Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Llŷr
Beaumont Jones (Pennaeth Cynorthwyol Adran Economi a Chymuned). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau ofuddiant
personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 17 Hydref, 2024 fel
rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn, a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2023, fel rhai
cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiadau gan y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a’r Uwch Swyddog Harbyrau.
Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol: Sicrhawyd bod yr Harbwrfeistr a’i gymhorthydd yn cynnal arolwg o afon Dyfi
cyn cyfnod prysur y Pasg er mwyn penderfynu ar y lleoliadau mwyaf addas i osod
angorfeydd yr harbwr. Cadarnhawyd y disgwyli i
gwsmeriaid sy’n dymuno cael angorfa yn yr harbwr, neu gofrestru eu cychod
dŵr ar gyfer y tymor sydd i ddod, gwblhau’r ffurflen ar-lein yn brydlon
drwy wefan Cyngor Gwynedd. Eglurwyd bydd cwsmeriaid angorfeydd angen cysylltu
gyda’r Harbwrfeistr er mwyn cadarnhau eu lleoliad angori
yn yr harbwr. Pwysleisiwyd bod Côd
Diogelwch Morol Porthladdoedd (PMSC) yn parhau i gael ei ddilyn yn drylwyr er
mwyn gwella diogelwch i bawb sy’n defnyddio neu’n gweithio yn yr amgylchedd
morol porthladdoedd. Diolchwyd i’r Harbwrfeistr
Cynorthwyol, Mr Oliver Simmons am ei waith ymrwymedig yn yr harbwr. Nodwyd ei
fod bellach wedi gadael ei swydd er mwyn sefydlu cwmni newydd. Mynegwyd
dymuniadau gorau iddo a’r cwmni i’r dyfodol. Eglurwyd bod ymgeiswyr yn cael eu
cyfweld ar gyfer llenwi’r swydd wag ar hyn o bryd a gobeithir bydd unigolyn
cymwysedig yn cychwyn yn y rôl ar ddechrau tymor prysur yr haf. Ymhelaethwyd bod swydd barhaol newydd wedi ei
hysbysebu i gynorthwyo’r Harbwrfeistr a’i gymhorthydd
gyda’u gwaith. Esboniwyd mai teitl y swydd yw Swyddog Traethau Meirionnydd ac
mae wedi ei leoli yn harbwr Abermaw i weithio ar hyd traethau’r arfordir rhwng
Abermaw ac Aberdyfi. Nodwyd y gobeithir bydd y swyddog yn cychwyn yn y swydd
cyn cyfnod y Pasg. Cadarnhawyd bod y penodiad yma yn ychwanegol i’r staff traethau
tymhorol sy’n cael eu penodi i weithio ar draethau Aberdyfi a Thywyn erbyn
cyfnod yr haf yn flynyddol. Diweddarwyd yr Aelodau y gobeithir bydd yr aelodau
staff tymhorol yn cychwyn gweithio o ddiwedd mis Mai ymlaen. Cydnabuwyd nad oes diweddariad i’w rannu ar
ddangosyddion perfformiad gan nad oes fawr newid wedi bod dros fisoedd y gaeaf
. Cadarnhawyd bydd y wybodaethyn cael ei gynnwys yng
nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. Tywyswyd yr Aelodau drwy
berfformiad ariannol yr harbwr ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, yn dilyn
adolygiad mis Tachwedd 2023. Tynnwyd sylw at nifer o bwyntiau o fewn y penawdau
isod: · Gweithwyr – Eglurwyd y rhagwelir tanwariant
o £7,963 yn y maes yma oherwydd ymddiswyddiad Mr Simmons. · Eiddo – nodwyd fod gwariant wedi
cael ei wneud yn y maes yma yn unol â’r gyllideb a ddyrannwyd. Esboniwyd ei fod
yn cwmpasu nifer o ddyletswyddau megis cynnal a chadw tiroedd yn ogystal â
meinciau. Eglurwyd hefyd ei fod yn cynnwys ad-daliad am rai taliadau megis
meinciau coffaol. · Trafnidiaeth - Adroddwyd bod y pennawd hwn yn
manylu ar danwydd i ddefnyddio cwch yr harbwr ac nid yw costau cynnal a chadw
wedi cael ei gynnwys yn y ffigyrau. Cadarnhawyd yr amcangyfrifwyd tanwariant o
£427 oherwydd nid yw’r tywydd wedi galluogi swyddogion i ddefnyddio’r cwch mor
aml ag gobeithiwyd. · Gwasanaethau a Chyflenwadau - Proffwydwyd bydd tanwariant o oddeutu £7,000 o fewn y maes hwn oherwydd costau dydd ... view the full COFNODION text for item 4. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar
17 Hydref, 2024 (yn ddarostyngedig
i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn). COFNODION: Cadarnhawyd
bod y cyfarfod nesaf ar y 15fed Hydref 2024. |