Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Virtual Meeting
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd. Penderfyniad: Etholwyd
y Cynghorydd Dewi Owen fel Cadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar
gyfer y flwyddyn 2021/22. COFNODION: Etholwyd y Cynghorydd
Dewi Owen yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2021/22. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-Gadeirydd. Penderfyniad: Etholwyd
Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2021/22. COFNODION: Etholwyd
Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones fel Is-gadeirydd y Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Aberdyfi ar gyfer y flwyddyn 2021/22. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet - Economi), Llŷr B Jones (Pennaeth Cynorthwyol Economi ac Chymuned). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater sy’n teilyngu sylw brys ym marn y
Cadeirydd. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
I gadarnhau cofnodion cyfarfod blaenorol
o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2019. COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5ed o Fawrth, 2019,
fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 204 KB I drafod
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn cynnwys yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau. COFNODION: Rhoddwyd diweddariad ar faterion rheolaethol
yr harbwr gan y Uwch Swyddog Harbyrau gan bwysleisio
bod y pandemig wedi cael effaith ar ffigyrau ar bob
harbwr yng Ngwynedd. Ategwyd hyn gan y Cadeirydd. Parhaodd i ddiweddaru’r aelodau’r Pwyllgor
ar y pwyntiau canlynol: -
Adroddwyd ar yr angorfeydd blynyddol a’r lleihad a welwyd
y flwyddyn 2020 sef bod 47 o gychod o gymharu â 68 yn
2019. Rhagdybiwyd bod llawer o bobl wedi penderfynu peidio defnyddio eu cychod
yn ystod y cyfnod hwn. -
Adroddwyd ar y niferoedd o gychod
a chychod dwr personol y cofrestrwyd gan nodi bod cynnydd wedi bod yn niferoedd
cychod dwr personol. - Cyfeiriwyd
at yr adroddiad gan nodi bod yr holl ystadegau perthnasol wedi eu nodi fan hyn,
a chroesawyd cwestiynau ar y rhain. Trafodwyd y Cod
Diogelwch Morwrol a gofynnwyd i’r aelodau i roi gwybod i’r Gwasanaeth os bydd
unrhyw sylwadau ynghylch hyn. Parhawyd i drafod sefyllfa staff yr harbwr, gan
ddiolch iddynt am eu gwaith dros y cyfnod clog. Nodwyd eu bod wedi parhau i
weithio drwy gydol y pandemig er mwyn sicrhau
diogelwch y cyhoedd ag diogelwch yr harbwr. Mewn perthynas ag
sefyllfa rheoliadau Covid-19, nodwyd bod arwyddion o amgylch yr harbwr wedi eu
gosod i helpu gyda chydymffurfiad ac i sicrhau iechyd staff. Croeswyd yr Harbwrfeistr Cynorthwyol ar ei benodiad ar gytundeb parhaol
erbyn hyn. Parhawyd i nodi bod ei gyfraniad wedi bod yn allweddol i
gynorthwyo’r Harbwrfeistr dros y cyfnod anodd hwn. Ar
ben y penodiad hwn, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau
bod bwriad i benodi 2 swyddog traeth eleni gan eu bod yn rhagweld y bydd llawer
iawn o bobl yno dros yr haf eleni. Mewn perthynas â
materion ariannol, nodwyd nad oedd ffigyrau cyfredol ar gael gan yr uned cyllid
hyd hyn, fodd bynnag sicrhawyd y bydd y rhain ar gael i Aelodau yn fuan.
Diweddarwyd ar y sefyllfa ariannol gan nodi bod incwm yn ddifrifol o ganlyniad
i niferoedd llai o gychod a rhagwelid y bydd
ansicrwydd teithio yn cael effaith ar hyn eleni. Ategwyd at hyn gan nodi bod
aelodau’r Cyngor wedi cefnogi a gostwng targedau incwm i gymryd ystyriaeth
heriau'r diwydiant morwrol. Diolchwyd i’r Harbwrfeistr A’r Cymhorthydd Harbyrau
am y gwaith llynedd mewn cyfnod prysur iawn er ei fod yn dymor byr.
Atgyfnerthwyd pwysigrwydd eu swyddi mewn perthynas â chadw’r harbyrau a thraethau yn saff. Yn ystod y
drafodaeth cododd y sylwadau canlynol; -
Diolchwyd i’r holl staff harbyrau
gan Aelodau ABC. -
Ategwyd bod yr ardal wedi profi nifer uchel iawn o
ymwelwyr a rhagwelir y bydd hyn yn digwydd eto eleni a bydd staff yr harbwr yn brysur iawn,
pwysleisiwyd eu bod angen pob cefnogaeth. -
Cydymdeimlwyd a’r adran gan fod incwm yn amlwg wedi
lleihau oherwydd y cyfyngiadau sydd wedi bod. -
Derbyniwyd bod angen codi incwm fodd bynnag cynigwyd
byddai cadw ffioedd yr un fath yn cynyddu’r nifer fydd yn talu. Mewn ymateb i rai
sylwadau nodwyd; - Bod y Cyngor yn gefnogol iawn i sefyllfa ariannol yr harbyrau a bod ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
ADRODDIAD YR HARBWRFEISTR PDF 194 KB I drafod
adroddiad yr Harbwrfeistr. Penderfyniad: Derbyn cynnwys yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Harbwrfeistr yn nodi’r prif bwyntiau ar y materion gwiethredol fel a ganlyn: -
Nodwyd bod staff wedi gweithio drwy’r cyfnod pandemig â'i fod yn eithriadol o brysur. Ategwyd bod heriau
wedi codi wrth sicrhau bod pawb yn deall peryglon ar yr Aber. -
Gwnaed llawer o wait hi sicrhau
diogelwch y bobl drwy sicrhau pellter cymdeithasol a gosod arwyddion, ategwyd
bod yr adran wedi darparu deunyddiau priodol o ran PPE i’r staff. -
Cynigwyd dosbarthu fersiwn ddigidol o siart yr harbwr i
weld lleoliadau'r AEC unwaith bydd fersiwn terfynol -
Rhoddwyd trosolwg ar waith cynnal a chadw amrywiol sydd
wedi digwydd dros y cyfnod. -
Nodwyd bod partneriaeth
cydweithio efo Outward Bounds
a bod prosiect yn cael ei redeg ganddynt. -
Mewn perthynas â Chanolfan Dyfi, nodwyd nad oedd newidiadau
ond bod man addasiadau o fewn y ganolfan wedi bod er mwyn cwrdd ag anghenion. -
Nodwyd bod yr adran yn disgwyl am newyddion efo codi
cyfyngiadau gan fod ceisiadau gan PWC Gwynedd, Clwb Jetski,
ayyb. Wedi dod i gynnal digwyddiadau. -
Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau
canlynol: -
Diolchwyd i’r Harbwrfeistr am
ei holl waith. -
Holwyd a oes cynllun gwaredu a thywod eleni -
Ategwyd aelod nad oes llawer o dywod eleni gan fod y
gwynt wedi ei symud yn ôl, parhaodd i atgyfnerthu pwysigrwydd wal y cei gan ei
fod wedi difrodi. -
Diolchwyd am y cynlluniau ar y llithrfa gan fod lansio o
Fae’r Eglwys wedi bod yn rhwystredig -
Holwyd beth oedd cynlluniau ar gyfer trin y wal wrth yr
hen lithrfa’r bad achub gan fod crac amlwg yno. -
Gofynnwyd a oes unrhyw gynlluniau i glirio’r promenâd a’r
maes parcio yn fuan. -
Tynnwyd sylw’r swyddogion at gyflwr gwael y rheiliau
rhwng y maes parcio a’r promenâd, gofynnwyd a oedd hyn yn fater i’r harbwr
ynteu adran arall. Mewn ymateb, nododd yr Harbwrfeistr
y canlynol: -
Nad oes cynlluniau tywod ar hyn o bryd gan nad ydy’n
blaenoriaeth, fodd bynnag bydd adolygiad i’r sefyllfa os bydd yn gwaethygu.
Ategodd bod arian wedi mynd ar amddiffyn wal y cei a bod diffyg cyllid. -
Ategodd bod yr afon yn symud a thywod yn symud fel sydd
wedi digwydd yn y gorffennol. -
Nododd bod yr adran YGC yn rheoli’r gwaith adfer y cei ar
ran y Cyngor ac mae’r cyflwr yn parhau i gael ei fonitro. Ategodd bod hyn wedi
mynd allan i dendr unwaith eto. -
Mewn perthynas â’r crac yn y wal, nododd mai adran YGC sy’n
ei archwilio bob tri mis a'u bod yn gyfrifol am gynnal a chadw. -
Bydd gwaith clirio yn digwydd yn gymharol fuan ar y
promenâd a’r maes parcio. -
Nododd bydd y rheiliau yn cael eu trin pan fydd cyllid ar
gael, ond yn y cyfamser bydd hwn yn cael ei fonitro rhag gwaethygu. |
|
UNRHYW FATER ARALL I drafod unrhyw fater
arall sydd angen ystyriaeth gan y pwyllgor. COFNODION: Datgan bob cydymdeimlad ar golli’r
Cynghorydd Brian Bates yn ddiweddar, un a fuodd yn aelod ffyddlon o’r pwyllgor
ac yn cyfrannu’n sylweddol, bob tro yn sgwrsio a rhoi barn ac arbenigedd. Roedd
yn wylwr y glannau am flynyddoedd a rhoddodd gyfraniad lleol sylweddol. Bydd
colled ar ei hôl a’i gwasanaeth morwrol i’r gymuned Aberdyfi. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF I nodi dyddiad nesaf
cyfarfod o’r Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi. COFNODION: Tachwedd 2ail wedi ei glustnodi drwy
Bwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth. Bydd y dyddiad yn cael ei gylchredeg
unwaith fydd y calendr yn cael ei gadarnhau. |