Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien Swyddog Cefnogi Aelodau a Chraffu
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015-16. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol
y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd
i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015-16. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol
y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor
hwn am y flwyddyn 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Cyng. Mike Stevens, Mr Paul Fowles (Siambr
Fasnach Aberdyfi), Y
Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet Economi), Mr Llyr B. Jones (Uwch Reolwr Economi a Chymuned), |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS I ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 3 Mawrth 2015. Cofnod: Cyflwynwyd: Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi gynhaliwyd ar y 3 Mawrth 2015. Penderfynwyd: Derbyn a chymeradwyo’r cofnodion fel rhai
cywir. |
|
ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL PDF 238 KB I ystyried adroddiad gan Mr Barry Davies, Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol, Mr Barry Davies ar weithgareddau harbwr Aberdyfi gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:- (A) Ffigurau angorfeydd Harbwr Aberdyfi Cyflwynwyd
y ffigurau ar gyfer 2015/16 ac fe nodwyd bod y nifer yn siomedig ond
bod hyn yn deillio o dywydd anffafriol yr haf
a sefyllfa fregus economi y sector forwrol. Nodwyd y pwyntiau canlynol: -
Bydd
y nifer llai yn cael effaith
ar incwm ac felly bydd angen torri
ar wariant a chyllidebau. Roedd y lleihad yma’n gyffredinol
ar draws y wlad ac yn ehangach, tynnwyd
sylw fod rhai marinas yn Ewrop gyda uchafswm
o 30% mewn defnydd o angorfeydd. -
Hyderir bod y crebachiad yn y sector forwrol bellach
wedi dod i ben a rhagwelir na fydd lleihad pellach gyda’r farchnad yn araf dyfu
dros y ddwy flynedd nesaf. -
Mae ffurf yr adroddiad a gyflwynwyd wedi newid i fod
yn llai hanesyddol ac yn fwy cryno, ond nodwyd bod manylion llawn ar gael i
unrhyw un sydd eisiau ar ffurf electronig neu bapur. -
Mae Gwynedd yn llwyddo i gadw nifer y cychod
pŵer yn sefydlog. Mae defnydd uchel o fadau dwr yng Ngwynedd
o’i gymharu â siroedd cyfagos Ceredigion, Ynys Môn a Chonwy.
Un o’r ffactorau allweddol yw’r cyfleusterau a trefniadau croesawu sydd yn cael
eu cynnig i ddefnyddwyr cychod yng Ngwynedd -
Diolchwyd yn arbennig I Bwyllgor Gwelliannau a
Hysbysebu Aberdyfi am Becynnau Ymwelwyr Aberdyfi a’u safon uchel. -
Nodwyd awydd i ehangu’r arfer llwyddiannus yma i
ardaloedd eraill o Wynedd. -
Gwnaed cais gan y Cadeirydd
i nodi’r nifer o ymwelwyr ag Aberdyfi yn yr adroddiad.
Cytunodd y Swyddog Morwrol a Pharciau i wneud hyn yn
yr adroddiad nesaf ar gyfer
mis Mawrth 2016. Penderfynwyd: -
Derbyn a nodi’r
uchod. -
Swyddog Morwrol a Pharciau
i nodi nifer ymwelwyr yn yr
adroddiad nesaf ar gyfer mis
Mawrth 2016. (B) Cod
Diogelwch Morwrol -
Nodwyd bod y Cod Diogelwch Morwrol wedi’i
fabwysiadu’n llawn yn dilyn trafodaethau yn y Pwyllgorau Harbwr a’i fod yn cael
ei adolygu’n rheolaidd. Fe ddosbarthwyd copi i’r Aelodau eisoes ac mae ar gael
ar wefan y Cyngor. -
Mae mabwysiadu’r Cod yn ymarfer da, ond nodwyd ei
fod yn gallu bod yn anaddas mewn rhai sefyllfaoedd gan fod y Cod yn gofyn am yr
un fath o ofynion i Harbyrau cymharol fach fel
Aberdyfi a Harbyrau mawr a llawer prysurach
fel Dover. Byddai’n fuddiol cael canllawiau mwy
cymwys a phwrpasol ar gyfer harbyrau llai eu maint. -
Bydd
y Swyddog Morwrol a Pharciau’n anfon linc electronig at Aelodau yn dilyn ymgynghoriad
gan y Llywodraeth i ddeddfwraieth arfaethedig a fyddai yn addasu
pwerau diddymu harbyrau ac harbyrau cymwys. -
Anogwyd yr Aelodau i godi unrhyw bryderon
ynglŷn â harbwr Aberdyfi cyn gynted â phosibl yn dilyn y digwyddiad a
gallai aelodau wneud hyn drwy gysylltu gyda’r Harbwr Feistr neu’r Swyddog
Morwrol a Pharciau. - Yn ogystal mae lle i wyntyllu’r materion yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL Compownd y Pysgotwyr |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 10 Mawrth 2016. Cofnod: Penderfynwyd: Nodi y cynhelir nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar 10 Mawrth 2016. |