Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw datganaidau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Ystyried
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 25 Hydref
2022 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion
y cyfarfod blaenorol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar 25 Hydref 2022, fel rhai
cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiadau isod, a
gwahoddwyd yr Aelodau i gynnig sylwadau am eu cynnwys a gofyn cwestiynau. Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad
cryno i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y flwyddyn a ddaw i ben
Mawrth 2023. Angorfeydd Aberdyfi a
Chofrestru Cychod ·
Adroddwyd y byddai Aberdyfi Marine Services yn darparu gwasanaeth
contractio angorfeydd newydd eleni. Eglurwyd bod y gwasanaeth hwn yn ychwanegol
i’r gwasanaeth angori sy’n cael ei ddarparu ar hyn o bryd gan gwmni Underwater Maintenance and Inspections Services, sydd wedi bod yn weithredol yn Harbwr
Aberdyfi ers sawl blwyddyn. ·
Cadarnhawyd
byddai’r system gofrestru Cychod Pŵer a Chychod Dŵr Personol Cyngor
Gwynedd yn parhau i gael ei weinyddu drwy drefniant ar-lein. Ychwanegwyd bydd
modd i gwsmeriaid defnyddio system ar-lein er mwyn talu am eu hangorfa. Côd Diogelwch Morol Phorthladdoedd ·
Adroddwyd bydd Cod Diogelwch Morol yr harbwr
yn cael ei adolygu eleni yn ogystal â datblygu asesiadau risg newydd yn sgil
datblygiadau wal cei newydd ar gyfer yr harbwr. ·
Eglurwyd bydd ‘Merchant Shipping (Watercraft) Order 2023’ yn dod yn
weithredol ar 31 Mawrth eleni. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn sicrhau bod
perchnogion badau dŵr personol yn defnyddio’u peiriannau yn ddiogel.
Ymhelaethwyd bod swyddogion yr harbwr yn cydweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd
Cymru er mwyn sicrhau dealltwriaeth o brosesau perthnasol yn sgil cyflwyno’r
ddeddfwriaeth hon. o
Mewn
ymateb i ymholiad ar hyfforddiant badau dŵr personol, cadarnhawyd gan Harbwrfeistr Aberdyfi bod hyfforddiant ‘Waterwise
Marine’ ar gael ym Mhwllheli a Phorthmadog.
Ymhelaethwyd na fyddai badau dŵr personol yn gallu cael eu lansio o’r
harbwr os nad oedd yswiriant dilyn arno. Er hyn, cadarnhawyd nad oedd yn
ofynnol i berchnogion brofi eu bod wedi hyfforddiant ar sut i’w drin yn gywir. o
Pwysleisiwyd pwysigrwydd bod unigolion yn
cymryd rhif cofrestru unrhyw badau dŵr personol maent yn gweld yn torri
rheolau a’u riportio i staff yr harbwr. o
Rhoddwyd
ystyriaeth i harbyrau ac awdurdodau cyfagos. Nodwyd
er nad oes modd atal unigolion rhag lansio eu badau personol tu hwnt i’r
harbwr, mae cwch yr harbwr yn teithio rhwng Tywyn ac Aberdyfi er mwyn annog pobl
i aros yn saff a rhannu gwybodaeth. Nid oes sicrwydd os oes rheolau llym ar
gofrestru badau dŵr personol yng Ngheredigion ar hyn o bryd ond gobeithir
parhau i gydweithio gyda’r awdurdod i’w annog i’w fabwysiadu. o
Soniwyd
bod hyfforddiant padl fyrddau ar gael yn y Clwb Hwylio. Er hyn, pwysleisiwyd ei
fod yn hawdd iawn i unrhyw unigolyn brynu padl-fwrdd ac felly mae’n rhaid bod
yn wyliadwrus o’u defnyddwyr. Materion Staffio ·
Croesawyd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol i’r cyfarfod a llongyfarchwyd ar
ei benodiad diweddar. ·
Adroddwyd nad oedd newidiadau ar faterion staffio yn y cyfnod diwethaf
a chadarnhawyd bod yr Harbwrfeistr a’i gymhorthydd
wedi ymgymryd â rhaglen o waith cynnal a chadw dros y gaeaf. Materion Ariannol · Adroddwyd bod gorwariant wedi bod mewn rhai meysydd eleni megis costau staff a chostau’r cwch a cherbydau. Er hyn, mae tanwariant wedi bod ym meysydd eiddo ac ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
DYDDIAD CYFARFOD NESAF Nodi y
cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi ar 17 Hydref 2023. COFNODION: Cadarnhawyd bod y cyfarfod nesaf ar y 17eg o Hydref 2023. |