Lleoliad: Neuadd Dyfi, Aberdyfi, LL35 0NR
Cyswllt: Glynda O'Brien 01341 424301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r pwyllgor hwn
am y flwyddyn 2016-17. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol
y Cynghorydd Dewi Owen yn Gadeirydd
i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r pwyllgor hwn
am y flwyddyn 2016-17. Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol
y Cynghorydd Anne Lloyd Jones yn Is-gadeirydd i’r Pwyllgor
hwn am y flwyddyn 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod
Cabinet Economi), Mr Nick Dawson (Outward Bound), Mr Nigel Willis (Clwb
Cychod Aberdyfi), Mr Llyr B. Jones (Uwch Reolwr Economi a Chymuned) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o gysylltiad personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
I gadarnhau cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 10 Mawrth 2016. (Copi’n amgaeedig) Cofnod: Cyflwynwyd:
Cofno Penderfynwyd: Derbyn
a chymeradwyo’r cofno 4.1 Materion yn codi
o’r cofnodion – Eitem 2.1 (c) Cynnal a Chadw Adroddodd
Mr Des George ei fod yn parhau i ymchwilio
i ddyluniad winsh bwrpasol ar gyfer
defnydd gan gychod sy’n cael
eu lansio ac yn glanio wrth
y Clwb Hwylio. |
|
ADRODDIAD GAN Y SWYDDOG MORWROL A PHARCIAU GWLEDIG PDF 277 KB I ystyried adroddiad gan y Swyddog Morwrol
a Pharciau Gwledig. (Copi’n amgaeedig) Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd: Adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig, Mr Barry Davies, yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion rheolaethol
yr Harbwr gyda chyfeiriad penodol at y canlynol:- (a)
Yr Harbwr ·
Nodwyd mai haf eitha’ cymysglyd a fu o ran tywydd ond cafwyd cychwyn gwych
i’r tymor yn ystod gwyliau Sulgwyn pryd fu’r traethau a’r harbyrau
yn brysur iawn. ·
Mai 24 cwch ymwelwyr a
ddaeth i’r harbwr sydd yn ffigwr gweddol sefydlog ·
Bod cynnydd yn y nifer o gychod pŵer a
badau dŵr personol ·
Bod 79 cwch wedi eu
cofrestru ar angorfeydd er yn nifer llai na’r gorffennol ‘roedd hyn yn
adlewyrchu effaith yr economi gan nodi bod 110 o lefydd gwag yn Hafan Pwllheli ·
Fodd bynnag roedd gan Aberdyfi
fantais i ddenu ymwelwyr o safbwynt atyniad y traeth a’r gweithgareddau lleol ·
Bod cydweithrediad y contractwr lleol wedi gwella eleni a hyderir y
byddir yn adeiladu ar y berthynas. Fodd
bynnag roedd angen cydweithrediad pellach ynglŷn â’r
tystysgrifau angorfeydd perthnasol ·
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â hysbysebu i ddenu mwy o ymwelwyr,
esboniwyd nad oedd cyllideb ar gael a bod y Gwasanaeth Morwrol wedi buddsoddi
yn sylweddol yn y gorffennol mewn cylchgronau megis “Practical
Boat Owner” ond ni welwyd
gwerth ychwanegol drwy hysbysebu. Nodwyd
ymhellach bod Gwynedd yn elwa o ran niferoedd cychod pŵer a badau dŵr
personol ac nid oedd llithrfa Aberdyfi wedi ei ddylunio ar gyfer cymryd cynnydd
yn y nifer o gychod. ·
Sicrhawyd nad oedd unrhyw
broblemau wedi deillio gyda Badau Dŵr Personol yn lansio o Ynys Las eleni
a chadarnhawyd bod staff yr harbwr wedi treulio mwy o amser ar y dŵr eleni (b)
Cod Diogelwch Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n anfon copi
electroneg i aelodau’r Pwyllgor ac os nad oedd gan Aelodau gyfeiriad e-bost
iddynt adael iddo wybod. Nodwyd nad oedd
y cod yn statudol ond yn ymarferiad da.
Byddai archwilwyr o Harbwr yng Ngogledd Iwerddon yn archwilio’r cod a
hyderir y gallent gael sgwrs gyda Chadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol hwn. Apeliwyd ar yr Aelodau i ddatgan os oedd
ganddynt unrhyw faterion sy’n creu pryder. O safbwynt honiadau diweddar ynglŷn ag aflonyddwch ar y dolffiniaid,
sicrhawyd bod yr Harbwr Feistr wedi trafod gyda pherchnogion y Badau Dŵr
Personol ac ar y pryd nid oeddynt yn ymwybodol eu bod yn achosi unrhyw
aflonyddwch na niwed. Mewn ymateb i gais y Cadeirydd ynglŷn â threfniadau yswiriant ar
gyfer cychod pŵer a Badau Dŵr Personol, esboniwyd bod yn rhaid i
berchnogion gyflwyno tystiolaeth drwy gyflwyno’r wybodaeth ar ffurflenni
cofrestru. Nodwyd ymhellach na chaiff
unigolion rhwng 16 - 18 oed yrru Badau Dŵr Personol oni bai bod ganddynt
gymhwyster priodol. O safbwynt Badau
Dŵr Personol yn lansio o’r Leri, yn anffodus nid
oedd Ceredigion wedi mabwysiadu ‘run cynllun a Gwynedd. Nododd Aelod nad oedd pob Badau Dŵr Personol yn achosi pryder a bod
y mwyafrif yn cydymffurfio a’r rheolau. Yn ystod y drafodaeth ddilynol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf ar 28 Chwefror 2017. Cofnod: Penderfynwyd: Nodi
y cynhelir nesaf y Pwyllgor Ymgynghorol ar 28 Chwefror 2017. |