Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbynbiwyd ymddiheuriad
oddi wrth Mr Barry Davies (Swyddog Morwrol a Pharciau
Gwledig). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o
gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Ni dderbyniwyd materion brys. |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2017. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd: Cofno Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofno 4.1 Materion a godwyd o’r cofnodion Yng nghyswllt arwyddion diogelwch, cyfeirwyd at y
ffaith bod y cofnodion yn nodi bod swyddogion y Gwasanaeth Morwrol wedi cynnal
trafodaethau gyda “dau aelod lleol” ac roedd y Cynghorydd Mike Stevens, Aelod
Lleol Tywyn, o’r farn nad oedd hyn wedi digwydd. Roedd ychydig yn ddig gan ei fod wedi llwyddo
i ddenu noddwyr ar gyfer ariannu’r arwyddion ond oherwydd diffyg cyfathrebu fe
gollwyd oddeutu £3,000 ar gyfer arwyddion i Dywyn. Mewn ymateb, esboniodd yr Uwch Reolwr Economi a
Chymuned o safbwynt y cynllun bod oediad wedi bod ac ymddiheurwyd am hyn. Fodd bynnag, roedd y Gwasanaeth Morwrol yn
cydweithio’n agos gyda’r Bad Achub oherwydd eu harbenigedd yn y maes. Ymgynghorwyd ar y cynllun ac fe dderbyniwyd
sylwadau ond bod yr amserlen wedi llithrio ychydig ac fe fyddir yn ymgynghori
gydag Aelodau Lleol Cyngor Gwynedd gyda’r bwriad o osod yr arwyddion cyn
gwyliau y Llungwyn. Gobeithir cysoni’r
math o arwyddion a osodir ar hyd arfordir y Gogledd ac o fewn amserlen
realistig. Ychwanegodd Aelod bod y Gwasanaeth Morwrol wedi
cysylltu gyda Chadeirydd ac Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn. Nododd y Cynghorydd Mike Stevens bwysigrwydd i’r
geiriad ar yr arwyddion fod yn addas a phenodol i wahanol leoliadau. Talwyd teyrnged i’r gwaith gwirfoddol a wnaed gan
Josh Cooper, Alice Beetlestone (Bad Achub) mewn ymgynghoriad gyda’r Harbwr Feistr,
a rhagwelir y bydd yr arwyddion yn hynod effeithiol. Penderfynwyd: Derbyn a nodi’r uchod. |
|
ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG PDF 337 KB I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (a)
Cyn cyflwyno yr adroddiad uchod, croesawyd Alison Kinsey, Cydlynydd
Grŵp Gweithredu Lleol Pysgodfeydd Bae Ceredigion, a oedd wedi gwneud cais
i fynychu’r cyfarfod ac fe esboniodd bwrpas FLAG (Fisheries Local Action
Group). Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
Ø
ychwanegu
gwerth Ø
creu
swyddi Ø
denu
pobl ifanc a Ø
hyrwyddo
arloesedd ym mhob cam o’r gadwyn gyflenwi o gynhyrchion pysgodfeydd
datblygu prosiectau, prosiectau peilot,
astudiaethau dichonoldeb, hyfforddiant, mentora, hwyluso ac ymgynghori. Bu i’r swyddog ymweld â Phwyllgor Ymgynghorol
Harbwr Abermaw, ac yn deillio o’r cyfarfod hwnnw, roedd yr Aelodau yn
frwdfrydig a chadarnhaol i gynnal gweithgaredd ar y cei yn Abermaw. Nododd bod Mr Neil
Storkey wedi ei benodi fel Cadeirydd un o’r grwpiau gweithredol ac yn rhinwedd
ei swydd a’r ffaith y dysgwyd llawer o’r Wyl Fwyd a gynhaliwyd yn Aberdyfi y
gellir defnyddio’r wybodaeth a’r profiadau hynny er budd cymunedau FLAG. Hyderir y gellir cynnal prosiectau /
gweithgareddau ar y cei a hyrwyddo’r pysgotwyr lleol, yn enwedig gan ei bod yn
Flwyddyn y Môr eleni. (b) Cyflwynwyd
adroddiad y Swyddog
Morwrol a Pharciau Gwledig yn
diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol yr Harbwr ac fe gyfeiriodd yr Uwch
Swyddog Harbyrau yn ei absenoldeb at y
materion penodol canlynol: (i) Cod Diogelwch Porthladdoedd Yn deillio o’r uchod, nododd Aelod ei fod o’r
farn, nad oedd yr Archwilwyr wedi ymweld ar adeg prysur yn yr Harbwr megis ym
mis Gorffennaf/Awst ac felly ddim wedi gweld y darlun cyfan a chywir. Mewn ymateb gwnaed y prif bwyntiau isod: (i)
Eglurodd yr Uwch Swyddog
Harbyrau nad y Gwasanaeth Morwrol oedd yn pennu’r dyddiad ac y gall yr
Archwilwyr ddod unrhyw bryd yn ogystal ag ail-ymweld. (ii)
Esboniodd yr Uwch Reolwr
Economi a Chymuned bwrpas yr ymweliad gan nodi mai’r prif nod ydoedd archwilio
systemau’r Cyngor a threfniadau rheoli sydd ychydig yn wahanol o safbwynt
prysurdeb y safle. (iii)
O safbwynt cyfrifoldeb y
Cyngor pe byddai unigolyn yn baglu a chwympo dros ochr y cei, nodwyd bod gan y
Cyngor gyfrifoldeb statudol yn ymwneud â’r uchod a thynnwyd sylw nad yw’r côd
yn statudol ac mai Cyngor Gwynedd sydd yn gyfrifol am reoli’r Harbwr. Ategwyd mai ystyried trefniadau rheolaeth y
Cyngor wnaeth yr Archwilwyr yn hytrach na threfniadau gweithredol ar y tir. (iv)
Pwysig i nodi na all yr
Harbwr Feistr fod ar gael bedair awr ar hugain. (v)
Bod llythyr wedi ei
anfon i’r pysgotwyr i gadw’r Harbwr yn daclus. (vi) Bod staff yr Harbwr yn gweithio’n ddiwyd i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 2 Hydref 2018. Cofnod: Er bod dyddiad wedi ei bennu (2 Hydref 2018)
ar gyfer y cyfarfod nesaf, gofynnwyd a fyddai modd newid y dyddiad hwn i
ddechrau mis Tachwedd. Penderfynwyd: Gofyn i’r
Swyddog Cefnogi Aelodau drefnu dyddiad ym mis Tachwedd ar gyfer y cyfarfod
nesaf. |