Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2019 / 2020 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-Gadeirydd ar gyfer 2019 / 2020 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Anne Lloyd
Jones yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet - Economi),
Cynghorydd Dewi Owen (Cyngor Gwynedd), Llŷr B Jones Pennaeth Cynorthwyol Economi ac Chymuned a Barry Davies (Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 5 Mawrth 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5ed o Fawrth, 2019, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 70 KB I ystyried
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Adroddiad yr Uwch
Swyddog Harbyrau Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi
diweddariad cryno ar faterion yr
Harbwr am y cyfnod rhwng Mawrth 2019 a Hydref 2019. Angorfeydd Adroddwyd bod nifer yr angorfeydd
yn sefydlog er newid ym
mhatrwm ymddygiad defnyddwyr. Amlygwyd bod cychod pŵer a beiciau dwr bellach
yn fwy poblogaidd
na chychod
hwylio ac yr un yw’r sefyllfa ar
draws y wlad. Cod Diogelwch Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi cynnal archwiliad
ym Mawrth 2019 ar drefniadau penodol
a system Harbyrau Bwrdeistrefol
Gwynedd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Morol. Yn dilyn ymweliad
pellach i weld sut roedd yr
ychwanegiadau a awgrymwyd wedi ei gweithredu,
adroddwyd bod Capten Quader (archwilydd o’r Asiantaeth) yn fodlon bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio
â darpariaethau’r Cod Diogelwch
Morol Porthladdoedd. Atgoffwyd yr Aelodau o’u dyletswydd i gyflwyno sylwadau
ar addasrwydd y Cod Diogelwch a chyfeirio unrhyw bryderon i’r Harbwrfeistr. Materion Staffio Adroddwyd bod Harbwrfeistr Cynorthwyol llawn amser wedi
ei benodi ac wedi ei leoli
yn Harbwr Aberdyfi. Bydd y penodiad yn sicrhau cefnogaeth
i’r harbwrfeistr ynghyd a chynorthwyo mewn harbyrau eraill
ar draws y Sir pan fydd angen. Nododd
yr Harbwrfeistr bod penodi Mr Oliver Simmonds i’r tîm eisoes wedi
profi yn werthfawr a bod ei brofiad o weithio gyda’r Clwb Hwylio
yn fanteisiol. Ategodd yr Aelodau bod cydweithio da ymysg y staff a bod
y penodiad yn un da. Materion Ariannol Cyflwynwyd cyllideb yr harbwr
i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi 2019. Amcangyfrifwyd
tanwariant o £4,121. Amlygwyd
bod bwriad o godi ffioedd lansio dyddiol o £10 i £15 Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â beth sydd wedi ei
glustnodi ar gyfer y tanwariant, amlygwyd bod bwriad prynu bwi ynghyd
a gwaith cynnal a chadw dros dymor
y gaeaf. (b) Adroddiad yr Harbwr
Feistr Cyflwynwyd adroddiad gan yr Harbwrfeistr yn
manylu ar faterion mordwyo, gweithredol a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y
materion canlynol: ·
Bod
y gwasanaeth yn parhau i fonitro
llwybr y sianel fordwyo i Aberdyfi. Nodwyd bod y sianel yn newid yn
barhaol gyda symudiad gogleddol. Nodwyd bod hyn yn creu gwaith
addasu i gynorthwyo a sicrhau diogelwch mordwyo. ·
Bod
Ymddiriedolaeth yr Outward
Bound a Chlwb Hwylio Dyfi wedi cynnal
rhaglen brysur o ddigwyddiadau llwyddiannus dros yr Haf ·
Bod
y Gwasanaeth wedi gweld cynnydd mewn
nifer carcasau anifeiliaid wedi eu golchi i
fyny ar y traeth ·
Diolchwyd i’r Ymddiriedolaeth Outward Bound a Chlwb
Hwylio Dyfi am y cymorth a gafodd y Gwasanaeth tra bod gwaith atgyweirio strwythurol ar gwch yr harbwr ·
Bod
ysgolion tywod pren yn galluogi
mynediad ar draws y twyni i’r traeth
yn dilyn gwaredu llwybr pren y clwb golff ·
Bod
sefyllfa’r bont dros y rheilffordd i Fryn Llestair
(Picnic Island) yn cael ei drafod a phryderon
diogelwch yn cael eu hystyried. · Bod y Gwasanaeth wedi bod yn cydweithio gyda’r physgotwyr masnachol i dacluso lloc y pysgotwyr. Y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
MATERION I'W HYSTYRIED AR GAIS AELODAU'R PWYLLGOR YMGYNGHOROL I ystyried
materion ar gais yr aelodau a)
Cei
Aberdyfi Peryglon Cei Harbwr Aberdyfi Cofnod: (a)
Cynllun Cei
Aberdyfi Ar gyfer adnewyddu’r wal, adroddwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo’r cais mewn egwyddor
a’r cynllun bellach wedi ei
restru ar Gynllun Asedau’r Cyngor. Amlygwyd bod y Cyngor wedi cadarnhau bod arian
cyfatebol wedi ei glustnodi a manylion pellach ar y Cynllun Busnes
Llawn wedi ei gyflwyno i
Lywodraeth Cymru. Bydd y gwaith yn
mynd allan
am dendr yn ystod y flwyddyn ariannol 2019/20 gyda’r dogfennau tendr a methodoleg asesu tendr wedi eu
cwblhau. Y bwriad yw penodi contractwr
cyn Mawrth 31ain 2020 i ddechrau’r gwaith
yn Medi 2020 (gan osgoi tymor yr
Haf) a chwblhau'r gwaith erbyn Pasg 2021. Ategwyd y byddai cyfarfod cyhoeddus yn cael ei
drefnu i rannu gwybodaeth gyda busnesau lleol
a'r gymuned, cyn i’r gwaith
ddechrau. Derbyniwyd hyn fel newyddion
calonogol iawn. Canmolwyd y cynlluniau a chroesawyd bod yr arian wedi
ei sicrhau. Awgrymwyd y dylid gwahodd y contractwr llwyddiannus i’r cyfarfod cyhoeddus fel bod modd adeiladu
perthynas agored gyda’r gymuned leol. Ategwyd bod llawer o waith angen ei wneud
i sicrhau llwyddiant y cynllun gyda chais i
bawb fod yn gefnogol. -
Awgrymwyd uwchraddio swyddfa’r harbwrfeistr yn ystod y cyfnod
– cyfle rhy dda i’w golli -
Angen sicrhau bod y contractwr yn cysylltu
a chydweithio gyda’r Bad Achub a’r pysgotwyr
masnachol Mewn ymateb i’r sylw
am uwchraddio’r swyddfa, nodwyd bod yr Uned
Eiddo yn ymwybodol o’r sefyllfa
ac felly bod modd cynnal trafodaethau. (b)
Diogelwch Cei
Aberdyfi
|
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 3ydd Mawrth 2020 Cofnod: Nodwyd, yn swyddogol, mai dyddiad y cyfarfod
nesaf yw Mawrth 3ydd 2020. Er hynny, derbyniwyd cynnig am geisio dyddiad arall fel
bod modd derbyn diweddariad ar dendr gwaith y cei. Gwnaed cais
i’r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd drafod y cynnig gyda’r Gwasanaeth Morwrol. |