyd bod cynnydd yn yr adborth cadarnhaol sydd wedi ei dderbyn o
gyfnod 2023/24 hyd at eleni. Tywyswyd y pwyllgor drwy’r adborth cadarnhaol a dderbyniwyd,
gan dynnu sylw at y ffaith mai tîm o staff ifanc sy’n gweithio yn yr harbwr.
Nodwyd eu bod yn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf, fel sydd i’w weld o’r
adborth. Ategwyd bod yr
angorfeydd newydd i ymwelwyr wedi gweithio’n wych gan ei gwneud yn haws ac yn
fwy diogel i ymwelwyr ddod i’r harbwr. Symudwyd ymlaen i
drafod yr adborth negyddol a dderbyniwyd, gan nodi bod pob adborth yn cael ei
gydnabod a bod ymdrechion parhaol i wella’r harbwr yn cael eu gwneud. Cod Diogelwch Morol a Chyfleusterau
Porthladd (PMSC) Nodwyd bod y Cod
Diogelwch hwn yn amlinellu'r safon genedlaethol ar gyfer pob agwedd ar
ddiogelwch morol porthladdoedd. Eglurwyd bod archwiliadau gan arbenigwr allanol
yn cael eu cynnal er mwyn sicrhau fod yr harbwr yn cyd-fynd â gofynion y Cod.
Ychwanegwyd bod archwiliwr newydd wedi ei benodi. Adnabuwyd bod sicrhau hyfforddiant cyson i staff yn rhan
allweddol o’r Cod. Llongyfarchwyd Harbwrfeistr
Abermaw a lwyddodd i gwblhau’r Diploma Harbwrfeistr
eleni. Soniwyd am y mesurau
diogelwch a gaiff eu cymryd, gan bwysleisio defnydd staff o gamerâu cyrff.
Nodwyd bod cyflwyno’r camerâu hyn eleni wedi lleihau’r nifer o achosion o
ymddygiad ymosodol tuag at staff, ac yn cynnig sicrwydd pe bai digwyddiad yn
cymryd lle. Holwyd os oes digwyddiad lle bu rhaid edrych yn ôl ar
gynnwys y recordiadau er mwyn ymateb ymhellach. Cadarnhawyd bod Heddlu Gogledd
Cymru wedi gofyn am gynnwys y camerâu a chamerâu cylch cyfyng yr harbwr er mwyn
ymateb i ddigwyddiadau. Mynegwyd balchder nad oes unrhyw ddigwyddiad neu ddamwain
wedi'u hadrodd i’r Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Morol hyd yma eleni. Nodwyd
bod digwyddiadau wedi cymryd lle, megis cwch yn mynd ar dân a chwch arall yn
suddo, ond nad oedd y rhain yn ddigon difrifol i’w hadrodd. Tŷ’r
Drindod AGC (Awdurdod Goleudai Cyffredinol) Nodwyd bod y Cyngor yn Awdurdod Goleudy Lleol cofrestredig, a’u bod yn gyfrifol am sicrhau bod y cymhorthion mordwyo wedi eu lleoli’n gywir ac yn gweithio’n ddiogel ar hyd yr arfordir. Eglurwyd bod staff yn asesu'r rhain yn rheolaidd er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid. Ategwyd bod y wybodaeth o’r arolygon sy’n cael eu cynnal yn cael ei fewnbynnu i gronfa ddata Tŷ’r Drindod. Cadarnhawyd bod yr archwiliad diwethaf gan Dŷ’r Drindod yn nodi bod 95.47% ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
CAIS I WERTHU CYNNYRCH O GEI HARBWR ABERMAW Cofnod: Cyflwynwyd gan y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol. Soniwyd am gais gan bysgotwr lleol sydd wedi dod i law i
werthu bwyd môr o gei’r harbwr. Ymhelaethwyd ar hyn gan ddatgan mai bwyd môr
lleol a fydd yn cael ei werthu yno. Ategwyd ei fod yn ofod Cymraeg a fydd yn
galluogi cwsmeriaid i ddysgu am arferion pysgota cynaliadwy. Cadarnhawyd na
fydd hyn yn effeithio gweithgareddau eraill yr harbwr. Nodwyd cefnogaeth gan yr
aelodau i’r cais hwn. Pwysleisiwyd mai pwrpas yr eitem oedd gweld barn yr
aelodau am y cais, ac nad oes penderfyniad yn cael ei wneud am ei dderbyn yn y cyfarfod
hwn. |
|
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL |
|
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol
Harbwr Abermaw ar y 24ain o Fawrth, 2026. Cofnod: Cadarnhawyd bod y
cyfarfod nesaf i’w gynnal ar y 24ain o Fawrth, 2026. |